Archif Tymhorau 2014/15

O dan 7

Croeso i dudalen y tim dan 7 a'u hanes y tymor hwn.

Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.


Canlyniadau 2014 - 2015

 

Dydd Sadwrn 16 Mai 2015

Twrnament ar gae tim dinas Bangor oedd yn disgwyl yr hogia ar ddydd Sadwrn, Mai 16. Dyma’r twrnament cyntaf cystadleuol iddynt ac roedd perfformiad y tim yn arbennig o dda. 4 buddugoliaeth allan o 4 a gafwyd yn y gemau grwp.

Dyma oedd y canlyniadau a’r sgorwyr-
2-1 v Llanrug (Liam a Llyr)
5-0 v Penrhos (Iestyn (2), Liam, Llyr, o.g.)
2-0 v Porthaethwy (Iestyn, Llyr)
3-1 v Cae Glyn (Liam (3))

Fel enillwyr y grwp aeth Bethel ymlaen i chwarae rownd gyn-derfynol yn erbyn tim arall Cae Glyn. Dechrau yn araf wnaeth Bethel tro yma a sgoriodd Cae Glyn 2 gol yn y munudau cyntaf. Roedd cyfres o corners ac un ergyd ar ol y llall am y gol gan dim Bethel ond methu torri trwodd oedd yr hanes wrth i Cae Glyn ennill o 2 gol i ddim. Diwrnod arbennig fodd bynnag i’r tim.


Cryndeb y tymor

Daeth tymor y gyngrair i ben felly a gwelir datblygiad y tim gyda’r ystadegau isod.

Dyma oedd ystadegau am hanner cyntaf y tymor -

 
Chwarae
Ennill
Cyfartal
Colli
Sgorwyr
Bethel U7B
9
1
1
7
Sion Lewis (1), Nia (1), Jac (2), Llyr (2), Iestyn (5)

Dyma’r ystadegau am ail hanner y tymor -

 
Chwarae
Ennill
Cyfartal
Colli
Sgorwyr
Bethel U7B
6
4
0
2
Liam (7), Iestyn (4), Llyr (3), Nia (2), Gruff (2)

Dyma ystadegau gemau’r gyngrair yn gyfangwbl -

 
Chwarae
Ennill
Cyfartal
Colli
Sgorwyr
Bethel U7B
15
5
1
9
Sion Lewis (1), Nia (2), Jac (2), Llyr (5), Iestyn (9), Liam (7), Gruff (2)

Dydd Sadwrn 9 Mai 2015
Bethel B vs Llanrug

Llanrug ddaeth i Fethel y bore Sadwrn yma i gystadlu yn y ‘derby’. Eto, roedd tim Bethel yn pasio’n arbennig ac er mynd un gol ar ei hol hi’n fuan roeddynt yn cryfhau drwy weddill y gem gan greu nifer o gyfleoedd. Haeddianol felly oedd y ddwy gol gan Llyr ac un gan Liam i gipio’r fuddugoliaeth.
Yn yr ail gem, Llanrug aeth ar y blaen yn fuan eto ac er bod Bethel yn gorffen yn gryfach ac wedi cau’r bwlch gyda gol gan Gruff, roedd yr ymwelwyr wedi dal mlaen i’w mantais y tro yma. Perfformiad safonol eto gan y tim.


Nos Wener 1 Mai 2015/ Dydd Sul 3 Mai 2015
Nantlle Vale vs Bethel B

Taith eithaf hir i Benygroes trwy draffig nos Wener Gwyl y Banc oedd gem gyntaf mis Mai. Hwn oedd un o berfformiadau gorau’r tymor gyda pasio arbennig a pawb yn cefnogi eu gilydd ar y cae. Rhai o syniadau’r cae ymarfer hefyd i’w gweld heno mewn buddugoliaeth haeddianol i dim Bethel. Y sgorwyr oedd Gruff, Nia, Liam, Iestyn a Llyr.

Fe aeth y tim yn ol i Benygroes ar y dydd Sul i chwarae mewn twrnament ar gae C.P.D. Nantlle Vale. Tywydd digon diflas oedd hi yn anffodus i gymharu a’r haul braf nos Wener. Chwaraewyd 7 gem gyda dwy fuddugoliaeth ac un gem gyfartal ymysg y canlyniadau. Y sgorwyr oedd Iestyn (3), Llyr (2) a Jac. Traed i fyny ar ol penwythnos prysur!!


Dydd Sadwrn 18 Ebrill
Felinheli vs Bethel B

Haul braf yn ein croesawu wrth ddechrau ar y daith fer i Felinheli yr wythnos yma. Roedd teimlad o falchder mawr gan y rheolwyr heddiw wrth i bawb yn y tim gyfrannu drwy basio a defnyddio’r bel yn arbennig o dda. Gobeithio mai o ganlyniad i ddefnyddio’r sgiliau yn yr ymarfer oedd y rheswm am hyn, ond mae’n debycach mai gwylio Barcelona yn y Champions League a ceisio eu hefelychu sydd yn agosach at y gwir!!

Aeth Felinheli, dan ddylanwad un chwaraewr, ar y blaen yn gynnar yn y gem ond gyda gol wefreiddiol gan Iestyn daeth Bethel yn ara deg yn ol i mewn i’r gem. Daeth goliau ychwanegol arall gan Iestyn a Liam, ac er bod stats Gary Neville yn dangos rheolaeth llwyr Bethel yn yr ail hanner, gorffennodd y gem gyda Felinheli yn goresgyn o un gol!! Perfformiad tim cyfan Bethel yn argoeli’n dda am ddiwedd tymor buddiol. Dalier ati!


Er bod dim training na gemau swyddogol yn ystod gwyliau’r Pasg bu’r tim yn cymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth yn ystod y cyfnod. Dim amser i ymlacio a diogi i’r chwaraewyr!

Y gystadleuaeth gyntaf oedd honno mae’r tim wedi mynychu o’r blaen, sef Gwyl Pel-Droed ar gae 3G Bangor, y tro yma ar nos Wener y Groglith. Cafwyd 6 gem gyda dwy fuddugoliaeth ac un gem gyfartal. Y gystadleuaeth nesaf oedd cystadleuaeth a drefnwyd gan gynghrair Gwyrfai ar gae yr Oval, Caernarfon ar ddydd Sadwrn, Ebrill 11. Cafwyd gemau yn erbyn dau dim o Cae Glyn a tim Nantlle Vale. Cafwyd ddwy fuddugoliaeth ymysg y gemau cystadleuol agos yn ystod y dydd. Sgorwyr – Liam (3) a Llyr (1)

Ymdrech arbennig gan bawb oedd yn cynrychioli’r clwb yn arbennig o dda yn ystod y ddau twrnament yma. Da iawn chi!!


Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2015
Bethel B vs Llandwrog

Un o dimau cryfa’r gynghrair oedd yn disgwyl ymweliad Bethel yr wythnos yma. Mae ymroddiad a hyder y tim yn amlwg wedi datblygu’n arbennig yn ystod y tymor ac roedd hyn yn amlwg wrth i Bethel gael buddudgoliaeth haeddianol yr wythnos yma. Cafodd Liam ‘debut’ arbennig gyda llond llaw o goliau. Cyfranodd Nia gol at yr achos hefyd. Da iawn chi! Beth am rediad o fuddugoliaethau o rwan tan ddiwedd y tymor? Dyna sialens!!!


Nos Wener 20 Chwefror 2015

Chwaraeodd y tîm eto yn yr ail wyl pêl-droed ar gae 3G dinas Bangor ar nos Wener, Chwefror 20. Pum gem a gafwyd yn erbyn timau cryfaf y gynghrair ac roedd perfformiad arbennig gan y chwaraewyr yn ystod y gemau i gyd.
Enillwyd un gêm, cafwyd gem gyfartal ac roedd y dair golled arall yn agos gyda sgôr o 2-1 yn erbyn Llandwrog a 2-0 yn erbyn Maes-y-Bryn yn enghraifft o hynny. Mae hyn hefyd yn dangos datblygiad arbennig y tîm wrth gofio’r sgôr unochrog yn erbyn Maes y Bryn yn ail gêm y tymor ym mis Medi!!

Sgoriodd Iestyn hat-trick mewn un gêm y tro yma gyda Nia hefyd yn cyfrannu gyda gôl mewn gem arall.


Dydd Sadwrn 7 Chwefror 2015
Bethel B v Cae Glyn B

Dim gem swyddogol ar y rhestr gemau'r wythnos yma ond dyma’r rheolwr yn penderfynu rhoi sialens ychwanegol i’r hogia a gwahodd Cae Glyn i chwarae gem gyfeillgar. Cystadleuol iawn oedd hi am hanner cyntaf y gêm wrth i Llyr reoli’r chwarae o’r cefn gyda Nia’n brathu fel ci bach yn ganol cae! Fodd bynnag, Cae Glyn sgoriodd gyntaf ac wedyn yn rheolaidd yn ddi-ateb cyn i Iestyn sgorio'r unig gol i dîm Bethel. Dyma 9 gol mewn 15 gem i Iestyn!!


Dydd Sadwrn, 17 Ionawr 2015
Bethel B vs Cae Glyn B

‘Revenge is sweet’ ydi’r dywediad a glywir yn aml a dyna ddigwyddodd wrth i Cae Glyn ymweld â Bethel ar y dydd Sadwrn yn dilyn eu colled ar gae 3G Bangor y noson cynt. Ynghyd a sgwad yn llai mewn nifer na’r arferol roedd ymdrech a gorchestion hogiau Bethel y noson cynt wedi dweud arnynt wrth golli i Cae Glyn. Iestyn oedd yr unig sgoriwr i Fethel y dydd Sadwrn yma.



