Archif Tymhorau 2011/12

Dydd Sadwrn 12 Mai 2012
Bethel B V City Pumas B
Gem 1
Bethel B 5 - City Pumas B 0
Sgowyr: Nathan 2, Owain 2, Huw
Gem 2
Bethel B 3 - City Pumas 0
Sgowyr: Ywain, Josh, Nathan

---------------------------------------

Dydd Sul 6 Mai 2012
Twrnament Dyffryn Nantlle

Gemau Grwp:
Bethel 0 Pwllheli 0
Bethel 4 (Huw, Owain, Gethin2) Dyffryn Nantlle 0
Bethel 0 Bontnewydd 0
Bethel 1 (Huw) Cae Glyn 0
Bethel 3 (Gethin, Owain 2) City Dragons 0

Roedd rhaid i Bethel ennill y gem olaf o dair gol er mwyn ennill y grwp.

Rownd gyn-derfynol:
Bethel 1 Bro Enlli 1

Haeddu ennill y gem yma, anlwcus gan daro y trawsfar yn y munud olaf. Felly ciciau o'r smotyn:
Curo 2 - 1 (Callum ac Ywain yn sgorio)

Rownd derfynol:
Bethel 0 Llanberis 0

Amser ychwanegol, ail hanner colli i'r 'golden goal'.
Canlyniad gwych gan yr hogia yn enwedig y gem yn erbyn Llanberis, gan gofio fod 4 o chwaraewyr Bethel yn mlwyddyn 5 ac tim Llanberis i gyd yn hogia blwyddyn 6. Roedd hon yn gem agos iawn, ac gyda ychydig bach o lwc, gallai'r hogia fod wedi ennill, gan eu bod wedi creu nifer o gyfleuon yn erbyn un o'r timau gorau yr ardal.

---------------------------------------

Nos Iau 3 Mai 2012
Bethel A vs Bontnewydd A

Gem 1
Bethel 11a 4 Bontnewydd 11a 0
Sgorwyr: Owain, Gethin 2, Morgan

Gem 2
Bethel 11a 2 Bontnewydd 11a 0
Sgorwyr: Nathan, Callum

---------------------------------------

Nos Fercher 25 Ebrill 2012

Bethel 11b 5 Waunfawr 11b 0
Sgorwyr: Morgan, Owain 3, Huw

Waunfawr 11b 1 Bethel 11b 6
Sgorwyr: Gwyndaf 3, Huw, Owain, Josh

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2012
Bethel A vs City Dragons A
Gem 1
Bethel 11a 3 City Dragons 11a 1
Sgorwyr: Gwyndaf, Nathan, Gethin
Gem 2
Bethel 11a 2 City Dragons 11a 0
Sgoriwr: Sam 2
---------------------------------------

Nos Iau 19 Ebrill 2012
Waunfawr A vs Bethel A
Gem 1
Waunfawr 11a 0 Bethel 11a 3
Sgorwyr: Cai, Gethin, Morgan
Gem 2
Waunfawr 11a 0 Bethel 11a 2
Sgorwyr: Nathan, Gethin

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 14 Ebrill 2012
Cae Glyn B vs Bethel B

Gem 1 : Cae Glyn 11b 2 Bethel 11b 4
Sgorwyr: Kyle, Owain, Gethin, Huw
Gem 2 : Cae Glyn 11b 2 Bethel 11b 1
Sgoriwr: Gwyndaf

---------------------------------------

Nos Iau 12 Ebrill 2012
Bethel B vs Felinheli

Gem 1: Bethel 9 Felinheli 0
Sgorwyr: Huw 2, Gethin, Owain 3, Callum, kyle 2
Gem 2: Bethel B 6 Felinheli 0
Sgorwyr: Nathan, Kyle 3, Morgan, Callum

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2012
Bethel A 3 Talysarn 0
Sgorwyr: Nathan 2, Owain

---------------------------------------

Nos Fercher 28 Mawrth
Bethel B vs Bontnewydd B
Gem 1
Bethel 2 Bontnewydd 1
Sgoriwr: Kyle 2
Gem 2
Bethel 2 Bontnewydd 1
Sgorwyr: Huw, Owain

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2012
Llanrug vs Bethel B
Gem 1
Llanrug 2 Bethel B 2
Sgorwyr: Morgan, Callum
Gem 2
Llanrug 0 Bethel B 6
Sgorwyr: Osian, Daniel, Huw, Owain 3

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2012
Bethel B 3 Llanberis B 0
Sgorwyr: Daniel, Owain, Morgan

Gem gyfeillgar: (3-0 Huw, Callum, Kyle)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 3 Mawrth 2012
Llanberis A 2 Bethel A 1
Sgoriwr: Owain

(Ail gem: 2-1 Callum)

Nantlle Vale B 1 Bethel B 3
Sgorwyr: Huw 2, Owain

(Ail gem: 0-3 Cai 2, Josh)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 14 Ionawr 2012
Maes Y Bryn 0 Bethel 11
Sgorwyr: Huw 3, Owain 5, Gwyndaf 3

(Gem gyfeillgar 0 - 7 (Kyle 3, Morgan 2, Owain 2)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2012
City Pumas 0 Bethel B 10
Sgorwyr: Morgan 2, Callum 2, Owain 3, Gwyndaf 3

(gem gyfeillgar: City Pumas 1 Bethel 4 - Kyle 2, Huw, Gwyndaf)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2011
Bethel A 0 City Dragons 2
(Gem gyfeillgar 3-0 Nathan 3)

---------------------------------------
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2011
Bontnewydd A 4 Bethel A 0
(gem gyfeillgar: 0-0)

Segontiwm B 0 Bethel B 3
Sgoriwr: Morgan 3
(gem gyfeillgar: 0-5 - Kyle 3, Callum, Huw)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2011

Bethel A 2 Waunfawr 1
Sgorwyr: Gethin, Harri
(gem gyfeillgar 4-0 Gethin 2 Harri 2)

Bethel B 2 Cae Glyn 0
Sgorwyr: Huw, Owain
(gem gyfeillgar 0-1)

---------------------------------------

Nos Wener 4 Tachwedd 2011
Bethesda 0 Bethel B 3
Sgorwyr: Huw, Harri 2

(gem gyfeillgar - Bethesda 3 Bethel B 4 - Iolo, Daniel, Josh 2)

---------------------------------------

Dydd Sul 16 Hydref 2011
Felinheli 0 Bethel B 5
Sgorwyr: Huw, Owain 2, Morgan, Josh

(Gem gyfeillgar: Felinheli 0 Bethel B 4 - Owain, Morgan 2, Iolo)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 8 Hydref 2011
Bethel B 4 Llanrug B 0
Sgorwyr: Owain, Huw, Gwyndaf, Morgan

(Gem gyfeillgar 1-0 Ywain)

Penrhos A 3 Bethel A 4
Sgorwyr: Gethin 3, Callum

Gem yn llawn digwyddiadau. Ar ddiwrnod pan oedd y tywydd yn wael, fe chwaraeodd y ddau dîm gem ymosodol iawn. Gethin yn sgorio cic rydd wych i roi Bethel ar y blaen yn haeddiannol. Bethel wedyn yn mynd i gysgu, gan ildio dwy gol o fewn ychydig funudau. Dechrau gwell i'r ail hanner, gyda Gethin yn sgorio eto i'w gwneud yn gyfartal. Ildio gôl arall yn fuan wnaeth Bethel gan ei gwneud yn 3-2 i Benrhos. Callum wedyn yn sgorio gôl dda gan wneud y sgor yn gyfartal unwaith eto. Dim ond un tîm oedd ynddi bellach. Roedd Bethel yn pwyso, dod yn agos ar fwy nag un tro o sgorio. Gyda munud i fynd dyma Gethin yn sgorio ei drydydd gol - gol a gyrrodd y gêm i Fethel. Da iawn chi hogia. Roedd y perfformiad yn yr ail hanner yn wych.

