Archif Tymhorau 2015/16

O Dan 6

Y TIM

Canlyniadau Tymor 2015 - 2016

Mae'r tim wedi cychwyn yn hynod o dda ac wedi llwyddo i chwarae gyda'i gilydd yn arbennig o dda yn cychwyn y tymor newydd yma. Mae'n hynod o gyffroes i'r hogia' ac i ni fel rhieni. Gawn weld sut hwyl gaw' nhw yn ystod y tymor :)


Dydd Sadwrn 30 Ebrill 2016
Nantlle Vale 0 - Bethel 3
Sgorwyr: Riley 2, Steffan 1

Ail gêm:
Nantlle Vale 1 - Bethel 9
Sgorwyr: Riley 3, Steffan 2, Max 2, Deio 2

Chwaraeodd dîm dan 6 Bethel ddwy gêm yn erbyn Nantlle Vale bore dydd Sadwrn 30/4/16. Roedd pawb yn chwarae ar eu gora' ac yn mwynhau. Mae'n dangos bod yr holl hyfforddiant a profiad yn ystod y tymor wedi cael effaith ar chwarae'r hogia. Chwaraeodd nhw fel tîm heddiw, pasio a cyfathrebu da iawn. Da iawn chi hogs!!!


Dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016

Y TIM

Heddiw, cafodd y tîm dan 6 eu profiad cyntaf mewn cynghrair. Yn ystod y bore yn yr Oval yng Nghaernarfon, cafodd y tîm bump gêm a llwyddo i sgorio 10 gôl rhyngddynt (Riley 4, Steffan 4, Max 2). Chwaraeodd pawb yn arbennig o dda a dim ond gadael 1 gôl i mewn i’w gôl nhw, da iawn wir. Roedd yn brofiad hwylus iawn a pawb yn mwynhau. Derbyniodd bawb ‘fedal’ ar ddiwedd y bore. Da iawn hogia!

Cliciwch yma i weld lluniau’r hogiau yn ystod y bore prysur


Nos Fawrth 12 Ebrill 2016
Bethel v Penrhosgarnedd y gêm gyntaf (3-1) yr ail gêm (2-1)

Gyda nifer o’r gemau yn dal eisiae ei chwarae oherwydd gohuriadau yn ystod y tymor diweuthaf. Braf iawn oedd cael gêm ganol wythnos yn cae top Bethel. Roedd hi’n noson fendigedig a pawb yn mwynhau. Chwaraeodd yr hogia yn arbennig o dda ac maent wedi dangos sgiliau cyfarthrebu a chwarae fel tîm heno. Da iawn!


Dydd Sadwrn 9 Ebrill 2016
Bethel V Bontnewydd y gêm gyntaf (3-1) yr ail gêm (1-1) Sgorwyr: Max, Steffan, Deio, Riley

Wrth gyrraedd cae gwlyb yr Ysgol bore ‘ma, fe aeth y tîm i’r cae top i chwarae. Roedd hi’n fore oer iawn ac mi roedd yr hogia’ yn chwarae yng nghanol yr eira! Serch hyny, fe chwaraeodd y tîm unwaith eto yn dda iawn gyda’u gilydd a llwyddo i ennill y gêm gyntaf 3-1 a dod yn gyfartal yn yr ail gêm wrth gael Riley i sgorio’r gôl olaf a gwneud y gêm yn 1-1.


Dydd Sadwrn 19 Mawrth 2016
Talysarn v Bethel gêm gyntaf (1-2) yr ail gêm (1-2)

Gêmau anodd iawn yn erbyn Talysarn heddiw. Roedd amddiffynnu da iawn a llwyddodd y tîm i ennill y ddwy gêm, da iawn, daliwch ati.


Dydd Sadwrn 12 Mawrth 2016
Llandwrog v Bethel (0-5) Sgorwyr: Max (3) Steffan (1) Adam (1)

Chwaraeodd y tîm yn dda iawn heddiw ar gae Saron. Llwyddodd y tîm i arbed y bêl o’u gôl nhw a ennill y ddwy gêm.


Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2016
Segontiwm v Bethel (0-5) Sgorwyr: Riley (2) Efan (1) Steffan (2)
(1-5) Sgorwyr/Scorers: Riley (1) Steffan (2) Max (2)

Llongyfarchiadau mawr i Efan Jac am sgorio ei gôl cyntaf i'r tîm. Da iawn :)


Dydd Sadwrn 16 Ionawr 2016
Bethel v Cae Glyn (4-0) Sgorwyr: Max (3) Riley (1)
(4-0) Sgorwyr/Scorers: Adam (2) Riley (2)

Da iawn i Adam am sgorio ei gôl cyntaf heddiw a mynd ymlaen i sgorio eto wedyn. Ffantastic!!


Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2015
Llanberis v Bethel (3-5)
Sgorwyr: Max (2) Riley (2) Steffan (1)


Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2015
Bethel v Felinheli

Wedi curo'r gêm heddiw. Da iawn hogia'!


Dydd Sadwrn 10 Hydref 2015
Bethel 9 Waunfawr 0

Sgorwyr: Max (5), Riley (3), Steffan (1)


Dydd Sadwrn 3 Hydref 2015
Penrhosgarnedd 1 Bethel 3

Sgorwyr: Max, Riley, Steffan


Dydd Sadwrn 26 Medi 2015
Bethel 4 Segontiwm 0

Sgorwyr: Max (3), Steffan (1)


Dydd Sadwrn 12 Medi 2015
Cae Glyn 3 Bethel 3

Sgorwyr: Max, Riley, Steffan

O Dan 7

Canlyniadau Tymor 2015 - 2016

Cryndeb y tymor

Daeth tymor y gyngrair i ben felly a gwelir datblygiad y tim gyda’r ystadegau isod.

Dyma oedd ystadegau am hanner cyntaf y tymor -

  Chwarae Ennill Cyfartal Colli Sgorwyr
Bethel U7B 9 1 1 7 Sion Lewis (1), Nia (1), Jac (2), Llyr (2), Iestyn (5)

Dyma’r ystadegau am ail hanner y tymor -

  Chwarae Ennill Cyfartal Colli Sgorwyr
Bethel U7B 6 4 0 2 Liam (7), Iestyn (4), Llyr (3), Nia (2), Gruff (2)

Dyma ystadegau gemau’r gyngrair yn gyfangwbl -

  Chwarae Ennill Cyfartal Colli Sgorwyr
Bethel U7B 15 5 1 9 Sion Lewis (1), Nia (2), Jac (2), Llyr (5), Iestyn (9), Liam (7), Gruff (2)

Dydd Sadwrn 16 Mai 2015

Twrnament ar gae tim dinas Bangor oedd yn disgwyl yr hogia ar ddydd Sadwrn, Mai 16. Dyma’r twrnament cyntaf cystadleuol iddynt ac roedd perfformiad y tim yn arbennig o dda. 4 buddugoliaeth allan o 4 a gafwyd yn y gemau grwp. Dyma oedd y canlyniadau a’r sgorwyr-

2-1 v Llanrug (Liam a Llyr)
5-0 v Penrhos (Iestyn (2), Liam, Llyr, o.g.)
2-0 v Porthaethwy (Iestyn, Llyr)
3-1 v Cae Glyn (Liam (3))

Fel enillwyr y grwp aeth Bethel ymlaen i chwarae rownd gyn-derfynol yn erbyn tim arall Cae Glyn. Dechrau yn araf wnaeth Bethel tro yma a sgoriodd Cae Glyn 2 gol yn y munudau cyntaf. Roedd cyfres o corners ac un ergyd ar ol y llall am y gol gan dim Bethel ond methu torri trwodd oedd yr hanes wrth i Cae Glyn ennill o 2 gol i ddim. Diwrnod arbennig fodd bynnag i’r tim.


Dydd Sadwrn 9 Mai 2015
Bethel B vs Llanrug

Llanrug ddaeth i Fethel y bore Sadwrn yma i gystadlu yn y ‘derby’. Eto, roedd tim Bethel yn pasio’n arbennig ac er mynd un gol ar ei hol hi’n fuan roeddynt yn cryfhau drwy weddill y gem gan greu nifer o gyfleoedd. Haeddianol felly oedd y ddwy gol gan Llyr ac un gan Liam i gipio’r fuddugoliaeth.

