Archif Tymhorau 2016/17

 

Croeso i dudalen y tîm dan 6 a'u hanes y tymor hwn

Clwb Pêl Droed Bethel Tîm dan 6 2016-17

Dyma ni ar gychwyn tymor newydd 2016-17 gyda tîm newydd. Mae’r tîm yn edrych ymlaen i gael cychwyn eu blwyddyn cyntaf gyda Arwel Jones yn eu hyfforddi ac yn barod i gael digonedd o hwyl a blas ar bêl droed.

dan 6

Yn y tîm y tymor yma mae:
Caio, Elis, Cai a Olly (back, left to right)
Owain, Sion, Cedri a Cain (front, left to right)

dan 6
dan 6

The team had been very fortunate to have Redline indoor karting to sponsor very smart waterproof jackets. The lads and their parents would like to thank Rich (Max's Taid), John and Jimmy for their generosity and support and to Sharon (Max's Nain) for ensuring the jackets arrived before the winter weather. The lads were invited to Cibyn to the go karting centre to receive their new jackets, chocolate and drink. They were in their element standing on the podium. Well done.

www.redlineindoorkarting.co.uk

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed 2016

Talysarn (5) V Bethel (0)

Talysarn (2) V Bethel (1)
Sgoriwr: Caio

Gêm dda bore ‘ma, ar fore oer. Brwydrodd yr hogia i arbed y tîm arall rhag sgorio mwy. Hwylia’ da ar y hogia’ er y colled.

dan 6
dan 6

Dydd Sadwrn Hydref 22 2016

Bethel (2) V Llandwrog (0)
Sgoriwr: Caio (2)

Bethel (4) V Llandwrog (0)
Sgorwyr: Caio (3), Cain (1).

Chwaraeodd bawb yn ffantastig, da iawn chi hogia’.

dan 6

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Sadwrn Hydref 15 2016

Bethel (2) V Mynydd Tigers (1)
Sgorwyr: Caio (1), Elils (1)

Bethel (2) V Mynydd Tigers (0)
Sgorwyr: Caio (1), Elis (1)

Ein ail gêm y tymor yma, ar gae rygbi Bethesda. Roedd yr hogia yn llawn egni ar fore oer a gwlyb. Chwaraeodd pawb yn ffantastig da iawn chi hogia’.

dan 6
dan 6
dan 6 dan 6

Dydd Sadwrn 24 Medi 2016

Bethel (5) V Segontiwm (2)
Sgorwyr: Caio (3), Owain (1), Elis (1).

Bethel (3) V Segontiwm (1)
Sgorwyr: Caio (2), Elis (1)

Ein gêm cyntaf or tymor bore ’ma a hwyliau da iawn ar bawb. Yr hogia’n llawn cyffro yn barod am eu gêm cyntaf. Chwaraeodd pawb yn ffantastig, da iawn chi hogia’. Llwyddodd y tîm i gyd-chwarae a llwyddo i guro ei gêm cyntaf. Gwych hogia!

dan 6
dan 6
2016-17

Dyma ni ar gychwyn tymor newydd 2016-17 ac mae’r tîm yn edrych ymlaen i gael cychwyn yn ôl gyda Andrew i ymarfer ac i gael dangos eu kit newydd.

O dan 7

Mae’r tîm wedi cael kit gan gynllun McDonalds ac yn ffodus iawn o gael Cled a Susan yn eu cefnogi ac eu noddi tymor yma. 

Diolch yn fawr iawn Cled a Susan (Taid a Nain)!

O dan 7

Yn y tîm y tymor yma mae:

Deio, Steffan ac Adam (cefn, chwith i dde)
Max a Riley (tu blaen chwith i dde)

 

 

Llongyfarchiadau mawr iawn i dîm dan 7 y tymor yma, mae nhw wedi chwarae 20 o gemau a curo bob un wrth sgorio 204 gôl heb sôn am yr holl dwrnameintiau. Da iawn chi a phob hwyl tymor nesa gyda’r gôl geidwad.

under 7’s

Llun o’r hogia ar ôl y gêm yn erbyn Llanrug. Tywallt y glaw!!

under 7’s

Rio a Tomi yn cefnogi’r hogia yn y glaw, chwara teg i chi hogia!!

under 7’s

Tim dan 6 a dan 7 Bethel yn ymlacio ar ôl twrnamaint Gwyrfai.

under 7’s

Tim dan 6 a dan 7 Bethel yn ymlacio ar ôl twrnamaint Gwyrfai.

under 7’s

Deio, Andrew (Dad) a Sion (Taid) yn cysgodi rhag y glaw.

