Archif Tymhorau 2007/08

Noson Wobrwyo Clwb 2008

cliciwch ar y llun am fwy o luniau...

BARRIT CUP 1st Round
Llanystunmdwy v Bethel ( Saturday 22nd November )


CYNGHRAIR GWYNEDD

Tabl y Gynghrair (31/05/08)

Canlyniadau

- 31/05/08

 

Canlyniadau

Sadwrn Mai 24 2008
Gem Gyngrhair
Bethel 3 Blaenau Ffestiniog Amateurs 2
Ian Plemming 30/36
Darren Phillips 43


Sadwrn Mai 17 2008
Gem Gyngrhair
Barmouth & Dyffryn United 4 Bethel 1
Derfel Williams 65


Mercher Mai 14 2008
Tarian Eryri Ffeinal @ Porthmadog F C
Bethel 3 v 4 Barmouth & Dyffryn United
AFTER EXTRA TIME
Martin Watkinson 18
Jamie Whitemore 25
Irfon Hughes 113


Sadwrn, Mai 10fed 2008
Blaenau Ffestiniog Amateurs 1 v 2 Bethel
Gavin Jennings 43
Jamie Whitemore 76

Mercher, Mai 7fed 2008
Tarian Eryri Semi-Final - Beaumaris Town 0 v 2 Bethel
Darren Phillips 54
Gavin Jennings 65


Sadwrn Mai 3ydd 2008
Bethel 2- 1 Real Llandudno
Gavin Jennings 50
Morgan Roberts 88


Sadwrn, Ebrill 26 2008
Bethel 4 Llanystumdwy 2
Martin Watkinson 23
Darren Phillips 30
Irfon Hughes 33/48


Sadwrn Ebrill 19 2008
Barmouth & Dyffryn United 1 v 0 Bethel


Sadwrn Ebrill 12fed 2008
Llanllyfni 3 v 2 Bethel
Andrew Davies 20/28


Nos Iau, Ebrill 10fed 2008
Beaumaris Town 3 - Bethel 3
Gavin Jennings 55, Darren Phillips 68 pen, Huw Owens 73


Nos Fawrth, Ebrill 8fed 2008
Holyhead Hotspur 0 - 2 Bethel
Jamie Whitemore 55, Huw Owen 74


Dydd Sadwrn , Ebrill 5ed 2008
Beaumaris Town - Bethel
wedi ei ohirio


Nos Fawrth, Ebrill 1af 2008
Bethel 1 - Llanllyfni 0

Jamie Whitemore 70


Dydd Llun Mawrth 24 2008
Bodedern 1 v 5 Bethel
Kevin Hughes 11 o/g
Ian Plemming 14/90
Darren Phillips 23
Jamie Whitemore 51


Dydd Sadwrn Mawrth 22 2008
Llanfairfechan Town 4 v 2 Bethel

Gavin Jones 15
Jamie Whitemore 40


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Bethel 1 - Bermo a Dyffryn 5


Canlyniad siomedig rhwng dau dîm agos i’w gilydd o ran safon eu chwarae ond pob clod i bermo am gymryd y cyfleoedd a ddaeth i’w rhan. Ian Plemming sgoriodd unig gôl Bethel.


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Presidents Cup Round 1

Barmouth & Dyffryn United P - Bethel P
Gohirwyd y gêm oherwydd cyflwr cae Bermo.


Dydd Sadwrn 23.02.2008

Tarian Eryri Rownd 2
Bethel 6  v 1 Real Llandudno         
Huw Owens 5
Jamie Whitemore 15/47
Ian Plemming 18/75
Darren Phillips 44 pen

Yn dilyn colli y ddwy gêm flaenorol roedd Bethel yn falch o brofi buddugoliaeth eto yn erbyn tîm penderfynol Llandudno. Ymroddodd y ddau dîm i’r gêm gyda thân a balchder ond rhoddodd tair gôl o fewn deunaw munud y fuddugoliaeth o fewn gafael Bethel yn gynnar iawn ac roedd gormod o brofiad ar y cae i adael i hwnnw lithro o’u gafael.



Nos Fawrth, 19eg o Chwefror 2008
Porthmadog 5 - Bethel 2


Dydd Sadwrn, 16eg o Chwefror 2008
Trydydd Rownd Cwpan Barritt

Bethel 2 - Bethesda Athletic 10
Wedi i Fethel wneud mor dda i gyrraedd y rownd hwn o’r gwpan cafwyd hunllef o brynhawn ar Gae Coed Bolyn yn erbyn tîm trefnus Bethesda. Anaf i’r golgeidwad dibynnol Iolo yn gorfodi’r rheolwr i fynd rhwng y pyst i Fethel ac yna, wedi deg munud o chwarae, Ian Plemming (prif sgoriwr Bethel y tymor hwn) yn gorfod gadael y cae gydag anaf. Er i’r hogia geisio cadw patrwm i’w gêm gwelodd Bethesda eu cyfle yn gynnar iawn a rhoi pwysau ar y gôl gan wneud pethau’n anodd iawn i’r amddiffyn.  Roedd dwy gôl gysur gan Jamie Whitemore (42/82) yn profi fod y galon a’r ysbryd yno o hyd gan y tîm er gwaetha’r ffaith iddi fod yn amlwg wedi’r deg munud cyntaf fod y lwc i gyd gyda Bethesda heddiw.

SGORIWR: Jamie Whitemore (42/82)


Dydd Sadwrn, 9fed o Chwefror 2008

Bontnewydd 1 - Bethel 3
Buddugoliaeth oddi cartref i Fethel. Bontnewydd aeth ar y blaen ar ol 20 munud ond yna cyn hanner amser sgoriodd Darren Phillips i ddod a Bethel yn gyfartal. Gavin Jennings yn sgorio 2 gol yn yr ail hanner i selio'r fuddugoliaeth a'r 3 phwynt i Fethel.

SGORWYR: Darren Phillips 40, Gavin Jennings 75/81


Nos Fawrth, 5ed o Chwefror, 2008
Bethel 2 - Prifysgol Cymru Bangor 1

SGORIWR: Ian Plemming 24/40


Dydd Sadwrn, 2il o Chwefror, 2008
Llangefni 2 - Bethel 6

Yn gyfartal ar hanner amser wedi goliau gan Irfon Hughes ac Andrew Davies daeth yr hogia allan am yr ail hanner wedi eu tanio gan y rheolwr. Wedi i Ian Plemming roi'r hogia ar y blaen wedi munud o'r ail hanner, cafwyd gol wych ar ei gem lawn gyntaf i'r clwb gan Owain Morris deg munud wedi hynny. Gwnaed y gem yn ddiogel gyda goliau gan Darren Phillips ac Ian Pleming.


Dydd Sadwrn, 26ain o Ionawr, 2008
Gem Cynghrair
Real Llandudno 0 - Bethel 3

SGORWYR: Jamie Whitemore 55/73, Andrew Davies 60
Tri phwynt arall i Fethel ar ôl buddugoliaeth oddi cartref yn Llandudno.


Dydd Sadwrn, 19eg o Ionawr, 2008
Rownd 2, Cwpan Barritt

Bethel 3 - Hollywell Town 0

SGORWYR: Ian Plemming 2, Jamie Whitmore 1


Dydd Sadwrn, 5ed o Ionawr, 2008
Bethel 13 – Cemaes Bay 0
SGORWYR: Ian Plemming 5,Huw Owens 2 Jamie Whitmore 2 Andrew Davies, Andrew Williams, Darren Phillips, Gavin Jones.

Gêm unochrog gyda’r sgôr yn dangos hynny yn erbyn tîm ifanc a di-brofiad Cemaes.


Dydd Sadwrn, Rhagfyr 22ain 2007
Bethel 1 – Llangefni Town Reserves 3

Llangefni yn rhwydo yn ei gôl ei hun.


Nos Fawrth, 11eg o Ragfyr
Prifysgol Cymru Bangor 1 - Bethel 2

SGORWYR: Jamie Whitemore (17) a Gavin Jennings (20)


Dydd Sadwrn, 24ain o Dachwedd
Cwpan Gwynedd John Smiths

Bethel 4 - Bodedern Res 4
(Wedi amser ychwanegol – colli ar benaltis)

SGORWYR: Ian Pleming (2), Darren Phillips a Jamie Whitemore


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Rownd 1, Cwpan Barritt

Bethel 6 Halkyn United 2
Gwell perfformiad o lawer yr wythnos yma yn erbyn tîm ym mhrif gynghrair Clwyd. Mae symudiad Bethel wrth fynd ymlaen yn anodd amddiffyn yn ei erbyn. Roedd cyflymdra Ian Pleming a Jamie Whitmore yn cadw  Halkyn ar y droed ôl ac Irfon Hughes (capten) a Darren Phillips yn y cefn yn arwrol. Ond perfformiad tîm oedd hwn, yn enwedig felly yn yr ail hanner gyda phob chwraewr oedd ar y cae i Fethel yn cyfrannu i’r fuddugoliaeth. Da oedd gweld Sion Foulkes yn dod ymlaen gyda deg munud i fynd, dyn ifanc yn camu’n falch i’r cae gyda’r dynion wedi bwrw ei brentisiaeth gyda’r clwb ieuenctid ers yn bump oed.