Nos Wener 16 Ionawr 2015

Derbyniodd y tîm wahoddiad i chwarae mewn gŵyl bêl-droed ar gae 3G dinas Bangor ar nos Wener, Ionawr 16. Roedd nifer o dimau’r gynghrair yno a chwaraeodd Bethel pum gem yn erbyn Cae Glyn, Felinheli, Llandwrog, Llanrug a Llanrug B. Chwaraeodd pawb gyda brwdfrydedd ac egni, hyd yn oed yn ystod y gêm olaf am 7.45 pm!!

Fe enillodd Bethel ddwy gêm, colli dwy gêm ac un gêm gyfartal. Sgoriodd Iestyn ddau gol (a bron sgorio un o’r gic gol!!), sgoriodd Gruff dwy a Llŷr un. Roedd yna hefyd ‘assist’ arbennig gan Josh i orchfygu Cae Glyn! Da iawn bawb.


Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2014
Llanrug vs Bethel B

Daeth y flwyddyn i ben gyda Bethel yn ceisio dofi’r llewod mewn ‘local derby’. Roedd y tim hefyd yn chwarae eu gem gyntaf yn eu cit newydd. Diolch i ‘Foulkes Garage, Bangor’ (Graham) a ‘Siop Barbwr, Pwllheli’ (Gareth) am noddi’r cit newydd. Doedd gan y chwaraewyr ddim ofn baeddu’r crysau newydd wrth i bawb weithio’n ddi-flino. Gem agos oedd y gem gyntaf gyda Llanrug yn ennill o 2-0. Sgoriodd Iestyn yn yr ail gem ond doedd y tywydd oer, rhewllyd ddim yn cytuno efo’r hogia i gyd wrth i Lanrug sgorio’n gyson wedyn. Chwaraewr y gem oedd Nia.

Gyda’r toriad am y gaeaf yn ein croesawu dyma’r ystadegau am hanner tymor cyntaf y tim –

  Chwarae Ennill Cyfartal  Colli  Sgorwyr 
Bethel U7B
Sion Lewis(1), Nia (1), Jac (2), 
Llyr (2), Iestyn (5)  

Nadolig Llawen i chi gyd! 


Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2014
Bethel B vs Nantlle Vale

Roedd salwch yn golygu nad oedd y sgwad yn llawn ar gyfer gem gystadleuol, agos yn erbyn Dyffryn Nantlle yr wythnos yma. Y gwahaniaeth oedd un chwaraewr cyflym yn nhim y gwrthwynebwyr. Mewn gem o sawl cyfle ond dim llawer o goliau, Dyffryn Nantlle y cipiodd hi. Jac oedd unig sgoriwr Bethel ac oherwydd ymroddiad bob un aelod o’r tim, mae’r rhestr ar gyfer chwaraewr y gem yn un hir felly mae’r clod yr wythnos yma yn cael ei rannu rhwng pawb!!


Dydd Sadwrn 29 Tachwedd
Llanberis v Bethel B

Dechrau addawol eto wrth i Bethel fynd ar y blaen yn gynnar gyda gol gan Iestyn. Cafwyd goliau arall gan Llyr a Iestyn ond yn anffodus, fel tim rygbi Cymru, fe sgoriodd y gwrthwynebwyr gyda cic olaf y gem i fachu gem gyfartal! Jac oedd chwaraewr y gem am ei ymroddiad oedd yn amlwg gan mai fo oedd gyda’r gwyneb mwyaf coch ar y diwedd!


Dydd Sadwrn 22 Tachwedd
Bethel B v Felinheli

Yr haul yn croesawu’r hogia (a’r rheolwyr!) yn eu hoodies newydd gyda gem adre yn erbyn Felinheli. Y tim wedi ildio gol gynnar ond wedyn yn dal eu tir yn dda yn erbyn tim yn cynnwys un o chwaraewyr gorau’r gynghrair. Er bod Felinheli wedi sgorio yn achlysurol ar ol hyn roedd y tim yn dyfalbarhau yn dda iawn, yn enwedig tuag at y diwedd a daeth y wobr gyda gol dda gan Llyr. Gruff yn cael ei enwebu yn chwaraewr y gem gan reolwr Felinheli.


Dydd Sadwrn 8 Tachwedd
Bethel B v Seintiau Bangor

Dechrau addawol i’r gem wrth i Bethel sgorio gyntaf gyda gol arbennig gan Iestyn. Yn anffodus daeth glaw trwm i amharu ar rediad chwarae’r tim a dyma’r criw o’r ddinas yn sgorio yn gyson i guro’r gem. Yn gyffredinol, roedd perfformiad gan dim Bethel yn un mwy addawol. Llyr oedd chwaraewr y gem am yr arbediad mwyaf anhygoel ers un Gordon Banks!!


Dydd Sadwrn 1 Tachwedd
Bethel B v Llandwrog

Ar ol wythnos o wyliau, meddyliau’r chwaraewyr dal ar draethau Tenerife wrth i ni golli i Llandwrog! Roedd y gwrthwynebwyr yn pasio’n dda ond dyfalbarhau wnaeth tim Bethel ac roedd chwaraewr y gem yn cael ei rannu rhwng Iestyn, Llyr a Nia am ‘passing move’ ar ffurf triongl yn syth o’r cae ymarfer yn ystod yr ail hanner!! Wythnos o ymarfer caled o’n blaenau cyn berfformiad gwell wythnos nesa.
P.S. Mae’r rheolwyr wedi penderfynu gohirio gwyliau o unrhyw fath am weddill y tymor!!!


Dydd Sadwrn 11 Hydref 2014
Bethel 7B vs Waunfarwr

Buddugoliaeth i’r tîm!! Dechrau gwlyb oedd i’r gêm gystadleuol gyntaf adre ond roedd ‘home advantage’ yn dyngedfennol. Sgoriwr gol cyntaf y tymor i dîm blwyddyn 1 Bethel oedd Siôn Lewis. Daeth yr haul i’r golwg fel aeth y bel i mewn i’r gôl!! Sgorwyr eraill Bethel oedd Nia, Jac a Iestyn. Am sgorio gôl gyntaf y tymor i’r tîm, chwaraewr y gêm oedd Sion Lewis.


Medi 20 v Maes y Glyn (A)
Colled arall i’r tim ond perfformiad yn gwella fel aeth y gem yn ei flaen. Sgoriwyd gol hefyd er mai ‘own goal’ oedd hi!! Chwaraewr gorau i Bethel yn cael ei rannu rhwng Iestyn oedd yn arbennig wrth amddiffyn y gol a Nia oedd yn taclo a rhedeg yn dda iawn.


Medi 13 v Cae Glyn (A)
Gem cynta i’r tim a ‘bedydd tan’ fel mae’r dywediad yn ei ddweud. Dim gol i Bethel a digon / gormod i Cae Glyn! Er hynny, pawb wedi mynd amdani a digon o frwdfrydedd. Chwaraewr gorau i Bethel oedd Llyr Elwyn. Dal ati hogia ac edrychwn ni mlaen i longyfarch y sgoriwr cyntaf yn y gem nesaf!

O dan 9

Croeso i dudalen y timau dan 9 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.

Tim Dan 9 eleni. Diolch i A J Plastering (Stan) am noddi'r kit.


Canlyniadau 2014 - 2015

Dydd Sadwrn 9 Mai 2015
Twrnament Dyffryn Nantlle
 
Ail twrnament y tymor ni oedd hon, ac wedi colli allan ar y semi final ar "goal difference" yn twrnament Gwyrfai oedd yr hogia isho trio neud yn well yn hon!!!

Ail yn y grwpiau, wrth ennill 3 ac ond colli 1 I cae Glyn du!!!  
Semi final yn erbyn tim yr oeddwn heb enill or blaen, cae Glyn coch ar hogia yn nervous iawn!!! Ond curo nhw 1-0 I fynd trwadd ir ffeinal!!!!  

Cae Glyn du yn y ffeinal!!!!  
Gem dda rhwng y ddau yn mynd o un ochor ir llall trwy'r gem ac yn gorffen 0-0 ar ôl amser ychwanegol!!!!  

Ciciau o'r smotyn!! Y ddau dim yn methu dau or 5 cyntaf a mynd lawr i "sudden death!!!" Corey yn sgorio I ni a cae Glyn yn methu!!!! Enill y shoot out 4-3!!! Really proud or hogia am chware mor dda trwy'r twrnament!!!!  


Nos Fercher 29 Ebrill 2015
Bethel 4-2 Nantlle Vale 29/4/15 

Sgorwyr: Morgan Davies 2, Morgan Jones, Codey 

Yr hogia yn hoffi chwarae gem gyda'r nos, oherwydd fod nhw wedi deffro yn iawn!!! Dal I basio a siarad yn dda efo ei gilidd yn ystod y gem yn brilliant!!! Gem galed oedd, efo digon o taclo caled gan y ddau dim, ond yr hogia yn enill y frwydyr yn hawdd!!!  


Nos Fercher 29 Ebrill 2015
Cae Glyn Du 3-2 Bethel

Mae yna rwbath am dan chwara y cofis efo tim Bach ni!!! Haner cyntaf araf yn erbyn tim cae Glyn du ddoe!! Yr hogia wedi anghofio sut I amddiffin yn y 10 munud cyntaf!!! Ond gair bach haner amser ar hogia yn dod yn ol i fewn ir gem!!! Anlwcus oedd y sgor ar y diwedd, a ni yn colli 3-2!!!


Dydd Sadwrn 18 Ebrill 2015
Bethel 6-1 Llandwrog

Sgorwyr: Morgan Davies 3, Morgan Jones 2, O.g

Chware y dda iawn yn erbyn Llandwrog. Pasio a symud da iawn gan yr hogia heddiw.