 

 

 


Twrnamaint
Mae’r tîm wedi mwynhau a cael hwyl dda arni yn y twrnameintiau isod hefyd:
5/5/17 – Twrnamaint Bangor
28/4/17 - Twrnamaint Gwyrfai – Caernarfon
21/4/17 – Twrnamaint Bangor 3G
Er fod y tymor wedi dod i ben, mi fydd y tîm yn cymryd rhan yn nhwrnamaint Cae Glyn, Llanrug a Bethesda yn ystod mis Mehefin cyn mynd ymlaen i chwarae mewn cynghrair Haf i ymarfer gyda gôl geidwad cyn y tymor nesaf gychwyn yn mis Medi. Pob hwyl i chi hogs!

Dydd Wener 12 Mai 2017
Y gêm gyntaf: Bethel (6) V Llanrug (3)
Sgorwyr: Max (1) Riley (1) Steffan (1) Deio (2) Caio (1)

Roedd ŷm yn croesawu Caio atom ni heno gan fod Adam ar ei wylia’. Roedd yn gychwyn da iawn i Caio gan iddo sgorio yn yr eiliadau cyntaf ar ôl iddo ddod ar y cae! Dim ail gêm i’r hogia’ heno gan ei bod yn tywallt y glaw!! Da iawn chi gyd hogia am ddal ati yn y glaw. Gafodd yr hogia sbort.

Dydd Sadwrn 22 Ebrill 2017
Y gêm gyntaf: Llanberis (3) V Bethel (4)
Yr ail gêm: Llanberis (0) V Bethel (7)
Sgorwyr: Max (3) Riley (2) Seffan (3) Deio (2) OG (1)

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 2017
Y gêm gyntaf: Llandwrog (0) V Bethel (3)
Yr ail gêm: Llandwrog (1) V Bethel (7)
Sgorwyr: Max (3) Riley (2) Steffan (5)

Dydd Sadwrn 04 Mawrth 2017
Y gêm gyntaf: Bethel (7) V Mynydd Tigers (0)
Yr ail gêm: Bethel (13) V Mynydd Tigers (0)
Sgorwyr: Max (6) Riley (1) Steffan (5) Deio (8)
Roedd y tîm yn colli Adam heddiw gan ei fod i ffwrdd ar ei wyliau.

Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2017
Y gêm gyntaf: Segontiwm (1) V Bethel (11)
Sgorwyr: Max (4) Riley (2) Steffan (3) Deio (1) Adam (1)

Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017
Y gêm gyntaf: Bethel (14) V Bethesda (0)
Sgorwyr: Max (4) Riley (2) Steffan (5) Deio (2)

Dydd Sadwrn 14 Ionawr 2017
Y gêm gyntaf: Bethel (4) V Cae Glyn (2)
Yr ail gêm: Bethel (2) V Cae Glyn (2)
Sgorwyr: Max (1) Steffan (3) Deio (1) Adam (1)

Nos Wener 30/12/16 - Twrnament gyfeillgar ar gae 3G Bangor
Llwyddodd yr hogia' i chwarae yn dda iawn yn erbyn timau lleol heno ar gae 3G Bangor.
Diolch yn fawr i Mathew Roberts a drefnodd y noson.

 

Redline indoor karting

Mae'r hogia' wedi bod yn ffodus iawn i gael cwmni cartio tu mewn Redline Indoor Karting yn eu noddi a cael cotiau glaw smart iawn iddynt. Hoffai'r hogia' a'u rhieni ddiolch yn fawr iawn i Rich (Taid Max), John a Jimmy am eu caredigrwydd ac eu cefnogaeth ac i Sharon (Nain Max) am ei amser yn sicrhau bod yr hogia' yn cael y cotiau mewn da bryd cyn y tywydd gaeafol ein cyrraedd ni. Cafodd yr hogia' eu gwahodd i Cibyn, i'r ganolfan cartio i dderbyn ei cotiau, sioced a diod siiol, roeddent wrth eu bodd ac wedi cael sefyll ar y powdiwm. Da iawn wir!!