SGORWYR: Darren Phillips, Jamie Whitemore (2), Ian Pleming, Sion Jones a Gavin Jennings.


Dydd Sadwrn, Tachwedd 3ydd
Trydydd Rownd Cwpan Iau Cymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 1 - Caernarfon Wanderers 2
Dangosodd y Wanderers pam eu bod mor anodd i'w curo drwy chwarae gyda chalon ac ymroddiad wrth ymweld a chae Coed Bolyn ddydd Sadwrn. Er i'n hogia ni greu sawl siawns i roi'r gem tu hwnt iddynt, doedd y Cofis ddim am ildio'i gafael. Gyda munudau yn unig i fynd, sgoriwyd gol gan Caernarfon i'w gwneud yn 2 i 1 a rhoi Bethel allan o'r gwpan. Pob lwc i'r Wanderers yn y rownd nesaf. Y sgoriwr i Fethel oedd Jamie Whitemore.


Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
TARIAN ERYRI
Bethel 5 - Tref Llangefni (Reserves) 3
Torf dda o’r pentref yn dod i weld y dynion ar brynhawn braf o Hydref wrth i dref Llangefni ymweld â chae Coed Bolyn. Chwythu’n boeth ac oer oedd y chwarae gan ei gwneud yn anodd iawn i’r ddau dîm gael gafael iawn ar y gêm. Profiad Bethel oedd y gwahaniaeth yn y pendraw gan iddynt gadw’i pennau er gwaethaf pwysau gan Llangefni i sicrhau’r fuddugoliaeth yn chwarter ola’r gêm.
Y sgorwyr i Fethel oedd : Gethin Davies (OG) 8 mun; Andrew Davies (32 mun); Jamie Whitemore (67 mun); Huw Owens (68 mun); Gavin Jennings (77 mun).


Dydd Sadwrn, Hydref 13eg
Llanystumdwy 1 Bethel 6
Perfformiad gwych heddiw yn erbyn y tîm sydd ail yn y gynghrair. Gyda Gaerwen odd tanynt hefyd yn colli mae’r ras am y gynghrair yn poethi gyda Bethel yn edrych yn barod i roi sialens am y brig. Y sgorwyr i Fethel oedd: Jamie Whitmore (2); Darren Phillips(Penalti); Dewi O; Gavin Jennings; Sion Rhys.


Dydd Sadwrn, Hydref 6ed
Ail rownd Cwpan Iau Cymdeithas Pêl-droed Arfodir Gogledd Cymru
Holyhead Gwelfor Athletic 3 – Bethel 4
Gêm gorfforol oedd yn gofyn i’r hogia ddangos asgwrn cefn wrth amddiffyn ac ymosod. Goliau gan I. Pleming (Chops 2), Gavin a Jamie Whitmore yn dod â buddugoliaeth yn y diwedd a lle yn y rownd nesaf.


Dydd Sadwrn, Medi 20fed
Gaerwen 4 – Bethel 1
Canlyniad siomedig wedi cychwyn arbennig o dda i’r tymor hyd yma. Gôl gysur gan Chops ond Gaerwen yn manteisio ar anlwc a chamgymeriadau i sgorio pedair.


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Bethel 6 – Hotspurs Caergybi 1
Buddugoliaeth gwbl haeddiannol ar Gae Coed Bolyn yn erbyn Caergybi gyda nifer o bobl leol wedi dod yno i gefnogi’r tîm. Y sgorwyr i Fethel oedd Irfon Hughes (4), Jamie Whitmore (35), Gavin Jennings (43), Darren Phillips (59 – pen), Ian Pleming (61,70)


Dydd Sadwrn Medi 15fed ~ Cwpan Iau Cymdeithas Pêl-droed Arfodir Gogledd Cymru
Bethel 3 -1 Abergele Rovers
(Adam Cruise –Abergele 2funud);Ian Pleming (41,86) Jamie Whitmore(65)
Pencampwyr Cynghrair 1 Clwyd llynedd a cheffylau blaen Uwch Cynghrair Clwyd eleni yn ymweld â chae Coed Bolyn ddydd Sadwrn a phawb yn rhagweld chwip o gêm gan i Fethel gael cystal cychwyn i’w tymor hwythau. Yr ymwelwyr yn cael cychwyn delfrydol gan sgorio drwy Adam Cruise wedi dau funud yn unig o’r chwarae. Taniodd hyn Bethel a chafwyd sawl ymosodiad ar gôl Abergele am weddill yr hanner. Daeth yr hogiau’n gyfartal munudau cyn yr egwyl gyda gôl gan Chops. Brwydr galed yn yr ail hanner gyda’r ddau dîm yn cael cyfnodau da iawn o chwarae gan roi gwerth am arian i’r dorf ddaeth i weld y gêm. Gôl arbennig wedyn gan Jamie Whitmore a ergydiodd y bêl i’r rhwyd wedi croesiad gan Chops. Brwydrodd Abergele nôl a chafwyd sawl arbediad rhyfeddol gan Iolo Roberts yn y gôl i Fethel cyn i Chops sgorio eto i dorri calonau’r ymwelwyr.


Dydd Llun Awst 27
Cemaes Bay 0 - 5 Bethel
Bethel yn dathlu ar ol buddugoliaeth haeddiannol. Ian Plemming yn sgorio hatrick, y sgorwyr eraill oedd Andrew Davies a Darren Phillips.


Dydd Sadwrn, Awst 24ain
BETHEL 2 BODEDERN 2
Torf deilwng unwaith eto i weld yr ymwelwyr o Boded yn rhoi sialens dda iawn i record gartref diguro’r hogia. Bu ymosodiad ar ôl ymosodiad ar gôl Bodedern yn ystod y gêm ond cafwyd dwy gôl glasurol gan flaenwyr cyflym yr ymwelwyr wrth iddynt dorri o’r amddiffyn i ymosod. Ond ni lwyddwyd i dorri ysbryd Bethel a ddaeth nôl yn gryfach fyth wedi ail gôl yr ymwelwyr i gael gêm gyfartal. Y sgorwyr i Fethel oedd Gavin Jennings (17 munud) ac Andrew Gibson (82). Diolch i bawb ddaeth yno i gefnogi.


Nos Fercher, Awst 22ain
Bethel 3 Bontnewydd 2
Noson braf anghyffredin ar gyfer ymweliad hogiau Bontnewydd gyda phawb yn barod am gêm gyffrous arall ar gae Coed Bolyn. Ni chafodd neb eu siomi wrth i'r ddwy ochr fynd ati i ymosod yn ddi-baid ar gôl y gwrthwynebwyr . Doedd dim syndod felly i'r gêm ildio pum gôl ar gyfer y dorf gyda Irfon Hughes ac Ian Pleming (2) yn rhwydo i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i Fethel wedi gêm gystadleuol a chaled.


Dydd Sadwn Awst 18fed
Bethel 3 Porthmadog 2
Gêm hynod o gyffrous gyda'r ddwy ochr yn barod i ymosod gan rhoi gwledd o bêl-droed i'r sawl aeth i gefnogi. Wedi goliau gan Ian Pleming a Guto Llywelyn brwydrodd hogiau Eifionydd nôl ar ddau achlysur gan unioni'r sgôr cyn i Ian Pleming selio'r fuddugoliaeth gyda deg munud i fynd.
A very exciting game with both attack minded teams producing a feast of football for those who came to support. Following goals from Ian Pleming and Guto Llywelyn, the Eifionydd boys battled back on two occasions to level the score before Ian Pleming scored again to seal the victory with ten minutes left to play.


Dydd Sadwrn 11/08/07
Bethel 2 – Tref Biwmaris 0
Wedi gwaith caled gan sawl un yn yr wythnosau diwethaf roedd y cae a'r ystafelloedd newid yn edrych yn hynod broffesiynol ar gyfer gêm cyntaf y tîm dynion yng nghyngrair Gwynedd.
Cafwyd torf deilwng iawn yng Nghae Coed Bolyn ar gyfer gêm yn erbyn Tref Biwmaris dydd Sadwrn, Awst 11eg, 2007. Roedd yn gychwyn tanllyd i dîm ifanc Bethel gyda Biwmaris yn benderfynol o ddifetha'r dathlu drwy greu ymosodiad ar ôl ymosodiad ar gôl y tîm cartref. Ond roedd yr amddiffyn yn gadarn a thorrodd Bethel yn beryglus i ymosod ar gôl yr ymwelwyr ar sawl achlysur gyda Jamie Whitmore yn rhwydo wedi 13 munud. Wedi gwaith da gan yr holl dîm unwaith eto yn yr ail hanner, sgoriodd Jamie Whitmore ail gôl i Fethel gan roi buddugoliaeth o 2 -0. I gael blas o'r achlysur hanesyddol hwn clicwch yma i weld lluniau .

Buddugoliaeth felly, yn wobr wedi'r holl waith caled a wnaed gan aelodau'r pwyllgor a chefnogwyr y timau Ieuenctid a'r tim Dynion i baratoi y cae ar gyfer pêl-droed i holl aelodau'r clwb. Dowch draw i gefnogi nos Fawrth (6.00pm) ar gyfer gêm nesa'r dynion yn erbyn Llanllyfni.


