Archif Tymhorau 2012/13

Bethel_Dan 9A

Steve Bristow o Gelli Gyffwrdd gyda Bethel Dan 11. Diolch o galon i Gelli Gyffwrdd am eu caredigrwydd yn noddi'r tîm.


Llongyfarchiadau i dim dan 11 Bethel a fuodd yn fuddugol yn nhwrnament Penrhyndeudraeth dydd Sul 9ed Mehefin 2013

Mewn haul braf llwyddodd y tîm i ennill pob un o’i gemau yn ei grwp cyn curo Bermo yn y rownd gyn derfynol a’r giciau o’r smotyn ac yna Bro Enlli yn y rownd derfynol o 2 gol i 0 gyda Owain yn sgorio’r goliau. Cyfrannodd pob un o’r garfan i’r fuddugoliaeth a hoffwn ddiolch i’r hyfforddwyr ar teuluoedd a ddaeth i gefnogi’r tîm.

Lluniau - cliciwch yma

----------------------------------

Canlyniadau 2012 - 2013

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 8 Rhagfyr 2012
Penrhosgarnedd A 0 - Bethel A 1


Sgoriwr: Ben


Dydd Sadwrn 1 Rhagfyr 2012
Bethel A 4 Cae Glyn A 0


Sgorwyr: Ben 2, Owain, Morgan


Dydd Sadwrn 24 Tachwedd 2012
Dyffryn Nantlle 0 - Bethel A 7


Sgorwyr: Morgan 2, Owain 3, Ben, Kyle

---------------------------

Dydd Sadwrn 27 Hydref 2012
Bethel 5 Llanrug 0


Sgorwyr: Owain 2. Callum, Ben, Morgan

---------------------------

Dydd Sadwrn 6 Hydref 2012
Bethel A 3 Bontnewydd A 1

Sgorwyr: Ben 2, Callum

---------------------------

Dydd Sadwrn 22 Medi 2012
Bethel A 10 Waunfawr 0

Sgorwyr: Ben 5, Owain 2, Huw, Callum, Kyle

Canlyniadau 2012 - 2013

Dydd Sadwrn 12 Ionawr 2013
B ethel A 3 - Bontnewydd A 1

Bethel B 1 - Cae Glyn 9
Sgoriwr: Shaun Owen


Dydd Sadwrn 1 Rhagfyr 2012
Bethel B 2 - Nantlle Vale 3

Sgorwyr: Justin, Aaron


Dydd Sadwrn 20 Hydref 2012
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru Round 1
Bethel B 7 Presatyn Athletic B 2

Sgorwyr: Iwan (2), Aaron, Dion, Gethin Bryn, Justin, Siôn

Braf oedd gweld bod y gêm ymlaen er bod cae Bethel yn drwm ac yn llithrig iawn wedi'r holl law. Dechreuodd Bethel yn dda gan reoli'r meddiant ond 'roedd ymosodwyr Prestatyn yn gyflym iawn ac 'roedd rhaid i amddiffyn Bethel fod yn wyliadwrus iawn. Daeth gol cyntaf Bethel wedi 10 munud pan na chliriwyd y bel gan amddiffyn Prestatyn a pan ddaeth y bel nol mewn i'r blwch rheolodd Shaun yn dda a rhyddhau Aaron i redeg ymlaen i sgorio. Wedi hynny creuodd Prestatyn sawl cyfle gydag amddiffyn Bethel yn gadarn, a pan lwyddodd Prestatyn i osgoi'r amddiffyn daeth Lee i'r adwy. Daeth ail gol Bethel wedi cic gornel a sawl ergyd a'r gôl gan Fethel ond yn y diwedd y bel yn disgyn i Dion rwydo. Cyn yr hanner gwnaeth Lee arbediad gwych i sicrhau bod y sgôr yn 2-0 ar yr hanner.