www.redlineindoorkarting.co.uk

Redline Redline

 

 


Friday evening, a friendly tournament on Bangor's 3G pitch

The lads gave a good account of themselves against local teams held on Bangor's 3G pitch. Thanks for Mathew Roberts who organised the evening.

under 7’s

Y team talks holl bwysig!!

under 7’s

Y team talks holl bwysig!!

under 7’s

Llun o Mali yn helpu Dad (Andrew) ar ôl bod yn cefnogi ei brawd Deio.

under 7’s

Yr hogia'n hapus ar ôl noson dda o gêmau


Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2016
Hon oedd y gem olaf o'r tymor, cyn y Nadolig ar gae Glan Moelyn yn Llanrug.
Llanrug (3) - Bethel(4)
Sgorwyr: Steffan (2) Max (2)

Llanrug (0) V Bethel (1)
Sgorwyr: Max (1)

Tymor dda iawn i'r hogia', pawb yn mwynhau ac yn ffrindiau mawr ac mae'r tywydd wedi bod yn dda iawn i ni. Mae llawer o hwyl i gael gyda nhw ar foreau oer! Mae pawb yn edrych ymlaen i gael cychwyn yn ôl gyda'r ymarferion a'n gem gyntaf o'r flwyddyn newydd ddydd Sadwrn y 7fed o Ionawr yn Llanberis.

Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2016
Bethel (5) - Felinheli (1)
Sgorwyr: Riley (2) Max (2) Steffan (1)

Bethel (5) - Felinheli (0)
Sgorwyr: Steffan (3) Max (2)

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2016
Bontnewydd (0) - Bethel (4)
Sgorwyr: Deio (1) Max (1) Riley (2)

Bontnewydd (1) V Bethel (9)
Sgorwyr: Deio (3) Steffan (2) Riley (2) Max (1) OG (1)

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd 2016
Bethel (9) - Talysarn (1)
Sgorwyr: Riley (2) Max (4) Steffan (3)

Bethel (7) - Talysarn (0)
Sgorwyr: Max (3) Riley (2) Steffan (1) Adam (1)

Dydd Sadwrn 22 Hydref 2016
Bethel (10) - Llandwrog (0)
Sgorwyr: Steffan (4) Max (3) Deio (1) Riley (2)

Bethel (2) - Llandwrog (0)
Sgorwyr: Riley (1) Steffan (1)

Dydd Sadwrn 15 Hydref 2016
Mynydd Tigers (0) - Bethel (5)
Sgorwyr: Max (2) Steffan (1) Riley (1) Deio (1)

Mynydd Tigers (0) V Bethel (2)
Sgorwyr: Steffan (1) Riley (1)

 

O dan 6Dydd Sadwrn 8fed o Hydref 2016
Bethel (10) - Waunfawr (0)
Sgorwyr: Steffan (4) Max (3) Riley (1) Deio (1) Adam (1)

Bethel (9) - Waunfawr (1)
Sgorwyr: Steffan (4) Deio (3) Riley (1) Max (1)

 

Dydd Sadwrn 1 Hydref 2016

Penrhosgarnedd (1) V Bethel (6)
Sgorwyr: Max (3), Steffan (2), Deio (1)

Yn ganol y glaw bore ‘ma, llwyddodd y tîm i gyd-chwarae a sicrhau llwyddiant arall. Un gêm yn ddigon bore ‘ma yng nghanol y glaw!!

 

Dydd Sadwrn 24 Medi 2016
Bethel (8) V Segontiwm (0)
Bethel (10) V Segontiwm (2)

Ein gêm cyntaf adref y tymor yma. Chwaraeodd bawb yn ffantastig, da iawn chi hogia’!

 

Dydd Sadwrn 17 Medi 2016
Bethesda (0) V Bethel (8)
Sgorwyr: Max (5), Steffan, Deio (2)

Bethesda (1) V Bethel (11)
Sgorwyr: Steffan, Max (3), Riley (4), Deio (3)

Gêm dda ar gaeau Bethesda bore ‘ma. Da iawn i dîm Bethesda yn chwarae am y tro cyntaf bore ‘ma.

