Archif Tymhorau 2006/07

Noson Cyflwyno Gwobrau 2007 - cliciwch yma

Noson Wobrwyo Ieuenctid 2007 - cliciwch yma

Mai 16 2007
Nantlle Vale 1 Bethel 3

Sadwrn 28/4/07
Bethel 2 - Bangor Univ 0

Dydd Sadwrn 21/04/07
Bontnewydd 1 - Bethel 1

Dydd Llun 09/04/07
John Smith's Gwynedd Cup ail rownd
Llanllyfni 2 Bethel 2 .aet
Llanllyfni yn enill 7-6 ar cos.

Sadwrn 31.3.07
Bethel 6 v 4 Blaenau Ffestiniog Amateurs

Sadwrn 24.3.07
Bethel 2 Holyhead Hotspur 2

Sadwrn 24:02:07
Beaumaris Town 5 Bethel 2

Sat 12:02:07
Llandyrnog 3 Bethel 1 (aet)

Sadwrn 03:02:07
Bethel 1 Porthmadog 3

Sadwrn 27:01:07
North Wales Coast junior Cup - Bethel 4 Holyhead Gwelfor 0

Sadwrn 06:01:07
Bethel 1 Cemaes Bay 0

Sadwrn 4.11.2006
North Wales Coast junior Cup - Bethel 4 St Asaph 0

Sadwrn Hydref 21
Bethel 1 Nantlle Vale 1

Bethel dan 13 oed yn cipio’r dwbwl – Pencampwyr y gynghrair a chwpan y Gynghrair.
Llongyfarchiadau mawr i’r tim dan 13 oed a’u rheolwr am dymor mor llwyddiannus. Maent bellach yn bencampwyr Cynghrair Gwyrfai a phencampwyr Cwpan y Gynghrair. Ardderchog wir.


3 uchaf cynghrair Gwyrfai – Mehefin 2007

 
Pld
W
D
L
F
A
Pts
Bethel
18
17
1
0
127
15
52
Penrhosgarnedd 
18
15
2
1
76
24
47
Cae Glyn United          
18
12
3
3
63
21
39

YSTADEGAU DIWEDD TYMOR BETHEL DAN 13 OED 2006/07

HOLL GYSTADLAETHAU:

Pld
W
D
L
F
A
40
33
1
6
247
52


BUDDIGOLIAETH FWYAF: 22-0 V WAUNFAWR (CWPAN GOGLEDD CYMRU – ROWND 1)

COLLED FWYAF: 6-0 V PENRHYN BAY DAN 14'S (CYFEILLGAR)

ANRHYDEDDAU’R TYMOR:
Enillwyr cynghrair Gwyrfai Gleneagles
Enillwyr Cwpan cynghrair Gwyrfai Gleneagles
Enillwyr twrnament Kon-x Wales Caergybi
3ydd rownd Cwpan Gogledd Cymru

SGORWYR:
JAMIE LEE MCDAID 93
GRUFFYDD JOHN 40
DANIEL BELL 33
ALEX JONES 22
TOMOS EMLYN 14
MATHEW EDWARDS 13
GERALLT JONES 12
CAI JONES 9
AARON GWYN 5
JAMIE STEVENS 3
SION HUGHES 1

Chwaraewr y flwyddyn: ALEX JONES

Chwaraewr y flwyddyn gan y chwaraewyr: DANIEL BELL

Prif sgoriwr: JAMIE MC DAID

 

Cyngrhair Gwyrfai ~ 19/6/07
Waunfawr 0 – Bethel 7

Bethel yn curo’r gynghrair drwy’r fuddugoliaeth hon. Cafwyd goliau gan Jamie McDaid 2,Jamie Stevens, Mathew Edwards, Alex Jones ,Aaron Gwyn a Tomos Emlyn. Daeth cyfle gorau Waunfawr i sorio o benalti am drosedd yn erbyn un o’u blaenwyr gan gol geidwad Bethel ond nid oeddynt yn llwydiannus.

Canlyniad yr ail gem

Bethel 3 v Waunfawr 0
Sgorwyr :MATHEW EDWARDS,JAMIE MCDAID & CAI JONES


CANLYNIADAU TWRNAMENT MYNYDD ISAF F.C. 24/6/07

BETHEL 2 V EASTHAM RANGERS 0 ht:2-0

SGORWYR : Jamie McDaid 2 pens.