Gem Gyfeillgar ~ Nos Fawrth Gorffennaf 31
Llanberis 1 - Bethel 2
Gem gyfeillgar olaf yr haf cyn i'r tymor pel droed gychwyn o ddifri ar Awst 11. Buddugoliaeth i Fethel.

 

Mae 2 dim dan 15 oed eleni – Bethel a Bethel Glas.

Bethel 2007/08
Bethel Glas 2007/08


Tîm dan 15eg Bethel, pencampwyr cynghrair Gwyrfai 2007/2008 ac enillwyr Cwpan Gwyrfai 2008.

Cliciwch y llun i'w chwyddo

cliciwch yma am fwy o luniau.

Canlyniadau:

Bethel dan 15 oed yn cipio’r dwbwl!
Pencampwyr y gynghrair a Chwpan y Gynghrair.
Llongyfarchiadau mawr i’r tim dan 15 oed a’u rheolwr am dymor mor llwyddiannus. Maent bellach yn bencampwyr Cynghrair Gwyrfai a phencampwyr Cwpan y Gynghrair


Nos Wener Mehefin 6ed
Cae Glyn 0 – Bethel 1

Dyfan Coles yn sgorio i Fethel yn ail hanner y gem i selio’r fuddugoliaeth i Fethel.

Hon oedd gêm olaf y tymor ac roedd hen ddathlu ar y chwiban olaf. Ymhob cystadleuaeth yng Nghyngrair Gwyrfai roedd y tîm yn ddiguro, enillwyd pob gêm namyn un a chafwyd un gêm gyfartal . Cyrhaeddodd y tîm rownd gyn derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru gan golli yn erbyn Rhyl, ffefrynnau am y gwpan.


Dydd Sadwrn Mai 31
Bethel 5 – Felinheli 0
Bethel yn parhau yn ddiguro yn y Gynghrair ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Felinheli.
Sgorwyr: Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Louis Williams a Gerallt Jones.
Dim ond un gêm gynghrair sydd ganddynt ar ôl i chwarae yn erbyn Cae Glyn, Nos Wener Mehefin 6ed.


Nos Iau, Mai 29
Bethel 1 – Nantlle Vale 0
Gêm agos iawn rhwng y dau dîm heno oedd yn cyfarfod am yr ail waith yr wythnos hon. Ben Parker yn sgorio unig gôl y gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth i Fethel.


Cwpan Cynghrair Gwyrfai dan 15oed – Nos Fawrth Mai 27ain 2008

Bethel 5 – Nantlle Vale 1
Chwaraewyd y gêm ar gae Caernarfon Wanderers. Gyda Gavin, y gôl geidwad dawnus a dibynnol, yn methu chwarae oherwydd anaf aeth Louis Williams i’r gôl. Bethel aeth ar y blaen gyda gôl gan Stephen Taylor ac o’r foment honno roedd Nantlle Vale ar y droed ôl. Er i Fethel sgorio ail gôl yn fuan wedi’r gyntaf brwydrodd Vale nôl i sgorio gydag ergyd wych o ganol cae. Roedd hynny’n ddigon i symbylu Bethel i weithio’n galetach a chafwyd gôl arall ganddynt i sicrhau nad oedd ffordd nol i fechgyn y Dyffryn. Gorffenwyd y gêm gyda foli arbennig i gefn y rhwyd gan Gwion Williams.
Y sgorwyr i Fethel oedd: Stephen Taylor (2), Gethin Maxwell, Steffan Bullock and Gwion Williams.

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo

Nos Wener, Mai 17eg
Nantlle Vale 0 – Bethel 1
Sgorwyd i Fethel gan Gethin Maxwell.


THE NEWTON ATHLETIC F.C. TOURNAMENT 2008

Chester Racecourse 25/5/08

GROUP A BETHEL BLUES 2 V NEWTON ATHLETIC O
SCORERS:Ryan Jones & Cai Jones

GROUP A BETHEL BLUES 0 V ASHVILLE 'B' 0

GROUP A BETHEL BLUES 1 V LISCARD PANTHERS 0
SCORERS:Ryan Jones

GROUP A BETHEL BLUES 1 V GREAT MOOR 0
SCORER:Adam Hughes

GROUP A BETHEL BLUES 2 V PRESTATYN UNITED 0
SCORERS:Gruffydd John & Ryan Jones

GROUP A BETHEL BLUES 3 V MALPAS 0
SCORERS:Ryan Jones 2 & Cai Jones

GROUP A BETHEL BLUES 2 V PRINCESS VILLA 1
SCORER:Daniel Bell 2

BETHEL WON THE GROUP BY FOUR POINTS

SEMI FINAL BETHEL BLUES 1 V ASHVILLE 'A' 0
SCORER:Ryan Jones

FINAL BETHEL BLUES 2 V GREAT MOOR 0
SCORERS:Daniel Bell & Own Goal


Ffeinal Cwpan Chwarae Teg – Cynghrair Gwyrfai dan 15 oed - 16/5/08
Bethel Glas 3 – Penrhosgarnedd 2
Gydag absenoldeb y capten Daniel Bell ac anaf gan Cai Weightman roedd gan Bethel dim tipyn gwanach i wynebu Penrhosgarnedd. Bethel aeth ar y blaen er hynny gyda gôl gan Ryan Jones a gwelwyd chwarae pêl-droed o safon gan y bechgyn a daeth eu hail gôl yn fuan gan Alex Jones. Yna sgoriodd Penrhos cyn i Ryan sgorio’r drydedd gôl i Fethel o groesiad gan Joe Holding. Aeth Joe ymlaen i sgorio gôl ond ni chafodd ei chaniatau. Hanner amser 3 – 1.
Brwydrodd Penrhos yn galed yn yr ail hanner a llwyddodd Liam i wneud sawl arbediad neu byddent wedi dod yn gyfartal a Bethel. Mi lwyddodd Penrhos i sgorio ac roedd yn rhaid i Bethel amddiffyn yn galed i ennill y gem.
Bethel felly yn ennill y gwpan . Tomos Emlyn yr is Gapten gafodd godi’r gwpan.
Llongyfarchiadau iddynt ar dymor mor dda.
Bydd y tîm yn chwarae yn Nhwrnament Newton Athletic, dydd Sul nesaf.

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo

Twrnament Blackpool Mai 9 -11 2008

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo


Bethel Glas 1 v Cramlington Cobras (N.East) 1
Sgoriwr: Ryan Jones.

Bethel Glas 4 v Northowram Juniors (Halifax) 0
Sgoriwr: Joe Holding 2,Adam Hughes,Alex Jones.

Bethel Glas 1 v Pendle Forest (Burnley) 1
Sgoriwr: Daniel Bell.

Bethel Glas 1 v Heckmondwike Juniors (W.Yorks) 1
Sgoriwr:Joe Holding.

Bethel Glas 4 v Bramhall North (Cheshire) 0
Scorers:Alex Jones,Daniel Bell,Joe Holding,Ashley Frazer.

Rownd yr wyth olaf
Bethel Blues 3 v Blackpool Rangers 0
Sgorwyr: Cai Jones, Alex Jones & Ryan Jones.

Semi Ffeinal
Bethel Glas 1 v Pendle Forest 1
Sgoriwr:Joe Holding.
Bethel yn curo 6-5 ar penaltis
Sgorwyr y penaltis :Daniel Bell,Tom McPartland,Ryan Jones, Gruffydd John, Alex Jones & Tomos Emlyn.

Ffeinal
Bethel Glas 2 v Heckmondwike Juniors 0
Sgorwyr: Cai Jones & Joe Holding.

Bethel yw’r tim cyntaf o Gymru I ennill y twrnament!  


Nos Fawrth Mai 6ed
Bethel 1 – Bontnewydd 0
Buddugoliaeth arall i Fethel gyda Richard Cashman yn sgorio unig gôl y gêm.


Nos Fercher Mai 7fed
Bethel Glas 2 – Cae Glyn 5

Bethel oedd yn llwyr rheoli’r gem am yr 20 munud cyntaf gan fynd ar y blaen gyda gôl gan Ryan Jones. Ryan sgoriodd yr ail i Fethel o groesiad gan Alex Jones. Oherwydd camgymeriadau gan amddiffyn Bethel llwyddodd Cae Glyn i fynd ymlaen i sgorio 3 gôl cyn hanner amser.
Er i Bethel gael sawl cyfle am gôl yn yr ail hanner, ni lwyddwyd i sgorio. Aeth Cae Glyn ymlaen i sgorio 2 gôl arall cyn ddiwedd y gêm.

Bydd Bethel Glas yn cymryd rhan mewn twrnament yn Blackpool dros y penwythnos. Pob lwc hogia a mwynhewch.