Dydd Sadwrn 10 Medi 2016
Cae Glyn (1) V Bethel (2)
Sgoriwr: Max (2)
Cae Glyn (1) V Bethel (4)
Sgorwyr: Max, Steffan (2), Deio

Y gêm gyntaf o’r tymor, fel llynedd roeddym yn chwarae ar gae Syr Hugh yn erbyn Cae Glyn. Roedd yr hogia’ yn edrych ymlaen ac yn llawn egni ar fore oer.
Llwyddodd yr hogia’ i guro’r ddwy gêm ac roedd hwylia’ da ar bawb.

O dan 8

Croeso i dudalen y timau dan 8 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.

 

Dydd Sadwrn Ebrill 29 2017 Bethel v Llanrug

Wedi cael eu dylanwadu gan gem ddiweddar Man City yn erbyn Man U oedd y ddau dim gyda dim llawer o gyfleoedd i sgorio. Eto roedd amddiffyn Bethel yn gadarn a Liam oedd yn trio pob dim i gael y gôl werthfawr. Daeth honno o’r diwedd wrth i groesiad o’r asgell daro un o amddiffynwyr Llanrug a mynd mewn i’w gôl ei hun i gael buddugoliaeth yn y derby yng ngem olaf y tymor.

Dyma’r ystadegau –

Cyn toriad y Nadolig

  Pld W D L GF GA GD
Bethel 11 4 3 4 19 20 -3

Ar ôl toriad y Nadolig

  Pld W D L GF GA GD
Bethel 10 6 2 2 31 9 22

Ystadegau’r tymor cyfan

  Pld W D L GF GA GD
Bethel 21 10 5 6 50 29 21

 

Nos Iau Ebrill 27 2017 Bethel v Llanberis

Y tîm yn chwarae fel bod nhw mewn ffeinal cwpan heno a bron yn rhy awyddus i sgorio! Roedd Bethel yn rheoli fodd bynnag ac ar adegau roedd Llanber wedi ‘parcio’r bys’ i wneud yn siŵr nad oedd gôl. Colli mynadd wnaeth Nia fel gôl-geidwad gan fod yr amddiffyn mor gadarn felly dod allan oedd ei dymuniad, a hi sgoriodd y gôl mewn gem gyfartal 1-1!

 

Dydd Sadwrn Ebrill 22 2017 Nantlle Vale v Bethel

Ymdrech orau’r tymor gan bob un o’r chwaraewyr yr wythnos yma mewn gem gystadleuol ar gae mawr gyda’r tywydd yn boeth. Mae’n rhaid enwi bob un gan fod cyfraniad gan bawb – Gruff am reolaeth arbennig o’r bel, Iestyn am ddangos cryfder a phwer, Jac am ei frwdfrydedd, Josh am safio’n dda, Llyr am ennill bob tacl, Nia am safon fel gol-geidwad ac wrth chwarae allan, Riwann am ei egni ddi-ddiwedd a Sion Morris am ddangos cyflymder yn amddiffyn ac ymosod.

Yr oedd y gem mor ddwys fel bod y rheolwr wedi colli trac o’r sgôr ond dywedodd nifer mai 3-2 i’r tim cartre oedd hi gyda Iestyn a Llyr yn sgorio. Eto, nifer o gyfleoedd i sgorio fwy oedd yr hanes felly ‘shooting boots’ on am y gemau a’r twrnameintiau sydd ar ôl.

 

Nos Fawrth Ebrill 4 2017 Felinheli v Bethel

Wel am posh!! Doedd Felin ddim yn gallu cynnal y gem ar ddydd Sadwrn felly dyma derbyn gwahoddiad ganddynt i chwarae ar nos Fawrth ar gae bob tywydd prifysgol Bangor yng Nghanolfan Brailsford. Y ‘marginal gains’ o basio’r bel yn effeithiol yn gweithio’n arbennig i dîm Bethel. A dweud y gwir, roedd y bel yn symud yn RHY sydyn ar yr astro yma ar adegau! Ond dwy gem a gafwyd gyda buddugoliaeth o 4-2 a 3-1 yn haeddiannol i Bethel a gôl Felin (gan gynnwys ffrâm y gôl) o dan fygythiad ar sawl achlysur arall. Liam oedd yn serennu gyda nifer o’r goliau ond Llyr yn trefnu’r amddiffyn yn gadarn hefyd. Da iawn chi.