Chwaraewr y gêm : Gethin (gyda pherfformiad campus o ddechrau i ddiwedd y gêm ac fe reolodd y gêm yn gywrain iawn. Da iawn ti)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 1 Hydref 2011
Llanberis B 0 Bethel B 4
Sgorwyr: (Daniel 2, Gwyndaf, Owain)

(cyfeillgar: 0 - 6 (Ywain 3, Owain 3)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 24 Medi 2011
Bethel B 2 Nantlle Vale B 2
Sgorwyr: Josh, Callum

(Gem gyfeillgar 2-0/Friendly: Cai, Celt)

---------------------------------------

Nos Iau 22 Medi 2011
Bethel A 0 - Llanberis A 2

 

Gem gystadleuol arall. Yn ystod yr hanner cyntaf doedd dim i wahaniaethu rhwng y ddau dîm. Cyflaeuon yn cael eu creu'r ddau ben. Ar y diwrnod, Llanberis aeth a hi o ddwy gol i ddim. Roedd y ddwy gol braidd yn anlwcus i Fethel. Er hyn roedd yr ymdrech ar berfformiad gan yr hogia yn galonogol iawn, gan gofio bod 3 aelod o'r garfan o flwyddyn 5. Gyda pharhad efo'r ymdrech, mater o amser y daw'r canlyniadau. Oherwydd absenoldeb Sam, Huw oedd y gôl-geidwad. Fe gafodd gem wych yn y gôl, ac felly Huw yw chwaraewr y gêm.

Chwaraewr y gêm; Huw Gwynn

(Gem gyfeillgar; 1-3 -callum)

---------------------------------------

Dydd Sadwrn 17 Medi 2011
Cae Glyn A 2 Bethel A 2

Sgorwyr: Nathan, Hari

Gem agoriadol y tymor. Roedd hon yn gêm gystadleuol iawn o'r chwiban cyntaf. Y ddau dîm yn creu nifer o gyfleuon. Nathan i Bethel agorodd y sgorio. Ar ôl symudiad gwych yn cynnwys nifer o basus graenus, rhoddodd Nathan y bel yn y gôl gan wneud y sgôr yn 1-0 i Fethel. Cyn hanner amser, daeth ail gol i dîm Bethel. Sam (y gôl-geidwad) yn taro'r bel i Hari ar y linell hanner. Yna Hari yn mynd a'r rediad gwych, gan guro nifer o amddiffynwyr Cae Glyn cyn rhwydo. Gol wych. 2-0 oedd y sgôr ar yr egwyl. Roedd yr ail hanner yn anodd i Bethel gan ein bod yn chwarae i lawr yr allt. Fe sgoriodd Cae Glyn ddwy gol er mwyn ei gwneud yn 2-2. Er hyn fe gafodd Bethel gyfleuon i ennill y gem. Roedd y perfformiad y tîm yn wych. Dechrau da iawn i'r tymor. Fe wnaeth nifer o chwaraewyr serennu ond chwaraewyr y gêm oedd:

Owi (yn gadarn iawn yn amddiffynnol - ac yn pasio'r bel allan o'r amddiffyn er mwyn cychwyn ymosodiadau yn wych. Da iawn ti)

(Sgor yn y gem gyfeillgar oedd 1-1 (Owain)

---------------------------------------

Bontnewydd B 1 - Bethel B 1

Sgoriwr: Josh

(gem gyfeillgar 2-1 - Josh)

Canlyniadau Tymor 2011 - 2012

Nos Fercher Mai 30 2012
Bethel 9 Bontnewydd 1
Scorwyr: Aaron (3), Shaun (3), Gethin B (2), Jack


Gem olaf y tymor ar 23ain buddugoliaeth. Yn anarferol ac ddim ond am y trydydd tro y tymor yma, aeth Bethel a’r ôl hi gyda Bont yn rhwydo gydag ergyd wych o bell. ‘Roedd bron iawn i chwarter awr wedi mynd heibio cyn i Bethel ei wneud hi’n gyfartal gyda Dion yn dod o hyd i Gethin Bryn o dafliad a Gethin yn rhedeg heibio’r amddiffyn i rwydo. Yna Aaron yn rhwydo dwy waith cyn yr hanner gyda Gruff yn creu’r gyntaf ac yna Aaron ei hun yn manteisio a’r ddryswch yn yr amddiffyn i sgorio’r ail. 3-1 hanner amser.

Fel sydd wedi digwydd sawl gwaith yn ystod y tymor, Bethel yn codi ei gem ar ddechrau’r ail hanner ac yn sgorio chwech pellach heb ildio. Yn gyntaf daeth cyfnod aur i Shaun wrth iddo rwydo tair gwaith gyda Gethin Bryn yn creu dwy, un o gic rhydd gwych tebyg iawn i’r un sgoriodd Shaun yn ngem cyntaf y tymor yna Shaun ei hyn yn cychwyn a gorffen symudiad gyda phas wych i Aaron ac yna derbyn pass Aaron o ochr dde’r cwrt i rwydo. Cwblhaodd Aaron ei hat-trick wedi pas gan Dion ac yna Shaun yn creu gol i Gethin Bryn.

Daeth y gair olaf i Jack wedi iddo symud o’r amddiffyn a sgorio ei gol cyntaf o’r tymor yn eu gem olaf i Fethel gyda ergyd wych o bell. Pob lwc iti yn y dyfodol Jack, byddem yn dy golli.

Seren y gêm oedd Shaun wedi perfformiad gwych ail hanner.

Wedi diwedd y gêm, cyflwynwyd y gwpan am ennill y gynghrair i Ciron capten Bethel am y noson. Diweddglo gwych i dymor bythgofiadwy.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 26 Mai 2012
Rownd Derfynol Cwpan Gwyrfai
Bethel 6 - Bontnewydd 0
Sgorwyr: Aaron (4), Siôn , Dion


Bethel yn curo'r gwpan ac yn sicrhau'r trebl gyda pherfformiad penigamp arall. Y tro yma gwres llethol oedd yn wynebu Bethel mewn rownd derfynol, tipyn yn wahanol i'r tro diwethaf pan gafwyd trochfa ym Mae Colwyn. Yn ein hymweliad diwethaf a Maes Dulyn, Penygroes, cae Nantlle Vale, cafwyd tywydd bendigedig er ei fod yn ddechrau Hydref ac mae gennym atgofion melys o'n hymweliadau yna.

Brwydrodd Bontnewydd yn galed yn yr hanner cyntaf ond Bethel aeth ar y blaen gyda gôl ddadleuol. 'Roedd ergyd Aaron yn hedfan am y gôl pan lawyd y bel ar y llinell gan amddiffynnwr Bont, ond er nad oedd y bel wedi croesi'r llinell penderfynodd y dyfarnwr ganiatáu’r gôl. Y farn gyffredinol oedd bod y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir, yn hytrach na rhoi cig o’r smotyn ac anfon yr amddiffynnwr i ffwrdd. Aaron cafodd ail Bethel gyda Siôn a Shaun yn cyfuno i greu. Cafodd Bont gyfle euraidd i gael gôl nol cyn yr hanner ond yr ergyd yn mynd yn syth at Lee yn y gôl i Fethel.

Rheolodd Bethel yr ail hanner. Daeth trydedd Bethel wedi gwaith da yn amddiffyn Bethel gan Gethin Parry a basiodd yn dda i Siôn ar yr asgell dde. Aeth Siôn heibio'r amddiffynnwr cyn croesi i Aaron rwydo. Aaron sgoriodd y bedwaredd hefyd a gorffen yn gelfydd wedi pas dda gan Gruff. Gorffennwyd gyda ddwy gôl wych, gyda Siôn yn sgorio gyda tharan o ergyd wedi pass gan Iwan ac yna Siôn yn creu gôl i Dion sgorio gydag ergyd o bell. Gethin Parry cafodd y fraint o godi'r gwpan i Fethel.

Diolch i bawb am ddod i gefnogi'r tim.

Er bod sawl un wedi chwarae yn eithriadol o dda yn enwedig Ben yng nghanol y cae, Seren y gêm am sgorio pedwar gôl oedd Aaron .

-----------------------------------------------------

Nos Iau 17 Mai 2012
Rownd gyn derfynol cwpan Gwyrfai
Bethel 8 - Mynydd Llandegai & Deiniolen 0

Sgorwyr/Scorers: Aaron (3), Iwan (2), Siôn, Gruff, Og

Bethel ar ei gorau ac yn rheoli'r gêm o'r dechrau i'r diwedd. Aeth Bethel ar y blaen wedi pas wych gan Iwan yn darganfod Aaron a redodd ymlaen i sgorio i gornel chwith y rhwyd. Daeth yr ail wedi rhediad da gan Jack a phas arall da i Iwan. Cadwodd Iwan ei ben a mynd o amgylch y gôl-geidwad i rwydo. 'Roedd Iwan yng nghanol popeth a creuodd gyfle arall i Aaron rwydo ei ail. Daeth y bedwaredd wrth i Ben dderbyn y bel yn nwfn yn hanner ei hun a chario'r bel i mewn i hanner y gwrthwynebwyr ac yna rhyddhau Gethin Bryn a groesodd i Iwan sgorio ei ail. 4-0 hanner amser.