Rownd gyn-derfynol Cwpan Chwarae Teg – ar gae Bontnewydd
Nos Iau Mai 1af

Bethel Glas 6 – Felinheli 0

Bethel yn llwyr haeddu eu lle yn y ffeinal ar ôl chwarae pêl-droed o safon. Daniel Bell sgoriodd y gôl gyntaf i Fethel, gyda Gruffydd John yn sgorio’r ail. Sgôr ar hanner amser oedd 2 – 0 i Fethel.
Yn yr ail hanner sgoriodd Daniel ei ail gôl ar ôl croesiad gan Gruffydd. Yna daeth gôl y gêm gan Ryan Jones o 25 llath. Ryan sgoriodd y 5ed hefyd ar ôl croesiad gan Daniel. Jamie Stevens yn dod yn agos at sgorio ond yn taro’r trawst. Aeth Daniel ymlaen i sgorio eto ei drydedd yn y gêm ar ôl croesiad gan Ashley Frazer.
Pob lwc yn y ffeinal.
Sgorwyr : Daniel Bell 3, Ryan Jones 2, Gruffydd John.


Nos Wener Ebrill 25
Llanberis 1 v Bethel Glas 1
Bethel yn gorfod bodloni ar gêm gyfartal eto yn erbyn Llanber. Cafodd Bethel sawl cyfle am gôl a chafwyd sawl arbediad gwych gan goli Llanber cyn i Joe Holding roi Bethel ar y blaen. Tarrodd Llanberis yn ôl ar ol 5 munud o’r ail hanner i ddod yn gyfartal. Roedd gobaith y byddai Bethel yn sgorio eto ond er gwaethaf pêl-droed gwych gan yr hogia ni ddaeth gôl arall i’w rhan.
Sgoriwr:Joe Holding
Nos Wener Ebrill 25
Rownd Gyn derfynol Cwpan Cynghrair Gwyrfai

Bethel 4 – Cae Glyn 3 (wedi amser ychwanegol)

Cafodd y gêm ei chwarae ar gae pêl droed y Felinheli. Gêm gyffrous iawn rhwng dau o dimau gorau’r gynghrair. Bethel yn mynd ar y blaen o 2 -0 gyda dwy gôl gan Steffan Bullock. Brwydrodd Cae Glyn i ddod yn ôl i’r gêm gan lwyddo i sgorio 3 gôl ac roedd y fuddugoliaeth o fewn eu cyrraedd. Yna gydag ond ychydig funudau i fynd sgoriodd Gwion Williams gôl gyda foli o’r hanner ffordd i ddod a Bethel yn gyfartal. Bu rhaid chwarae amser ychwanegol er mwyn setlo pethau. Mewn gêm hynod o glos sgoriodd Steffan Bullock ei drydedd gan roi Bethel ar y blaen a lle iddynt yn y rownd derfynol. Llongyfarchiadau Bethel a phob lwc yn y ffeinal. Diolch i Cae Glyn am gyfrannu i gêm o safon uchel.


Nos Fercher Ebrill 23
Bethel 1 – Cae Glyn 0
Sgoriwr: Steffan Bullock.

Felinheli 0 – Bethel Glas 10
Sgorwyr:Joseph Holding 2,Gruffydd John 2,Ryan Jones 2,Tom McPartland,Ashley Frazer,Jamie Stevens,1 o.g.


Nos Wener Ebrill 18
Bethel 5 – Llanberis 0
Sgorwyr: Steffan Bullock, Dyfan Coles, Louise Williams , Gethin Maxwell.


Nos Fercher Ebrill 16
Nantlle Vale  0 – Bethel Glas 2
Perfformiad ardderchog gan y tîm heno mewn gêm gorfforol anodd. Gyda gôl geidwad arferol y tîm yn sâl aeth Aaron Gwyn  i’r gôl a symudwyd Gruffydd John i’ ganol yr amddiffyn am y tro cyntaf ond gwnaeth y ddau eu gwaith yn ardderchog. Roedd amddiffyn Bethel yn gadarn iawn drwy’r gêm. Bethel aeth ar y blaen hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf gyda gôl gan Ryan Jones ar ôl croesiad gan Daniel Bell.
Yn yr ail hanner sgoriodd  Cai Weightman ar ôl dod ymlaen fel eilydd ar ôl cyd chwarae da rhyngddo ac Alex Jones.
Sgorwyr: Ryan Jones & Cai Weightman.  


Nos Fercher Ebrill 9fed
Dan 15 oed
Bethel Glas 3 – Felinheli 0
Buddugoliaeth i’r Gleision yn eu codi i’r ail safle yn nhabl y Gynghrair. Tom McPortland yn rhoi Bethel ar y blaen tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf. Alex Jones sgoriodd yr ail gôl i Fethel ychydig cyn hanner amser. Sgôr ar hanner amser oedd 2 -0 i Fethel.
Bethel yn cael sawl ymgais am gôl yn yr ail hanner ond roedd gôl geidwad Felin Carwyn Eddy ar ei orau. Llwyddodd Cai Jones sgorio  i Fethel cyn ddiwedd y gêm.
Sgorwyr: Tom McParland, Alex Jones a Cai Jones.

4 Uchaf Cynghrair Gwyrfai 10/4/08 dan 15 oed

                            Pl    W    D    L    F   A   Pts
BETHEL                7     6     1    0   28   1    19
BETHEL GLAS      11    6     1    4   39   15   19
CAE GLYN UTD     7    6     0    1   32    8   18
NANTLLE VALE     7    6     0    1   22   10   18


Dydd Sadwrn, Ebrill 5ed 2008
Rownd Gyn derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru


Bethel 2 – Rhyl Hearts 5
Bethel yn colli heddiw yn erbyn tim cryf Rhyl. Llwyddodd Rhyl i fynd ar y blaen tua 10 munud cyn hanner amser. Yn fuan yn yr ail hanner sgoriodd Rhyl eu hail gôl cyn i Dyfan Coles sgorio i Fethel a chodi calon y bechgyn. Aeth Rhyl ymlaen i sgorio eu trydydd gôl cyn i Dyfan sgorio ei ail gôl i Fethel. Rhyl yn llwyddo i sgorio dwy arall cyn diwedd y gêm.

SGORIWR: Dyfan Coles 2


Nos Fawrth Mawrth 18
Bethel 1 - Bethel Glas 0


Gêm agos dros ben gyda Bethel Glas yn ennill y frwydr ganol cae dro ar ôl tro gan roi pwysau mawr ar bedwar cefn Bethel drwy gydol y chwarae. Er hyn roedd lwc a dyfalbarhad ar ochr Bethel y tro hwn gyda gôl gan Gethin Maxwell wedi 50 munud yn rhoi’r fuddugoliaeth iddynt.


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Bethel Glas 2 - Cae Glyn United 2  (8-9 ar benaltis)

Gêm gwpan gyffrous iawn ar noson oer a glawog. Bethel aeth ar y blaen  gyda gôl gan Ryan Jones yn gynnar yn yr hanner cyntaf. Daeth Cae Glyn yn ôl i sgorio dwy gôl cyn hanner amser, un o benalti ar ôl trosedd gan gôl geidwad Bethel ar un o flaenwyr Cae Glyn. Sgôr ar hanner amser 1: 2.
Roedd y chwarae’n eithaf cyfartal ar ddechrau’r ail hanner. Yna sgoriodd Daniel Bell i ddod a Bethel yn gyfartal. Er i’r ddau dim ymdrechu’n galed, gyda’r tywydd yn gwaethygu a hithau’n tywyllu, ofer fu ymdrech y ddau dim am gôl. Yn anffodus bu rhaid setlo pethau hefo penaltis. Cae Glyn yn fuddugol o 9 i 8. 
SGORWYR: Ryan Jones & Daniel Bell.

Scorwyr y penaltis: Daniel Bell, Tom McPartland, Cai Jones, Alex Jones, Aaron Gwyn, Tomos Emlyn, Joe Holding & Adam Hughes


Dydd Sadwrn, Mawrth 8fed 2008
Cwpan y Gynghrair

Penrhosgarnedd 0 – Bethel 6
Bethel yn haeddu eu lle yn semi ffeinal Cwpan y Gynghrair wedi buddugolieth yn erbyn Penrhos. Er i’r ddau dîm frwydro yn erbyn gwynt cryf a chae trwm wedi’r glaw noson gynt cafwyd gêm ddifyr o safon uchel. Daeth uchafbwynt y gêm yn gynnar yn yr hanner cyntaf gydag arbediad gwych gan golgeidwad Bethel, Gavin Williams, o gic o’r smotyn gan Benrhos. Aeth Bethel ymlaen o nerth i nerth wedi’r arbediad ysbrydoledig hwnnw!
SGORWYR: Gwion Williams,  Steffan Bullock,  Mathew Williams 2, Gerallt Jones, Ben Parker


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Bethel Glas 1 -Llanberis 1

Bethel yn gorfod bodloni ar gêm gyfartal y bore ma. Bethel yn cael sawl cyfle am gôl ar ddechrau’r gêm ond roedd gôl geidwad Llanber ar ei orau. Llanberis aeth ar y blaen,ond ychydig cyn diwedd yr hanner amser sgoriodd Ryan Jones i ddod a Bethel yn gyfartal.
Yn yr ail hanner chafodd Bethel fawr o gyfleoedd am gôl heblaw ymgais Tom Mc Partland a darodd y trawst. 
SGORIWR: Ryan Jones.