 

Dydd Sadwrn Mawrth 18 2017 Bethel v Bethesda

Lawr i’r ‘bare bones’ heddiw gyda 6 yn unig o’r sgwad ar gael. Roedd pawb felly wedi gorfod gweithio’n ddi-flino mewn haul poeth (lle mae hwnnw di bod tan rwan?!) i orffen hefo buddugoliaeth o 2-1 gyda Iestyn yn sgorio’r ddwy, ond Llyr, wedi codi o’i wely angau, ddaru serennu mewn perfformiad gorau gan unrhyw un drwy’r tymor drwy daclo, darllen y gem ac ymosod wrth gario’r bel o’r cefn yn wefreiddiol.

 

Dydd Sadwrn Mawrth 18 2017 Bethel vs Bontnewydd

Perfformiad arbennig arall gan y tîm wrth greu amryw o gyfleoedd i sgorio, amddiffyn yn gadarn a cefnogi ei gilydd drwy basio’n gywir. Ennill y gem gyntaf 6-0 gyda Llyr, Iestyn a Liam ymysg y goliau a’r ail gem 3-1 gyda Jac a Siôn Morris yn ychwanegu eu henwau ar y rhestr sgorwyr oedd yr hanes. Da iawn wir!!

 

Dydd Sadwrn Mawrth 11 2017 Llandwrog vs Bethel

Perfformiad llawn disgyblaeth gan y tîm yr wythnos yn dilyn wythnosau lawer o ohirio gemau, yn bennaf oherwydd y tywydd. Roedd dealltwriaeth a chydweithio fel tîm yn arbennig o dda. Cafwyd dwy gem a buddugoliaeth o 2-0 yn y ddwy gyda Llyr, Iestyn a Jac ymysg y goliau.

 

Dydd Sadwrn Chwefror 11 2017 Waunfawr vs Bethel

Dyma’r gem lle ddaru pob dim ‘clicio’ gyda pasio cyflym a chywir yn agor yr amddiffyn ar sawl achlysur. Cafodd y goliau eu rhannu o gwmpas y tîm gyda Gruff (gyda’i sgidia newydd!) yn agor y llifddorau yn y munud cyntaf. Buddugoliaeth arbennig!!

 

Dydd Sadwn Ionawr 28 2017 Segontiwm vs Bethel

Un gem hirach o ran amser heddiw ar wahoddiad y tîm cartref – ond lwcus gan bod sgwad Bethel yn llai nag arfer hefo salwch. Y tîm cyfan yn dangos eu cymeriad cryf mewn tywydd gwlyb ac oer ond Iestyn yn arbennig yn dangos ei gryfder a Gruff yn dangos ymroddiad ac agwedd diflino mewn buddugoliaeth o 3-1 gyda Iestyn yn sgorio’r goliau i gyd.

 

Dydd Sadwrn Ionawr 14 2017 Bethel v Cae Glyn

Sgwad cryf a niferus o Cae Glyn yn ymweld heddiw ac felly dyma cynnal tair gem er mwyn i bawb o’r gwrthwynebwyr gael gem gyfan. Roedd chwarae a pasio Cae Glyn yn dda iawn fel arfer ond daeth y timau cryfaf at eu gilydd ar gyfer y gem olaf. Roedd y gem yn gyflym ac yn gorfforol iawn!! Cae Glyn sgoriodd gynta yn yr hanner cyntaf ond roedd Bethel yn ymosod yn yr ail hanner a cafwyd sawl arbediad gwych gan gol-geidwad Cae Glyn i rwystro Bethel rhag sgorio. Roedd rheolaeth a disgyblaeth Bethel yn glir gan fod Iestyn yn gôl Bethel yn flin gan fod ganddo ddim llawer i’w wneud!

 

Dydd Sadwrn Rhagfyr 10 Llanrug v Bethel

Diwedd siomedig i’r flwyddyn gan nad oedd y gwaith ar y cae ymarfer yn amlwg yn y gem heddiw. Colli’n drwm oedd hanes y gem gyntaf ond daeth Nia ac egni, bwrlwm a dylanwad positif i’r ail gem gan arwain at fuddugoliaeth. Ystyried canslo Nadolig oedd asesiad y rheolwr ac yn gobeithio na fydd ‘vote of confidence’ gan y cadeirydd! Ymlaen a ni i’r flwyddyn newydd.