Daeth dwy gol arall yn fuan i mewn i'r ail hanner gyda Shaun yn dal y bel i fynnu’n dda i ryddhau Gethin Parry. Er gallai Gethin fod wedi mynd ei hun dewisodd groesi i Siôn sgorio'r rhwydd. Yn fuan wedyn Hari'n derbyn y bel yn amddiffyn Bethel ac yna'n rhyddhau Dion a groesodd gyda Gruff yn derbyn y bel i sgorio. Daeth Mynydd Deiniolen nol mewn i'r gêm a dim ond arbediad gwych gan Lee gadowdd y gwrthwynebwyr rhag sgorio. Daeth seithfed Bethel wrth i amddiffynnwr y gwrthwynebwyr yn anffodus yn troi'r bel i'w rwyd ei hun a daeth y gôl olaf o gic olaf y gêm wrth i gyfuniad o Sion a Dion greu'r drydedd i Aaron.

Seren y gêm am greu dwy a sgorio dwy yn ystod hanner cyntaf wych oedd Iwan

Bethel at their best and controlled the game from start to finish. Bethel went ahead following a great pass from Iwan through to Aaron who ran strongly on to score in the left corner of the goal. The second game following a fine run from Jack and a great pass to Iwan who kept his composure to round the goalkeeper and score. Iwan was in the middle of everything and created another chance for Aaron to net his second. The fourth came with Ben collecting the ball in his own half and carrying the ball into the opposition half before releasing to Gethin Bryn who crossed for Iwan to score his second. 4-0 HT.

Two further goals came soon after the restart with Shaun holding the ball up well and releasing Gethin Parry. Gethin could have gone on himself but choose to cross for Siôn to net. Soon afterwards Hari collected in the ball in the Bethel defence and released Dion whose cross found Gruff to score. Mynydd Deiniolen came back into the game and only an excellent save from Lee denied the opposition. Bethel's 7th came from an own goal created by Aaron and the final goal came from the last move of the game as a combination of Siôn and Dion created Aaron's 3rd.

Man of the match for scoring two and creating two in an excellent first half performance was Iwan.

-----------------------------------------------------

Dydd Sul 29 Ebrill 2012
Llongyfarchiadau mawr i dim dan 12 Bethel yn curo Cwpan Cymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 1 - Llandudno 0
Sgoriwr: Og

Bore gwlyb oedd yn gwynebu Bethel yn y ffeinal yn erbyn Llandudno ar gae Bae Colwyn. Dechreuodd y gwrthwynebwyr yn gryf gan greu sawl cyfle a dim ond y postyn, y bar a Lee yn y gôl i Fethel a gadwodd y sgôr i 0-0. Pan gafodd Lee ei guro 'roedd Hari yn y fan a'r lle i glirio oddi ar y llinell. Fel aeth yr hanner ymlaen daeth Bethel fwyfwy i mewn i'r gêm a gyda'r egwyl yn nesáu peniodd Ifan y bel allan o amddiffyn Bethel i Aaron a reolodd yn dda, cyn rhyddhau Iwan lawr y dde. Rhedodd Iwan yn nerthol i mewn i'r blwch ond cafodd ei ergyd ei arbed yn dda gan gôl-geidwad Llandudno ond yn anffodus tarwyd y bel yn erbyn amddiffynnwr Llandudno i mewn i'w rwyd i'w hun. 1-0 ar yr hanner.

Dechreuodd Bethel reoli'r gêm a'r ddechrau’r ail hanner a daeth cyfleoedd da i Iwan, Aaron a Gethin Bryn ond gôl-geidwad Llandudno'n arbed yn dda. 'Roedd Llandudno dal yn fygythiad ac 'roedd rhaid i amddiffyn Bethel a Lee fod yn wyliadwrus a'r sawl achlysur. Rhyddhad mawr oedd clywed y chwiban olaf.

Dyfarnwyd gôl-geidwad Llandudno yn seren y gêm ond er bod hwn yn berfformiad gwych gan y tîm oedd un yn sefyll allan i Fethel gyda sawl arbediad gwych a dwylo da, felly Lee yn seren y gêm i Bethel

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2012
Bethel 4 - Nantlle Vale 1

Sgorwyr: Aaron 3, Shaun 1

Bethel ar ei gorau a'r gychwn y gêm ac yn mynd ar y blaen yn fuan iawn wedi pas dda gan Hari allan o amddiffyn Bethel i Shaun a gododd y bel dros ben amddiffyn Nantlle i Aaron redeg ymlaen a chodi'r bel dros ben gol-geidawd Nantlle i'r rhwyd. Cyfuniad arall rhwng Siôn a Shaun greodd yr ail gyda Aaron unwaith eto'n rhwydo. Daeth trydydd Aaron a Bethel wedi symudiad gwych arall a gychwynnwyd gan Siôn, ac yna Osian yn darganfod Iwan a groesodd i Aaron sgorio. 3-0 hanner amser.

Dechreuodd Nantlle'r ail hanner yn gryf, a gwelwyd perfformiad da gan y ddau dîm, gyda'r ddau amddiffyn yn chwarae yn dda. Daeth pedwerydd gol i Fethel pan sgoriodd Shaun o bas gan Dion. Cipiodd Nantlle un gôl yn ôl wrth i un o'i blaenwyr dorri drwy amddiffyn Bethel i sgorio gôl dda. Perfformiad cryf arall gan Bethel, gyda gwaith arbennig o dda gan Ben yng nghanol cae, ond y seren y gêm oedd Aaron am sgorio 3 gol arall i Fethel.

-----------------------------------------------------

Nos Fercher 18 Ebrill 2012
Bethel 4 - Mynydd Llandegai & Deiniolen 1
Sgorwyr: Osian, Aaron 2, Dion


Mae gemau rhwng Bethel a Mynydd Llandegai & Deiniolen i gyd wedi bod yn hynod o gystadleuol a doedd hon yn ddim eithriad gyda Mynydd yn brwydro'n galed ac yn creu sawl cyfle ac yn amddiffyn yn dda gan gadw Bethel i hanner cyfleoedd yn unig. Cymerodd symudiad gwych gan Fethel i greu'r gyntaf, gyda Gethin Bryn i hollti'r amddiffyn i Siôn redeg mewn i'r blwch cosbi a chroesi'n gelfydd i Osian rwydo. Pas ardderchog arall gan Jack arweiniodd at yr ail, gyda Aaron yn rhwydo. 2-0 ar yr hanner.

A'r ddechrau'r ail hanner daeth Mynydd yn ôl i mewn i'r gêm wedi Bethel ildio cig o’r smotyn a chafodd Lee yn y gôl i Fethel dim siawns. Ymatebodd Bethel yn dda gyda gôl wych arall wrth i Shaun godi'r bel dros yr amddiffyn i Iwan redeg yn gryf cyn croesi i Aaron sgorio ei ail. Daeth bedwaredd Bethel wedi symudiad da arall gyda Siôn yn rhyddhau Aaron a basiodd i Dion saethu'n gryf heibio'r gol-geidawd.

Seren y gêm am ei waith diflino yng nghanol y cae oedd Gethin Bryn.

-----------------------------------------------------

Nos Fercher 4 Ebrill 2012
Bethel 4 - Penrhosgarnedd 1
Sgorwyr: Osian (2), Siôn (2)

Gem a chwaraewyd mewn amodau anodd gyda gwynt cryf. Dewisodd Penrhos chwarae yn erbyn y gwynt yn ystod yr hanner cyntaf a prin aeth y bel i mewn i hanner Bethel. Er i Bethel reoli'r gêm, amddiffynnodd Penrhos yn wych gan gadw Bethel i ychydig iawn o gyfleoedd clir a gwnaeth gôl-geidwad Penrhos sawl arbediad gwych. Aeth Bethel ar y blaen gydag ergyd wych gan Osian wedi pas gan Siôn Bullock a dim ond munud oedd a'r ôl cyn yr hanner pan sgoriodd Osian eto wedi pas gan Gethin Bryn.

'Roedd ychydig o bryder nad oedd 2-0 o fantais yn ddigon gan ystyried bod Bethel yn chwarae yn erbyn y gwynt ac i fynnu'r llethr ond dangosodd Bethel eu talent gan unwaith eto reoli'r chwarae. Daeth y drydedd gyda Siôn yn sgorio wedi gwaith da gan Aaron cyn i Penrhos dynnu un gôl yn ôl. Aaron greodd y bedwaredd gyda Siôn unwaith eto yn sgorio.