Nos Fercher 16 Ebrill 2015
Bethel 1-2 Cae Glyn Coch

Sgoriwr: Morgan Jones.

Gem galed ir hogia yn erbyn un or timau cryfa Dan 9b!! Chwarae yn dda iawn yn sgorio y gol gyntaf, ond cae Glyn yn sgorio o gic-gornel i neud hi yn 1-1!!! Wedyn efo munud i fynd dyma cae Glyn yn cael y "winner"!!


Nos Iau 2 Ebrill 2015
Segontiwm 1 - Bethel 5

Sgorwyr: Morgan Jones 3, Morgan Davies 2

Tywydd wedi rhoi stop a'r ein gem dydd sadwrn diwethaf yn erbyn Segontiwm, ond wedi cael cyfla i chwarae hi heno!!
Wedi gweld yr holl ymarfer pasio yn training wedi dod ir cae heno ma!!! Wedi sgorio tri gol da heno wrth pasio a symud ar y cae!! Gobeithio nawn gario ymlaen at twrnament gwyrfai wythnos nesaf!!!


Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2015
Bethel 5 Penrhos 2

Sgorwyr: Morgan Davies 2, Morgan Jones, Codey, Kieron

Pel droed da iawn eto penwythnos ma yn erbyn tim cryf o Penrhos. Yr hogia yn chware fel tim, pasio a helpu ei gilydd yn dda iawn!!!


Dydd Sadwrn 7 Mawrth 2015
Seintiau Bangor 2 Bethel 5

Sgorwyr: Morgan Davies 3, Morgan Jones 2

Rheolwyr y Seintiau wedi deud fod wedi gweld un o goliau y tymor heddiw!!! Morgan Davies wedi "lobbio" y keeper o haner ei hun!!!!


Dydd Sadwrn 28 Chwefror 2015
Bethel 3 - Llewod Llanrug 0

Sgorwyr: Morgan Davies 2, Codey

Meddwl fysa toriad y gwylia wedi effeithio gem yr hogia heddiw yn erbyn "local rivals" llewod Llanrug!! Ond yr hogia wedi dod allan bora ma yn brilliant!!!


Dydd Sadwrn 7 Chwefror 2015
Bethel 4 Waunfawr 0


Sgorwyr: Morgan Davies 2, Morgan Jones 2


Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2015
Mynydd tigers 0 Bethel 2

Sgoriwr: Morgan Jones 2


Dydd Sadwrn 24 Ionawr 2015
Bontnewydd 2- Bethel 2

Sgoriwr: Morgan Davies 2


Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2015
Bethel 1- Maes y Bryn 2

Sgoriwr: O.G


Dydd Sadwrn 13 Rhagyr 2014
Bethel 0-2 Cae Glyn Coch


Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2014
Nantlle Vale 1-4 bethel

Sgorwyr: Morgan Davies 2, Morgan Jones 1, og


Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2014
Llandwrog 0-7 Bethel

Sgorwyr: Morgan Davies 3, Codey 2, Morgan Jones 2


Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2014/Saturday 15 November 2014
Bethel 3-4 Segontiwm

Sgoriwr: Morgan Jones 3


Dydd Sadwrn 1 Tachwedd 2014
Penrhos 0-2 Bethel

Sgoriwr: Morgan Davies 2


Dydd Sadwrn 18 Hydref 2014
Bethel 7-0 Seintiau Bangor

Sgorwyr: Morgan Jones 3, Codey 2, Morgan Davies, Kieron


Dydd Sadwrn 11 Hydref 2014
Llanrug 2-2 Bethel.

Sgorwyr: Morgan Davies, Morgan Jones


Dydd Sadwrn 27 Medi 2014
Bethel 2-3 Mynydd tigers
Sgorwyr/Scorers: Morgan Davies 1, Codey 1


Dydd Sadwrn 20 Medi 2014
Gem gyfeillgar
Bethel 8-2 Llanrug

Sgorwyr: Morgan Davies 5, Morgan Jones 2, Codey 1


Nos Iau 18 Medi 2014
Maes y Bryn 3-3 Bethel

Sgorwyr: Morgan Davies 2, Morgan Jones 1.

O dan 12

Croeso i dudalen y tim dan 12 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw. 


Canlyniadau Tymor 2014 - 2015

Ffeinal Cwpan Gwyrfai

Dydd Sadwrn 10 Mai 2015
Bethel 5 Penrhosgarnedd 0

Ar bapur oedd y gêm yn ymddangos yn un anodd iawn yn erbyn y tîm gorau mae Bethel wedi chwarae'r tymor yma a'r un sydd wedi ennill fwyaf o bwyntiau.  

Fodd bynnag, roedd un neu ddau chwaraewr allweddol yn absennol gan wrthwynebwyr a hyn oedd y gwahaniaeth wrth i Bethel selio buddugoliaeth gyfforddus.  Er hynny, gyda phob parch petai Gareth Bale wedi chwarae yn erbyn ein bechgyn heddiw byddem wedi ennill !!  
Perfformiad gwych wedi ei selio gan goliau gan Cai a (pwy arall) Celt Moss, ond y tro hwn aeth y penawdau i Louis 'George Best' Guest gyda hatrick haeddiannol!! Am dalent go iawn! Cafwyd perfformiadau gwych ar draws y cae, yn enwedig Bedwyr 'Cadarn' Jones a Gwion 'dewin yr asgell' Griffith.  

Mae'n braf nodi bod pob chwaraewr yn y garfan wedi bod ar y cae yn ystod rhyw gyfnod heddiw a phawb wedi chware ei rhan yn sicrhau llwyddiant ar gyfer y tîm talentog iawn.  

Nodyn olaf i ddiolch i fy Nghapten Fantastic, Ioan Ifans a Merfyn a Rich am eu holl waith caled a'u cefnogaeth yn ystod y tymor.  
Da iawn pob un gan reolwr balch iawn!!


Rownd Gyn-derfynol Cwpan Gwyrfai
Bethel 3 Cae Glyn 2 

Perfformiad penigamp gan Bethel i guro tîm pêl-droed cadarn iawn Cae Glyn.  

Enillwyd y gêm yn ystod yr hanner cyntaf gyda Bethel yn chwarae pêl-droed gwych. 'Roedd y bel yn cael ei phasio yn dda gydag egni ac awch ac 'roedd Ifan 'Soled' Stead yn cadw pethau'n dyn yn ganol cae '.  

Ond, ein hymosodwr, Celt 'gwych' Moss ennillodd y penawdau gyda hatrick arbennig. 'Roedd yr ail yn ymgeisydd ar gyfer gôl y tymor! Trodd â'i gefn at y gôl, a saethu i mewn i'r gornel uchaf o 25 llath (unrhyw un yn cofio Tony Yeboah !!).  

Da iawn fechgyn. Ymlaen i'r rownd derfynol ...


Bont 4 Bethel 6

Diwrnod gwyntog iawn arall a effeithiodd yn wael ar y gêm. 'Roedd Bethel 4-1 ar ei hol hi ar yr egwyl yn brwydro yn erbyn yr amodau. Fodd bynnag, gyda'r gwynt yn helpu yn yr 2il hanner, daeth Bethel yn nol yn arbennig drwy sgorio 5 heb ymateb. Chwaraewyd pêl-droed deniadol iawn a buddugoliaeth haeddiannol.  

Gorffennodd Bethel yn ail yn y Gynghrair  


Bethel 5 Mynydd Tigers 6 

Diwrnod gwyntog a gêm galed iawn gyda'r corwynt ym Methel yn chwarae rhan enfawr! Roedd y tîm cartref 5-2 i fyny gyda 20 munud i chwarae ond daeth y tîm oddi cartref yn nol i guro. Chwaraeodd Bethel yn dda am gyfnodau hir, gwell lwc y tro nesaf!  


Bethel 5 Llanrug 3

Dyna well!  

Perfformiad canmoladwy gan fechgyn Bethel. 'Roedd sawl perfformiad da iawn heddiw gyda'r pasio da o safon yn enwedig ar yr esgyll yn cael eu harddangos, gyda dewiniaid yr esgyll Gwion Griffiths (Seren y gêm gan y chwaraewyr) a Charlie Williams (Cyd Seren y gêm gan y rheolwr) yn creu trafferthion mawr i amddiffyn y tîm oddi cartref. Mae'r 2 yma yn sicr gyda dyfodol disglair o'i blaenau yn y gêm.

Rhuthrodd Bethel i mewn i'r gêm i arwain 5-1 gyda goliau gan Charlie (2), Gwion, Celt ac Ifan (plîs gadewch i mi wybod os dwi'n anghywir!)  
Mae angen gwneud sylw arbennig am y gôl gyntaf cyd gyda chynorthwyo clinigol gan Gwion (cymerodd 3 chwaraewr allan o'r gêm a thorri'r amddiffyn yn hanner) gyda Charlie yn gorffen gyda foli glinigol a fyddai ambell i arwr yr uwch gynghrair yn falch ohono. Daeth y drydedd o daran o ergyd gan Ifan Stead o tua 25 llath a darodd cefn y gôl fel mellten.  

Aeth Bethel I gysgu yn yr ail hanner (efallai bod yn rhybudd) a daeth Llanrug nol i'r gêm gydag ambell chwaraewr Bethel yn pwyso gormod ac yn cael ei dal allan.

Canlyniad terfynol 5-3. Buddugoliaeth haeddiannol a Bethel yn olaf yn curo unwaith eto!!