 

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3 Bethel v Dyffryn Nantlle

Dwy gem agos bore ma gyda chwarae da gan bob tîm ond Liam yn disgleirio fel y chwaraewr gorau ar y cae. Cafodd gefnogaeth dda gan aelodau tîm Bethel ond 2-1 oedd hi i’r gwrthwynebwyr ar y diwedd. Yn yr ail gem roedd ‘debut’ yn y gôl i Riwann ac fe wnaeth yn wych wrth safio mwy nag un ergyd gyda’i goesau. Roedd Bethel yn ymosod yn gyson a daeth buddugoliaeth o 2-1 gyda Sion Morris yn un o’r sgorwyr.

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 26 Llanberis v Bethel

-3°C oedd y tymheredd yn y car wrth ddechrau am y gem y dydd Sadwrn yma!! Digon o gyfleoedd gan Bethel ond un gôl ddaeth yn y gem i Liam. Fe gafodd Iestyn ei gem gyntaf fel gôl-geidwad gan wneud arbediad da i gadw ‘clean sheet’. Yn yr ail gem fe oedd goliau di-ri gyda Bethel ar yr ochr anghywir o sgôr 5-3.

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 12 Bethesda v Bethel

Cyfuniad o chwarae ar gae 3G Bangor ar y nos Wener tan 7.30 a ‘squad rotation’ yn golygu nad oedd y tîm ar eu gorau yn erbyn Bethesda. Fe sgoriodd Gruff mewn colled yn y gem gyntaf ac fe wellodd pethau yn ystod yr ail gem i gael gem gyfartal 2-2 gyda Iestyn yn sgorio’r ddwy. Clod arbennig fodd bynnag i Gruff a Llyr oedd wedi ymdrechu’n ddi-stop drwy gydol y bore.

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 5 Bethel v Bontnewydd

Dim llawer o ‘fireworks’ ar ddiwrnod tân gwyllt wrth i Bethel ymosod yn gyson ond doedd y sgidiau saethu ddim ar eu traed heddiw a 0-0 oedd sgôr terfynol y gêm gyntaf. Er mwyn i bawb yn y gwrthwynebwyr gael gêm penderfynwyd cael 6 bob ochr. Roedd hyn yn golygu bod llai o le ar y cae ac roedd hyn yn gwneud hi’n anodd i basio’r bêl ond yn yr ail gêm fe ddaeth gôl o’r diwedd gan Iestyn i ennill o 1-0.

 

Dydd Sadwrn Hydref 29 Bethel v Llandwrog (H)

Chwarae’r tîm yn ôl i’r arfer heddiw wrth iddynt reoli’r gem a’r stats yn dangos bod Bethel yn gyson yn ymosod – ond y stats yn dweud celwyddau wrth i’r lwc droi a Llandwrog yn sgorio gyntaf hefo'r bel wedi gwyro o droed Gruff i mewn i rwyd ei hun. Camgymeriad yn yr amddiffyn ddaru arwain at gôl arall i Landwrog ond dyma Bethel yn ymosod yn ddi-stop wedyn. Daeth gôl yn ôl gan Iestyn ond hyd yn oed hefo ychwanegiad ‘Fergie-time’ daeth y cloc i achub yr ymwelwyr.

Yn yr ail gem roedd hi’n agos ond buddugoliaeth o 1-0 gafodd Bethel

 

Dydd Sadwrn Hydref 15 Mynydd Tigers v Bethel

Gem ‘frustrating’ bore ma oedd yn llawn cyfleoedd i Bethel ond y bas olaf syml byth yn cyrraedd pen ei siwrna. Enghreifftiau fel Gruff a Liam yn mynd am yr un bel gyda’r gol yn lled agored ac yna’n taro’r postyn oedd yr hanes wrth golli am y tro cyntaf y tymor yma o 4-2 (goliau gan Liam a Iestyn). Yn yr ail gem rhoddodd Jac ei enw ar flaen y ciw i ddechrau'r gem wythnos nesa gyda perfformiad dewr gyda llu o goliau (y rheolwr wedi colli cownt yn y diwedd!!)

 

Dydd Sadwrn Hydref 8 Bethel v Waunfawr (H)

Tywydd arbennig bore ma a safon y pel-droed gan Bethel hefyd yn disgleirio. Y tîm eto’n rheoli’r chwarae ac yn creu cyfle ar ol cyfle yn y gem gyntaf. 3-0 oedd y sgôr terfynol gyda Gruff, Iestyn a Llyr yn sgorio.