BETHEL 2 V RHYL GLANS 0 ht:0-0

SGORWYR: Jamie McDaid 2 ( 1 pen).

BETHEL 0 V PENRHYN BAY 1 ht:0-0

BETHEL 0 V LISCARD PANTHERS 1 ht:0-1

BETHEL 4 V HOLYHEAD HOTSPURS 0 ht:2-0

SGORWYR: Gerallt Jones, Tomos Emlyn, Cai Jones, Jamie McDaid.

BETHEL YN METHU CAEL MYND DRWODD I’R ROWND GYN DERFYNOL O UN PWYNT YN UNIG.


Gem gyfeillgar 8/6/07
Penrhyn Bay Reds 2 v Bethel 0
One of Bethel's less inspiring performances of the season on a hot summers evening,the game was played over 3 x 20 minute periods due to the warm weather,with Bethel having many chances,but unable to crack the stubborn Bay defence or beat their fine goalkeeper,who made several impressive saves.Bethel's defence was caught out twice by quick breakaways,and it could have been three,but for a brilliant penalty save from Liam Williams.

Llongyfarchiadau i’r tim dan 13 oed ar eu llwyddiant yn
CWPAN KON-X WALES CAERGYBI 3/6/07

Rownd 1 - Bethel v Bodedern ht:1-0L ft:2-1W
Sgorwyr: Gruffydd John & Jamie McDaid.

Rownd 2 - Bethel v Holyhead 'B' ht:1-1D ft:2-1W
Sgorwyr: Daniel Bell 2.

Rownd 3 - Bethel v Amlwch ht:2-0W ft:2-0W
Sgorwyr: Jamie McDaid 2.

Rownd 4 - Bethel v Llangefni ht:3-1W ft:6-1W
Sgorwyr: Daniel Bell, Jamie McDaid, Alex Jones, Gruffydd John & 2 Own Goals.

Semi Ffeinal - Bethel v Gaerwen ht:1-0W ft:2-0W
Sgorwyr: Alex Jones & Jamie McDaid.

Ffeinal - Bethel v Llangefni ht:3-0W ft:6-1W
Sgorwyr: Jamie McDaid 3, Alex Jones2 & Daniel Bell. 


FFEINAL CWPAN CYNGHRAIR DAN 13 0ED - MAI 20fed 2007
cliciwch yma i weld mwy o luniau

Bethel 9 – Nantlle Vale 1

Llongyfarchiadau i’r tim am ennill y gwpan am yr ail flwyddyn yn olynnol. Chwaraewyd y gem ar gae’r Oval yng Nghaernarfon. Bethel oedd y cyntaf i sgorio gyda gôl gan Jamie McDaid, ond llwyddodd Nantlle Vale i ddod yn gyfartal a rhoi pwysau ar chwaraewyr Bethel. Ychydig cyn hanner amser cafwyd gôl gan Alex Jones i roi Bethel ar y blaen. Gwelwyd gwell chwarae gan y tim yn yr ail hanner. Sgoriodd Jamie McDaid benalti ar ol trosedd arno yn y cwrt cosbi. Aeth Jamie ymlaen i sgorio 2 gôl arall a chafwyd goliau gan Alex, Gruffydd John a Gerallt Jones a gôl gyntaf y tymor i Sion Hughes ar ôl iddo ddod ymlaen fel eilydd. Bethel felly yn llwyr haeddu’r gwpan.

Sgorwyr: Jamie McDaid 4 [1 pen],Alex Jones 2,Gerallt Jones, Gruffydd John, Sion Hughes.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Mai 15 2007
Felinheli 0 – Bethel 11
Sgorwyr i Bethel oedd: Jamie McDaid 6,Gruffydd John 2,Tomos Emlyn 2,Mathew Edwards


Gem gyfeillgar, nos Wener Ebrill 27
Penrhosgarnedd 'B' 2 v Bethel 4 (1-1hanner amser)
Sgorwyr : Gruffydd John 2, Matthew Edwards, Jamie McDaid.