Cae Glyn 6 Bethel 2

Er bod y tim cartref wedi curo'n haeddiannol doedd y sgôr ddim yn adlewyrchiad teg o'r sgôr. Yn yr hanner cyntaf y tim oddi cartref oedd yn meistroli gyda phasio da ac ymosodiadau da. 'Roedd Cai LLwyd a Louis Guest yn cyfuno'n dda ar y dde, gyda Cai yn chware mewn safle anghyfarwydd fel cefnwr de. 'Roedd Bethel ar ei hol hi 1-0 hanner amser a'r ôl rheoli'r chware a chael sawl cyfle euraidd i sgorio ac arbedodd gôl-geidwad Cae Glyn (a gafodd gêm dda iawn) a'r sawl achlysur.  

Fodd bynnag, hanner ffordd drwy'r ail hanner 2-2 oedd y sgôr gyda goliau gan Celt Moss a Cai Llwyd a oedd bellach yn chwarae mewn safle mwy ymosodol. Daeth dewin yr asgell Gwion Griffiths (sydd yn cael tymor cyntaf aruthrol i Bethel) yn agos pan oedd Bethel yn dechrau cael y gorau o'r chwarae.  

Sgoriodd Cae Glyn yn erbyn llif y chwarae ac yna yn sgorio'n fuan wedyn gydag ergyd da o bell i wneud him 4-2. Newidiodd Bethel ychydig er mwyn rhoi coesau ffres ar y cae ond yn ofer gyda'r sgôr terfynol yn 6-2.  

Rhaid rhoi sylw arbennig i'n gôl-geidwad ar y diwrnod, Siôn Arfon, a oedd yn dirprwyo i'n gôl-geidwad arferol, Dylan. Rhoddodd Siôn 110% ar y diwrnod ac yn haeddu llawer o glod.  

Gobeithio bod buddugoliaeth rownd y gornel, nid y dechrau gorau i 2015 ar ôl diwedd gwych i 2014!  


Bethel 2 Penrhos 3

Gêm gyntaf ar ôl toriad y Nadolig a dan 12 Bethel yn dioddef o effeithia'r dathlu. Chwaraeodd Bethel yn dda a'r adegau ond ddim gyda digon o safon i guro tim da iawn Penrhos (yn fy marn i'r tim pêl-droed gorau i ymweld Coed Bolyn hyd yma eleni).  

Er llwyddodd Celt Moss i sgorio dwy, wrth i'r ymosodwr peryglus Mohammed rasio yn glir yn ystod yr amser ychwanegol i greu'r gôl fuddugol. Byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad tecach ond chwarae teg i Benrhos a gymerodd eu cyfleoedd yn dda i ennill y pwyntiau.  

Siarad am Nadolig, yr wyf yn awr yn gwybod beth i'w brynu i'n hyfforddwr cynorthwyol a ddyfarnodd y gêm, oriawr newydd !! ;-)  


Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2014
Llanrug 0 v Bethel 2
Rownd 1af Cwpan y Gynghrair

Sgoriwr: Celt Moss

Mae'r buddugoliaethau yn parhau i'r tîm dan 12!

Gem galed eto yn Nant y Glyn gyda Llanrug yn ein croesawu. 'Roedd perfformiadau gwych o bob rhan o'r cae gan gynnwys perfformiad soled yn amddiffynnol yn enwedig Siôn Davies a sicrhaodd ein clean-sheet cyntaf o'r tymor.
Enillodd ganol y cae Bethel y frwydr heddiw gyda pherfformiad disglair arall gan Gwion Griffiths mewn safle asgell chwith anghyfarwydd.

Daeth ein goliau gan ein hymosodwr Celt sydd yn cael tymor rhagorol wedi trosglwyddo o ganol y cae i ymysodwr clinigol. Mae bellach wedi sgorio 9 gôl mewn 6 gem a sgorio mewn pob un. Bosib bydd Brendan Rogers yn galw draw i'w weld yn fuan!
Trwodd i'r rownd gyn derfynol bellach ac mae'n bosib bydd cwpan ar ei ffordd i Fethel os bydd y perfformiadau yn parhau.


Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2014
Mynydd Tigers 1 Bethel 3

Sgorwyr: Charlie Williams, Celt Moss 2

Gem anodd oddi cartref i'r hogiau yn erbyn tîm caled y Teigrod. 'Roedd y gêm yn gystadleuol iawn mewn amgylchiadau hynod o wlyb wnaeth hi'n anodd i'r ddau dîm, ond chwaraeodd Bethel peldroed penigamp gyda phasio da ar gae trwm. Gyda thaclo brwdfrydig gan ein gwrthwynebwyr ymatebodd Bethel yn dda a llwyddo i gael dipyn o lwyddiant gyda pherfformiadau ardderchog gyda dewinai’r asgelli, Gwion Griffiths a Charlie Williams. 'Roedd Louis Guest yn cydweithio yn dda gyda Gwion o ganol y cae ac 'roedd gol gan Charlie a dwy gan Celt yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth.

Mae'n glod i'r tîm bod modd gwynebu'r flwyddyn newydd yn ddi guro gyda 4 buddugoliaeth ac un gêm gyfartal.


Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2014
Llanrug 1 - Bethel 2

Sgorwyr: Ifan Stead, Celt Moss

'Roedd gem ddarbi lleol yn erbyn Llanrug wastad yn mynd i fod yn gêm glos a felly a brofwyd. Rhoddodd Ifan Stead Bethel ar y blaen gyda tharan o ergyd o ochr y cwrt gol a gwnaeth ymosodwr Bethel Celt Moss hi'n ddwy. Chwaraeodd Llanrug yn dda a thynnu un gôl yn nol i wneud hi'n ddiweddglo nerfus. Daeth Morgan Evans ymlaen i'r amddiffyn a gyda Bethel yn mynd 4 yn y cefn llwyddwyd i rwystro Llanrug a daliodd Bethel ymlaen i ganlyniad gwych! Da iawn!


Dydd Sadwrn 18 Hydref 2014
Bethel 3 - Cae Glyn 1

Sgorwyr: Celt Moss, Ifan Stead

Trydedd gêm y tymor yng nghynghrair Gwyrfai ar perfformiad gorau hyd yma o bell ffordd. 'Roedd y gwynt cryf ddim y gorau i chwarae peldroed da, ond gweithiodd Bethel yn galed gan chwarae peldroed hyfryd. 'Roedd y cyd-basio yn benigamp a Bethel yn creu sawl cyfle.

3-1 oedd y sgôr terfynol yn erbyn tîm da o Gae Glyn a fydd yn her i sawl tîm tymor yma. Sgoriodd Celt Moss 2 yn chwarae fel ymosodwr ac Ifan Stead oedd yn chwarae mewn rôl amddiffynnol yn ganol y cae gyda clincar o gol o bell oedd y sgoriwr arall.

2 fuddugoliaeth ac 1 gem cyfartal y tymor yma, da iawn hogia!


Dydd Sadwrn 4 Hydref 2014

Bethel 2 - Bontnewydd 1
Sgorwyr: Louis Guest, Celt Moss

Gem gyntaf adref o'r tymor Dydd Sadwrn diwethaf gyda Bethel yn croesawu Bontnewydd.

Gem galed iawn oedd hi hefyd gyda Bethel yn fuddugol 2-1. Sgoriodd chwaraewr newydd i'n tim, Louis Guest y gol gyntaf. Gol dda iawn oedd hi hefyd gyda pasio da o ganol cae yn diweddu gyda ergyd cryf i gornel gwaelod y gol. Daeth yr ail cyn hanner amser. Miri yn y bocs yn caniatau Celt Moss i dapio'i fewn i gael ei ail gol o'r tymor.

Hanner ffordd trwy'r ail hanner sgoriodd Bontnewydd ond yn ffodus gwnaeth hogiau ni dal arni gydag amddiffyn cadarn a perfformiad cryf unwaith eto gan ein gol-geidwad, Dylan Evans.

Dewisiodd y chwaraewyr Bedwyr fel ein man of the match ac wnes i ddewis Charlie fel ein man of the match am ei waith caled iawn drwy gydol y gem ar yr asgell chwith.

Un buddugoliaeth ac un gem gyfartal yn cychwyn da i'r tymor - da iawn hogs!


Dydd Sadwrn 27 Medi 2014

Penrhosgarnedd 2 - Bethel 2
Sgorwyr: Gwion Griffiths, Celt Moss

Gem gynta'r tymor heddiw oddi gartref yn erbyn Penrhosgarnedd. Llawer o wynebau newydd eleni yn ymuno a'r hogia dan 11 llynnedd ac yn chwarae'n dda gyda'i gilydd.

Cyfartal oedd y sgor 2-2. Bethel wedi gwneud yn dda iawn i ddod yn ol ar ol mynd lawr dwy waith yn ystod y gem.
Gwion Griffiths, chwaraewr newydd i'r tim yn sgorio gyntaf a Celt Moss yn sgorio'r ail ar ol gwaith da i greu siawns iddo'i hun.
Roedd pawb wedi chwarae'n dda (yn enwedig Dylan Evans) y gol-geidwad gyda arbediadau ardderchog. Dewisiodd ein Capten Ioan Ifans, Ifan Stead fel Man of the Match heddiw.

Dechrau boddhaol iawn i'r tim yma ac mae tymor llwyddiannus ar y gweill os bydd yr hogia'n barhau i ddatblygu fel tim.