Cwpan Arfordir Gogledd Cymru – Rownd Gyn derfynol
Bethel v Rhyl Hearts Celtic
Gohirwyd y gêm oherwydd cyflwr cae Clwb Pel droed Conwy.  Dyddiad arall i’w drefnu’n fuan.


Dydd Sadwrn 23.02.2008
Penrhosgarnedd   1 -   Bethel 10
Gôl yn y funud gyntaf i Fethel gan Gethin Maxwell yn gosod y llwyfan ar gyfer perfformiad gwych arall gan yr hogia. Dim ond un gôl gysur i Benrhos o gic gornel.
SGORWYR: Gethin Maxwell 4, Louise Williams 2 Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Ezra Warren.

Gêm bwysig nesaf y tim : Dydd Sadwrn Mawrth 1af
Gêm gyn-derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru Jeff Ellis & Son dan 15 oed.
Bethel v Rhyl Hearts Celtic ar gae Clwb Pêl-droed Conwy Unedig. K.O. 10.30am.
Pob lwc i’r tîm.


TABL CYNGHRAIR GWYRFAI, 4 AR Y BRIG   22/2/08

 
P
W
D
L
F
A
Pts
Bontnewydd
10
6
1
3
28
12
19
Cae Glyn Utd
7
6
0
1
32
8
18
Bethel Blues
8
5
0
3
35
13
15
Bethel
5
4
1
0
17
0
13

Dydd Sadwrn, Chwefror 16eg 2008

Cae Glyn United 1 - Bethel Glas 2
SGORWYR:  Ryan Jones & Gruffydd John

Tri phwynt haeddiannol i Bethel heddiw. Roedd yr amddiffyn yn gadarn a’r gôl geidwad ar ei orau. Bethel aeth ar y blaen gyda gôl gan Ryan Jones, daeth sawl cyfle arall  am gôl iddynt cyn hanner amser ond ni lwyddwyd i sgorio. Sgôr ar hanner amser  1 – 0 i Bethel .
Er i’r cofis ymdrechu’n galed yn yr ail hanner a rhoi pwysau ar amddiffynwyr Bethel llwyddodd Gruffydd John i gael y bel yn rhydd a sgorio i Fethel. Gyda 6 munud i fynd sgoriodd Cae Glyn i roi ychydig o obaith iddynt.  Bethel yn haeddu’r 3 phwynt .

Gêm nesaf Bethel v Cae Glyn ar Gae Coed Bolyn  Sadwrn nesaf Chwefror 23 am 10.30 a.m.


Dydd Sadwrn, 26ain o Ionawr 2008

Bethel Glas 2 - Nantlle Vale 3
SGORWYR: Gruffydd John, 1 o.g

Dechrau gwael i Fethel gyda Nantlle Vale yn llwyddo i sgorio 2 gôl yn gynnar yn y gêm o ganlyniad i amddiffyn gwan Bethel. Roedd amddiffynwyr cryf Vale yn ei gwneud hi’n anodd i Fethel. Yna gyda 3 munud i fynd cyn hanner amser llwyddodd Bethel i gael cic rydd a gymerwyd gan Daniel Bell gyda un o chwaraewyr Vale yn ei tharo i mewn i’w gol ei hun.   Sgor hanner amser  1- 2

Yn yr ail hanner gwellodd pethau i Fethel. Daeth Tom McPartland ymlaen fel blaenwr gan ychwanegu ychydig o gyflymder i’r tîm. Ar ôl ychydig funudau sgoriodd Gruffydd John gyda foli o gic gornel. Roedd Bethel yn ôl yn y gêm. Yna yn chwarter olaf y gêm cafodd Nantlle Vale benalti a sgorio i fynd ar y blaen. Methu torri drwy amddiffyn cadarn Vale ddaru’r hogia hyd ddiwedd y gêm er gwaethaf ymdrech lew gan bawb.

Dydd Sadwrn, 12fed o Ionawr 2008

Bethel Glas 4 – Bontnewydd 1

SGORWYR: Alex Jones 2, Joe Holding a Jamie Stevens

Perfformiad gwych gan Bethel a frwydrodd yn galed i gipio’r tri phwynt oddi ar Bont sydd ar frig y gynghrair. Cafwyd sawl ymgais am gôl gan Bethel yn yr hanner cyntaf ond Capten am y diwrnod Alex Jones roddodd Bethel ar y blaen. Sgôr hanner amser felly 1 – 0 i Fethel.
Yn yr ail hanner gwelwyd Bethel yn gryf yn yr amdiffyn ac yn ennill y bêl yng nghanol cae. Sgoriwyd ail gôl Bethel gan Joe Holding ar ôl croesiad gan Daniel Bell. Yna sgoriodd Alex ei ail gôl . Daeth y bedwaredd gôl gan Jamie Stevens  o gic gornel gan Daniel. Llwyddodd Bont i sgorio cyn diwedd y gêm ar ôl i gôl geidwad Bethel orfod gadael y cae hefo anaf.


Dydd Sadwrn, 12fed o Ionawr 2008
4ydd ROWND, CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU


Llandudno West Shore 0 – Bethel 5
SGORWYR: Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Ben Parker a Louis Williams

Er nad yw’r tîm wedi chwarae gêm ers dros 6 wythnos mi setlodd yr hogia’n dda o’r cychwyn a chafwyd sawl cyfle am gôl yn y chwarter cyntaf. Er i Llandudno amddiffyn yn dda gan ymosod yn gyflym, roedd y pedwar yn y cefn yn feistri arnynt, a daeth y gôl gyntaf gan Dyfan Coles i roi Bethel ar y blaen cyn hanner amser.
Yn yr ail hanner Bethel oedd yn rheoli’r gêm a gwelwyd sawl ymgais am gôl gyda Steffan Bullock , Dyfan Coles, Ben Parker a Louis Williams yn sgorio. Oherwydd y pedwar yn y cefn, ni chafodd Gavin, gôl geidwad Bethel fawr i’w wneud drwy’r gêm, ond gwnaeth arbediad gwych yn y chwarter olaf wrth gael ei law i foli oedd ar y ffordd i gongol ucha’i gôl.

Llongyfarchiadau i’r tim ar eu buddugoliaeth haeddiannol – maent drwodd rwan i’r rownd gyn derfynol ar Chwefror 23. Pob lwc i chi hogia.


TABL CYNGHRAIR GWYRFAI, 4 AR Y BRIG   12/1/08

   Pl W    L    F     A     Pts
BONTNEWYDD  5   1   25 11  16
CAE GLYN UTD  5    5 0 25  15
BETHEL   4   1 0 17 0 13
BETHEL GLAS   6 4 0 2 31 9 12

Dydd Sadwrn, 5ed o Ionawr 2008

Bethel Glas 4 – Penrhosgarnedd 3

SGORWYR: Daniel Bell 2, Gruffydd John 2

Hanner cyntaf siomedig i dîm Bethel – y sgôr ar hanner amser oedd 2 -1 i Benrhos gyda Daniel Bell yn sgorio i Fethel
Bethel yn ymosod yn well yn yr ail hanner er i Benrhos fynd 3 -1 ar y blaen cyn i Daniel Bell sgorio ei ail gôl. Yna cafwyd dwy gôl gan Gruffydd John i selio’r fuddugoliaeth i Bethel.

Wythnos nesaf bydd Bethel yn croesawu Bontnewydd sydd ar dop y gynghrair.

Bydd hyfforddiant i’r tîm dan 15 Glas yn ail gychwyn Nos Iau 10 Ionawr am 6 o’r gloch.


Dydd Sadwrn, 24ain o Dachwedd
3ydd Rownd Cwpan Arfordir Gogledd Cymru

Bae Penrhyn 0 – Bethel 1

Er i Fethel fethu sawl cyfle yn ystod y gêm, canfyddod Gwion Williams gornel ucha’r gôl i sicrhau buddugoliaeth a lle yn yr het ym mhedwaredd rownd y Gwpan.

Rhyl Hearts Celtic 10 v Bethel Glas 0

Hunllef o gêm i’r gleision heddiw wrth i Rhyl berfformio’n dda iawn o’r chwib cyntaf. O fewn deg munud roedd amddiffyn gwael wedi anrhegu dwy gôl i’r tîm cartref. O fewn pum munud i hynny roedd hi’n 3 i ddim gyda gôl i’w hedmygu gan Rhyl. Parhau i ymosod wnaeth Rhyl ac erbyn hanner amser roedd yn 6 i ddim.
Er sawl newid wedi’r hanner doedd dim ffordd drwy amddiffyn Rhyl ac wrth i Bethel bwyso ymlaen am gôl llwyddodd Rhyl i sgorio 4 arall.