Yn yr ail gem, Llanrug aeth ar y blaen yn fuan eto ac er bod Bethel yn gorffen yn gryfach ac wedi cau’r bwlch gyda gol gan Gruff, roedd yr ymwelwyr wedi dal mlaen i’w mantais y tro yma. Perfformiad safonol eto gan y tim.


Nos Wener 1 Mai 2015
Dydd Sul 3 Mai 2015
Nantlle Vale vs Bethel B

Taith eithaf hir i Benygroes trwy draffig nos Wener Gwyl y Banc oedd gem gyntaf mis Mai. Hwn oedd un o berfformiadau gorau’r tymor gyda pasio arbennig a pawb yn cefnogi eu gilydd ar y cae. Rhai o syniadau’r cae ymarfer hefyd i’w gweld heno mewn buddugoliaeth haeddianol i dim Bethel. Y sgorwyr oedd Gruff, Nia, Liam, Iestyn a Llyr.

Fe aeth y tim yn ol i Benygroes ar y dydd Sul i chwarae mewn twrnament ar gae C.P.D. Nantlle Vale. Tywydd digon diflas oedd hi yn anffodus i gymharu a’r haul braf nos Wener. Chwaraewyd 7 gem gyda dwy fuddugoliaeth ac un gem gyfartal ymysg y canlyniadau. Y sgorwyr oedd Iestyn (3), Llyr (2) a Jac. Traed i fyny ar ol penwythnos prysur!!


Chwefror 27 v Waunfawr (A)

Tasg anoddach I’r tîm heddiw gan fod nifer o’r sgwad yn brysur yn yr Eisteddfod Sir ac felly roedd dyfnder y sgwad yn cael sialens go iawn – ond codi eu gem wnaeth y ffyddloniaid wrth guro’r ddwy gem oddi cartref. 3 -0 oedd sgôr y gem gyntaf ac yna buddugoliaeth campus o 7 - 0 yn dilyn. Fydd rhaid i weddill y sgwad weithio’n galed i gael eu lle yn ol yn y tîm erbyn wythnos nesa!!


Chwefor 6 v Penrhosgarnedd (H)

Dwy gem agos iawn yr wythnos yma yn erbyn y tîm o Fangor. Roedd y gem gyntaf yn un agos gyda nifer bychan o gyfleoedd ond 2 gôl yr un oedd y canlyniad ar y diwedd.
Roedd yna fwy o ryddid gan y chwaraewyr i gyd yn yr ail gem ac roedd y goliau yn llifo! Gyda cic olaf y gem yn yr eiliad olaf, sgoriodd Liam i gipio fuddugoliaeth o 5-4!!


Ionawr 30 v Segontiwm (A)

Dwy fuddugoliaeth gadarn bore ma mewn gwynt cryf ac oer yn Hendre. Sion Morris oedd yn dangos yr esiampl dda ar ddechrau’r gem gyda’i ymroddiad 100%. Roedd yr amddiffyn yn drefnus hefyd wrth i Bethel gadw ‘clean sheet’ dros y ddwy gem. Y sgorwyr oedd Liam (5), Iestyn a Llyr (2 yr un).


Ionawr 23 v Maes y Bryn (H)

Gem galed yn erbyn Maes y Bryn yr wythnos yma a ‘home advantage’ am y tro cyntaf ers misoedd yn helpu wrth gael gem gyfartal i ddechrau a wedyn sgorio yn yr eiliad olaf i gael buddugoliaeth o 4-3 yn yr ail gem.


Ionawr 16 v Cae Glyn (H)

Dau fis cyfan wedi mynd heibio ers ein gem dwytha a chae Bethel ddim mewn cyflwr digon da i fod yn chwarae adre felly dyma’r ‘home game’ yn symud i Gaernarfon at dim Cae Glyn. O ganlyniad, dechreuodd y tim yn araf yr wythnos hon gan i Cae Glyn sgorio yn reolaidd. Sgoriodd Bethel cyn diwedd y gem ac roedd y safon a welwyd ar ddechrau’r tymor yn fwy amlwg ar ddiwedd y gem ac yn enwedig yn yr ail gem lle cafwyd fuddugoliaeth o 3-2. Jac oedd seren y chwarae heddiw wrth iddo godi ysbryd a brwdfrydedd y tim yn yr ail gem gyda’i ymdrech ddi-stop.