Bechgyn o dan 14

Croeso i dudalen y tim dan 14 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw


Canlyniadau 2014 - 2015


Dydd Sadwrn 16 Mai 2015
Bethel 6 Penrhos A 2

Sgorwyr: Ben 2, Gethin 2, Callum, Owain


Nos Fercher 13 Mai 2015
Bethel 0 Bethesda 3


Nos Fercher 29 Ebrill 2015
Penrhos A 3 Bethel 8

Sgorwyr: Callum, Owain 2, Gethin 2, Caio, Rhydian, Ben


Dydd Sadwrn 25 Ebril 2015
Bethel 0 Cae Glyn 3


Dydd Sadwrn 18 Ebrill 2015
Bethesda 2 Bethel 2

Sgorwyr: Ben, Caio


Nos Fercher 15 Ebril 2015
Bontnewydd 0 Bethel 4

Sgorwyr: Morgan 2 Ben 2


Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2015
Nantlle Vale 1 Bethel 8

Sgorwyr: Huw 2, Ben 2, Gwilym, Callum, Owain, Tom


Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2015
Cwpan y gynghrair - Bethel 9 Penrhos A 0

Sgorwyr: Caio 4, Callum, Huw, Gwilym, Gethin, Owain


Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2015
Bethel 2 - Talysarn 4

Sgorwyr: Callum, Owain


Dydd Sadwrn 7 Chwefror 2015
Bethel 6 Dyffryn Nantlle 0


Sgorwyr: Callum, Morgan, Caio 2, Ben 2


Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2015
Penrhos B 3 - Bethel 3

Sgorwyr: Gethin, Tomos, Morgan


Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2015
Segontiwm 2 Bethel 1

Sgoriwr: Huw


Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2015
Llanberis 8 Bethel 0


Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2014
Cae Glyn 5 Bethel 3

Sgorwyr: Caio 2, Nathan


Dydd Sadwrn 4 Hydref 2014
Talysarn 5 - Bethel 0
Bethel yn chwarae yn well o lawer na'r penwythnos cyntaf ac yn dangos calon yn erbyn hogia blwyddyn hyn.


Nos Wener 26 Medi 2014
Bethel 2 - Segontiwm 3
Sgorwyr: Owain, Caio


Dydd Sadwrn 20 Medi
Bethel 1 - Llanberis 9

Sgoriwr: Caio (gôl wych!)

O dan 16

Welcome to the under 16's page and their season's exploits. Thanks to the managers and coaches for their work with the players.

Croeso i dudalen y tim dan 16 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.


Canlyniadau 2014 - 2015

Nos Wener 9 Mai 2015
Bontnewydd 5 - Bethel  B 1

Sgoriwr: Gethin 

Gem olaf y tymor a noson annifyr iawn yng nghanol y glaw. Chwaraeodd Bethel yn dda yn ystod yr hanner cyntaf gan greu sawl cyfle da ond gwnaeth gôl-geidwad Bontnewydd yn arbennig gyda sawl arbediad da. Bont aeth ar y blaen ac arhosodd hi'n 1-0 hyd yr hanner.

Cychwynnodd yr ail hanner yn wael i Bethel wrth I Bont sgorio o gic rydd ac yna gydag ergyd o bell. Ymatebodd Bethel yn dda gan pan sgoriodd Gethin yn dilyn cig gornel gan Jestin ond yn fuan wedyn aeth Bont yn bellach ar y blaen a gorffennodd hi'n 5-1.

Er yn colli ar y noson, wedi bod yn dymor gwych i'r hogiau yn eu tymor cyntaf o dan 16.


Nos Lun 27 Ebrill 2015 
(Ffeinal gwpan Gwyrfai) 

Cae Glyn 3 - Bethel B 1 
(Ar ol amser ychwanegol) 
Sgoriwr: Aaron 

Bethel yn cael y fraint o chwarae a'r yr Oval ac yn perfformio yn arbennig o dda. Aeth Bethel a'r y blaen yn dilyn cig rhydd gan Jestin ac Aaron yn penio heibio'r gol geidwad. Parhaodd Bethel ar y blaen gyd eiliadau'r olaf yr hanner wrth i Cae Gyn fanteisio o gic cornel dadleuol.  

Cafodd y ddau dim gyfleon yn yr ail hanner gyda Lee yn gwneud sawl arbediad gwych ond gorffennodd hi'n 1-1.  

Yn anffodus cafodd blinder y gorau o Bethel a sgoriodd Cae Glyn ddwy waith yn yr amser ychwanegol ond pob clod i Fethel am berfformiad cryf yn erbyn tîm da iawn. 

Seren y gem oedd Gethin 


Nos Iau 23 Ebrill 2015
(Semi-ffeinal gwpan Gwyrfai)
Felinheli 3 - Bethel B 8

Sgorwyr: Jestin 2, Dion 2, Aaron 2, Iwan, Rhun 

Chwaraewyd y gem a'r gae Bethesda a'r noson braf. 'Roedd y cae yn siwtio Bethel a dechreuodd Bethel yn dda gan greu sawl cyfle. Aeth Bethel a'r y blaen wedi pas gan Gethin o'r amddiffyn i Gruff a ddaeth o hyd I Jestin a'r y'r asgell dde. Rhedodd Jestin yn nerthol a taro taran o ergyd heibio'r gol-geidwad. Parhaodd Bethel i bwyso a daeth y'r ail wedi Osian gymryd gic gornel byr i Gruff a groesodd i Dion sgorio. Sgoriodd Jestin y drydedd wedi cic gornel gan Gruff. Yna daeth Felin yn nol i mewn i'r gem yn dilyn cic rydd ond aeth Bethel mewn i'r hanner yn arwain 4-1 wedi rhediad nerthol gan Dion yn creu cyfle syml i Iwan rwydo. 

Hanner amser 4-1 

Parhaodd Bethel i chwarae yn dda am a cyfunodd Dion a Keiran i Aaron sgorio. Aaron sgoriodd y nesaf wedi Ifan chwarae'r bel i Dion a chwaraeodd bas wych i Aaron sgorio. Chwaraeodd Kieran y bel i Rhun sgorio'r 7ed a gafodd Rhun floedd uchaf y noson. Tro Dion oedd sgorio'r 8ed gyda Ben yn creu. Wrth i Bethel flino daeth Felin nol mewn i'r gem a sgorio ddwy waith. 

Seren y gem oedd Dion 


Nos Fercher 15 Ebrill 2015
Llanllyfni 1 - Bethel B 6 

Sgorwyr: Aaron 3, Sion, Jestin, og 

Bethel yn chwarae ei gem cyntaf ers mis ac yn perfformio'n arbennig o dda. 'Roedd y gol cyntaf ychydig yn lwcus wrth i gyd weithio gan Aaron a Iwan greu hanner cyfle, ond wrth i Llanllyfni geisio clirio tarodd y bel Sion a mynd i mewn i'r rhwyd. Daeth yr ail i Aaron wedi ei greu gan Dion. 

2-0 a'r yr hanner. 

Yn fuan yn yr ail hanner daeth Llanllyfni nol i'r gem.  Ymatebodd Bethel yn dda ac wedi dyfalbarhad gan Jeston trodd amddifynwr Llan y bel i rwyd ei hyn. Daeth y bedwaredd o bel hir gan Lee ac Aaron yn codi'r bel dros y gol-geidwad. Meistrolodd Bethel gweddill y gem gyda Jestin yn cael ei haeddiant o bas gan Aaron ac yna Aaron yn sgorio ei drydedd wedi symudiad dda gan Jestin a Gruff. 

Seren y gem oedd Dion 


Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2015
Bethel B 4 - Llanrug 0

Sgorwyr: Jestin 3, Aaron

A'r ôl cael y pleser o chwarae a'r cae 3G Bangor y penwythnos cynt nol ar y glaswellt oedd hi wythnos yma ac 'roedd y cae yn gwneud hi'n anoddach i efelychu'r pasio gwych. 'Roedd hi'n fore braf ac yn gêm gystadleuol iawn gyda Llanrug yn amddiffyn yn gadarn a chreu ambell i hanner cyfle. Bethel oedd yn creu y cyfleodd gorau ac 'roedd Aaron yn anlwcus gydag ergyd a darodd y postyn. 'Roedd y gêm yn nesáu at yr hanner pan aeth Bethel a'r blaen wedi ergyd dda Jestin o bell.

'Roedd Bethel wedi ceisio chwarae patrwm newydd hanner cyntaf ond bu rhaid newid nôl i'r patrwm arferol ac yn edrych yn fwy cadarn. Daeth yr ail hanner ffordd trwy'r hanner gydag Aaron yn rhwydo o bas gan Gruff. Cafodd Llanrug sawl gic rydd ond aeth pob cyfle heibio'r gôl neu gael ei dal yn dda gan Lee. Gyda'r gêm yn nesáu at y terfyn sgoriodd Jestin dwywaith i sicrhau buddugoliaeth, y tro cyntaf wedi ei greu gan Iwan a'r eildro gan Siôn, nid oedd y sgôr terfynol yn adlewyrchu pa mor galed oedd y gêm wedi bod.

Seren y gêm wedi ei rannu rhwng Ifan a Jestin


Dydd Sadwrn 7 Mawrth 2015
Felinheli 0 - Bethel B 12

Sgorwyr: Aaron 4, Dion 3, Iwan 2, Gruff, Gethin, Sion

'Roedd y gêm yn cael ei chwarae ar gae 3G Bangor yn Nantporth a peth da oedd hynny oherwydd 'roedd wedi bwrw tipyn yn ystod yr wythnos. 'Roedd y cae 3G wrth fodd Bethel a cafwyd perfformiad gorau'r tymor o bell ffordd gyda phasio a symudiadau gwych o'r cychwyn i'r diwedd. 'Roedd Bethel yn chwarae gyda'r gwynt hanner cyntaf a gwnaeth hyn wahaniaeth mawr.

Dion sgoriodd y cyntaf gydag ergyd gref gyda'i droed chwith wedi ei greu gan Gruff o'r dde. Yna sgoriodd Aaron dwy, y gyntaf wedi ei greu gan Gruff a'r ail gan Dion. Yna sgoriodd Dion wedi ei greu gan Aaron. Tro Iwan oedd sgorio dwy, y cyntaf gyda help Kieran a'r ail wedi ei greu a'i sgorio ei hun. Cyn yr hanner rhwydodd Aaron am ei bedwaredd.