Seren y gêm am ei berfformiad orau o'r tymor yn creu un a sgorio dwy oedd Siôn.
-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2012
Mynydd Llandegai & Deiniolen 1 - Bethel 5
Sgorwyr: Aaron (2), Shaun, Gethin Bryn, Iwan


Bethel yn bencampwyr Cyngrhair Gwyrfai 2011/2012

Nid hwn oedd perfformiad gorau'r Bethel o'r tymor ond pob clod i'r gwrthwynebwyr am berfformiad da, a gallent ystyried ei hunain yn anlwcus i ildio 5. Mynydd oedd y tîm gorau am gyfnod hir o'r hanner cyntaf ac yn haeddiannol yn mynd ar y blaen. 'Roedd Bethel yn ffodus i ddod yn ôl yn gyfartal wrth i Shaun sgorio wedi tafliad gan Bethel pan oedd Mynydd wedi stopio gan feddwl mai eu tafliad nhw oedd o. Aeth Bethel ar y blaen wedi symudiad da gan Iwan yn rhyddhau Shaun a Shaun yn croesi i Aaron rwydo 2-1 hanner amser.

Yn raddol cryfhaodd Bethel ond 'roedd Mynydd dal yn fygythiad a bu bron iddyn nhw unioni'r sgôr ond Lee yn arbed yn wych yn y gôl i Fethel. Daeth goliau Bethel yn y chwarter awr olaf, wrth i Shaun ryddhau Ben lawr yr asgell dde, a'i groesiad yn dod o hyd i Gethin Bryn i rwydo. Daeth y bedwaredd i Aaron wedi pas gan Iwan, ac yna Iwan yn sgorio'r bumed wedi pas gan Aaron.

Seren y gêm am ei waith amddiffynnol, yn wyliadwrus o ymosodwyr Mynydd ac yn arbed Bethel ar sawl achlysur oedd Jack.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2012
Rownd gyn-derfynol Cwpan Cymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd CymruBethel 5 - Nefyn 0
Sgorwyr: OG (2), Osian, Shaun, Iwan


Llongyfarchiadau mawr i Bethel am gyrraedd y rownd derfynol

dan 12

Ar fore braf heb fawr o awel gwelwyd un o berfformiadau gorau Bethel o’r tymor. Fel sydd wedi bod yn nodweddiadol yn ddiweddar, 'roedd amddiffyn Bethel yn gadarn gan rwystro Nefyn i ambell hanner cyfle yn unig. Yn raddol cafod Bethel y gorau o'r chwarae gan greu sawl cyfle da ond amddiffyn a gôl geidwad Nefyn yn eu cadw allan. Daeth y gôl gyntaf wedi rhediad nerthol Osian i mewn i'r cwrt cosbi, Aaron yn cael cyffyrddiad i'r bel ac yna amddiffynnwr Nefyn yn anffodus yn taro'r bel i'w rwyd ei hun. 1-0 ar yr hanner.

Rheolodd Bethel yr ail hanner a daeth yr ail gol yn fuan ar ôl yr ail gychwyn gydag amddiffynnwr Nefyn yn anffodus yn gwyro'r bel heibio'r gôl-geidwad i'r rhwyd o dan bwysa gan Shaun. Daeth y trydydd bron iawn yn syth wrth i Siôn Bullock dderbyn y bel ar yr asgell dde ac yn pasio'n gelfydd i Iwan i ryddhau Osian. Rhedodd Osian i mewn i'r blwch a chadw eu nerfau i guro'r gôl-geidwad. Parhaodd Nefyn i frwydro ac arbedodd Lee'n dda yn deifio wrth draed ymosodwr Nefyn i arbed un symudiad. Daeth pedwerydd Bethel o gic gornel gan Ben, rheolodd Shaun y bel yn dda cyn troi a tharo ergyd heibio'r gôl-geidwad. Daeth y bumed ychydig o funudau o'r diwedd wrth i Aaron ddod i hyd i Iwan a darodd ergyd gref i gornel uchaf y rhwyd.

'Roedd sawl perfformiad gwych gyda sawl un yn disgleirio ond seren y gêm wythnos yma oedd Osian.

Brysia wella Gethin Bryn, gobeithio dy weld yng nghrys Bethel eto cyn diwedd y tymor.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2012
Bontnewydd 0 - Bethel 6
Sgorwyr: Gethin Bryn (2), Shaun, Gruff, Aaron, Iwan

Degfed gêm gynghrair Bethel o'r tymor. 'Roedd yr hanner cyntaf yn hynod o gystadleuol ac er i Bethel greu sawl cyfle gwnaeth gôl-geidwad Bont yn wych gan wneud sawl arbediad campus. Parhaodd Bethel yn gryf yn y cefn gyda Jack yn cael gem dda fel cefnwr chwith. 0-0 ar yr hanner.

Cododd Bethel ei gem a'r ddechrau'r ail hanner gyda Shaun yn sgorio with pass dda gan Ben. Creuodd Iwan gol wych i Gethin Bryn ac yna Gethin Bryn yn creu gôl i Gruff. Daeth goliau pellach wedi Aaron rwydo wedi pas gan Dion ac yna Iwan yn sgorio wedi pas dda gan Gruff. Daeth y gôl olaf i Gethin Bryn wedi pas wych arall gan Ben. 'Roedd y perfformiad yn nodweddiadol oherwydd bod bob u'n o'r goliau wedi eu creu trwy waith y tîm.

Seren y gêm wythnos yma am iddo greu dwy gol a rheoli ganol y cae yn yr ail hanner oedd Ben.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 3 Mawrth 2012
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru Rownd Go-gynderfynol
Bethel 2 - Dinbych 1
Sgorwyr: Shaun, Aaron


Gem gystadleuol yn erbyn tîm cryf iawn o Ddinbych. Dewisodd Bethel chwarae yn erbyn y gwynt hanner cyntaf ac am gyfnodau hir rheolodd Dinbych y gêm. 'Roedd rhif 7 Dinbych yn rheoli ganol y cau ac 'roedd Bethel yn cael hin anodd i ddod allan o hanner eu hunain oherwydd y gwynt. Aeth Dinbych ar y blaen wedi symudiad lawr ochr chwith y cau a pan ddaeth croesiad drosodd pennwyd y bel i gornel y rhwyd. Brwydrodd Bethel yn galed ac ataliwyd y bel sawl gwaith mewn sefyllfaoedd peryglus a gwaneth Lee sawl arbediad pwysig. 0-1 ar yr hanner.

Newidiwyd llif y gêm wedi'r toriad wrth i basio Bethel fod yn fwy pwrpasol a chywir ac yn raddol meistrolodd Bethel y gêm. Daeth Bethel yn gyfartal wedi chwip o ergyd gan Shaun o bell tu allan i'r cwrt cosbi a suodd heibio'r gôl-geidwad i gefn y rhwyd. Codwyd ysbryd Bethel a chrëwyd sawl cyfle da a dechreuodd Dinbych flino. Daeth y gôl fuddugol wedi symudiad da a'r y chwith i Aaron redeg ymlaen i mewn i'r cwrt a saethu i gornel y rhwyd. 'Roedd amddiffyn Bethel yn gadarn a Lee'n parhau i ddal popeth. Daeth un munud o gonsyrn wrth i ymosodwr Dinbych osgoi'r amddiffyn ond o unlle daeth Osian i glirio'r peryg. Sgôr terfynol 2-1.

Perfformiad gwych gan bawb a sawl un yn sefyll allan ond Seren y Gêm wedi ei ddewis gan reolwr Dinbych oedd Dion. Da iawn Dion, perfformiad arwrol yng nghanol yr amddiffyn.

Diolch i Ddinbych am gêm mor dda â phob lwc iddynt weddill y tymor.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 25 Chwefror 2012
Llanrug 2 - Bethel 9
Sgorwyr: Aaron (4), Gethin Bryn (3), Gethin Parry, Iwan

Gem gyntaf Bethel am fis oherwydd gwyliau a thywydd gwael. Dechreuodd Bethel yn dda gydag Iwan yn creu'r gôl gyntaf i Aaron ac yna Aaron yn creu'r ail gol i Gethin Bryn. Sgoriodd Aaron ei ail wedi croesiad gwych gan Gethin Bryn ac yna Shaun yn penio'n dda i Gethin sgorio ei ail. Bethel yn anffodus yn ildio gôl i'w rhwyd ein hunain wedi cig rhydd gan Lanrug. Sgoriodd Aaron pumed Bethel wedi pas gan Gruff ac yna Gruff yn creu gôl i Gethin Bryn. 6-1 hanner amser.