Wash-out llwyr oedd mis Rhagfyr gyda’r tywydd rhoi stop ar bob gem y mis yma.

Gyda’r toriad am y gaeaf yn ein croesawu dyma’r ystadegau am hanner tymor cyntaf y tim

Chwarae Ennill Cyfartal Colli Sgorwyr
16 10 4 2 Liam (21), Llyr (12), Iestyn (5), Nia (5), Jac (2), Sion Lewis (2), Gruff (1)

Nadolig Llawen i chi gyd!


Tachwedd 28 v Llanberis (A)

Cystadlu yn erbyn gwynt cryf, glaw trwm ac oerfel (tywydd ffwtbol go iawn!!!) yn ogystal a tim cryf Llanberis oedd wythnos yma. Roedd pwyslais y tim ar ymosod ond yn gadael eu gol yn ddi-amddiffyn weithiau. Fodd bynnag sgorwyd goliau da iawn mewn dwy gem gyfartal 3-3 a 2-2. Sion Lewis, Nia a Liam(3) oedd y sgorwyr.


Tachwedd 21 v Felinheli (H)

Tair wythnos ers y gem diwethaf ond brwdfrydedd gan y tim a’r pasio yn parhau i fod yn gywir gyda pawb yn cefnogi eu gilydd. Gem gyfartal 2-2 oedd y gyntaf ac ennill yr ail gem 4-3 oedd yr hanes yn erbyn tim Felinheli oedd yn gryf ar draws y cae. Goliau i Nia, Iestyn, Llyr a Liam (3). Roedd safiad anhygoel gan Sion Morris hefyd wrth iddo sleidio ar draws y llinell gol a chlirio’r bel allan am cic gornel i’r gwrthwynebwyr. Werth dwy gol ar ben ei hyn!!


Hydref 31 v Llandwrog (A)

Wythnos o wyliau dim wedi amharu ar safon y pêl-droed a’r tîm yn fuddugol eto mewn dwy gem yn erbyn tim addawol Llandwrog. 4-3 oedd sgôr y gem gyntaf gyda Liam a Llyr yn cael dwy gol yr un. Cafwyd fuddugoliaeth o 3-2 yn yr ail gem hefyd. Da iawn chi!


Hydref 17 v Mynydd Tigers (A)

Dwy gem ar y cyd yr wythnos yma gyda pawb yn y sgwad yn chwarae pob eiliad a cryfder y sgwad yn amlygu ei hun wrth i’r ddau dim reoli’r chwarae yn gyfangwbl a selio dwy fuddugoliaeth arbennig.

6-1 oedd y sgôr mewn un gem gyda pêl-droed o safon dda iawn yn cael ei chwarae a goliau yn cael ei rannu rhwng pawb ar y cae - Llyr (2), Liam (2), Nia a Sion Lewis. Yn ogystal fe gafodd ffrâm gôl y gwrthwynebwyr tipyn o fore caled hefyd!

3-0 oedd y sgôr yn y gem arall gyda Bethel yn hanner y gwrthwynebwyr am ran fwyaf o’r gem. Jac a Iestyn (2) oedd y sgorwyr gyda un o’r goliau gan Iestyn yn syth o’r cae ymarfer. Cornel perffaith gan Gruff a rhediad i ardal gwag gan Iestyn cyn gosod y bel gyda un cyffyrddiad yn gelfydd yn y rhwyd.


Hydref 10 v Waunfawr (H)

Chwip o fuddugoliaeth i’r tîm o 7 gôl i 0 yr wythnos hon gyda’r goliau yn cael eu rhannu o amgylch y tîm – 2 i Llyr a Nia ac 1 yr un i Gruff, Jac a Liam. Yn ogystal, fe sgoriodd Llyr hat-trick yn yr ail gem hefyd. Da iawn bawb.