Nos Lun Ebrill 23 2007 ~ Rownd Gyn Derfynol Cwpan Gwyrfai Dan 13 oed
Bethel 8 – Cae Glyn 4 (ar ôl amser ychwanegol)
Dyma un o gemau mwyaf cyffrous y tymor hwn. Chwaraewyd rhan fwyaf o’r hanner cyntaf yn hanner Cae Glyn ac er i Bethel chwarae’n arbennig o dda Cae Glyn aeth ar y blaen hefo penalti ac yna gôl arall cyn hanner amser. Dechreuodd Cae Glyn yn hyderus yn yr ail hanner ac aethant ymlaen i sgorio 2 gôl arall, 1 o benalti am wthio yn y bocs. Roedd Cae Glyn felly 4 -0 ar y blaen. Nid oedd pethau’n argoeli’n dda i Bethel. Ond cafodd pawb eu syfrdannu gan i Bethel roi cefnwyr Cae Glyn o dan bwysau mawr a llwyddo i sgorio 3 gôl, ond bu hir ddisgwyl am y 4edd. Cafwyd sawl ymgais am gôl ond yn aflwyddiannus cyn i Daniel Bell lwyddo i sgorio yn yr eiliadau olaf a dod a’r sgor yn gyfartal. Roedd y chwaraewyr , y cefnogwyr a’r hyfforddwyr wedi gwirioni gan fod ganddynt nawr gyfle i ennill y gêm yn yr amser ychwanegol. Roedd yn werth aros yn y gwynt a’r glaw am hanner awr ychwanegol, aeth Bethel ymlaen i sgorio 4 gôl arall a sicrhau lle yn y ffeinal yn Mis Mai. Rhaid canmol y ddau dîm am eu rhan mewn un o gemau mwyaf cyffrous y tymor hwn.
Scorwyr oedd: Jamie McDaid 3,Daniel Bell 2,Gruffydd John,Alex Jones,Tomos Emlyn.


Gem gyfeillgar
Bethel 11 - Penrhosgarnedd 2
Sgorwyr oedd: Jamie McDaid 6, Gruffydd John 3, Daniel Bell a Tomos Emlyn.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Mawrth 17
Bethel 5 - Cae Glyn United 3
Cafwyd gêm gyffrous iawn rhwng dau dim sydd ar frig y gynghrair. Bethel oedd y cyntaf i sgorio gyda gôl gan Aaron Gwyn. Roedd Cae Glyn yn sydyn i ymateb gyda gôl i ddod a hwy yn gyfartal. Roedd amddiffyn cadarn Cae Glyn yn ei gwneud yn anodd i Bethel a llwyddodd Cae Glyn i fynd ar y blaen. Cafodd y ddau dim sawl cyfle am gôl ond methu cyn i Jamie Mc Daid ddod a Bethel yn gyfartal cyn hanner amser. Yn yr ail hanner sgoriodd Jamie eto i fynd a Bethel ar y blaen yn cael ei dilyn yn fuan gan gôl gan Gruffydd John. Roedd Bethel yn chwarae yn dda erbyn hyn a llwyddodd Jamie i sgorio ei 3ydd gôl i Bethel yn erbyn ei gyn glwb. Llwyddodd Cae Glyn i sgorio yn y munudau olaf. Ond Bethel oedd yn dathlu hefo 3 phwynt a’u rhoi ar dop y gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn. Mae argoeli’n dda at ddiwedd y tymor a does dim llawer o gemau ganddynt ar ôl.
Sgorwyr – Jamie McDaid 3 Aaron Gwyn a Gruffydd John


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn 10/03/07
Bethel 17 - Segontium Rovers 2

Cafwyd perfformiad cryf arall gan y bechgyn ar ddiwrnod gwyntog iawn. Aeth Segontiwm ar y blaen ar ôl ychydig o funudau gyda gôl o gig cornel. Llwyddodd Bethel i sgorio yn fuan wedyn. Roedd Bethel ar y blaen o 8 gôl i 2 ar hanner amser. Yn yr ail hanner croesawyd Gerallt Jones yn ôl i chwarae yn dilyn cyfnod segur wedi iddo dorri ei ffêr wythnosau’n ôl. Roedd hyn yn newyddion da i’r tim gan fod un arall o’u chwaraewyr Adam Hughes wedi brifo ei ben elin yn ystod yr wythnos. Brysia wella Adam. Aeth Bethel ymlaen i sgorio 9 gôl arall cyn y chwiban olaf. Y sgorwyr oedd Jamie McDaid 5,Daniel Bell 5, Alex Jones 2,Gruffydd John 2,Tomos Emlyn 2,Mathew Edwards.