4 UCHAF CYNGHRAIR GWYRFAI  25/11/07 dan 15 oed

 
Ch/Pl
E/W
C/D
C/L
I/F
Y/A
Pnt/Pts
BETHEL 5 4 1 0 17 0 13
BONTNEWYDD 6 4 1 1 20 4 13
CAE GLYN 3 3 0 0 20 3 9
BETHEL GLAS 4 2 0 2 23 5 6

Dydd Sadwrn, 17eg o Dachwedd

Bethel Glas 0 – Bethel 1
SGORIWR: Gethin Maxwell

Roedd hon yn mynd i fod yn gêm fawr rhwng dau o dimau’r pentref. Ni chafodd neb eu siomi, cafwyd gêm gyffrous gyda’r ddau dîm yn chwarae pêl-droed o safon uchel.  Roedd rhaid iddynt frwydro’n erbyn y gwynt oedd yn hyrddio ar draws y cae ac yn ei gwneud yn anodd i’r ddau dîm basio’r bêl. Cafodd Bethel sawl ymgais am gôl Bethel Glas yn yr hanner cyntaf ond parhau yn ddi sgôr oedd hi ar hanner amser. Llwyddodd Gethin Maxwell i sgorio unig gôl y gêm a rhoi buddugoliaeth i Fethel.


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd

Felinheli 0 – Bethel 5
SGORWYR: Steffan Bullock, Louis Williams, Richard Cashman, Mathew Edwards a Gwion Williams.

Buddugoliaeth arall i Fethel, yn  erbyn tîm llawn ysbryd YFelinheli y tro hwn a frwydrodd i’r chwib olaf. Cafwyd sawl ymgais am gôl yn y deg munud cyntaf ond amddiffynwyr Felinheli a’r golgeidwad talentog, Carwyn Eddie, yn llwyddo i rwystro ymosodiadau Bethel. Cafwyd y gôl gyntaf gan y streicar chwim Steffan Bullock ar ôl pas hynod o’r asgell. Ychydig cyn hanner amser cafwyd gôl arall i Fethel gan Richard Cashman. Felinheli yn cael cyfle am gôl gyda chic rydd cyn hanner amser a hwyliodd fodfeddi dros y trawst. Cafwyd gwell gêm yn yr ail hanner gyda Bethel yn pasio’r bêl yn dda ac yn gwneud gwaith Felinheli i ddwyn pwysau ar y meddiant yn anodd iawn. O ganlyniad i’r pasio hwnnw, llwyddodd Bethel i sgorio 3 gôl arall, gan Louis Williams, Gwion Williams ac un rhagorol gan Mathew Edwards ar ôl iddo ddod ymlaen fel eilydd.


Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU ROWND 2

Bethel v Conwy Borough  (4-2 ar benaltis) 
Cafwyd gwledd o bêl-droed safonol iawn ar gae Coed Bolyn fore Sadwrn. Er i Gonwy ddechrau’n dda roedd cyflymdra Bethel wrth ymosod yn rhoi problemau iddynt a chafwyd sawl cyfle am gôl yn yr hanner cyntaf. Daliodd Conwy i amddiffyn yn gadarn yn yr ail hanner gyda’i golgeidwad yn gwneud sawl arbediad da. Wedi amser ychwanegol a brofodd ffitrwydd chwaraewyr y ddau dîm, bu’n rhaid mynd i benaltis i setlo’r mater.
Curo 4 -2 ar benaltis ar ol amser ychwanegol gyda Gavin, golgeidwad Bethel, yn arbed yn wych i gloriannu ymdrech arbennig gan y bechgyn. Ffordd greulon iawn o benderfynu rhwng dau dîm arbennig iawn.

Bethel Glas 3  v Flint & Bagillt Eagles 0
Perfformiad da arall gan y tim yn rhoi buddugoliaeth iddynt a lle  yn y drydedd rownd. Bethel yn cymryd rhyw 10 munud i setlo mewn i’r gêm a daeth Fflint yn agos i sgorio gyda phêl dros y trawst. Ar ôl hyn cafodd Bethel sawl cyfle am gôl a tharo’r postyn ddwywaith . Sgôr ar hanner amser oedd 0 -0
Yn yr ail hanner cafwyd sawl cic gornel, peniodd Daniel un ohonynt i gefn y rhwyd i roi Bethel ar y blaen. Hanner ffordd drwy’r ail hanner sgoriodd Joseph Holding a mater o amser oedd hi cyn iddo sgorio ei ail gôl a selio’r fuddugoliaeth i Bethel Glas.
Sgorwyr Bethel oedd Daniel Bell a Joseph Holding 2.


Nos Fercher Hydref 10fed

Bontnewydd 0 - Bethel 0
Cafwyd g êm o safon uchel rhwng dau o dimau cryf y gynghrair. Golgeidwad Bontnewydd oedd brysuraf, a gwnaeth sawl arbediad dewr i gadw ei dîm yn y gêm. Gyda chanol cae y ddau dîm yn ymdrechu i gael rheolaeth roedd un gôl yn mynd i fod yn ddigon i ennill ond bu’n rhaid setlo am gêm gyfartal.


Dydd Sadwrn 29-Medi-2007

Bethel 4 - Llanberis 0
Dau dîm cryf gyda Bethel yn cael y gorau o’r hanner cyntaf drwy sgorio 4 gôl. Amdiffynwyr cadarn Llanberis yn cau’r hogia allan ail-hanner a chreu ambell i gyfle i’w ymosodwyr heb lwyddiant.

SGORWYR: Steffan Bullock 2, Gwion Williams a Gethin Maxwell.

TABL CYNGHRAIR GWYRFAI 29/9/07

TRI UCHAF Y GYNGHRAIR

 
P
W
D
L
F
A
Pts
Bethel Blues
3
2
0
1
23
4
6
Bethel
2
2
0
0
11
0
6
Bontnewydd
2
2
0
0
11
0
6

Nos Iau Medi 27
Bethel Glas 20 - Segontium Rovers 1

Gem unochrog iawn, gyda Bethel yn llwyr reoli’r gêm o’r cychwyn. Roedd y sgôr ar hanner amser yn 11 – 0 i Bethel. Llwyddodd y Cofis i sgorio un gôl yn yr ail hanner ond doedd hyn fawr o gysur iddynt.

SGORWYR; Joseph Holding 5,Gruffydd John 3,Alex Jones 3,Tom McPartland 2,Daniel Bell 2,Jamie Stevens,Tomos Emlyn,Ryan Jones,Cai Jones,ac un own goal.  


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru rownd 1
Connahs Quay Tigers 1 v Bethel Glas 2
Er mai dim ond 12 chwaraewr oedd gan Bethel heddiw, chwaraewyd pêl-droed o safon gan bob un ohonynt. Sgôr ar hanner amser oedd 0-0.
Hanner ffordd drwy’r ail hanner sgoriodd Daniel Bell benalti wedi trosedd arno yn y bocs. Amddiffynnodd Bethel yn dda a chafwyd sawl arbediad da gan Liam. Gyda 10 munud i fynd sgoriodd Tom McPartland i Fethel. Llwyddodd Connahs Quay i sgorio cyn y diwedd ond Bethel yn llwyr haeddu’r fuddugoliaeth a’u lle yn yr ail rownd.
Sgorwyr :Daniel Bell {pen} a Tom McPartland.


Cynghrhair Gwyrfai ~ Nos Wener Medi 14
Bethel 7 – 0 Penrhosgarnedd
Dyma gêm gyntaf i’r tîm ac mae’n argeoli’n dda ar gyfer gweddill y tymor. Roedd y rhai a ddaeth i’w cefnogi yn hapus iawn â pherfformiad yr hogia wrth iddynt basio’n rhwydd o amddiffyn i ymosod a dangos y gallu i wneud iawn am unrhyw gamgymeriadau drwy weithio’n galed dros ei gilydd.
Sgorwyr i Fethel oedd: Ben Parker 4, Gethin Maxwell 2 a Steffan Bullock.

Gem Gyfeillgar ~ 15/9/07
Bethel Glas 3 Sheffield F.C. 7
Gyda’r clwb yn dathlu ei benblwydd yn 150 eleni a chadarnhau mai nhw yw’r clwb pêl-droed hynaf yn y byd daeth tîm Sheffield F.C. i Gae Coed Bolyn i chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn gleision Bethel. Bu’n gêm hynod gyffrous ac er gwaethaf statws gwahanol iawn y ddau dîm yn y byd pêl-droed llwyddodd tîm Bethel i gystadlu’n dda iawn. Wedi cychwyn sigledig a welodd Sheffield yn rhoi tair gôl heibio’r hogia yn y deg munud cyntaf ceisiwyd tynhau’r amddiffyn. Ond serch yr ymdrech cafwyd dwy gôl arall cyn yr egwyl i’w gwneud yn 5-0. Yn ystod yr ail hanner cafwyd gwell lwc gyda Ryan Jones, Cai Jones a Cai Weightman (aelod newydd o’r tîm) yn rhwydo cyn i Sheffield orffen y gêm gyda gôl arall.


Cynghrair Gwyrfai ~ Nos Fercher Medi 12 2007
Bontnewydd 2 – Bethel Glas 0
Gêm siomedig i’r hogia er iddynt fod yn rheoli’r gêm am rhan fwyaf o’r amser. Doedd lwc ddim gyda Bethel heno , er sawl cyfle methu sgorio oedd eu hanes. Daeth cyfle da i Gruffydd John fynd am gôl ond cafodd ei lorio gan amddifynnwr Bont, er hyn  ni chafwyd penalti. Di-sgôr oedd hi ar hanner amser.
Yn yr ail hanner roedd Bontnewydd yn rhoi mwy o bwysau ar Bethel a Bethel yn dal i fethu cyfleodd am gôl. Yna sgoriodd Bontnewydd  i fynd ar y blaen, gyda ail gôl yn dilyn yn fuan. Erbyn hyn roedd Bont yn rheoli’r gêm ac roedd y gêm ar ben i Bethel.


