Canlyniadau

Canlyniadau Tymor 2018 - 2019
Gwybodaeth yma yn fuan ...
Gwybodaeth yma yn fuan ...
Gwybodaeth yma yn fuan ...
Match report – Hydref 27 v Penrhos (A)

Eira cynta’r flwyddyn ar y mynyddoedd ac mi roedd hi’n oer (yn enwedig i’r rheolwr yn sefyll ar ochr y cae!) Yr un hanes oedd hi eto wythnos yma gyda’r ddau dim yn eithaf cyfartal. Dim ond un gôl gan Penrhos oedd yn gwahanu’r timau yn y cyfnod agoriadol ond wedyn fe sgoriodd y gwrthwynebwyr pedair gol. Yn y cyfnod yna fe darodd Llyr a Josh y postyn gyda Jac hefyd yn agos i sgorio. Yn y chwarter olaf taro’r postyn eto fu hanes Bethel ond doedd y gôl haeddiannol ddim am ddod.
Dal ati hogia gan ddechrau’r gem ar dan tro nesa er mwyn mynd ar y blaen gyntaf.


Match report – Hydref 20 v Maes y Bryn (A)

Gem agos yn Maesgeirchen bore ma – er bod y sgôr ddim yn adlewyrchu hynny. Roedd y ddau dim wedi creu yr un faint o gyfleoedd ac wedi cael yr un faint o ergydion at y gol ond yn anffodus mi aeth mwyafrif o rai Maes y Bryn i mewn a rhai Bethel yn groes i hynny. Yn y chwarter cyntaf mi oedd hi’n ddi- sgôr ac yn dilyn fe aeth cyfleoedd Maes y Bryn i gyd i mewn. Yn ol ddaeth Bethel yn y chwarter olaf ac roedd eu chwarae yn haeddu’r 2 gol a gawsant gan Iestyn. Sion oedd chwaraewr y gem yn amddiffyn yn dda ar yr ochr chwith ond hefyd yn dechrau symudiadau ymosodol gwych. 7-2 oedd y sgôr terfynol ac yn amlwg doedd Maes y Bryn ddim eisiau rhoi’r ddwy gol yna i ffwrdd gan nad oeddynt yn hollol gyfeillgar yn eu llongyfarch ar ddiwedd y gem. Edrych ymlaen i groesawu’r tîm fydda ni ym Methel ar ôl y Nadolig.
oedd y gem gyntaf ym mis Hydref. Yn wahanol i dywydd yn ganol yr wythnos roedd hi’n braf ar gyfer y gem yma. Yn anffodus dim ond 7 oedd ar gael i’r gem ac felly gyda dim subs roedd rhaid i bawb weithio’n galed iawn. Eto roedd un o hen chwaraewyr Bethel yn ein herbyn ond eto roedd y tîm wedi dechrau yn egnïol. Roedd yr ymosod yn gyflym a chywir ac fe sgoriodd Gruff y cyntaf ar ol nifer o gyfleoedd. Roedd gôl-geidwad Llanrug yn parhau i gadw’r tîm yn y gem ond sgorio yn reolaidd wnaeth Bethel gyda Josh yn cyfrannu hat-trick mewn buddugoliaeth o 7-2. Da iawn bawb!!


Match report – Hydref 13 v Cae Glyn (H)

Gem ddi- sgôr bore ma yn erbyn Cae Glyn ….. achos Hurricane Callum ddaru ennill!!!


Match report – Hydref 6 v Llanrug (A)

Local derby oedd y gem gyntaf ym mis Hydref. Yn wahanol i dywydd yn ganol yr wythnos roedd hi’n braf ar gyfer y gem yma. Yn anffodus dim ond 7 oedd ar gael i’r gem ac felly gyda dim subs roedd rhaid i bawb weithio’n galed iawn. Eto roedd un o hen chwaraewyr Bethel yn ein herbyn ond eto roedd y tîm wedi dechrau yn egnïol. Roedd yr ymosod yn gyflym a chywir ac fe sgoriodd Gruff y cyntaf ar ol nifer o gyfleoedd. Roedd gôl-geidwad Llanrug yn parhau i gadw’r tîm yn y gem ond sgorio yn reolaidd wnaeth Bethel gyda Josh yn cyfrannu hat-trick mewn buddugoliaeth o 7-2. Da iawn bawb!!