Dydd Sadwrn nesaf bydd Bethel yn chwarae yn erbyn Cae Glyn ar gae Coed Bolyn, dyma’r ddau dîm sydd ar dop y gynghrair felly dylai fod yn gêm ddiddorol iawn. Dowch i gefnogi’r hogia.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn 17/2/07
Bethel 7 – Felinheli 0
Cafwyd dwy gôl gan Mathew Edwards ac un gan Jamie McDaid yn yr hanner cyntaf gyda Bethel yn profi mai nhw oedd y tim cryfaf. Yn yr ail hanner aeth Bethel ymlaen i ymosod yn gryf a llwyddo i sgorio 4 gôl arall gyda Mathew yn sgorio ei drydedd gôl i Bethel, hefyd cafwyd goliau gan Alex Jones, Gruffydd John a Daniel Bell. Bu bron i Sion Hughes sgorio ei gôl gyntaf i Bethel ar ôl dod ymlaen fel eilydd gyda’i ergyd arbennig a hedfanodd dros y trawst. Gwnaed Adam Hughes yn gapten am y diwrnod.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Chwefror 10fed
Bethel 7 - Bontnewydd 0
Daniel Bell yn sgorio’r gôl gyntaf heddiw ar ol 10 munud a chafwyd gôl gan Aaron Gwyn a Jamie Mc Daid cyn hanner amser. Cafwyd sawl ymgais arall am gôl cyn hanner amser ond yn aflwyddiannus. Cafwyd 4 gôl arall yn yr ail hanner gan Jamie McDaid, Matthew Edwards, Tomos Emlyn a Gruffydd John.


Ail rownd Cwpan y Gynghrair - Dydd Sadwrn Chwefror 3ydd
Llewod Llanrug 0 – Bethel 13
Bethel yn llwyr ennill eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan y Gynghrair. Y sgorwyr heddiw oedd Jamie McDaid 5,Alex Jones 3,Tomos Emlyn 2,Daniel Bell, Aaron Gwyn a Cai Jones.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Ionawr 27 2007
Bethel 9 – Penrhosgarnedd ‘B’ 1
Gem rhwng dau o’r tri tîm sydd ar dop Cynghrair Gwyrfai, ac felly roedd disgwyl gêm agos iawn, ond nid felly y bu. Er fod 5 o chwaraewyr arferol Bethel ddim ar gael ar gyfer y gêm hon, llwyddodd y tîm i chwarae gêm o basio’n llwyddiannus a sgorio 3 gôl cyn hanner amser. Roedd Penrhos yn ymosod dipyn mwy yn yr ail hanner ond roedd amddiffynwyr Bethel yn rhy gryf iddynt ar wahan i un camgymeriad a arweiniodd at gôl i Penrhos. Aeth Bethel ymlaen i sgorio 6 gôl arall.
Sgorwyr i Bethel oedd : Daniel Bell 3,Jamie McDaid 2,Gruffydd John 2,Matthew Edwards ac un Own Goal. 


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Ionawr 13 2007
Bethel 6 – Nantlle Vale 0
Roedd rhaid chwarae y gem oddi cartref yn Llanllyfni gan fod cyflwr Cae Coed Bolyn yn ddrwg. Aeth Bethel ar y blaen gyda gol gan Daniel Bell, yna cyn hanner amser sgoriodd Jamie Mc Daid. Ynghanol glaw trwm a gwynt yn yr ail hanner roedd pasio da ymysg hogia Bethel. Sgoriodd Jamie ei ail gol ac yna sgoriodd Gruffydd John. Sgoriodd Daniel Bell gol arall ac yna cafodd Alex benalti am dacl gwael a llwyddodd i sgorio’n llwyddiannus. Y sgor terfynol felly 6 – 0 i Fethel.


Gem gyfeillgar ~ Dydd Sadwrn Rhagfyr 16 2007
Bethel 3 – Penrhosgarnedd B 2
Dim ond 10 chwaraewr oedd gan Bethel heddiw ond llwyddodd y bechgyn i chwarae yn arbennig o dda. Er i Penrhos fynd ar y blaen o 2 gol yn yr hanner cyntaf llwyddodd Jamie McDaid i sgorio cyn hanner amser. Sgoriodd Jamie ddwy gol arall yn yr ail hanner. Bethel felly yn llwyddo i ennill y gem. Diweddglo gwych i’r flwyddyn. Mae pawb yn edrych ymlaen i gemau yn y flwyddyn newydd.

Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Rhagfyr 9fed
Penrhosgarnedd A 1 – Bethel 10
Roedd Bethel yn croesawy Liam Williams yn ol i’w safle fel gol geidwad ar ol iddo dorri ei ddwy fraich ar ddechrau’r tymor. Profodd ei fod bellach yn holliach drwy ei arbediad gwych yn yr ail hanner. Roedd Bethel yn rheoli’r hanner cyntaf gyda Jamie McDaid yn sgorio’r gol gyntaf i Fethel. Yna aeth y bechgyn ymlaen i sgorio 6 gol arall cyn hanner amser. Gyda chyflwr y cae yn gwaethygu yn yr ail hanner llwyddodd Penrhos i sgorio, ond aeth Bethel yn eu blaenau i sgorio 3 arall. Y sgor terfynol Penrhos 1 – Bethel 10
Sgorwyr i Bethel oedd : - Jamie McDaid 5, Gruffydd John 2, Daniel Bell 2, Alex Jones


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Tachwedd 25
Bethel 16 - LLanrug Lions 0
Scorwyr i Bethel oedd: Gruffydd John 4, Alex Jones 3, Daniel Bell 2, Jamie McDaid 2, Tomos Emlyn 2, Gerallt Jones, Matthew Edwards, ac un “own goal”


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Tachwedd 18
Cae Glyn 0 – Bethel 3 ( Jamie McDaid, Gerallt Jones + og)
Roedd Bethel yn erbyn un o dimau cryfaf y gynghrair heddiw. Gyda’r gwynt o’u plaid yn yr hanner cyntaf ac er i Fethel reoli’r chwarae ni lwyddwyd i sgorio. Roedd Cae Glyn yn ymdrechu’n galed yn yr ail hanner ond llwyddodd Bethel i fynd ar y blaen gyda gol gan Jamie McDaid. Yna sgoriodd Gerallt Jones gyda’r drydedd gol yn dod gan un o amddiffynwyr Cae Glyn. Yn anffodus yn hwyr yn y gem danfonwyd un o chwarewyr Bethel oddi ar y cae am gamymddwyn. Bethel felly yn sicrhau 3 phwynt iddynt eu hunain yn y gynghrair.


Dydd Sadwrn Tachwedd 11 ~ 3ydd Rownd Cwpan arfordir Gogledd Cymru.
Bethel 3 – Hearts Madrid Rhyl 5
Colli oedd hanes Bethel heddiw ar ol brwydro’n ddewr drwy’r gem. Aeth Hearts Madrid ar y blaen o 2 gol ond llwyddodd Bethel i ddod yn gyfartal erbyn hanner amser gyda gol gan Gruffydd John ac yna gol arall gan Cai Jones. Yn yr ail hanner, llwyddodd Hearts i sgorio 3 gol arall a chafwyd sawl ymdrech am gol gan hogia Bethel. Yna gyda phum munud i fynd llwyddodd Gerallt Jones i sgorio o gig rhydd a chodi calon y tim. Siom fawr i’r hogia, ond rhaid eu llongyfarch ar gem mor gyffrous ac am ymdrechu mor galed hyd at y diwedd.


Canlyniad gem gyfeillgar dydd Sadwrn Tachwedd 4ydd.
Bethel 0 - 6 Penrhyn Bay dan 14 oed


Ail rownd Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 7 – Penrhyn Bay Reds 2
Sgorwyd i Bethel heddiw gan Jamie McDaid 3,Gruffydd John 2,Jamie Stevens,Gerallt Jones .
Bethel yn llwyr haeddu eu lle yn y drydedd rownd ar ol chwarae mor dda yn erbyn tim cryf Bae Penrhyn. Pob lwc yn y drydedd rownd.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Hydref 7fed
Penrhos B 5 – Bethel 5
Cafwyd gem gyffrous iawn rhwng dau dim talentog iawn. Dechreuodd Bethel yn gryf ond methwyd sawl cyfle i sgorio ac aeth Penrhos ar y blaen. Gwnaeth y gol geidwad Nathan Price ddau arbediad da yn ei gem gyntaf fel goli. Yna daeth Bethel yn gyfartal wrth i Daniel Bell benio’r bel oddi ar ar gic gornel. Yna sgoriodd Penrhos eto cyn hanner amser a’i gwneud yn 2 i 1 iddynt ar hanner amser.
Chwaraeodd Bethel gem o basio da ar ddechrau’r ail hanner gyda Gruffydd John yn croesi’r bel i Jamie McDaid sgorio. Aeth Bethel 5 -2 ar y blaen gyda dwy gol arall gan Jamie McDaid ac un gan Cai Jones. Daeth Penrhos yn eu holau yn gryf i ddod yn gyfartal ar y chwiban olaf. Y canlyniad felly, Bethel 5, Penrhos 5.