8 - 0 ar yr hanner

'Roedd hi'n anoddach ail hanner wrth chwarae yn erbyn yr amodau. Sgoriodd Gethin yn dilyn cig gornel dda gan Osian yna Gruff yn sgorio wedi symudiad da a'r bel olaf yn dod gan Iwan. Cafodd Bethel benalti a'r ôl Osian gan ei dynnu lawr yn y blwch cosb a sgoriodd Siôn o'r smotyn. Daeth gol olaf gan Dion wedi pas o'r ochr dde gan Aaron

Seren y gêm oedd Dion


Dydd Sadwrn 28 Chwefror 2015
Penrhos 0 - Bethel B 0

Er i Fethel reoli'r meddiant, methwyd a throi'r oruchafiaeth i mewn i goliau yn erbyn amddiffyn trefnus iawn Penrhos

Seren y gêm oedd Gruff


Dydd Sadwrn 14 Chwefror 2015
Cae Glyn 4 - Bethel B 0


Yn anffodus ni lwyddodd Bethel i efelychu'r perfformiad gwych o'r gêm gartref ac 'roedd cyfuniad o salwch, anafiadau a pherfformiad cadarn gan y tîm cartref yn golygu bodd hwn yn ganlyniad cyfforddus i'r tîm cartref.

Seren y gêm i Fethel am frwydro o'r dechrau i'r diwedd oedd Gruff


Dydd Sadwrn 7 Chwefror 2015
Bethel B 3 - Llanllyfni 0


Sgorwyr: Dion, Aaron, Jestin

Dechreuodd Bethel yn ardderchog a mynd ar y blaen yn fuan iawn i mewn i'r gêm wrth i Kieran ac Aaron gyfuno i Dion rwydo. Yn anfoddus doddodd Bethel cwpl o anafiadau ac effeithiodd hyn ar y perfformiad a methwyd ac estyn mantais y tîm cartref.

'Roedd Llanllyfni yn fygythiad mawr yn yr ail hanner a creuwyd cyfle a'r ôl cyfle gyda Lee yn gawr yn y gôl i Fethel gyda'i amddiffyn yn ei helpu gydag ambell gliriad arall. 'Roedd yn ymddangos mai mater o amser oedd hi cyn i Fethel ildio ond yn erbyn llif y chwarae daeth symudiad lawr y dde gyda Dion yn creu cyfle i Jestin groesi gydag Aaron yn rhwydo. Parhaodd Llanllyfni i bwyso ond daeth trydydd gol i Fethel wrth i Aaron greu i Jestin sgorio.

Seren y gêm am sawl arbediad penigamp oedd Lee


Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2015
Bethel B 3 - Cae Glyn 2


Sgoriwr: Aaron (3)

Perfformiad arbennig gan bob un aelod o'r garfan o'r dechrau hyd at y diwedd. 'Roedd yn gêm dda i'r neutral ond llawn tensiwn i'r cefnogwyr gyda phêl droed da a phasio graenus gan y ddau dîm. Doedd fawr ynddi yn ystod yr hanner cyntaf gyda'r chwarae yn eithaf cyfartal. Daeth Ben yn agos gydag ergyd a gliriwyd oddi ar y llinell, ac yna daeth dau gol yn agos at ei gilydd gyda Dion yn rhan allweddol o'r ddwy. Yn gyntaf yn creu i Aaron sgorio ac yna'n cyfuno gyda Ben yn fuan wedyn i Aaron sgorio ei ail. Arhosodd y sgôr yr un fath tan hanner amser.

Daeth Cae Glyn allan a'r dan ar ddechrau'r ail hanner a sgoriodd nhw'n fuan i wneud hi'n 2-1. 'Roedd Bethel dan warchae ond cadwyd Cae Glyn allan gyda chyfuniad o amddiffyn cadarn ac arbedion da gan Lee. Gyda 10 munud yn weddill chwaraeodd Dion bêl I Jestin ar yr asgell dde a basiodd I Aaron sgorio ei drydedd. Daeth Cae Glyn yn nol a sgorio ei ail gyda 4 munud a'r ôl ond llwyddodd Bethel i ddal ymlaen am ganlyniad nodedig.

Er bod sawl perfformiad gwych ymysg y tîm, seren y gêm am sgorio 3 oedd Aaron.


Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2015
Bethel B 3 - Bethel A 5


Sgorwyr: Jestin, Aaron, Osian

Bethel A yn haeddiannol enillodd y gêm rhwng 2 dim Bethel. Bethel A aeth ar y blaen wedi i Shaun un o gyn chwaraewyr y B's rwydo yn dilyn cig rhydd. Daeth y B's yn ôl gyda Jestin yn sgorio wedi Osian ennill y bel yn wych yng nghanol y cae. Sgoriodd Shaun dwywaith i'r A's cyn yr hanner i wneud hi'n 3-1.

Daeth Bethel B fwy i'r gêm yn yr ail hanner a sgoriodd Aaron wedi croesiad gan Jestin. Cafwyd sawl cyfle da arall ond sgoriodd yr A's i wneud hi'n 4-2 ond yna sgoriodd Osian wedi pas gan Jestin ond gyda Bethel B yn pwyso ildiwyd gôl arall a gorffennodd hi'n 5-3.

Er bod Bethel B wedi ildio 5 'roedd perfformiadau da gyda Lee yn gwneud sawl arbed gwych ond seren y gêm oedd Ifan.


Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2014
Cwpan Gwyrfai
Bethel A 1 - Bethel B 4


Sgoriwr (Bethel B): Aaron 4

Bore bendigedig gyda haul cryf oedd yn golygu bod angen sbectol haul a dim cot! Ac am unwaith doedd y cae ddim o dan ddwr!

Bethel A ddechreuodd gryfa ac am y 10-15 munud cyntaf nhw oedd yn rheoli a doedd ddim yn synod pan aeth yr A's ar y blaen pam fethodd y B's glirio o gic gornel ac un o chwaraewyr ganol gae Bethel Ac yn derbyn croesiad tu ôl i'r amddiffyn i sgorio. Daeth ymateb gan Bethel B ac fel sydd wedi digwydd mewn sawl gem, dechreuodd Bethel B feistroli gyda Jestin yn gwneud rhediadau nerthol lawr yr asgell dde. Daeth dwy gôl cyn yr hanner i
Bethel B gyda'r un cyfuniad y ddwy dro, Jestin yn creu ac Aaron yn sgorio.

Hanner amser: Bethel A 1 - Bethel B 2

'Roedd perfformiad ail hanner Bethel B yn well fyth, gyda'r amddiffyn yn gadarn ac yn rhoi dim lle i ymosodwyr Bethel A. Daeth sawl cyfle ond y pyst a Rhys yn y gôl i'r A's yn cadw'r sgôr i 2-1. Gyda thua 15 munud yn weddill, llwyddodd y B's i fynd i bellach ymlaen gyda Gruff yn pasio i Aaron sgorio ac yna gyda dim ond ychydig o amser a'r ol, Aaron yn rhedeg ymlaen i gic hir gan Lee i rwydo ei bedwaredd.
Seren y gêm am berfformiad cadarn oedd amddiffyn Bethel fel uned!


Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2014
Llanrug 0 - Bethel A 9

Sgorwyr: Jestin 2, Rhun 2, Ciron, Ben, Osian, Aaron, Gruff

'Roedd hi'n fore sych a braf a thaith fer oedd yn ein gwynebu yn erbyn y gelynion lleol. 'Roedd y canlyniad yn foddhaol am sawl rheswm
1. Perfformiad da a gweithgar arall
2. Pedwar chwaraewr yn sgorio ei goliau cyntaf o'r tymor i'r clwb
3. Y tro cyntaf i Bethel B beidio ildio gôl mewn gem y tymor yma

Dechreuodd Bethel yn betrusgar ac er creu ambell gyfle ni chafodd gôl-geidwad Llanrug ei brofi. Wedi dweud hynny 'roedd Gruff yn gwneud sawl rhediad da lawr yr asgell chwith ac o'r diwedd daeth ei haeddiant wrth i bêl o'r chwaith ddod I Ben, eu ergyd yn cael ei daro lawr ond yn rhedeg allan i Ciron y cefnwr de a darodd taran o ergyd i sgorio gôl gyntaf Bethel. A'r ôl hynny pwysodd Llanrug a dim ond arbediad gwych gan Lee a gadwodd y sgôr yn 1-0. Fel aeth yr hanner ymlaen yn raddol dechreuodd Bethel reoli a sgoriwyd gôl dda wedi pêl gan Aaron i Dion ac yna trwodd i Jestin sgorio ei gyntaf. Jestin greuodd y nesaf gyda phêl dda o gic cornel i Gruff benio i mewn.

Hanner amser Llanrug 0 - Bethel 3

Rheolodd Bethel yr ail hanner a sgoriodd Jestin ei ail wedi derbyn y bel gan Dion a gychwynnwyd gan dafliad Ryan. 'Roedd Dion yn rheoli ganol y cae a groesodd yn wych i Rhun sgorio ei gol cyntaf i Fethel. Rhun sgoriodd y nesaf hefyd wedi ei greu gan Jestin. Tro Aaron oedd sgorio'r 7ed wedi tafliad sydyn gan Osian. Yna yn dilyn cig gornel na cliriwyd, pasiodd Dion bêl i Ben i daro ergyd da o bell. Daeth gol olaf y bore wedi cyfuniad da gan Jestin a Dion i fwydo Osian i sgorio yn gampus gyda'i droed chwith.

Seren y gêm oedd Jestin


Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2014
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru


Bethel B 0 - Aztec Stars 9
Rhediad Bethel yn dod i ben yn erbyn tim da, fydd yn siwr o fod yn un o ffefrynnau i ennill y gwpan.


Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2014
Bethel 6 - Penrhosgarnedd 1

Sgorwyr: Aaron 3, Iwan 2, Osian

Bore gwlyb iawn oedd yn ein gwynebu ond er yn drwm 'roedd y cae ddigon da i chwarae. Rheolodd Bethel yr hanner cyntaf gyda Dion yn gwneud sawl rhediad nerthol. Daeth y gôl gyntaf wedi cyfnod o bwyso gyda pass gan Jestin i Aaron rwydo o 6 llath. Parhaodd Bethel bwyso a chafodd Aaron ei ail wedi I Dion ryddhau Jestin ar yr ochr dde a Jestin yn croesi'n dda. 'Roedd Jestin yn creu sawl cyfle gyda'i rediadau nerthol a daeth y drydedd wedi pass dda arall lawr yr asgell a Jestin yn croesi i Aaron sgorio. Gwnaeth Bethel ychydig o newidiadau a sgoriwyd y 4ydd wedi pass gan Dion, Iwan yn rheoli ac yn curo'r amddiffynwyr ar gol geidwad i sgorio. Er cafodd Penrhos sawl gic rydd, 'roedd amddiffyn Bethel yn gadarn.

Hanner Amser: Bethel 4 - Penrhos 0


Daeth 5ed Bethel wedi symudiad cyflym lawr y dde, Osian yn chwarae pêl dda ac Iwan yn rhedeg yn nerthol i mewn i'r blwch a tharo ergyd dda heibio gol geidwad Penrhos. Wedi hynny a Bethel wedi gwneud sawl newid wedi anafiadau a salwch, daeth Penrhos mewn i'r gêm a sgorio i wneud hi'n 5-1, ond Bethel cafodd y gair olaf wedi symudiad celfydd cyflym gydag Aaron yn rhyddhau Osian i daro'n bwyllog heibio'r gôl-geidwad gyda'i droed chwith.

Seren y gêm am frwydro'n trwy'r gêm gyda sawl tacl dda ac am fod yn fodlon llenwi mewn safleoedd anghyfarwydd oedd Harri.


Dydd Sadwrn 25 Hydref 2014
2ail Rownd Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Rhyl Panthers 3 - Bethel B 6

Sgorwyr: Aaron 3, Iwan 2, Gethin

Taith i Rhyl oedd yn gwynebu Bethel yn 2ail rownd y gwpan. Er i Fethel gychwyn ychydig yn simsan gyda Rhyl yn anlwcus i daro’r traws, meistrolodd Bethel yr hanner cyntaf yn llwyr. Daeth y gôl gyntaf wedi cornel gan Jestin a pheniad gan Iwan. Iwan sgoriodd yr ail hefyd wedi symudiad da ar bas olaf gan Gruff. Sgoriodd Gethin y drydedd o gic gornel gan Osian ac ‘roedd amser i Fethel sgorio pedwaredd ar un gorau wedi symudiad o’r cefn, Gruff yn cario’r bel yn dda ac Aaron yn rhwydo.

Hanner amser Rhyl Panthers 0 - Bethel 4

Parhaodd Bethel i chwarae peldroed a sgoriwyd 5ed yn fuan wedi’r ail gychwyn gydag Iwan yn tynnu’r bel yn nol yn dda i Aaron sgorio ei ail. Wedi hynny daeth cyfnod da i Rhyl gyda'i gol gyntaf yn gol da wedi tafliad ac yna ail yn fuan wedyn. Daeth Bethel o dan ychydig o bwysa gyda’r pyst a’r traws yn achub Bethel a sawl cliriad oddi ar y llinell. Wedi cyfnod o bwysa daeth 3edd i Rhyl. Chwarae teg i Fethel ymatebodd y tîm yn dda a gyda symudiad olaf y gêm rhwydodd Aaron wedi pêl dda o’r cefn gan Ryan.
Un o berfformiadau gorau o’r tymor yn enwedig am y 50 munud cyntaf o’r gêm. Cafodd sawl chwaraewr gem dda ond am seren y gêm i Fethel oedd Gruff.


Dydd Sadwrn 4 Hydref 2014
Rownd 1af Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bontnewydd 2 - Bethel B 4

Sgorwyr: Aaron 3, Dion

Bethel yn chwarae'r un gwrthwynebwyr a'r wythnos diwethaf, ond y tro yma oddi cartref yn y gwpan. Perfformiad campus gan yr holl garfan ac amddiffyn yn dda. Hanner cyntaf 'roedd y chwarae yn eithaf cyfartal gyda'r ddau dîm yn cael sawl cyfle. Daeth y gôl gyntaf wedi Bethel adeiladu'n dda o'r cefn ac Osian yn curo gôl-geidwad o bell allan ond y bel yn taro'r traws a dod 'nôl i Dion rwydo.

Hanner amser: Bontnewydd 0 - Bethel B 1

Bethel oedd y tîm gorau yn yr ail hanner a daeth yr ail wedi i Aaron groesi o'r ochr dde i Gruff guro ei ddyn a chroesi mewn i'r blwch i Aaron benio dros y gôl-geidwad. Parhaodd yn 2-0 am gyfnod cyn dwy gôl yn agos ei gilydd, gydag Aaron yn sgorio ei ail ar ôl i'r gôl-geidwad fethu dal ergyd gan Dion ac yna yn Aaron yn cwblhau ei hat-trick wedi pêl wych gan Ben o'r asgell dda wedi symudiad da arall. Ildiodd Bethel ddwy gôl hwyr wrth i'r hogia flino.

Diolch yn fawr i Harri am chwarae yn y gôl ar fyr rybudd.

Seren y gêm am ei dair gôl oedd Aaron.


Dydd Sadwrn 27 Medi 2014
Bethel B 3 - Bontnewydd 5

Sgorwyr: Dion, Aaron, og

Dechrau da yn erbyn Bontnewydd a Bethel yn gyffyrddus am y chwarter awr gyntaf. Llwyddodd Jestin dorri yn glir o amddiffyn Bont gyda rhediad da ond cafodd ei dynnu lawr yn y cwrt cosbi ac o ganlyniad sgoriodd Dion y gic o'r smotyn yn ddidrafferth. Ysbrydolodd hyn dim Bontnewydd a daethant yn ôl yn gyfartal wedi i Fethel fethu clirio yn y bocs. Bontnewydd oedd y tîm cryfaf am weddill yr hanner, a daeth ail gôl iddynt o gic o'r smotyn wedi llawio yn y bocs gan Fethel, 2-1 ar yr hanner.

Yn yr ail hanner 'roedd Bethel yn cystadlu yn dda gyda Dion yn gawr yng nghanol y cae, a sgoriodd Aaron gôl wych i wneud y sgôr yn gyfartal. Llai na munud wedyn sgoriodd Bont o gic gornel, peniad hawdd a neb yn marcio! Gwelwyd Bont yn chwarae yn gryf wedyn a sgorio dwy gol arall, ond fe ddaru Bethel ddal i frwydro a daeth trydedd gôl wedi i chwaraewr Bont rwydo i'w gôl ei hun.

Ar y cyfan perfformiad da yn erbyn tîm cryf, ond mae lle i wella yn enwedig wrth amddiffyn fel tîm.

Seren y gêm oedd Dion am berfformiad gwych yng nghanol cae.


Dydd Sadwrn 20 Medi 2014
Bethel A 3 Bethel B 6

Sgorwyr: (Bethel B) : Aaron 3, Jestin 2, Osian

'Roedd Bethel B yn chwarae ei ail gêm o fewn 48 awr a gyda'r ddau dîm yn methu chwaraewyr allweddol oherwydd salwch ac anargaeledd.

Dechreuodd Bethel B yn araf unwaith eto a'r tîm 'A' gafodd y gorau o'r chwarae cynnar gan greu sawl cyfle. Ymatebodd y B's and aethynt ar y blaen pan redodd Jestin ymlaen gan bas gan Dion I rwydo'n hyderus. Daeth yr ail dwy funud yn ddiweddarach wedi symudiad gwych lawr y chwith yn cynnwys sawl chwaraewr a ddaeth y Osian I rwydo'n dda. Aeth y gôl nesaf i'r A's wedi camgymeriad yn amddifyn y B's yn galluogi'r A's i sgorio o 6 llath. Ymatebodd y B's pan rwydodd Aaron wedi tafliad sydyn gan Osian. Aeth y gôl nesaf eto i'r A's pan fethodd y B's I glirio’r bel o gornel a rhwydodd yr A's un uchel i'r rhwyd. 'Roedd mwy i ddod wrth I Dion rhyddhau Jestin a aeth ar rediad gwych i orffen yn gelfaidd gyda'i droed chwith. Method y B's eto a dal yn gadarn wrth I Gwion redeg drwy'r amddifyn a chroesi i'r cwrt 6 i wneid hi'n 3-4

Hanner Amser: Bethel A Bethel B 4

Rheolodd Bethel B rannau helaeth o’r ail hanner ac 'roeddynt yn gadarnach yn yr amddifyn er cafodd y ddau dîm gyfleodd da. Doedd y canlyniad ddim yn sicr tan y 10 munud olaf wedi cyd weithio da rhwng Siôn ac Osian yn creu cyfle I Aaron sgorio ac yna cig rhydd da gan Ryan yn galluogi Aaron i benio dros y gôl-geidwad.

Sgôr terfynol: Bethel A 3 Bethel B 6

'Roedd sawl perfformiad da, yn enwedig ymdrech y tîm yr ail hanner ond am ei daclo a'i ymdrech di flino oedd Gruff.


