slide01

Croeso i wefan Clwb Pêl-droed Bethel

Pentref bychan y tu allan i Gaernarfon yng Ngwynedd ydi Bethel. Eglurir yn fersiwn Saesneg y dudalen hon mai iaith gyntaf y rhan fwyaf o drigolion y pentref ac aelodau'r clwb yw'r Gymraeg ac, o ganlyniad, mae'r iaith yn cael lle blaenllaw yn holl weithgareddau'r clwb gan gynnwys y wefan hon. Mae gan y clwb iau dros 100 o aelodau (o'r ddau ryw). Mae'r nifer hwn yn cynnwys aelodau mor ifanc â phedair oed hyd at aelodau sy'n 16 oed.


Cysylltwch â ni i gael cymryd rhan

Newyddion

23.08.2018 - Bethel yn lansio gwefan newydd!

Yn 2003 enillodd gwefan Bethel “Best Soccer Website Worldwide ar y cyn wefan www.soccerhighway.com”. Dyma wefan Bethel ar ei newydd wedd, gyda diolch mawr unwaith eto i Delwedd am ei cefnogaeth.

I weld yr erthygl - cliciwch yma

Canlyniadau

Am ganlyniadau 2018/2019 - cliciwch yma

Clwb 100

Clwb Cant Hydref 2019

£50- Carys Parry (2)
£30- Jen Roberts (27)
£20- Bethan Williams (89)

 

Arnhydeddau

2015/2016
Dan 14 - Cyd bencampwyr cynghrair Gwyrfai
Dan 16 - Cyd bencampwyr cynghrair Gwyrfai

Noddwyr

Gan mai clwb bychan ydyn ni, mae'n rhaid i ni ddibynnu ar haelioni'r gymuned leol. Hoffem ddiolch i'r holl bobl a chwmnïau sydd wedi ein noddi yn y gorffennol ac sydd ar hyn o bryd yn noddi ein clwb.

I weld ein noddwyr - cliciwch yma

Pentref tua 4 milltir y tu allan i dref Caernarfon yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, ydi Bethel. Mae ein timau iau yn chwarae eu gemau ar ein cae, Cae Coed Bolyn.