Cwpan Arfordir Gogledd Cymru Rownd 1af Medi 30
Bethel 22 - Waunfawr 0
Scorwyr : Jamie McDaid 9, Gerallt Jones 3, Daniel Bell 3, Gruffydd John 2, Cai Jones 2, Alex Jones, Mathew Edwards, Tomos Emlyn.


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Medi 23 2006
Bethel 12 - Penrhosgarnedd 'A' 3
Y sgor ar hanner amser oedd 4 i 1 i Bethel. Doedd dim modd rhwystro chwaraewyr talentog Bethel rhag sgorio yn yr ail hanner. Y sgorwyr oedd Jamie Lee McDaid 4, Gruffydd John 3, Alex Jones 2, Cai Jones, Gerallt Jones Mathew Edwards [pen].


Cyngrhair Gwyrfai ~ Dydd Sadwrn Medi 16 2006
Nantlle Vale 0 – Bethel 9
Dyma gem gynghrair gyntaf y tymor hwn i dim Bethel.Y sgor ar hannner amser oedd 2 gol i 0 i Fethel. Yn yr ail hanner cafodd Bethel 7 gol arall er i Nantlle Vale ymdrechu’n galed a sawl arbed dda gan y gol geidwad. Sgorwyr i Fethel oedd Jamie Lee McDaid 2, Daniel Bell 2, Gruffydd John 2, Alex Jones, Gerallt Jones, Aaron Gwyn.


Gemau Cyfeillgar:

Gêm gyfeillgar nos Iau Medi 21
Bethel 4 – Academi Bangor 6
Gêm hynod o gyffrous a chwaraewyd mewn gwynt cryf iawn. Aeth Bethel ar y blaen ddwy waith yn ystod y gêm yn erbyn tim cryf Bangor. Uchafbwynt y gêm oedd gol ardderchog Daniel Bell o’i hanner ei hun gyda chymorth y gwynt. Bangor yn sgorio 2 gol yn y chwarter olaf i gipio buddugoliaeth.Y sgorwyr oedd Jamie McDaid 2, Gruffydd John, Daniel Bell.

Dydd Sadwrn Medi 2ail
Penrhyn Bay 4 – Bethel 6
Ar hanner amser y sgor oedd 5 gol i 0 i Bethel. Yn yr ail hanner sgoriodd Penrhyn Bay 4 gol a Bethel 1 . Y sgorwyr i Bethel oedd Gruffydd John 3, Jamie Stevens, Daniel Bell, Gerallt Jones.

Nos Fercher Medi 6ed
Bethel 6 – Bodedern 4
Ar hanner amser roedd Bodedern ar y blaen o 2 gol i 1. Yna yn yr ail hanner sgoriodd Bethel 5 gol a Bodedern 2. Buddugoliaeth arall i Fethel. Y sgorwyr i Fethel oedd Jamie Mcdaid 2, Gerallt Jones, Cai Jones, Gruffydd John, Daniel Bell.

Tim Dan 13eg gyda'r cit newydd ar gyfer Tymor 2006/07 a noddwyd gan Post Bethel.




Cledwyn Pierce Jones o Post Bethel yn cyflwyno cit newydd i gapten tim dan 13eg Bethel a'r rheolwr Paul Williams.

 

Under 11a 2006/07
Under 11b 2006/07

Twrnament Eco'r Wyddfa Nos Lun 9fed o Orffennaf 2007 - Cae Coed Bolyn Bethel 


Cynhaliwyd twrnament Eco’r Wyddfa dan 11 oed ar Nos Lun Gorffennaf 9fed ar gae Coed Bolyn Bethel. Yn anffodus roedd hi’n glawio’n drwm ond parhau wnaeth y chwarae. Dau o dimau Bethel ddaeth i’r ffeinal. Nid dyma’r tro cyntaf i ddau o dimau Bethel fod yn y ffeinal dan 11 oed. Ers sawl blwyddyn bellach timau o Fethel sydd wedi dod i’r ffeinal dan 11eg yn Nhwrnament Eco’r Wyddfa. Roedd yn ffeinal cyffrous iawn, di sgor oedd hi ar ddiwedd y gêm, felly rhaid oedd cael amser ychwanegol. Sgoriodd Iolo Hughes ”golden goal” i Bethel A i guro’r darian am yr ail flwyddyn yn olynol. Llongyfarchiadau i’r ddau dîm am wneud mor rhagorol.