Nos Iau 18 Medi 2014
Bethel B 5 - Felinheli 2

Sgorwyr: Dion 2, Jestin 2, Aaron

Dyma oedd ymddangosiad cyntaf cystadleuol Bethel B o'r tymor er eu bod wedi cael dwy gêm gyfeillgar gystadleuol yn flaenorol yn erbyn Llanfairpwll a Llanrwst. Mae'r tymor yn addo bod yn un heriol oherwydd eu bod yn chwarae yn erbyn sawl tîm gyda hogiau ail flwyddyn dan 16.

Chwaraewyd y gêm yn erbyn Felinheli ar noson gynnes iawn ym mis Medi. 'Roedd Bethel yn anffodus yn methu dau chwaraewr oherwydd effeithiau anhwylder a dechreuon yn araf gyda chwaraewyr Felinheli yn gyntaf i bêl. Creodd Bethel ambell gyfle cynnar ond 'roedd amddiffyn Felin yn gadarn. Creodd y ddau dîm cyfleoedd da ond yr amddifynnoedd oedd yn ennill y dydd. Daeth y gôl gyntaf wedi pas gelfaidd i Aaron ac er i'r gôl geidwad arbed y cyfle daeth y bel nol i Dion a gododd y bel o 30 llath i'r mewn i'r gôl wag. Cafodd Bethel ambell gyfle arall ac aethant yn agos ar sawl achlysur.

Hanner amser 1 - 0

Dechreuodd Bethel yr ail hanner yn gryf a sgoriwyd yr ail pan bennodd Aaron wedi cornel dda gan Osian. Er hynny, 'roedd Bethel yn betrusgar yn yr amddiffyn a gadawyd Felin yn nol mewn i'r gêm. Ymatebodd Bethel yn dda a daeth y gôl nesaf wedi rhediad gwych gan Jestin. Daeth y bedwaredd o "half-foli" gan Dion wedi cic gornel gan Osian a'r 5ed wedi rhediad arall gan Jestin wedi pêl dda o ganol cae. Daeth gôl olaf y noson i Felin.

Sgôr Terfynol Bethel 5 – Felinheli 2

Cychwyn ardderchog gyda phêl droed ardderchog. Seren y gêm wedi iddo feistroli ganol y cae ac am ei ddwy gôl oedd Dion.

Carfan Genethod

Mae'r genethod yn cynrychioli'r clwb yng nghynrair Genethod Gogledd Cymru gyda timau yn oedrannau Dan 14 a Dan 16.

Y Rheolwr yw Iorwerth Willaims ( cysylltir ar 01248670833 neu 07801346652 ) a'i gyd hyfforddwr yw Andy Bell. Mae'r genethod yn ymarfer bob nos Iau rhwng 6 a 7 o'r gloch ar gae y clwb a chae bob tywydd ysgol Brynrefail.


Carfan Genethod 12-13

 

Lluniau - cliciwch yma 


Mehefin 2013

Mae tim dan 16 y Genethod wedi cwbwlhau tymor llwyddiannus drwy ennill y dwbl sef Pencampwyr Cyngrair Genethod Gogledd Cymru ac ennill Cwpan y Gyngrair yn ogystal a mynd i rownd gyn derfynnol Cwpan Cymru.

'Roedd saith o'r genethod ( Charley Smith,Ffion Roberts,Alaw Huws,Chloe Hughes,Magi Hughes,Courtney van Blydenstein,Cara Hughes ) yn rhan o dim ysgolion Eryri a ennillodd Cwpan Ysgolion Cymru.

Galwyd Chloe Hughes a Katie Midwinter i garfan ymarfer merched dan 17 Cymru a llongyfarchwn Chloe ar gael ei dewis i gynrychioli ei gwlad yn Dulyn a Chaerdydd mewn gemau twrnament UEFA gyda un arall i ddod yn yr Alban ym mis Awst.

Mae'r tim wedi cael gwahoddiad i fynd i dwrnament elite cenedlaethol yn Leicester ym mis Gorffennaf.


Ionawr 2013

Yn dilyn ei llwyddiant yn Llanidloes mae tim dan 16 y genethod yn gorfod trafeilio 300 o filltiroedd yn y rownd go gyn derfynnol Cwpan Cymru i wynebu tim cryf iawn Mardy Tigers yn Crickhowell. Hei lwc !!

Yn ei gem gyngrair dydd Sadwrn Ionawr 12fed fe chwalodd y genethod dim Caernarfon o 14 gol i 2 .
5 gol i Chloe Hughes , 4 i Katie Midwinter , 3 i Ffion Roberts a 2 i Charley Smith, Da iawn genod !


Diweddariad 3 Rhagfyr 2012


Mae tim Genethod dan 16 wedi mynd ymlaen i rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru yn dilyn ei buddugoliaeth galed yn Llanidloes.

Ar ol taith o ddwy awr yn y minibus cafwyd gem gyffroes iawn gyda'r tim cartref yn mynd dair gol ar y blaen yn yr ugain munud cyntaf. Ond cadwodd genod Bethel i fynd a daeth 'cracker' o gol gan Alaw Huws ac un arall gan Chloe Hughes i ddod a'r sgor yn 3 - 2 ar yr egwyl.

Aeth Llanidloes bellach ar y blaen yn yr ail hanner a gyda chwarter awr i fynd 'roeddent ar y blaen o 5 gol i 2 .

Ond hefo dwy gol arall gan Alaw i gyflawni ei hat trick ac un gan Ffion Roberts roedd y sgor yn gyfartal a llai na thri munud ar ol.

Ennillodd Katie Midwinter y bel ym mlwch cosbi Llanidloes a gosod y bel yn y rhwyd i ennill a gem 6 - 5 a dechrau y dathlu.

Da iawn genod !!


Adroddiad 6/11/2012

Mae'r genethod wedi chwarae tair gem hyd yma.

Yn y gem gyntaf gartref i Gaernarfon cafwyd buddugoliaeth o 4 gol i 0. Dilynwyd hyn hefo gem gyffroes yn Prestatyn a chanlyniad da eto wrth ennill o 5 gol i 4.
Gem gartref i Kinmel Bay ddaeth a thrydydd buddugoliaeth i'r genod o 1 gol i 0.

Cychwyn boddhaol iawn i'r tymor ond dipyn o ffordd i fynd eto.

Pump o'r genethod wedi ei dewis i gynrychioli Ysgolion Gogledd Orllewin Cymru :

Charley Smith, Ffion Roberts ,Chloe Hughes ,Courtney Van Blydenstein ac Alaw Huws.

Chloe wedi chwarae dros ei gwlad dan 16 yn erbyn y Ffindir a gwlad Belg yn ddiweddar ac wedi ei dewis i garfan merched dan 17 Cymru !


Canlyniadau Tymor 2011 - 2012

Tymor newydd wedi cychwyn i'r genethod hefo dau dim eto eleni sef dan 14 a dan 16.

Yn dilyn ei llwyddiant tymor diwethaf mae y tim dan 14 wedi ei rannu gyda rhai genod yn symud i dan 16 a rhai yn aros dan14. Ychwanegwyd genod newydd i'r ddau dim a chroeso mawr iddynt atom.

Heb chwarae eto mae'r tim dan 14 ond mae y tim dan 16 wedi chwarae 3 gem gyngrair gan ennill un cyfartal mewn un a cholli un.

Cafwyd gem gyffroes yn ddiweddar yn ail rownd Cwpan Cymru yn erbyn Northop Hall. Peldroed ardderchog ac er i Bethel fod ar y blaen ddwywaith gorffennodd y gem yn gyfartal gyda 3 gol bob un. Scorwyr Bethel oedd Charley,Katie Midwinter a Ffion. Dim mwy o goliau yn yr amser ychwanegol felly ciciau o'r smotyn i gael ennillwyr. Arbedodd Sioned y TAIR ymdrech gynta gan Northop yn gampus a scoriodd Charley Rhian a Katie Midwinter yn gelfydd i roi Bethel drwodd i'r rownd yr wyth olaf.

Da iawn genod !!


Canlyniadau Tymor 2010 - 2011

Bu Tymor 2010/2011 yn un llwyddianus dros ben gyda'r tim dan 14 yn ennill cystadleuaeth NWCFA i'r genethod wrth guro Kinmel Bay 2-1 yn y ffeinal ar gae Conwy United.

tim genethod

Dilynwyd hyn gyda llwyddiant yng nghwpan Cenedlaethol Tesco yn Nhrenewydd a mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn St Andrews yn y gystadleuaeth Rhyngwladol.

tim genethod

Rydym wedi bod yn ffodus o gael noddwyr a hoffwn ddiolch i Celtic Souza am noddi'r kit a Cled a Susan Post Bethel am noddi'r hoodies.

genethod llun3
Yn y noson wobreuo cyflwynwyd tlws Chwaraewr y Chwaraewyr i Charley Smith a thlws prif sgoriwr i Katie Midwinter.

Ers diwedd y tymor mae'r genethod wedi ennill tri twrnament

tim genethod llun 1 Twrnament Buckley dan 14

 

llun 4

Twrnament Southport dan 14

 

llun 5

Twrnament Llanidloes dan 16

'Rydym yn falch iawn o'r genethod sydd yn rhan o'r FAW Elite Academy sydd yn cael ei gynnal yn TNS, sef :
Sioned Jones, Nicole Davies, Charley Smith, Katie Midwinter, Ffion Roberts, Chloe Hughes ac Alaw Prys.

Mae trefniadau yn brysur mynd ymlaen i fynd a'r garfan i Sbaen ym mis Mai 2012 lle byddant yn chwarae yn erbyn dau dim yn ardal Barcelona yn ogystal a mwynhau mynd i'r Nou Camp a Port Aventura !!

Rydym bob amser yn croesawu genethod newydd .