Ar gychwyn yr ail hanner sgoriodd Aaron ei pedwerydd wedi pas gan Shaun cyn i Gethin Parry sgorio ei gol cyntaf o'r tymor. Sgoriodd Llanrug gol da i'w gwneud hi'n 8-2, cyn i Iwan sgorio gôl dda wedi rhediad o'i hanner ei hun.

Seren y gêm am berfformiad da yng nghanol yr amddiffyn oedd Dion

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2012
Penrhosgarnedd 1 – Bethel 5
Sgorwyr: Iwan (2), Shaun (2), Gruff


Oherwydd salwch dau o chwaraewyr ac anaf (brysia wella Ben) ‘roedd rhaid i Fethel ail drefnu ychydig. ‘Roedd un gêm eisoes wedi chwarae ar y cae yn ystod y bore ac ‘roedd y tywydd gwael yn ystod yr wythnos yn golygu bod y cae yn drwm a haen o fwd yn y blychau cosbi’r ddwyochr. Er yr amgylchiadau ceisiodd Bethel i basio’r bel a defnyddiwyd y ddwy asgell yn effeithiol ond pan ddaeth y bel i mewn i'r cwrtcosbi ni lwyddwyd i droi’r meddiant i mewn i goliau wrth i’r bel fynd yn sownd yn y mwd ar sawl achlysur. O’r diwedd wedi dyfalbarhaddaeth y gôl gyntaf wedi Iwan lwyddo i wyro’r bel heibio’r gôl-geidwad wedi gwaith da gan Shaun. Yn fuan wedyn daeth yr ail y tro yma Shaun yn sgorio wedi pass dda gan Gethin Bryn. 2-0 ar yr hanner.

Cychwynnodd Penrhos yn dda yn yr ail hanner a pan na gliriwyd y bel wedi cic rydd gwnaeth Penrhos hi’n 2-1. Yn raddol cafodd Bethel y gorau o’r chwarae eto ac wrth i Penrhos flino daeth 3 gol i Fethel yn y chwarter olaf gyda Gruff yn sgorio wedi pass drwadd gan Hari cyn i Aaron greu 2 gol, 1 i Iwan a 1 i Shaun.

Perfformiad penigamp arall wrth ystyried yr amgylchiadau. Da iawn Bethel.

Seren y gêm wythnos yma wedi gwaith di flino mewn amgylchiadau anodd yng nghanol y cau yn amddiffynnol ac ymosodol oedd Gethin Bryn.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 14 Ionawr 2012
Bethel 11 Llanrug 0
Sgorwyr: Siôn (2), Aaron (2), Gethin Bryn (2), Ben, Shaun, Hari, Iwan, Dion


Bethel yn rheoli’r gêm gyda phasio da. Unwaith eto Bethel yn cychwyn yn dda gyda goliau’n dod gan Ben, Siôn (2), Shaun, Hari a Gethin Bryn gydag Iwan yn creu 3 o’r goliau cyn yr hanner. Yn yr ail hanner daeth goliau pellach gan Aaron (2), Gethin Bryn, Iwan a Dion. Daeth un o goliau Aaron wedi iddo gael ei rwystro yn y blwch a sgoriodd gic o’r smotyn cyntaf y tîm.

Seren y gêm wythnos yma wedi iddo greu 3 gol a sgorio 1 oedd Iwan.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2012
Nantlle Vale 1 – Bethel 6
Sgorwyr: Aaron (3), Iwan (2), Gruff


Y gêm gyntaf wedi toriad y Nadolig a pherfformiad canmoladwy arall gan Fethel. Cychwynnodd y gêm gyda’r ddau dîm yn creu cyfleoedd gyda symudiadau a phasio da ond Bethel aeth ar y blaen wedi pas Jack drwy’r amddiffyn i Iwan rwydo. Daeth yr ail gol o dafliad gan Lee gol geidwad Bethel i Dion a gariodd y bel heibio ganol cae Nantlle cyn rhyddhau Gruff i sgorio. O symudiad gan Dion ddaeth y drydedd hefyd wrth i Aaron ddilyn i fynnu i sgorio pan na ddalwyd ergyd Dion am gol. 3-0 ar yr hanner.

Daeth tair gôl bellach i Fethel yn yr ail hanner gyda Aaron yn rhwydo o bas Shaun ac yna’n cael ei hat-trick wedi croesiad gan Ben ac yna Iwan yn sgorio gôl dda wedi eu greu gan Shaun. Ildiodd Bethel gol hwyr wedi cic rydd da gan Nantlle.

tim dan 12 Seren y gêm wedi gwaith gwych ar ochr chwith yr amddiffyn a hefyd sawl rhediad ymosodol nerthol oedd Jack.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2011
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 14 - Menai Bridge Tigers 0
Sgorwyr: Aaron (6), Shaun (3), Iwan (2), Siôn, OG (2)


Braf oedd cael bore braf wedi wythnos stormus. Yn ein gem olaf cyn y toriad am y Nadolig chwaraeodd Bethel yn wych gyda phasio da gan y holl dîm. Dechreuodd Bethel ar dan a sgorio wedi ond 2 funud wedi rhediad da Jack lawr yr asgell chwith a Aaron yn gorffen yn dda ar y postyn cyntaf. Yn fuan wedyn gwnaeth Shaun hi'n ddwy ac 'roedd hi'n dair wedi ddim ond 7 munud wrth i amddiffynnwr Porthaethwy yn anffodus yn rhoi'r bel yn rhwyd ei hun wedi gwaith da gan Iwan. Parhaodd Bethel i sgorio'n rheolaidd gyda Aaron hefo 3 ac Iwan hefo 2 yn rhwydo ac un gôl i rwyd ein hunain. 'Roedd y pasio graenus a arweiniodd at y goliau yn werth yn weld.

Yn yr ail hanner parhaodd Bethel i bwyso a daeth goliau pellach gan Aaron (2), Shaun (2) a Siôn ac unwaith eto braf oedd gweld gwaith rhagorol yn arwain at y goliau. Seren y gêm wythnos yma oedd Dion yn cael ei gem orau dros Fethel ac yn llwyr reoli ganol y cae.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2011
Cwpan Gwyrfai
Llanrug 1 - Bethel 2
Sgorwyr: Aaron, Dion

Bethel yn gwynebu Llanrug am yr eil dro o fewn wythnos, y tro yma yng nghwpan Gwyrfai. Dechreuodd Bethel ar dan gan fynd ar y blaen ar ôl munudau'n unig wrth i Gruff greu lle yng nghanol y cae a phasio'n gelfydd i Aaron rhwydo. Wedi hynny brwydrodd Llanrug yn galed ac er i Fethel gael sawl cyfle ni ddaeth yr ail gydag Osian yn y gôl i Lanrug yn gwneud sawl arbediad da. I mewn i'r ail hanner a gyda ddim ond 10 munud ar ôl ildiodd Bethel gic o’r smotyn a gwnaeth Llanrug hi'n gyfartal. Pob clod i Fethel, parhaodd pawb i frwydro'n galed a daeth y gôl fuddugol wedi i Siôn gymryd cornel byr i Dion a saethodd yn gywir i gornel uchaf y rhwyd. Seren y gêm wythnos yma oedd Aaron.

-----------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2011
Llanrug 0 Bethel 9
Sgorwyr: Aaron 2, Gethin Bryn 2, Shaun 2, Osian, Gruff, Iwan

Ar fore gwyntog fe lwyddodd yr hogiau i ennill i ffwrdd i Lanrug o naw gol i ddim. Yn yr hanner cyntaf roeddem yn chwarae yn erbyn
y gwynt. Rhwydodd Aaron y gôl gyntaf, ac ar ôl gwaith da gan Gruff, Aaron sgoriodd yr ail hefyd. Gwnaeth Gethin Bryn hi'n dair cyn yr egwyl gyda phas gan Osian. Fe gafodd Llanrug ambell i gyfle yn ystod yr hanner cyntaf, ond roedd amddiffyn Bethel yn gadarn a Lee gyda dwylo saff yn y gol. Yn yr ail hanner gyda'r gwynt tu ol iddynt sgoriodd Bethel chwe gôl arall. Gruff yn pasio i Osian rwydo, yna Gruff, Iwan a Shaun yn sgorio, Gethin Bryn yn cael ei ail gol o'r gêm o bas gan Osian, a Ben yn pasio i Shaun gael ei ail gol.