Canlyniadau:

Medi 2007 Twrnament Llanrug yr un olaf tymor 2006/07 - oedrannau tymor diwethaf

Dan 11 - Bethel A yn ennill eu pump gêm yn y grŵp - chwarae Penrhosgarnedd yn y semis colli ar benaltis


Nos Fawrth Mai 1af
Bethel A 0 - Cae Glyn 1

Bu Bethel A yn cystadlu yn nhwrnament Dyffryn Nantlle ar Fai 6ed. Llwyddodd y tim i ennill 5 o’u gemau a cholli 2. Daethant yn 3ydd yn eu grwp.

Dydd Sadwrn Ebrill 21
Bethel b 4 Segontiwm b 1
Sgorwyr i Bethel oedd Wiliam Coles, Caio Hywel Conor Japheth ac Ynyr Harries

Nos Fercher Ebrill 4ydd
Bethel A 3 - Penrhos 0
Sgorwyr - William Portillo (2) a James Bell

Dydd Sadwrn Mawrth 31
Bethel A 4 v Llanrug 0
Sgorwyr - Guto Griffiths, William Portillo, James Bell a Dylan Hughes

Dydd Sadwrn Mawrth 24ain
Dan 11B
Bethel b 2 - Nantlle Vale B 0
Dwy gol i Conor Japheth.

Dydd Sadwrn 10/03/07
Bethel B  1   -  Llanberis 2
William Coles yn sgorio i Bethel

Dydd Sadwrn Chwefror 24
Penrhos B 0 - Bethel B 2
Gols i Elis Derbyshire a Wiliam Coles.

Dydd Sadwrn Rhagfyr 9fed
Dan 11 oed Adran melyn
Cae Glyn A 1 v Bethel A 1
Morgan Williams yn sgorio i dim Bethel.

Dydd Sadwrn Tachwedd 25
Llewod Llanrug 2 Bethel B 1
Sgoriwr i Bethel oedd Ynyr Harris.

Dydd Sadwrn Tachwedd 18
Bontnewydd B 1 Bethel B 4
Sgorwyr Bethel oedd Caio Hywel 2 Ynyr Harris 1, Richard Jones 1

Dydd Sadwrn Tachwedd 11
Llanrug Unedig 1 - Bethel A 2
- sgorwyr William Portillo & Dylan Hughes - gem galed iawn - yr hogia yn dod yn ol i guro 2 - 1.

Segontiwm B 1 Bethel B 5
Sgorwyr i Fethel oedd Conor Japheth 2, Caio Hywel 1,Sion Wyn 1 ac 1 gol gan Segontiwm.

Dydd Sadwrn Hydref 28
Bethel B 1 v Penrhos 0

Dydd Sadwrn Hydref 21
Bethel B 4 - Nantlle Vale B 1
Sgorwyr : Ynyr Harris 2, Caio Hywel, William Coles.

Dydd Sadwrn Hydref 14
Bethel A 3 - Segontiwm A 2
Bethel yn dod yn ol o ddwy gol i ddim i lawr hanner amser i ennill y gem o dair gol i ddwy.
Sgorwyr - Morgan Williams, William Portillo & Guto Griffith.

Dydd Sadwrn Medi 30
Bethel A 7 v Bontnewydd A 0
William Portillo (3) Iolo Hughes (2) Guto Griffiths (2)

Dan 11 melyn
Penrhos A 2 v Bethel A 5
Gêm hynod o gyffrous - Bethel yn dod yn ol o ddwy gol i un i lawr i guro.
Sgorwyr - Iolo Hughes, Daniel Grant, Morgan Williams & Corry Williams (2)

Canlyniadau:

Dydd Sadwrn Mai 19
Bethel B 1 - Bontnewydd 3
Sean Carson

Aeth tim dan 9B i gystadlu yn Nhwrnament Dyffryn Nantlle ar Fai 5ed 2007
Dyma ganlyniadau’r gemau:

Bontnewydd B 0 - Bethel B 0
Bro Enlli A 2 - Bethel B 1
Pwllheli A 5 - Bethel 0
Bethel B 0 - Nantlle B 0
Bethel B 0 - Llanrug A 0
Bethel B - 0 Cae Glyn A 3

Roedd yr hogia wedi chwarae yn wych yn erbyn timau blwyddyn yn hun na nhw!!!
Rhaid eu canmol am chwarae mor dda. Roedd ei rheolwr yn falch iawn ohonynt.