Yn yr ail gem roedd Gruff, Llyr a Iestyn yn eu tro yn rheoli’r amddiffyn fel eu bod wedi bod wrthi ers blynyddoedd ac o ganlyniad stopio’r gwrthwynebwyr i sgorio eto gyda Jac a Iestyn yn rhwydo am fuddugoliaeth o 2-0.

 

Dydd Sadwrn Hydref 1 Penrhosgarnedd v Bethel

Tywydd gwlyb yn ein gwynebu ni yn Bangor ar ddiwrnod cyntaf mis Hydref. Yn ogystal, roedd tîm Penrhosgarnedd wedi penderfynu dilyn awgrymiadau hurt Cynghrair Gwyrfai o ddefnyddio goliau anferth 12’ x 6’ i dimau dan 8 (!!) felly anodd oedd cadw record o beidio gadael gôl i mewn yn ystod y gem gyntaf heddiw.
Ceisio cadw’r bel i symud ar y llawr oedd meddylfryd Bethel eto ar gae trwm, gwlyb ac haeddiannol iawn oedd gem gyfartal o 3-3 gyda goliau gan Liam a Iestyn(2). Roedd Nia hefyd wedi creu argraff arbennig ar reolwr y gwrthwynebwyr gyda’i darllen o’r gem a cefnogi’r tîm.

Gem debyg iawn oedd yr ail un gyda Gruff tro yma yn rheoli’r chwarae yn y cefn a Llyr yn arwain yr amddiffyn yn arbennig.

Da iawn i bawb a digon o amser gyda traed mewn tail i dyfu’n fawr i lenwi’r goliau yma!!

 

Dydd Sadwrn Medi 24, 2016 Bethel v Segontiwm

Cae newydd (cae swings) yr wythnos yma gan fod y cae go iawn yn cael ei adnwewyddu ond daeth y tim i arfer hefo’r newid yn arbennig o dda gan reoli chwarae y gem gyntaf yn gyfangwbl a selio buddugoliaeth o 2-0. Iestyn a Llyr yn cyd-weithio’n arbennig o dda gyda ‘assists’ Iestyn yn caniatau i Llyr sgorio’r ddwy gol. Mi roedd cyfraniad Nia yn ganol cae a Liam yn amddiffyn (y ddau fel Beckenbauer!) yn werthfawr hefyd.

Mwy o amddiffyn oedd yn yr ail gem gyda Iestyn fel wal ddi-symud yn y cefn a Gruff yn arbed yn dda ond dwywaith ar y ‘counter-attack’ fe sgubodd Liam y bel yn arbennig i Iestyn redeg trwy’r amddiffyn a sgorio 2 i gael buddugoliaeth arall.

Mae’r safon yn parhau. Da iawn chi!

 

Dydd Sadwrn Medi 17, 2016 Bethel v Maes y Bryn

Tymor 2016-17 gyda cae mwy, goliau mwy a 5 bob ochr eleni – mae’r criw yma yn tyfu fyny yn gyflym!!

Tim cryf Maes y Bryn yn ymweld a’r cae top ond Bethel yn dechrau gyda brwdfrydedd a gwaith ar y cae ymarfer yn amlwg wrth i’r bel gael ei basio’n arbennig. Iestyn ddechreuodd y tymor ar dán gyda ‘hat-trick’ ond cefnogaeth arbennig gan weddill y tim. Liam oedd y sgoriwr arall mewn buddugoliaeth o 4 gol i 0.

Yn yr ail gem daeth Maes y Bryn nol iddi gyda buddugoliaeth ond cafodd bawb amser gwerthfawr ar y cae gyda nifer yn chwarae mewn safleoedd newydd y tymor yma.
Dechrau addawol iawn!


O dan 16

Croeso i dudalen y tim dan 16 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.