Match report - Medi 29 v Nantlle Vale (H)

Gem gyntaf swyddogol o’r flwyddyn wedi ei drefnu yr wythnos yma yn erbyn un o dimau cryfaf yr oedran. Roedd gan hefyd Nantlle Vale dau o hen chwaraewyr Bethel yn eu mysg! Dechrau gyda egni ddaru Bethel wrth gael y gôl gyntaf i fynd ar y blaen. Er bod Nantlle yn pwyso’n aml nid oedd perygl i’r gôl gyda Nia yn rheoli ganol yr amddiffyn yn arbennig. Wrth wneud newidiadau a chaniatau amser chwarae i bawb fe ddaeth Nantlle i mewn i’r gem a sgorio 3 gôl ond ddaru Bethel dechrau rheoli eto ac ar ôl i Llŷr daro’r postyn daeth dwy gôl haeddiannol, gyda cic gosb darannus gan Iestyn i wneud y sgôr yn 3-3 ar y diwedd.


Match report - Medi 22 v Penrhos (A)

Yr un oedd yr hanes wythnos yma gyda Penrhos yn methu chwarae’r gem. Roedd rhaid cael gem i’r tîm gael defnyddio syniadau’r cae ymarfer ac felly trefnwyd gem oddi cartref yn erbyn tîm Llanfairfechan. O’r chwiban gyntaf roedd y tîm yn chwarae’n effeithiol ac yn dod i adnabod cryfderau eu gilydd yn dda. Cafwyd buddugoliaeth arbennig gyda nifer o goliau a dim un yn erbyn y tîm. Da iawn!


Match report - Medi 15 v Talysarn (H)

Yn anffodus nid oedd Talysarn yn medru chwarae’r gem gyntaf o’r flwyddyn. Dal i ymarfer felly.
Dechrau Tymor
Dechrau anodd sydd wedi bod i’r tymor gyda cholled o un chwaraewr i dim arall (y transfer window yn gyfrifol eto blwyddyn yma!) a rhai yn penderfynu peidio cario mlaen hefo pel-droed. Yn ffodus cafwyd drafodaeth hefo Clwb pel-droed Felinheli a phenderfynwyd uno’r ddau dim er mwyn rhoi cyfle i bawb chwarae. Croeso mawr felly i Jona, Josh, Sion a Sam i dim Bethel!!

Gwybodaeth yma yn fuan ...

Gwybodaeth yma yn fuan ...

Dydd Sadwrn 8 Rhagfyr 2018

Bethel A 2 – Bethel B 1

Sgorwyr: Celt, Adam

Gem rhagorol a rhaid canmol chwarae ac ymddygiad y 2 dîm. Bethel A aeth ar y blaen gyda Celt yn sgorio wedi dim ond 5 munud ac er yn pwyso arhosodd hi’n 1-0 tan hanner amser.

Unionodd Bethel B y sgôr ar ddechrau'r ac wedyn oedd y chwarae yn eithaf cyfartal gyda hanner cystadleuol iawn a gôl wych gan Adam o bron iawn i hanner ffordd oedd y gwahaniaeth rhwng y timau. Er yn flwyddyn yn iau chwaraeodd Bethel B yn wych gyda phasio da ac oeddent yn anlwcus iawn i beidio cael gem gyfartal.

Seren y gêm gan y chwaraewyr oedd Adam gyda Siôn Lloyd yn cael ei ddewis gan yr hyfforddwyr.


Dydd Sadwrn 1 Rhagfyr 2018

Segontiwm 2 – Bethel A 6

Sgorwyr: Celt 4, Llion, Ioan

Bethel yn gwneud y daith Caernarfon i chwarae yn erbyn Segontiwm. Dechreuodd Bethel yn gryf gyda Llion a Cynan yn cael hwyl ar yr esgyll. Aeth Bethel 2-0 i fyny gyda Celt yn sgorio’r 2ail ond yn nôl daeth Segontiwm I'w gwneud yn 2-1 ar yr hanner gyda cig rydd da o bell.