Nos Iau Mai 3ydd
Bethel B 0 - Segontiwm B 2

Dydd Sadwrn Mawrth 31
Bethel B 0 - Nantlle B 0

Nos Iau Mawrth 29
Llewod Llanrug B 0 - Bethel B 4
Sgorwyr oedd : Sion Alun 2, Sean Carson, Gwion John

Dydd Sadwrn Mawrth 24ain
Bethel 1 Nantlle Vale 4
Ryan Owen yn sgorio i Bethel

Dydd Sadwrn Mawrth 17
Llanberis 3 -3 Bethel

Alaw Prys yn sgorio’r 3 gol i Bethel

Dydd Sadrwn Mawrth 10
Bethel B  6  -  Felinheli B  1
Y sgorwyr oedd: Sion Carson (3) Gwion John (2)Matthew Lloyd (1)

Dydd Sadwrn Mawrth 3ydd
Bethel B 3 - Segontium 1

Sion Carson yn sgorio 2 gôl a Sion Alun 1

Bethel A 0-3 Penrhosgarnedd.

Dydd Sadwrn Chwefror 10fed
Llandwrog 0 - Bethel B 3
Sgorwyr oedd Gwion John 2 a Sion Carson (1)

Dydd Sadwrn Chwefror 3
Bethel A 0 - Cae Glyn 3

Bethel B 2 - Cae Glyn B 3
Sean Carson yn sgorio’r ddwy gôl i Bethel

Dydd Sadwrn Rhagfyr 9fed
Bontnewydd 0 - Bethel B 0

Dydd Sadwrn Tachwedd 11
Nantlle Vale 5 - Bethel B 0

Dydd Sadwrn Hydref 28
Bethel A 2 v Llewod Llanrug 3

Dydd Sadwrn Hydref 21
Bethel B 0 – Deiniolen 7

Dydd Sadwrn Hydref 14
Felinheli 2 - Bethel B 3
Sgorwyr i Fethel oedd: Gwion John, Sion Alun a Rhydian Price.

Nos Fercher 4/10/06
Bethel B (1) - (1) Llewod Llanrug
Matthew Lloyd

Dydd Sadwrn Medi 23 – Cynghrair Gwyrfai
Cae Glyn B (1) - Bethel B (0)

Dydd Sadwrn Medi 30
Bethel B 3 - 0 Llandwrog
Gwion John( 2) Sion Alun Jones 1

 

Canlyniadau:

Dydd Sadwrn Ebrill 21
Cafodd y tim dan 7 oed hwyl arbennig o dda yn nhwrnament Felinheli gan gyrraedd y ffeinal ond colli fu eu hanes wedi amser ychwanegol. Llongyfarchiadau iddynt am wneud mor dda.

Dydd Sadwrn Mawrth 24ain
Bethel 2 Nantlle Vale 1
Sion Owen ac Ifan yn sgorio i Bethel

Dydd Sadwrn Tachwedd 18
Bethel 1 - Felinheli 0

Dydd Sadwrn Tachwedd 11
Nantlle Vale 3 - 0 Bethel
Bethel yn colli eu gem gyntaf y tymor hwn.

Dydd Sadwrn Hydref 21
Llanberis 0 - 4 Bethel (Ben 2, Ivan a Gethin)

Dydd Sadwrn Hydref 14
Bethel 1 (Gethin Trefor) - Llewod Llanrug 1

Canlyniadau:

Canlyniad Mis Mawrth
Bethel 1 – Pwllheli 2
Alaw Huws yn sgorio i Bethel

Dydd Sadwrn Hydref 21
Bethel 1(o.g.) – Caergybi 0

Hydref 8fed - gem gyfeillgar
Pwllheli 2 - Bethel 0
Gem addawol iawn yn erbyn tim da Pwllheli gyda llawer o genod Bethel yn chwarae yn eu gem gyntaf.

Canlyniadau:

Bethel 0 – Llanrug 0

Bethel 2 – Llangefni 2
Anna Wyn Jones yn sgorio’r 2 gôl i Bethel.

Adran Gorllewin Cynghrair Merched Iau Gogledd Cymru
Dan 13eg - Dydd Sul Hydref 15fed
Caergybi 1 Bethel 1
Sgoriwyd i Fethel gan Anna Wyn Jones.