Hydref 3 v Penrhosgarnedd (A)

Colli’r gem gyntaf am y tro cyntaf yn y tymor yma a ddigwyddodd i Fethel yn erbyn Penrhosgarnedd. Er ein bod ni wedi rheoli’r chwarae ac wedi creu’r cyfleoedd llwyddodd Penrhosgarnedd i gipio buddugoliaeth o 3 i 1. Sgoriodd Iestyn chwip o gôl i Bethel.

Yr un oedd yr hanes yn yr ail gem gyda Bethel yn cael llawer o’r bel ac yn creu cyfleoedd – ond y tro yma daeth y goliau haeddiannol i Bethel gyda Liam yn chwarae fel Ryan Giggs ar ei orau ac yn sgorio 5!!!


Medi 19 v Maes y Bryn (A)

Sialens y tymor newydd yn parhau gyda gem anodd arall i ffwrdd ym Maesgeirchen yr wythnos yma ond Bethel oedd yn rheoli y rhan helaeth o’r gêm yr wythnos yma. Y tro yma Maes y Bryn oedd y tîm ddaeth yn ôl iddi i gael gem gyfartal 2-2. Y sgorwyr oedd Liam ac Iestyn. Chwaraewr y gêm oedd Llŷr am gol yn yr ail gêm sydd yn barod yn cael ei drafod fel ‘gol y tymor’ yn barod - lob anhygoel dros amddiffynnwr yn syth i mewn i’w gol!!


Medi 12 v Cae Glyn (A)

Blwyddyn gron ers dechrau’r tymor diwethaf yn erbyn Cae Glyn a’r un gwrthwynebwyr yn gwahodd ni ar gyfer gem gyntaf y tymor newydd. Gan gofio'r llu o goliau yn ein herbyn a neb yn sgorio i Bethel flwyddyn yn ol diddorol oedd gweld sut oedd yr hogia am ddechrau’r tymor yma. A dechrau gyda buddugoliaeth oedd yr hanes wrth i Bethel guro o 2 gol i 1!! Y sgorwyr oedd Liam a Llŷr. Er bod Cae Glyn yn pasio’n arbennig dyfalbarhau wnaeth y tîm a gorffen ar y blaen. Colli bu’r hanes yn yr ail gêm er gwaethaf pob ymdrech gan Iestyn oedd yn amddiffyn y gôl fel cawr. Da iawn bawb!!


Medi 11

Dechrau’r tymor newydd hefo ‘warm-up’ da iawn wnaeth y tîm eleni wrth chwarae mewn cyfres o gemau ar gae 3G Clwb Dinas Bangor ar nos Wener, Medi 11. Cafodd bawb wared ag unrhyw ddiogi’r haf (gan gynnwys y rheolwr oedd wedi reffio dwy gêm!). 5 gem a gafwyd gyda thair gem gyfartal, un golled (2-1) ac ennill un (2-1). Roedd y chwaraewyr dal i gofio sut i basio a chefnogi ei gilydd ac roedd hynny yn amlwg yn y gôl olaf o’r noson i guro Dyffryn Nantlle gyda phas arbennig gan Gruff i draed Llŷr ac yntau yn taro hi i gefn y rhwyd. Mae hi’n edrych yn addawol am weddill y tymor (commentator’s curse i ddilyn tybed?!!!)

O dan 10

Croeso i dudalen y timau dan 10 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.

--------------------------------------------------------

Canlyniadau Tymor 2015 - 2016

Nos fercher 30 Medi 2015
Bethel 4-0 Waunfawr

Sgorwyr: Morgan Jones 2, Corey, Codey

Dim ond 8 oedd yn gallu troi fynu ir gem nos fercher yma!! Gorfod chware rhai mewn safle gwahanol ar y cae ondi weld y gweithio yn dda efo ni yn chware pel droed da iawn. Dechra arfer efo'r cae mawr ac yn neud y bel symud o amgylch y cae yn gret!!