Cynghrair Gwyrfai ~ Nos Wener 07/09/07
Penrhosgarnedd 1 - Bethel Glas 3
Tri o chwaraewyr Bethel, Daniel Bell, Alex Jones & Nathan Price, yn absennol  o’r  gêm gyfartal iawn yma. Unwaith yn rhagor cymerodd chwarter awr i dîm Bethel setlo i’r gêm a chreu cyfleodd iddynt eu hunain a dyna phryd cafwyd gôl gan Gruffydd John.  Rhwydodd Gruffydd eto cyn hanner amser ond y tro hwn roedd yn camsefyll.
Yn yr ail hanner sgoriodd Penrhos i ddod a’r sgôr yn gyfartal.  Ond roedd Bethel bron â sgorio eto gyda Gruffydd John yn taro’r post. Yna cafwyd gôl gan Ryan Jones i roi Bethel ar y blaen. Gyda 4 munud i fynd cymerodd Cai Jones gic gornel, cafodd ei chlirio gan Benrhos ond daeth y bêl  yn ôl i Cai a rhoddodd hi yn ôl yn y bocs a tharodd  Ryan Jones y bêl i’r gôl i gwblhau’r sgorio.
Sgorwyr i Bethel oedd : Ryan Jones 2 & Gruffydd John.


Gêm gyfeillgar 5/9/07

Bethel Glas 0 – Pwllheli 4
Gem anodd i’r hogia yn erbyn bechgyn hŷn Pwllheli. Dechreuodd Bethel yn dda gan greu sawl symudiad addawol, ond yna fe roddodd Pwllheli hogia Bethel o dan bwysau a sgorio 2 gôl, un o ganlyniad i gamgymeriad gan amdiffynwyr Bethel. Brwydrodd Bethel ymlaen ond yn methu creu llawer o broblemau i gôl geidwad Pwllheli. Yna bu raid i gapten y tim Daniel Bell adael y gêm ar ôl anaf i’w ffer. Yna camgymeriad arall gan yr amddiffynwyr i roi gôl arall i Bwllheli. Sgôr ar hanner amser Bethel 0 – Pwllheli 3. Gôl arall i Bwllheli ar ddechrau’r ail hanner, ac anaf arall i dîm Bethel, y tro hwn i’r gôl geidwad Liam Williams. Bu raid i’r amddiffynwr Aaron Gwyn gymeryd ei le gan edrych yn gadarn rhwng y pyst. Sgôr terfynol Bethel 0 – Pwllheli 4. Bydd y tîm yn chwarae eu gêm gynghrair gyntaf dydd Sadwrn yma yn erbyn Penrhosgarnedd ac yn gobeithio am fuddugoliaeth.


Gêm gyfeillgar - 30/8/07
Holyhead Hotspurs 7 v Bethel Glas 2
Gêm gyntaf y tymor yn erbyn tîm cryf Caergybi. Caergybi yn sgorio 2 gôl yn yr 20 munud cyntaf ac yn rhoi amser caled i dîm Bethel. Ar ôl hyn dechreuodd Bethel setlo a phasio’r bêl a rhoi ychydig o broblemau i’w gwrthwynebwyr. Ond yn anffodus llwyddodd Caergybi i sgorio eu 3ydd gôl. Codwyd calon tîm Bethel gan gôl Gruffydd John ychydig cyn hanner amser.
Yn yr ail hanner brwydrodd Bethel yn galed i rwystro eu gwrthwynebwyr rhag sgorio, ac gwnaeth y gôl geidwad Liam Williams sawl arbediad i gadw’r tîm yn y gêm. Aeth Caergybi ymlaen i sgorio tair gôl arall cyn i Joseph Holding sgorio yn ei gêm gyntaf i Fethel, un o bump wyneb newydd yn  tîm. Gôl olaf y gêm i Gaergybi ond taith hynod ddefnyddiol i’r hogiau yn erbyn tîm sy’n dangos addewid i ennill cynghrair Môn eleni.

Sgorwyr: Gruffydd John & Joseph Holding.

2007/08

Tim dan 11A
Tim dan 11B

Canlyniadau:

Dydd Sadwrn Ebrill 12
Dan 11 A
Bethel A 3 Nantlle A 1
Sgorwyr: Richard Jones, Connor Japheth ac Ynyr Harris .


Dydd Sadwrn, Mawrth 5ed 2008
Deiniolen A  0 - Bethel  A  6
SGORWYR: Dion Griffiths 1, Kieran Rowlands 1, Conor Japheth 1, Ynyr Harris 2 a Sion Wyn 1.

Bethel B 0 - Deiniolen B 5


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008

Penrhosgarnedd B 4 - Bethel B 1 (Nathan Roberts)


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Waunfawr 0 - Bethel A 5
SGORWYR: Dion Griffiths 2, Jack Henry 2, Caio Hywal 1.


Dydd Sadwrn Rhagfyr 1af 2007
Bethel A 3 Segontiwm A 0
Sgorwyr oedd: Connor Japheth 2, Caio Hywel 1

Segontiwm B 3 Bethel B 3
Sgorwyr oedd: Mathew Jones , Alaw Prys a Sion Dylan


Dydd Sadwrn, 24ain o Dachwedd
Bontnewydd 1  - Bethel  A  2
SGORWYR:  Ynyr Harris a Connor Japheth


Dydd Sadwrn, 17eg o Dachwedd
Bethel A  4  -  Llanberis  2
SGORWYR: Ynyr Harris, Wiliam Coles, Connor Japheth a Jack Henry                    

Bethel B  2  -  Rhiwlas   0
SGORIWR: Alaw Prys (2)


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Nantlle  A  2  -  Bethel  A  2
SGORWYR: Connor Japheth  a   Dion  Griffiths.      

Bethel B  2  -  Nantlle B  6
SGORWYR: Alaw Prys a  Rhodri Jones.


Dydd Sadwrn, Hydref 13eg
Penrhosgarnedd  A  0 - Bethel A  1            
Caio Hywel yn sgorio unig gôl y gêm a buddugoliaeth i Fethel

Bethel  B  2  -  Penrhosgarnedd  2
Alaw Prys yn sgorio 2 gôl i Bethel


Dydd Sadwrn Hydref 6ed
Bethel A 0 - Llanrug A  1
Llanrug B 5 - Bethel B 0        


Dydd Sadwrn 29-Medi-2007
Bethel A 3 - Waunfawr 0
SGORWYR: Dion Griffiths 2  a Kieran Rowlands 1

Bethel B 6 - Felinheli B 1
SGORWYR: Alaw Prys 3, Mathew Jones 1, Rhodri Jones 1 a Cai Hughes 1.


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Dan 11 A
Bethel A 1 - Cae Glyn A 2
Sgoriwr y gôl oedd Ynyr Harris

2007/08

Croeso i dudalen y timau dan 9 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.

Canlyniadau

Twrnament Trefor Dydd Sadwrn Mehefin 14 2008

Bethel A 0 – Llanystumdwy 0

Bethel A 0 - Nantlle Gwyrdd 2

Bethel A 2 - 0 Y Ffor
Gwion John, Mathew Lloyd

Bethel A 2 - 0 Llanrug
1 og, Ifan Gwynne

Bethel A 2 - 0 Penrhyn Bay
Ifan Gwynne, Mattew Lloyd

Bethel A 1 - 1 Llangefni
Sion A


Twrnament Gwyrfai dan 9 oed Dydd Sadwrn Mehefin 7fed
Canlyniadau Bethel A

Bethel A 1 Bontnewydd 0
SGORIWR: Matthew Lloyd

Bethel A 0 Cae Glyn 3

Bethel A 4 Llanrug 0
SGORWYR: Gwion John 2 Shaun Owen Matthew Lloyd

Bethel A 1 Penrhosgarnedd 1
SGORIWR: Sion Alun

Bethel A 1 Segontium 1
SGORIWR: Gwion John

Ffeinal
Bethel A 0 Cae Glyn 1

Llongyfarchiadau i’r tim am wneud mor dda.


Dydd Sadwrn Ebrill 26
Segontiwm A 4 - Bethel A 0

Segontiwm B 6 - Bethel B 1
Sgoriwr: Sion Bullock


Dydd Sadwrn Ebrill 12
Bethel A 2 - 1 Felinheli A
Gwion John yn sgorio’r 2 gol i Fethel.