Seren y gêm wythnos yma oedd Osian.

------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2011

Cwpan Arfordir Gogledd Cymru

Llanrwst 2 - Bethel 3
Sgorwyr: Shaun (2), Iwan

Gem hynod o gystadleuol gyda'r ddau dîm yn creu sawl cyfle yn ystod yr ugain munud cyntaf. Llwyddodd Bethel i gadw ymosodiadau’r tîm cartref allan a rheolodd Lee yn y gôl i Fethel ei gwrt cosbi yn ardderchog. Aeth Bethel ar y blaen ar ôl 25 munud wedi i Jack basio'r bêl drwy amddiffyn Llanrwst a Gruff yn ffugio i adael y bel rhedeg drwodd i Shaun rwydo. 1-0 ar yr hanner.

'Roedd yr ail hanner yr un mor gystadleuol gyda Llanrwst yn bygwth ar sawl achlysur ond llwyddodd amddiffyn Bethel a Lee yn y gôl i atal y storm. Daeth yr ail gol wedi cig gornel na chliriwyd gan Lanrwst, rhoddodd Hari'r bel yn ôl i Gethin Bryn a groesodd i Shaun sgorio gyda pheniad cryf. Parhaodd Llanrwst i ymosod a gyda llai na 10 munud ar ôl ildiodd Bethel gic o’r smotyn a rhwydodd Aron Hughes yn dda i Lanrwst. Wedi cyfnod ansicr gan Fethel cafodd Siôn y bel yn ganol y cae a basiodd y bel yn wych i gwrt cosbi Llanrwst a manteisiodd Iwan ar y bel rhydd i rwydo. 3-1 i Bethel. 'Roedd mwy i ddod wrth i Aron sgorio gôl dda i Lanrwst ond llwyddodd Bethel i ddal ymlaen tan ddiwedd y gêm.

Llongyfarchiadau i Lanrwst a Bethel am gêm mor dda a diolch i Lanrwst am y croeso. Seren y gêm wythnos yma oedd Lee am ei berfformiad gorau eto yn y gôl i Fethel.

------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd 2011
Bethel 3 - Bontnewydd 2

Sgorwyr: Aaron 2, Osian

'Roedd yn niwrnod braf heb fawr o awel ac yn gynnes iawn. Gem hynod gystadleuol a'r gêm anoddaf i Fethel wynebu hyd yma'r tymor yma. Cychwynnodd Bethel yn dda gan wthio Bont i hanner ei hynna'n am gyfnodau hir a daeth y gôl gyntaf wedi 10 munud wedi symudiad da wrth i Ifan basio'r bel allan o'r amddiffyn i Siôn ar ochr y cwrt cosbi a basiodd i Osian yn y cwrt a drawodd ergyd dda heibio’r gôl-geidwad. Wedi hynny daeth Bont nol i mewn i'r gêm a creuwyd cyfle da ar yr ochr dde ond Lee yn y gôl i Bethel yn arbed yn dda. Ychydig yn ddiweddarach daeth cyfle arall i Bont wedi i bêl gan ei godi dros ben amddiffyn Bethel a'r tro yma gwnaeth Bont ddim camgymeriad i unioni'r sgôr. 1-1 ar yr hanner.

Dechreuodd Bethel yn dda yn yr ail hanner ac aethant ar y blaen wedi symudiad da a gychwynnwyd gan Gethin Parry yn pasio i Gethin Bryn ar y dde a groesodd i'r blwch i Aaron rwydo yn wych. Unwaith eto daeth Bont yn ôl a gyda 10 munud ar ôl unwyd y sgôr unwaith eto. Dangosodd Bethel gryn gymeriad a brwydro hyd y diwedd a chawsant ei haeddiant wedi croesiad da gan Iwan ac 'roedd Aaron yn y fan a'r lle i rwydo.

Canlyniad gwych a haeddiannol yn erbyn tîm talentog a cystadleuol. Seren y gêm wythnos yma a'm ei waith amddiffynnol soled oedd Ifan.

------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 22 Hydref 2011
Bethel 4 - Mynydd Deiniolen 1

Sgorwyr: Dion, Gruff, Gethin Bryn, Aaron

'Roedd yr haul allan ond 'roedd y gwynt yn gryf. Chwaraeodd Bethel yn erbyn y gwynt hanner cyntaf ac am gyfnodau hir methodd Bethel a thorri allan o'i hanner ond serch hynny llwyddodd Bethel i greu sawl cyfle da. Daeth y gôl gyntaf wedi gwaith ardderchog ar y chwith gan Gruff yn rhyddhau Dion a redodd yn gryf cyn taro'r bel i gornel gol y gwrthwynebwyr. Gallai Bethel fod wedi ymestyn ei mantais ond amddiffyn Mynydd Deiniolen yn dod i'r adwy sawl gwaith. 1-0 ar yr hanner.

Dechreuodd Bethel ar dan ar ddechrau'r hanner ac wedi dyfalbarhad enillodd Gruff y bel ar gornel y cwrt a tharo'r bel dros ben y gôl-geidwad i'r rhwyd. 'Roedd Gruff yn creu trafferth fawr ar y chwith a munudau'n ddiweddarach rhedodd yn gryf i mewn i'r cwrt ac er i'w ergyd gael ei arbed yn dda gan y gôl-geidwad dilynodd Gethin Bryn i fynnu i rwydo. Yn fuan wedyn daeth y gwrthwynebwyr yn ôl i mewn i'r gêm wedi pêl dros ben amddiffyn Bethel a rhedodd ymosodwr Mynydd Deiniolen yn glir a'i tharo bel dros y gôl-geidwad. Daeth y gôl olaf wedi i Sïon ennill y bel ar ochr cwrt Bethel a rhyddhau Dion yng nghanol y cae a darodd y bel dros amddiffyn Mynydd Deiniolen i Aaron fynd ar bêl heibio'r gôl-geidwad i sgorio.

Perfformiad proffesiynol unwaith eto a sawl unigolyn yn disgleirio ond seren y gêm wythnos yma oedd Gruff am ei waith gwych lawr yr asgell chwith gan greu dwy gôl a sgorio 1. Da iawn Gruff.

------------------------------------------------------

Dydd Sadwrn 8 Hydref 2011
Bethel 7 - Penrhosgarnedd 1

Sgorwyr: Shaun Owen (2), Gethin Bryn (2), Aaron, Dion, Ben

Ail gêm y tymor ar ddiwrnod gwlyb ar cae yn llithrig. Dechrau da gan Bethel a gôl ar ôl 3 munud gan Shaun Owen ar ôl pas dda gan Iwan. Yr un cyfuniad yn gweithio eto, Iwan yn pasio i Shaun i sgorio'r ail gol. Chwarae da gan yr hogiau, pasio a symudiadau gwych gan greu ambell i gyfle, ond roedd gôl-geidwad Penrhos yn arbed yn dda a 2-0 oedd hi ar yr hanner.

Ar ddechrau’r ail hanner Aaron yn rhwydo wedi pas gan Jack i’w gwneud yn 3-0. O’r ail ddechrau cipiodd Penrhos gôl sydyn , 3-1. Ysbrydolodd hyn tîm Bethel a sgoriodd Gethin Bryn ddwy gol dda ac wedyn gwaith da gan Gruff yn creu gôl i Dion, a Ben yn gorffen gyda gôl wych i wneud y sgôr terfynol yn 7-1.

Ar y cyfan chwarae da gan y sgwad i gyd o’r gôl-geidwad a’r amddiffyn, i ganol cae a’r blaenwyr. Seren y gêm wythnos yma, ac ‘r oedd yna ambell un, ond y dewis oedd Shaun Owen.

Da iawn hogiau, daliwch ati.

------------------------------------------------------

Nos Wener 31 Hydref 2011
Nantlle Vale 0 - Bethel 4

Sgorwyr: Shaun Owen (2), Aaron, Sion Bullock

Cychwynnodd Bethel yn araf ac am y 10 munud cyntaf Nantlle oedd y tîm cryfaf ond amddiffyn Bethel yn gadarn. Daeth Bethel fwy fewn i'r gêm a dechrau rheoli ganol cae a chreu sawl cyfle ond amddiffyn Nantlle yn gwneud yn dda gyda gôl-geidwad Nantlle yn gwneud sawl arbediad da. Daeth y gôl gyntaf wedi croesiad da gan Gethin Bryn a Shaun Owen yn penio'n dda i'r gol. 1-0 ar yr hanner.