Dydd Sadwrn 26 Medi 2015
Mynydd Tigers 3 Bethel 1

Sgoriwr: Corey

Gobeithio bysa'r win o’r gêm ddiwethaf wedi cario ym mlaen i'r gêm galed yma yn erbyn tîm cryf tigers, ond yr hogia ddim ar ei gorau bora ma!!! 1-1 hanner amser efo'r ddau dîm yn methu cael gafael ar y gêm!! Corey yn chware fel ymosodwr ac yn sgorio i ni. Dim yn gwybod be wnaeth ddigwydd yn yr "halftime team talk" ond yr hogia yn colli ei ffordd yn yr ail hanner!! Dipyn o ffraeo rhwng hogia ni efo ei gilydd a tigers yn cymryd mantais efo dau gol da!!!  


Dydd Sadwrn 19 Medi 2015
Tymor newydd ar hogia yn barod I fynd!!
Bethel 2 Bontnewydd 0

Sgorwyr: Morgan Davies, Morgan Jones

Yr hogia yn gorfod chware tymor yma 7v7 ac ar gae mwy. Dechrau da i'r tymor efo win da iawn yn erbyn Bont. Y pasio oeddynt yn neud tymor diwethaf wedi cario ym mlaen ac yn gweithio yn dda iawn o’r cefn trwodd i'r blaen!! Y ddau Morgan yn sgorio efo symudiad da triwyr canol!! Cae mwy yn dangos ar yr hogia erbyn diwedd y gêm efo nhw yn blino!!!

O dan 12

Croeso i dudalen y tim dan 12 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw. 


Canlyniadau Tymor 2015 - 2016

Nos Iau 17 Mawrth 2016
Cae Glyn 2 - Bethel 2

Sgorwyr: Cai, Jac


Dydd Sadwrn 12 Mawrth 2016
Bethel 5 - Llanrug 2

Sgorwyr: Osian 2, Mathew, Elis, Jac


Dydd Sadwrn 6 Chwefror 2016
Bethel 7 - Penrhos 0

Sgorwyr: Ben 3, Steffan 2, Morgan 2


Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2016
Segontiwm 1 - Bethel 2

Sgorwyr: Ben, Cai


Dydd Sadwrn 3 Hydref 2015
Bethel 12 Llanrug B 0

Sgorwyr: Cai JONES 4, Jac DAVIES 2, Nathan JONES 2, Ben EVANS 2, Osian PRYS 2


Dydd Llun 28 Medi 2015
Penrhosgarnedd 2 Bethel 4

Sgorwyr: Rhys Hughes, Elis Jones, Jac Davies, Morgan Jones


Dydd Sadwrn 12 Medi 2015
Segontium 2 Bethel 5

Sgorwyr: Mathew Jones, Cai Jones 1, Nathan Jones 1, Osian Prys 2

 

Bechgyn o dan 14

Croeso i dudalen y tim dan 14 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw


Canlyniadau 2015 - 2016

Dydd Sadwrn 12 Mawrth 2016
Llanrwst A 3 - Bethel A 2


Dydd Sadwrn 27 Chwefror 2016
Bethel A 1 - Cyffordd Llandudno 0

Sgoriwr: Owain


Dydd Sadwrn 20 Chwefror 2016
Bethel A 4 - Bontnewydd A 2

Sgorwyr: Owain 2, Ben, Gwilym


Dydd Sadwrn 6 Chwefror 2016
Bethel A 9 - Mynydd Tigers 2

Sgorwyr: Ben 3, Gethin 2, Gwilym 2, Owain, Caio


Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2016
Bethel A 4 Penrhos A 0

Sgorwyr: Caio, Ben, Huw, Rhydian


Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2015
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel A 7 Bethel B 1

Sgorwyr: Ben 3, Owain 2, Thomas Murphy, Gethin


Dydd Sadwrn 24 Hydref 2015
Bethel A 6 Mynydd Tigers 1

Sgorwyr: Owain 3, Caio 1, Ben 1, Rhydian 1


Dydd Sadwrn 17 Hydref 2015
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel A 14 Colwyn Bay B 2