Nos Iau Ebrill 24
Bontnewydd A 1 – Bethel A 0


Dydd Sadwrn, Ebrill 5ed 2008
Bethel A 0 - Nantlle Vale A 7
Bethel B 0 - Nantlle Vale B 6


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Deiniolen 5 - Bethel B 0
Llanberis 3 - Bethel A 1 ( Shaun Owen )


Dydd Sadwrn, Mawrth 8fed 2008
Bethel A 1 - Penrhosgarnedd 1
SGORIWR: Matthew Lloyd


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Llanrug A 2 - Bethel A 4
SGORWYR: Gwion John 3, Ifan Gwynne 1
                                          
Llanrug B 6 - Bethel B 0


Dydd Sadwrn, 2il o Chwefror 2007
Bethel A 0 - Cae Glyn A 4
Bethel B 0 - Cae Glyn B 2


Dydd Sadwrn Rhagfyr 1af 2007
Bethel A 0 - Segontium A 0
Bethel B 0 - Segontium B 3


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Nantlle Vale A 2  - Bethel A 0

Nantlle Vale B 6  - Bethel B 1
Ifan Gwynne yn sgorio i Fethel


Dydd Sadwrn, Hydref 27ain
Felinheli 2 - Bethel A 6
SGORWYR: Gwion John - 2, Ifan Gwynne, Matthew Lloyd, Ben Jones, O.G.


Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
Bethel B 2 - Deiniolen 7
SGORWYR: Gwion John a Matthew Lloyd


Dydd Sadwrn, Hydref 13eg
Penrhosgarnedd 1 - Bethel A 7
SGORWYR: Ifan Gwynne 3, Matthew Lloyd 2, Gwion John 2

Felinheli B 7 - Bethel B 0


Dydd Sadwrn, Hydref 6ed
Bethel A 2  - Llanrug A 2
SGORWYR: Gwion John ac Ifan Gwynne


Dydd Sadwrn 29-Medi-2007
Bethel B 0 - Waunfawr B 2


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Cae Glyn A 3 - Bethel A 0
Cae Glyn B 3 - Bethel B 0

 

2007/08

Bethel dan 7 2007/08
Chwyddo'r Llun

Canlyniadau Diweddaraf:


Twrnament Gwyrfai dan 7

Dydd Sul 1 Mehefin 2008
Bu'r tîm yn cystadlu mewn twrnament Cynghrair Gwyrfai yn Llanrug. Enillodd Bethel ei grwp heb ildio'r un gôl gan guro Cae Glyn B, Deiniolen, Segontiwm a gêm gyfartal yn erbyn Penrhosgarnedd. Yn y rownd gyn derfynol, llwyddodd Bethel i guro Cae Glyn A o 1-0 gyda gôl gan Huw Gwynn. Yn y rownd derfynol yn erbyn Segontiwm, ni lwyddodd y naill dim na'r llall i sgorio wedi amser ychwanegol. Roedd yn rhaid penderfynu ar ganlyniad y gêm drwy giciau o'r smotyn. Yn anffodus Segontiwm aeth a hi, ond dylai Bethel ymfalchio ar berfformiadau gwych yn ystod y dydd.


Dydd Sadwrn 10 Mai 2008
Deiniolen 0 - Bethel 10
Sgorwyr: Owain Thomas - 2, Huw Gwynn - 2, Gwyndaf Davies - 2, Nathan Hughes - 2, Callum O'Donnell - 1, Sam Williams – 1

Dydd Sadwrn Mai 3ydd
Bethel 6 Deiniolen 0
Sgorwyr: Owain Thomas-2, Gwyndaf Morgan Appleton Davies-2, Huw Gwynn-1, Gethin Rhys Trefor Jones-1

Dydd Iau 1 Mai 2008
Felinheli 0 - Bethel 4
Sgorwyr: Gethin Trefor Jones 2, Callum O'Donnell 1, Owain Jones 1


Dydd Sadwrn 26 Ebrill 2008
Bethel 0 - Dyffryn Nantlle 2


Nos Fawrth 22 Ebrill
Bethel 3 – Penrhosgarnedd 0
Gethin Jones yn sgorio 2 a Callum O'Donnell yn sgorio 1,

Penrhosgarnedd 2 – Bethel 0


Dydd Sadwrn 19 Ebrill bu’r tîm  yn cystadlu yn nhwrnament Felinheli. Chwaraeodd y tîm yn arbennig o dda, gan guro 3 a cholli 1 yn eu grŵp. Yn anffodus colli fu eu hanes o 1-0 yn erbyn Llanberis yn y rownd gyn-derfynol, ond llongyfarchiadau i'r tîm am wneud mor dda.


Dydd Sadwrn Ebrill 12
Segontiwm 0 - Bethel 0


Dydd Sadwrn, Ebrill 5ed 2008
Llanrug 0 - Bethel 2
SGORWYR: Huw Gwynn a Gethin Trefor Jones.


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Bethel 1 (Nathan Hughes) - Bontnewydd 1


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Bethel 1 (Callum O'Donnell) - Llanberis 1

Gêm gystadleuol rhwng dau dîm da. Llanberis yn sgorio gyntaf, ond Bethel yn taro nôl gyda gôl gan Callum O'Donnell wedi croesiad da gan Gethin. Daeth cyfleon da i'r  ddau dîm wedi hynny ond y sgôr yn adlewyrchiad teg o’r chwarae.


Dydd Sadwrn 23.02.2008
Cae Glyn 0 – Bethel 2
Bethel yn curo 2-0 gyda goliau gan Gethin Trefor Jones a Callum O'Donnell ond perfformiad tîm oedd hwn, gyda amddiffyn cadarn ac ymosodiadau pwrpasol a phawb yn chwarae eu rhan.


Dydd Sadwrn Rhagfyr 1af 2007
Bethel 0 v Felinheli 0
Bethel yn chwarae'n dda iawn gyda phasio grymus. Cyfleuon da i'r ddau dîm, ond gwaith amddiffyn da. Gethin yn dod yr agosaf at sgorio ond y bêl yn taro'r trawst. Dalier ati Bethel.


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Bethel 0   -  Segontiwm 2


Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
Bethel 0 v Llanrug 0


Dydd Sadwrn, Hydref 13eg
Bontnewydd 0 v Bethel 1
SGORWR: Gethin Jones


Dydd Sadwrn Hydref 6ed
Bethel 2 v Llandwrog 1
SGORWYR: Callum O’Donnell a Nathan Hughes


Dydd Sadwrn 29-Medi-2007
Llanberis 2 v Bethel 2
SGORWYR: Gethin Trefor Jones a Huw Gwynn.


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Bethel 1 (Gethin) v Cae Glyn 0

 

2007/08

Canlyniadau:

Tabl y Gynghrair dan 14 oed

 
P
W
D
L
PTS
Bethel
8
5
2
1
17
Glan Conwy
7
5
0
2
15
Mochdre Snow Leopards
5
5
0
0
15
Mochdre Panthers
9
3
2
4
11
Colwyn Bay
4
0
1
3
1
Llanfairfechan Town
9
0
1
8
1

Dydd Sul Mai 18ed
Bethel 1 – Mochdre Panthers 1
Nikita Roberts yn sgorio i Fethel


Ebrill 20 2008
Glan Conwy 2 – Bethel 4
SGORWYR: Bethel 0 -2 Mochdre Snow Leopards


Ebrill 13 2008
Llanfairfechan 1 – 8 Bethel
SGORWYR: Nikita Roberts 5, Anna Wyn Jones 3


Dydd Sul, Mawrth 2il 2008
Glan Conwy 2 – Bethel 4
SGORWYR: Gwenan Roberts, Nikita Roberts, Anna Wyn Jones, Annest Williams.


Dydd Sul, Tachwedd 18fed
Bethel 3 – Glan Conwy 1
SGORWYR:  Gwenan Roberts 2 a Nikita Roberts.


Dydd Sul, Tachwedd 4ydd
Bae Colwyn 1 – Bethel 3
SGORWYR: Nikita Roberts ac Anna Wyn Jones (2)


Hydref
Bethel 1 – Llanfairfechan 0
SGORIWR: Nikita Roberts

 

2007/08

Tabl y Gynghrair Genethod dan 12 oed

 
P
W
D
L
PTS
Bethel
6
5
1
0
16
Llanfairfechan Town
7
4
1
2
13
Mochdre Jaguars
7
1
3
3
6
Colwyn Bay
4
1
1
2
4
Glan Conwy
6
0
2
4
2


Dydd Sul Mai 11
Bethel 0 – Mochdre Panthers 0

Ebrill 13 2008
Llanfairfechan 2- 2 Bethel
Sgorwyr: Alaw Huws a Ffion Roberts.

Ebrill 20 2008
Bethel 6 – 5 Mochdre Jaguars
Sgorwyr Alaw Huws 5 a Lois Jones 1

Dydd Sul, Chwefror 10fed 2008
Mochdre Jaguars 2 – Bethel 4
SGORWYR: Alaw Hughes 2, Ffion Roberts 2

Dydd Sul, Ionawr 6ed 2008
Bethel 6 – Colwyn Bay 1
SGORWYR: Alaw Huws 3, Ffion Roberts 3

Dydd Sadwrn, 9fed Rhagfyr 2007
Bethel 4 – Mochdre Jaguars 2

Dydd Sul, Tachwedd 11eg
Glan Conwy 0 – Bethel 5
SGORWYR: Ffion Roberts 2, Alaw Prys, Kimberley Tate, Glesni Sharpe

Dydd Sul, Hydref 28ain 2007
Llanfairfechan 2 – Bethel