Meistrolodd Bethel yr ail hanner a daeth yr ail gol wedi symudiad da a gorffennwyd gyda pass wych gan Ben i Aaron a drawodd y bel heibio'r gôl-geidwad. 2-0. Daeth y drydydd wedi gwaith da gan Shaun yn rhydau Iwan lawr y dde a pan ddaeth y croesiad i'r cwrt chwech gwnaeth Siôn Bullock ddim camgymeriad. Sgoriodd Bethel y 4ydd o gic rydd wedi Jack gael ei lorio ar ymyl y blwch wedi rhediad gwych. Dion gymerodd y gic rydd a phasio nôl i Shaun a gododd y bel dros y wal i gornel uchaf y rhwyd.
Perfformiad gwych gan bob aelod o’r tîm a sawl un yn disgleirio ond seren y gêm am ei waith amddiffynnol a creadigol yng nghanol y cae oedd Ben

21/04/12
Bontnewydd B 3 - Bethel 5


Gem wych i’r niwtral, ond un anodd i’r rheolwyr gyda’r ddwy ochr yn mynd ar y blaen mwy nag unwaith yn ystod y gêm. Bontnewydd setlodd yn gyntaf, yn ennill y rhan fwyaf o’r peli yng nghanol y cae. Daeth gôl gynnar i Bont ar ôl deg munud gyda phêl syml trwy’r amddiffyn. Tarodd Bethel yn ôl 5 munud wedyn, gydag Osian Edwards yn y lle cywir yn y blwch i daro gôl ar ôl croesiad da o’r asgell dde. Un yr un ar ôl hanner amser. Cychwynnodd Bethel rheoli’n well yn yr ail hanner, a Gwion John yn sgorio ar ôl chwarter awr. Daeth Bont yn ôl yn syth yn sgorio o groesiad. Daeth trydedd gôl i Bont o gornel, Bethel yn methu clirio’r bel, ac yna ergyd dda i sgorio. Yn lle rhoi i fyny, cododd Bethel eu gem gan basio a defnyddio’r asgell yn well. Sgoriodd Rhys Grail dwy gôl o fewn pum munud, y cyntaf yn codi Bethel i fod yn gyfartal ar 3 : 3. Daeth gôl gyntaf Rhys o gornel, ac yna Gwydion Morris yn gwneud y gêm yn saffach gyda lob wych dros y gôl-geidwad i fynd a Bethel ar y blaen 4 : 3. Sgoriodd Rhys ei ail gyda pheniad o groesiad gan Owain. Goliau cyntaf y tymor i Rhys - da iawn.

Siôn Alun oedd seren y gêm gyda perfformiad wych unwaith eto yn yr amddiffyn.

14/04/12
Rownd y wyth olaf Cwpan Gwyrfai.
City Pumas B 0 : 8 Bethel


Perfformiad gwych gan Fethel ar ôl cyfnod eithaf hir i ffwrdd yn dilyn gwyliau’r Pasg. Roedd Bethel yn rhy gryf ar draws y cae, yn chwarae peldroed o safon uchel. Agorodd Gwydion Morris y sgorio ar ôl 47 eiliad, yn ei gem gyntaf fel ymosodwr i’r tîm. Gwion John oedd seren y gêm gyda 4 gôl, hat-trick yn dod o fewn deg munud wych, deg munud cyn diwedd yr hanner gyntaf. Daeth pedwar gôl arall yn yr ail hanner, Siôn Alun yn dod i fyny o’r amddiffyn i sgorio’n wych gyda’i ben. Gwion John yn sgorio ei bedwerydd 4 munud wedyn, yna Osian Edwards yn cael ei gyntaf o’r tymor. Cwblhaodd Owain Gibbard bore llwyddiannus gydag ergyd caled munudau cyn i’r chwiban olaf.

Seren y gêm: Gwion John.

24/03/2012
Mynydd Tigers 2 : 1 Bethel


Canlyniad gwaethaf y tymor i Fethel, er gweithio’n galed trwy’r gêm a Bethel yn cael y rhan fwyaf o’r chwarae a nifer fawr o gyfleoedd, colli oedd y canlyniad. Owain sgoriodd unig gôl i Fethel.

Seren y gêm i Fethel oedd Owain Gibbard.

10/03/12
Bethel 1 : 3 Cae Glyn


Bethel yn colli eu gem gyntaf ar ôl ennill 3 mewn cyfres. Cychwynnodd Bethel yn dda, gan ddal Cae Glyn allan am 25 munud, nes i’r dyfarnwr rhoi cic o’r smotyn am dacl yn y blwch cosbi. Cae Glyn yn sgorio ac yn mynd ar y blaen. Gydag ond munudau tan hanner amser, sgoriodd Cae Glyn eto i fynd 2 ar y blaen. Cychwynnodd Bethel yn well o lawer yn yr ail hanner, a sgoriodd Owain ei ail mewn dwy gêm gydag ergyd dda ar ôl 10 munud. Daliodd Bethel hogiau Cae Glyn tan y munudau olaf, gan gystadlu’n dda am y bel, ond torrodd Ryan drwodd gydag ond ychydig funudau i fynd i sgorio ei hatric.

Nathan Pycroft yn ennill seren y gêm i Fethel am yr ail wythnos, gyda perfformiad wych eto yn yr amddiffyn.

 

03/03/12
Bethel 5 : 0 Bontnewydd B


Un o ganlyniadau gorau'r tymor i Fethel, yn y gwynt a’r glaw. Cychwynnodd Bethel yn erbyn y gwynt cryf, felly dal Bontnewydd allan oedd bwriad yr hanner gyntaf. Er hyn, aeth Bethel ar y blaen ar ôl chwarter awr gyda gôl wych o bellter. Daeth hanner amser, a Bethel ar y blaen 1 i 0. Tro Bethel oedd hi i chwarae gyda’r gwynt yn yr ail hanner, ac o fewn 5 munud sgoriodd Owain Gibbard gydag ergyd caled o ochr y blwch. Deg munud eto sgoriodd Bethel eu trydedd gôl gyda Gwion John ar darged unwaith eto. Sgoriodd Yannic ei ail, a’i wythfed o’r tymor o ganol cae o fewn yr awr. Gyda’r gêm yn saff erbyn hyn, gydag ond munudau i fynd, sgoriodd Gwion Lowe ei gyntaf o’r tymor ar ôl i hogiau Bethel bwyso am hir yn y blwch. Da iawn Bethel.
Nathan Pycroft oedd seren y gêm, gyda pherfformiad cryf unwaith eto yn yr amddiffyn.

 

11/02/12
Bethel 2 : 1 Mynydd Tigers


Gem galetaf ers tro gyda rhai o hogiau i fwrdd neu wedi brifo. Roedd yn rhaid tynnu Iwan Jones o ganol cae yn gynnar yn y gêm ar ôl iddo frifo. Er hyn, aeth Bethel ar y blaen gyda gôl yn ystod yr hanner cyntaf. Sgoriodd Gwion John ei ail gôl yn fuan yn yr ail hanner, ond ychydig i mewn i’r hanner bu Bethel i lawr i 10 dyn gydag anaf arall, a neb arall ar y fainc. Chwaraeodd Bethel yn wych am dros ugain munud gydag ond 10 dyn. Sgoriodd y teigrod i fynd a’r sgôr i 2 i 1 i Fethel, ond bu Bethel o dan bwysau am weddill y gêm.
Da iawn i’r hogiau am ddal ati, a chadw Mynydd allan tan y chwiban olaf.

Sion Alun oedd seren y gêm, yn arwrol yn yr amddiffyn.

 

04/02/12
City Pumas B 1 : 5 Bethel


Gem gynnar ar gae caled, a’r tywydd yn ofnadwy o oer. Roedd patrwm gem pasio arferol Bethel yn anodd ar gae caled, roedd Bethel wedi cadw’r Pumas yn hanner eu hunain o’r cae am fwyafrif o’r gêm. Daeth gol cyntaf i Fethel drwy Gwion John, Yannic yn dyblu’r sgor munudau cyn yr hanner.
Cafodd Bethel nifer fawr o gyfleodd yn yr hanner, ond roedd gol-geidwad y Pumas yn wych, ac yn gwneud sawl arbediad allweddol.
Roedd y Pumas yn chwarae gyda’r hogiau i gyd yn ardal y gôl, yn gwneud hi’n anodd i Fethel gael cyfleodd clir ar gôl. Daeth gôl gyntaf yr ail hanner i Owain Gibbard, ac yna ail i Yannic gydag ergyd wych. Hitiodd Osian Edwards y postyn ar ôl ergyd wych gyda’i ben, ac yna hitiodd y bar munudau wedyn gydag ergyd tebyg.
Tarodd y Pumas yn ôl gyda gôl eu hunain gyda bron iawn eu unig gynnig trwy’r gêm. Ond Bethel oedd yn pwyso hyd at y diwedd, a Gwion John yn cael ei ail gyda phum munud i fynd.