Sgorwyr: Gethin 4, Caio 3, Ben 2, Ywain 2, Gwilym, Huw, Owain


Dydd Sadwrn 10 Hydref 2015
Penrhos A 1 - Bethel 3

Sgorwyr: Caio 2, Owain


Dydd Sadwrn 3 Hydref 2015
Bethel A 12 Bethel B 0

Sgorwyr: Gethin 6, Rhydian 3, Owain 2, Ben 1


Dydd Sadwrn 26 Medi 2015
Maes Y Bryn 0 Bethel A 7

Sgorwyr: Ben 3, Caio 2, Rhydian 2


Dydd Sadwrn 19 Medi 2015
Bethel A 9 Penrhos B 2

Sgorwyr: Gethin 3, Owain 3, Rhydian 2, Caio 1


Dydd Sadwrn 12 Medi 2015
Bontnewydd A 2 Bethel 9

Sgorwyr: Rhydian 2, Gethin 2, Owain 2, Caio, Ben, Callum (P)

 

O dan 16

football team

Croeso i dudalen y tim dan 16 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.


Canlyniadau 2015 - 2016

Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2015
Bethel 6 – Llandudno Junction B 4

Sgorwyr: Aaron 3, Gruff, Shaun, Jestin

Diwrnod difrifol arall gyda glaw trwm a'r fel gwnaeth hi droi allan, gem olaf Bethel am beth amser. 'Roedd yr amodau'n anodd i'r ddau dîm a chafwyd gem gystadleuol iawn gyda Bethel yn fuddugol o 6-4.


Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015
Bethel 15 Llanllyfni 1

Sgorwyr: Gethin, Gruff (3), Aaron (2), Jestin (3), Dion, Osian (2), Sion, Iwan (2)

'Roedd cyfuniad o dywydd gwael a chae trwm yn gwneud hi'n amhosib rhedeg gyda'r bel ac wedi gorfodi Bethel i basio gydag un o berfformiadau gorau'r tymor.


Dydd Sadwrn 24 Hydref 2015
Bethel 10 – St Asaph B 2

Sgorwyr: Aaron 4, Lee 3, Jestin 2, Gruff

Diwrnod hydrefol go iawn gyda glaw trwm oedd yn ein gwynebu heddiw. Er y glaw, ‘roedd y cae mewn cyflwr da.

Dechreuodd Llanelwy yn gryf yn pasio yn dda gan achosi ychydig o broblemau i Bethel. Fel aeth yr hanner ymlaen cryfhaodd Bethel a llwyddo i wneud ambell i rediad da. Daeth y gôl gyntaf pan fethodd y gôl-geidwad ddal ergyd Dion a manteisiodd Aaron i rwydo. Daeth yr ail wedi cic rydd wych gan Jestin wedi Gruff ennill y gig rydd o ochr chwith y cae.

2-0 ar eu hanner a beth oedd yn nodweddiadol yn yr ystafell newid oedd y brwdfrydedd y tîm. Am sawl rheswm dim ond 11 oedd ar gael heddiw ac ‘roedd pawb yn barod i chwarae mewn safleoedd anghyfarwydd.

Parhaodd y glaw a bu yn bwrw yn drwm trwy’r ail hanner ond cryfhaodd Bethel fel aeth y gêm yn ei flaen gyda symudiadau a phasio da. Creodd Iwan y drydedd wedi rhediad nerthol cyn tynnu’r bel nol i Aaron sgorio. Sgoriodd Lee y bedwaredd (oedd yn chwarae fel ymosodwr heddiw) wedi pas gan Jestin ac yn fuan wedyn sgoriodd ei ail wrth i’r bel ddod nôl ato oddi ar y gôl-geidwad. Daeth y goliau ar garlam wedyn gyda Gruff yn creu’r ddwy nesaf, Jestin yn sgorio’r 6ed ac yn croesi yn gelfydd i Aaron sgorio ei drydedd. Ni roddodd Llanelwy fyny a sgorio nhw gol cyn i Aaron sgorio ei 4ydd. Cafodd Gruff ei haeddiant yn sgorio’r 9fed cyn i Lanelwy rwydo eto, cyn i Lee gwblhau’r sgorio wedi ei greu gan Gruff.