Dechreuodd Bethel yr ail hanner yn dda wrth i Llion sgorio ond nol daeth Segontiwm i wneud hi’n 3-2. Wedi hynny rheolodd Bethel y chwarae gyda Celt yn cael ei hat-trick, Ioan yn sgorio gyda cic rydd da a Celt yn cael ei bedwaredd oddi ar ei gefn.

Perfformiad gwych gan nifer fawr heddiw gyda Calan yn cael ei ddewis yn seren y gêm gan ei gyd-chwaraewyr a Celt gan y rheolwyr. Da iawn bois!


Dydd Sadwrn 10 Tachwedd 2018

Cwpan Gwyrfai

Bethel A 3 – Cae Glyn B 4

Sgorwyr: Iwan, Celt, Twm


Dydd Sadwrn 20 Hydref 2018

Bethel A 1 – Cyffordd Llandudno 8

Sgoriwr: Gruff


Dydd Sadwrn 6 Hydref 2018

Llanberis 2 – Bethel A 4

Sgorwyrs: Celt 2, Cynan, Llion

Sgwad fechen oedd gan Bethel oherwydd salwch ac absenoldebau. Hanner cyntaf da iawn gyda gôl cynnar gan Celt o gic gornel. Gwnaeth Cynan hi’n ddwy cyn i Celt sgorio ei ail. ‘Roedd yn ail hanner yn llawer mwy pryderus gyda Llanberis yn sgorio dwy a Llion yn sgorio ei gol cyntaf i Fethel. Gorffennodd yn 4-2 gyda Adam yn cael ei ddewis yn seren y gem gan ei gyd-chwaraewyr a Harri gan y rheolwyr.


Dydd Sadwrn 29 Medi 2018

Cwpan Gwyrfai Llyn
Cae Glyn B 5 – Bethel 3 (Ar ôl amser ychwanegol)

Sgorwyr: Cynan, Celt, Arwyn

Bethel yn cychwyn yn araf ac yn ildio 2 gôl buan. Gwellodd Bethel fel aeth yr hanner ymlaen ac ‘roeddynt yn anlwcus i gyrraedd yr egwyl yn colli 2-0. Dechreuodd Bethel yr ail hanner yn well o lawer a tynnu un yn ôl wedi ergyd dda gan Cynan. Daeth Bethel yn gyfartal wedi i Celt ymateb i gic hir gan Iolo. Fel ‘roedd pawb yn disgwyl amser ychwanegol sgorio Cae Glyn eto ond gyda chornel olaf yr hanner peniodd Arwyn I'w wneud yn 3-3. ‘Roedd amser ychwanegol yn gam rhy bell i Bethel a gorffennodd y gem yn 5-3.

Seren y gem gan y chwaraewyr oedd Arwyn a Celt gan y rheolwyr.


Dydd Sadwrn 22 Medi 2018

Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Pentre B 0 – Bethel 6

Sgorwyr: Celt 2, Harri 2, Sion Evans, Ioan

Bethel yn gwneud y daith i Abergele heddiw i chwarae ar gaeau Emrys ap Iwan yn y gwpan bore ‘ma. Perfformiad tipyn gwell gyda Bethel yn raddol yn meistroli. Aeth Bethel ar y blaen pan faglwyd Ioan yn y blwch cosb a gwnaeth Celt ddim camgymeriad o’r smotyn. Cyn yr hanner daeth goliau i Harri ac yna Sion. 3-0 hanner amser.

Doedd yr ail hanner ddim mor gyfforddus ond serch hynny daeth goliau pellach i Harri, Celt a Ioan. Dewiswyd Sion Evans fel seren y gem gan y chwaraewyr a Harri gan y rheolwyr.

Diolch i Pentre am y croeso.


Dydd Sadwrn 8 Medi 2018

Cae Glyn A 10 – Bethel A 1

Sgoriwr: Harri

Bethel yn chwarae ei gem cyntaf o’r tymor gyda nifer o chwaraewyr newydd oedd yn anghyfarwydd gyda’i gilydd. Er yn colli yn drwm ‘roedd digon o agweddau positif gyda Harri yn sgorio unig gôl Bethel ac yn cael ei ddewis fel seren y gem i Fethel.

Gwybodaeth yma yn fuan ...