Osian oedd seren y gêm gyda pherfformiad ardderchog ar yr asgell, a tri chyfle ar gôl.


28/01/12
City Pumas A 1 : 1 Bethel


Perfformiad gwych gan yr hogiau yn chwarae gem gyffrous a chyflym gyda phasio da a chywir. Bethel yn sgorio yn gyntaf yn gynnar yn y gêm ar ôl cyfnod da o bwyso. Daeth y Pumas yn ôl gyda gôl eu hunain, ond Bethel oedd yn creu y rhan fwyaf o’r cyfleoedd. Perfformiodd amddiffyn Bethel yn wych wrth gadw y Pumas allan yn yr ail hanner. Nathan Pycroft oedd seren y gêm, gyda dwy dacl allweddol i gadw Bethel yn y gêm. Roedd y pum munud olaf yn gyfnod o bwyso yn ardal y gôl gan Bethel, ond ni ddaeth y gôl i guro’r gêm, er sawl cyfle.

 

21/01/12
Bontnewydd A 7 : 0 Bethel


Gem anodd iawn i Fethel eto erbyn tîm cryf a chyflym . Roedd yna welliant o’r gêm ddiwethaf, a hogiau Bethel yn cael cyfnodau da o basio, ac ambell gyfle am gôl.

Iwan Jones oedd seren y gêm i Fethel, roedd ei waith ar ac oddiar y bêl yn esiampl i bawb.

14/01/12
Penrhos B 0 : 6 Bethel


Gem dda iawn i hogiau Bethel. Roedd y pasio yn dda iawn yn yr hanner cyntaf, a’r amddiffyn yn gryf trwy’r gêm. Agorodd Yannic y sgorio gyda pheniad o gig cornel. Sgoriodd Gwion John cic o’r smotyn ymhen ugain munud , ac yna yn sgorio eto tair munud wedyn gyda phêl trwy’r amddiffyn gan Owain Gibbard. Daeth dwy gol arall yn sydyn wedyn cyn hanner amser, yn gyntaf gan Owain, ac yna Gwion John yn cael ei hatric wrth fynd o amgylch y gôl-geidwad.
Daeth Penrhos yn ôl yn gryfach yn yr ail hanner ac yn gwneud hi’n anoddach i hogiau Bethel. Sgoriodd Owain chweched i Fethel gyda backheel ar y lein ac i’r rhwyd.

Gwion John oedd seren y gêm, gyda’i drydydd hatric y tymor.

 

10/11/12
Penrhos A 3 : 0 Bethel


Er colli, hwn oedd perfformiad gorau hogiau Bethel y tymor hyd hyn. Sgoriodd Penrhos ar ôl tua 10 munud, er i hogiau Bethel chwarae’n dda, a chlirio a stopio y rhan fwyaf o gyfleodd Penrhos. Llorwyd Gwion John yng nghwrt cosbi Penrhos, ond ni welodd y dyfarnwr yr angen i roi cic o’r smotyn. Costiodd hyn yn ddrud i Fethel. Daeth ail gol Penrhos munudau cyn hanner amser, Bethel wedi brwydro yn y mwd am bob pêl.

Cafodd hogiau Bethel eu cyfnod gorau yn ystod yr ail hanner, yn cael sawl cyfle ond methu a sgorio. Gweithiodd yr hogiau yn andros o galed am dros hanner awr heb ildio, bob un yn rhoi cant y cant. Daeth gol olaf Penrhos trwy lwc pur, pêl yn gwirio oddiar chwaraewr Bethel a dros ben Tim y gôl geidwad ac i’r gol. Cafodd nifer o hogiau Bethel gem arbennig yn erbyn hogiau blwyddyn yn hyn, ond Sion Alun oedd

Seren y gêm gyda pherfformiad gwych eto yn yr amddiffyn.

 

03/12/2011
Llanrug Unedig 9 : 1 Bethel


Bethel yn chwarae hogiau hyn Llanrug am yr ail dro o fewn pythefnos. Cychwynnodd Bethel yn wych gan sgorio yn gyntaf, Gwion John yn sgorio ei unarddegfed gol o’r tymor. Cadwodd hogiau Bethel hogiau Llanrug allan am dros ugain munud.
Bethel yn brwydro yn galed iawn trwy gydol y gêm, ond colli oedd y canlyniad eto.

Sion Alun oedd seren y gêm i Fethel, gyda pherfformiad cryf yn y cefn.

 

19/11/2011
Bethel 1 : 8 Llanrug Unedig


Roedd disgwyl gem galed, a gem galed a gafwyd yn erbyn hogiau blwyddyn yn hyn. Daeth pum gol yn yr ail hanner i Lanrug, eu cryfder a’u pasio cywir yn profi yn ormod i Fethel yn yr ugain munud olaf. Daeth gol hwyr i Yannic a rhywbeth i godi gwen ar wynebau Bethel. Er y sgor, roedd Bethel wedi gweithio’n galed iawn ac wedi mwynhau’r em.
Ifan Roberts oedd seren y gêm i Fethel gyda’i waith a’i taclo caled.

 

05/11/2011
Cae Glyn 6 : 6 Bethel


Gem y tymor, neu’r ganrif, ond nid gem dda i nerfau Huw y rheolwr.
Bethel ar y blaen 4 gwaith yn ystod y gêm, ond hogiau Cae Glyn yn taro yn ôl pob tro. Hogiau Bethel yn dangos eu penderfyniad i gael rhywbeth o’r gêm, pawb wedi gweithio’n hynod o galed ac yn haeddiannol iawn o’r sgôr, er ychydig yn anlwcus i beidio ennill, gyda sawl penderfyniad yn mynd yn eu herbyn yn y gêm.
Iwan Jones a Yannic yn sgorio un yr un, a Gwion John yn parhau i fod yn fygythiad mawr o flaen gol gyda’i ail hatric mewn dwy gêm

Gwion eto yn seren y gêm.

 

15/10/2011
Bethel 7 : 2 City Pumas B


Er y sgôr uchel i Fethel, nid oedd hon yn gêm un ochrog o bell ffordd. Roedd pasio a symudiad Bethel yn wych ar adegau, gyda Siôn Alun a Jamie yn sgorio un yr un, dwy i Owain Gibbard, a Gwion John yn cael hatric.

Gwion John yn haeddiannol o gael seren y gêm gyda pherfformiad cryf o flaen y gol.

08/10/2011
City Pumas A 2 : 1 Bethel


Gem gystadleuol, er i Fethel cael rhan fwyaf o’r chwarae yn ystod y gêm. Chwarae’n dda iawn. Ni chymerodd Bethel eu cyfleodd yn y gêm.
Jamie Williams sgoriodd y gôl i Fethel.

Seren y gêm oedd Ifan Roberts a oedd yn gadarn yn yr amddiffyn trwy’r gêm.

01/10/2011
Bethel 2 : 9 Bontnewydd A


Hogiau Bethel yn brwydro yn galed ar ddechrau’r gêm ac yn cadw tîm Bont rhag sgorio am ugain munud. Roedd tîm Bont yn rhy gryf i gadw allan, a Bont yn cosbi Bethel yn yr ail hanner. Yannic a Siôn Alun yn gwneud y sgôr ychydig yn fwy parchus gyda gôl yr un.

Yannic oedd seren y gêm i Fethel.

24/09/2011
Bethel 8 : 2 Penrhos B


Bethel wedi deffro'r wythnos yma ac yn chwarae yn arbennig o dda.

Owain Gibbard yn sgorio hatric, ac yn haeddiannol o fod yn seren y gêm.


17/09/2011
Llanllyfni 5 : 2 Bethel


Gem anodd i ddechrau’r tymor. Hogiau Llanllyfni wedi cychwyn yn well na hogiau Bethel. Er colli oedd eu hanes, fe orffennodd Bethel y gêm yn gryf.

Seren y gêm Tim Williams.