Dechreuodd Bethel yr ail hanner yn gryf iawn a mynd yn bellach ar y blaen wrth i Gethin Bryn dderbyn pas gan Justin a thanio taran o ergyd nad oedd gan y gôl geidwad ddim gobaith. Yn dilyn y gôl, daeth cyfnod aur gan Brestatyn wrth iddyn nhw sgorio o gic rydd wych ac yna'n sgorio ail, ond chwarae teg ymatebodd Bethel yn sych gydag Iwan yn sgorio gôl dda o bas Shaun. Parhaodd Prestatyn i greu anawsterau i Fethel a daeth dwy ergyd a gliriwyd oddi ar y llinell gan Fethel. O'r diwedd llwyddodd Bethel i dorri'n glir gyda Ben yn creu cyfle i Justin sgorio. Wedi hynny torrwyd calon Prestatyn gyda Sam yn chwarae pêl dda i Iwan 'redeg yn nerthol lawr yr asgell a thynnu'r bel a'r draws, Gethin Bryn yn ei help ymlaen a Siôn yn sgorio. Yna Ben yn pasio'n wych i Iwan sgori ei ail a 7fed Bethel. Perfformiad da ond yn y sgôr efallai ddim yn adlewyrchiad teg ar chwarae da Prestatyn.

Perfformiad arbennig o dda gan bob un ond seren y gêm am ei berfformiad gwych ail hanner, oedd Iwan.

-------------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 13 Hydref 2012
City Pumas 2 - Bethel B 5

Sgorwyr: Aaron, Shaun (2), Dion, Justin

Bore gwlyb iawn oedd yn ein hwynebu ond 'roedd cyflwr y cae yn arbennig o dda o ystyried y holl law. Cafodd Bethel y cychwyn gorau posib pan greodd Shaun gyfle i Aaron rwydo o symudiad cyntaf y gêm. Daeth y Pumas yn nol yn gryf ac 'roedd ei chryfder a'i gyflymder yn creu problemau i amddiffyn Bethel. O un o'r cyfleoedd hynny rhedodd amddiffynnwr y Pumas yn glir a mynd o amgylch Lee i rwydo. 1-1. Parhaodd Bethel i geisio chwarae peldroed ac aethant ar y blaen wedi pêl dda gan Ben i ryddhau Gethin Bryn ar y dde a groesodd yn wych i Shaun benio i'r rhwyd. 2-1 hanner amser.

Cychwynnodd Bethel yr ail hanner yn gryf gyda Dion yn rhwydo wedi gwaith da gan Aaron. Hanner ffordd drwy'r ail hanner sgorio Justin ei gol gyntaf mewn gemau cystadleuol i Fethel a'r ôl i Gethin Parry basio'r bel allan o'r amddiffyn yn dda i Shaun ddarganfod Justin ar y dde i redeg yn gryf i mewn i'r blwch i rwydo. Wedi hynny cafwyd cyfnod o bwyso gan y Pumas i sgorio ei ail ond er iddynt gael sawl cyfle da arall amddiffynnodd Bethel yn dda a gwnaeth Lee sawl arbediad da yn y gol. Daeth pumed Bethel wedi pwyso da gan Ciron ar chwaraewr canol cae'r Pumas arwain i gamgymeriad a llwyddodd Aaron i ennill y bel cyn pasio i Shaun a darodd daran o ergyd o bell i'r rhwydd.

'Roedd sawl perfformiad da yn enwedig gan yr amddifyn ond seren y gêm am ddwy gôl dwy assist oedd Shaun Owen

-------------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 6 Hydref 2012
Bethel B 4 - Bontnewydd B1

Sgorwyr: Shaun (2), Aaron, Gethin Bryn

Bethel yn cael tipyn o her yn ei gem gystadleuol cyntaf o'r tymor. 'Roedd fawr i ddewis rhwng y timau hanner amser gyda brwydr gystadleuol yn sicrhau nad oedd llawer o gyfleoedd i'r naill dim na'r llall, a'r ddau gol geidwad yn gwneud arbedion da. 0-0 ar yr hanner.

Dechreuodd Bethel yn aril hanner yn gryf gyda Shaun yn sgorio gôl gyntaf y tymor i Fethel wedi pas gan Iwan wedi ei gychwyn gan Gethin Parry. Yn fuan wedyn meddwl chwim gan Gethin Bryn o dafliad a'r bel yn dod i Shaun a ergydiodd yn wych o bell i sgorio ei ail. Daeth Bont yn nol ac yn sgorio gôl unigol wych i wneud hi'n 2-1 ond yna gol da arall o bell y tro yma gan Gethin Bryn wedi pas gan Siôn ac yna Aaron yn rhwydo wedi rhediad cryf gan Justin i selio'r fuddugoliaeth.

Seren y gêm yr wythnos am berfformiad gwych yng nghanol y cae oedd Ben.