Canlyniadau 2016 - 2017

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3 2016

Bethel 6 - Penrhosgarnedd 1
Sgorwyr: Rhydian 2, Owain 2, Caio, Gethin

Perfformiad orau'r tymor gan Bethel, yn meistroli o'r cychwyn cyntaf ac yn parhau i gyd weithio a brwydro'n galed hyd at y diwedd. Cafwyd 2 gôl yn y hanner cyntaf, y gyntaf o gic gornel gan Callum a Rhydian yn penio i'r rhwyd a'r ail wedi pas wych gan Morgan i Owain i daro'r bel heibio'r gôl-geidwad. Yn wir oni bai am sawl arbed da gan y gôl-geidwad gallai wedi bod yn fwy. Yn yr ail hanner cyd chwarae da yn arwain at Caio i rwydo o ochr chwaith a cae ac yna Gethin yn plannu'r bel yn nghornel uchaf y rhwyd. Owain gafodd y 5ed yn sgorio ei ail o'r gem cyn i Bethel ildio, ond dyfalbarhad Rhydian yn arwain at y 6ed. Perfformiad a chanlyniad da i orffen ffwrdd yn 2016!


Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2016

Cwpan y gynghrair

Bethel 4 - Penrhos 2
Sgorwyr: Caio 2, Gethin, Gwilym

Gem cyntaf Bethel yn ei cartref dros dro ers mis Medi. Bethel yn dechrau yn dda wedi i symudiad cyflym o'r amddiffyn arwain at gyfle i Gethin rwydo. Daeth sawl cyfle arall ond Bethel methu manteisio gyda gôl geidwad Penrhos yn arbed yn dda, a daeth Penrhos yn nol gan sgorio dwywaith o fewn dim i arwain 2-1. Fel yna oedd y sgôr ymhell i mewn i'r ail hanner ond yn raddol dechreuodd Bethel ennill y brwydr yn nghanol y cae a daethant yn gyfartal wedi pêl da gan Owain, Gethin yn chwarae'r bêl i Caio i rwydo yn dda ar ôl curo'r amddiffynnwr. Gwilym gafodd y drydedd gyda gôl unigol wych, curo sawl un a taro ergyd cryf i'r rhwyd. Seliwyd y fuddugoliaeth wedi dyfalbarhad gan Huw a Rhydian ennill cig rhydd a Caio yn taro ergyd nerthol i'r rhwyd.


Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2016

Bethesda 2 - Bethel 2
Sgorwyr: Cian, Gwilym

Er bod Bethel wedi cael ei siar o'r chwarae y tîm cartref aeth ar y blaen wedi i Bethel fethu cau lawr ergyd o bell, ac er i Bethel ddyfalbarhau 1-0 oedd hi ar y'r hanner. Rheolodd Bethel y chwarae yn yr ail hanner a daethant yn gyfartal wedi i Cian benio cig gornel Caio ond yn anffodus yn ildio eto. Gyda'r amser yn prinhau dangosodd Bethel gymeriad drwy ddod nol eto gyda peniad gan Gwilym o gic gornel arall Caio. Dim ond gol-geidwad Bethesda oedd rhwng Bethel a buddigoliaeth ond Bethel yn haeddiannol yn cael gem gyfartal.


22 Hydref 2016

NWCFA/Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Penrhyndeudraeth 4 - Bethel 2

Sgorwyr: Gethin, Owain

Perfformiad campus gan Bethel oedd wedi haeddu cael rhywbeth allan o'r gem ond dwy gôl hwyr yn selio'r fuddigoliaeth i Penrhyn.


15 Hydref 2016

Mynydd Tigers 6 - Bethel 5
Sgorwyr: Gethin 2, Huw, Caio, Owain


1 Hydref 2016

NWCFA/Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Cae Glyn 3 - Bethel 4
Sgorwyr: Caio, Gethin, Morgan, Owain

Bethel yn synnu'r gwrthwynebwyr oedd wedi ei curo y penwythnos cynt. Daeth y gôl gyntaf o'r smotyn gyda Caio yn sgorio ond daeth Cae Glyn yn nol. Cyn yr hanner pasiodd Owain i Gethin sgorio. Yn yr ail hanner sgoriodd Morgan gôl wych o bell cyn i Owain benio pel dros y gôl-geidwad i wneud hi'n 4. Gwrthsefodd Bethel bwysa gan Cae Glyn i gael buddigoliaeth gwych!


24 Medi 2016
Cae Glyn 8 - Bethel 0


17 Medi 2016
Bethel 0 - Llanberis 7


10 Medi 2016
Bethel 5 - Talsarn 7

Sgorwyr: Gethin 4, Caio