Dydd Sadwrm 3 Hydref 2015
Cae Glyn 1 – Bethel 4

Sgorwyr: Jeston, Aaron, Osian, Gruff

Gem gyntaf oddi cartref Bethel o'r tymor a thaith i Gaernarfon oedd yn ein gwynebu yn erbyn Cae Glyn. Chwaraeodd Cae Glyn yn arbennig o dda gan rwystro i ychydig iawn o gyfleon. Daeth y gôl gyntaf wedi Dion groesi o ochr dde'r cae, Owain yn rheoli yn dda ac yn bwydo Jestin I rwydo. Aaron gafodd yr ail wedi pas dda arall gan Owain.

2-0 i Bethel ar yr hanner.

Yn fuan wedi'r ail gychwyn sgorio Osian gyda pheniad da wedi croesiad gwych gan Aaron. Yn fuan wedi hynny, dioddefodd Bethel cwpl o anafiadau a bu rhaid chwarae gweddill y gêm gyda dim ond 10. Daeth Cae Glyn yn ôl i'r gêm wedi peniad o gic cornel a bu rhaid i Bethel wrthsefyll ychydig o bwysau ond yn amddiffyn yn dda. Daeth pedwerydd Bethel wedi I Ben ennill y bel a bwydo Jestin a rhodd y bel i Gruff sgorio.

Seren y gêm am ei berfformiad gorau i Fethel a bod yn barod i chwarae mewn safle anghyfarwydd oedd Owain


Dydd Sadwrn 26 Medi 2015
Bethel 5 – Bontnewydd 0

Sgorwyr: Aaron 3, Dion, Jestin

Bethel yn ymateb yn dda wedi siom yr wythnos gynt yn erbyn tîm cryf Bontnewydd. Doedd fawr ddim y ddau dîm am gyfnod hir ond fel aeth yr hanner yn ei flaen dechreuodd Bethel gael y gorau. Aeth Bethel ar y blaen wedi Dion ddod o hyd I Aaron I sgorio. Dion sgoriodd yr ail o'r smotyn wedi Gruff gael ei faglu.

Hanner amser 2 – 0 Bethel

Wedi'r ail gychwyn sgoriodd Bethel dwywaith mewn dim o amser gyda Jestin yn sgorio wedi ei greu gan Aaron ac yna Aaron yn sgorio ei hun wedi gwaith da gan Owain. Cafodd Bont sawl cyfle ac aethon yn agos a'r sawl achlysur. Aaron gafodd y gair olaf yn rhwydo wedi ei greu gan Gruff


Dydd Sadwrn 19 Medi 2015
Bethel 3 – Llanberis 6

Sgorwyr: Ryan, Dion, Jestin

Gem o ddau hanner go iawn oedd hon gyda Bethel yn rheoli am gyfnodau hir a Llanber yn taro nôl wedyn. Bethel aeth ar y blaen wedi Ryan rwydo yn dilyn cic gornel, ac yna Dion yn rhwydo wedi Ifan basio allan o'r amddiffyn. 'Roedd hin 3-0 a'r ol 30 munud pan sgoriodd Jestin wedi ei greu gan Sïon. Wedi hynny aeth pethau o chwith gyda Llanberis yn taro yn nol cyn yr egwyl ac yna yn rheoli'r ail hanner ac yn curo'r gêm 6-3.


Dydd Sadwrn 12 Medi 2015
Bethel 8 – Talysarn 0

Sgorwyr: Aaron 3, Osian 2, Jestin, Iwan, Owain

Gem gystadleuol cyntaf y tymor gyda Bethel yn perfformio yn dda iawn. Daeth gol cyntaf y tymor wedi Shaun rhoi pas dda i'r blwch gydag Iwan yn rheoli yn wych, troi a sgorio. Aaron gafodd yr ail wedi symudid da a Dion yn rhoi'r bas olaf. Aaron gafodd y nesaf hefyd wedi ei greu gan Iwan. Yna sgoriodd Owain ei gol cyntaf i Bethel wedi gwaith da gan Harri.

4-0 ar yr hanner

Sgoriodd Bethel 4 gwaith yn yr ail hanner, gydag Osian yn sgorio wedi ei greu gan Gruff ac yna Jestin yn sgorio wedi ei greu o'r cefn wedi Lee roi'r bel i Gethin a basiodd I Gruff I fwydo Jestin. Osian gaeth y seithfed ac yna Osian yn creu olaf I Aaron a'r ôl gwaith da gan Iwan.