Dyma dîm dan 6 Clwb Pêl droed Bethel am y tymor 2017-18.Dyma lun o ran fwyaf o’r tîm yn eu kit newydd. Diolch yn fawr i Tryfan Cabs am eu noddi. Yn cael eu hyfforddi gan Graham Burton, diolch yn fawr iddo am roi ei amser i’r tîm. Pob lwc i chi yn ystod y tymor, mwynhewch |
||||||||||||||||
Tymor PrysurMae’r tîm wedi cael tymor prysur iawn gan chwarae nifer o gemau a cymryd rhan mewn twrnameintiau: 21/4/18 - Gêm V Felinheli ar gae Ysgol Bethel. Llwyddo i guro’r gêm. 5/5/18 - Gêm V Penrhos yn Bethel. Curo’r ddwy gêm.
16/6/18 - Twrnamaint Llanfairpwll. Curo 3 gêm yn y glaw a colli 1 gêm wrth chwarae honno gyda dim on 3 chwaraewr ar y cae! Hwylia’ da arnynt yn derbyn eu medalau er bod hi’n tywallt y glaw!
1/7/18 - Twrnamaint Mynydd Tigers ar gaeau rygbi Bethesda ar ddiwrnod chwilboeth! Daeth y tîm i guro bob gêm eto medda’ nhw a fe lwyddodd nhw hefyd!! Dathlu mawr yn derbyn eu medalau holl bwysig ar ddiwedd y diwrnod. Da iawn chi unwaith eto.
|
||||||||||||||||
Nos Iau 21 Mehefin 2018Ar nos Iau 21/6 daeth tîm dan 6 a dan 7 at eu gilydd ar gae Ysgol Bethel am gêm gyfeillgar. Roedd pawb yn mwynhau! |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 14 Mehefin 18Bethel (7) V Talysarn (0) Sgorwyr: Dion (2), Rio, Ceian (3), Cyffin Amddiffyn gwych heddiw gan nadu Talysarn sgorio gôl. Chwarae da iawn gan bawb heddiw |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018Bethel (16) V Bontnewydd (0) Sgorwyr: Rio (3), Dion (3), Carson (1), Ryan (2), Ceian (5) OG (2) Ar fore dydd Sadwrn, 17eg o Fawrth 2018, cafodd dîm dan 6 Bethel gêm ar gae Ysgol Bethel yn erbyn Bontnewydd. Llwyddodd Bethel i sgorio 14 gôl a nadu Bontnewydd sgôrio o gwbl. Roedd hi’n pluo eira a gwyntog iawn. |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2018Mynydd Tigers (2) V Bethel (20) |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 24 Chwefror 2018Talysarn (0) V Bethel (15) Sgorwyr: Dion (10), Ceian (4), Ryan (1) |
||||||||||||||||
Twrnament Bangor 3G 2/2/18Cafodd y tîm eu rhannu i ddau dim heno ar ôl croesawu 3 aelod newydd i'r tîm yn y flwyddyn newydd. Dyma ganlyniadau'r gemau: Bethel V Valley 3-0 (Sgoriwr: Dion) Noson oer iawn ond pawb wedi mwynhau a chwarae'n grêt gyda'u gilydd. |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2018 Bethel (8) - Segontiwm (3) Amddiffyn da iawn heddiw gan Bethel, gem heriol ond fe aeth y tiî amdani. Da iawn chi. |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2017Penrhosgarnedd (10) V Bethel (8) Gem ofnadwy o agos heddiw gyda'r ddau dim yn brwydro i sgorio, ymdrech dda iawn gan bawb unwaith eto. Daliwch ati. Diolch yn fawr i Graham am yr anrhegion Nadolig - sypreis neis i'r tim ar ddiwedd y gem heddiw wrth iddynt orffen y tymor. Seibiant dros y Nadolig rwan. |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2017Felinheli (3) V Bethel (11) |
||||||||||||||||
Bore Sadwrn 18 Tachwedd 2017Ar gae Ysgol Bethel, chwaraeodd dîm dan 6 Bethel ddwy gêm yn erbyn Bethesda bore 'ma. Bethesda v Bethel Y gêm gyntaf Bethel 5 - Bethesda 2 Sgorwyr: Rio a Dion Yr ail gêm Bethel (6) - Bethesda (4) Sgorwyr: Dion a Rio Gêmau anodd iawn heddiw gyda Bethel yn amddiffyn ac ymosod yn gryf iawn yn erbyn Bethesda. Da iawn chi Bethel, daliwch ati. |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017Bontnewydd (0) V Bethel (6) Yr ail gem Gemau da iawn heddiw gyda'r chwareuwyr yn chwarae fel tim. Gwych!! |
||||||||||||||||
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017Bontnewydd (0) V Bethel (6) Bontnewydd (2) V Bethel (5) Gêmau da iawn heddiw ar gae Bontnewydd yn y mwd :) pawb wedi mwynhau, a'r tîm yn gweithio gyda'u gilydd wrth basio a gweiddi am y bêl! Da iawn. Dyma lun o dîm dan 6 gyda'u hyfforddwr Graham Burton a Mervyn perchenog y cwmni Tryfan Cabs sydd wedi eu noddi y tymor yma. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth! |
||||||||||||||||
Nos Wener 29 Medi 2017Twrnament ar gae 3G Bangor Noson arbennig o lwyddianus yn eu twrnamaint cyntaf y tymor hwn. Y canlyniadau: Penrhos (2) V Bethel (1) Nantlle Vale (1) V Bethel (2) Segontiwm (0) V Bethel (3) Bethel (3) V Bryn Rhosyr (0) |
||||||||||||||||
28/9/17 Twrnament 3G Bangor3 - 1 (Dion 3) |
||||||||||||||||
Nos Iau 28 Medi 2017Cafodd y tim gyfle i ymarfer gyda tim academi Bangor ar gae 3G Bangor cyn mynd ymlaen i chwarae gem gyfeillgar, llawer o hwyl. |
||||||||||||||||
Bore Sadwrn 23 Medi 2017Bethel v Penrhyn Bay Dim llawer o lwc bore 'ma yn erbyn tim profiadol iawn. Nifer o gyfleoedd i sgorio gan Bethel ond gyda'r gol geidwad yn amddiffyn y gol, roedd yn amhosib cael y bel heibio. Ymdrech arbennig o dda eto, mae'r tim yn codi hyder ac yn mwynhau. |
||||||||||||||||
Bore Sadwrn 9 Medi 2017Segontiwm v Bethel Gem arbennig o dda gan Bethel, ar ol cychwyn aniscr, cafodd y tim egni a brwdfrydedd a mynd ymlaen i guro'r gem. Llawer iawn wedi ei sgorio i Bethel, da iawn chi. Hwyliau da ar bawb!
Gêm gyntaf arbennig o dda, da iawn chi bob un ohonych chi. Wedi cario mlaen yn y glaw hefyd!
Thursday 31/8/2017The team being given a team talk with their coach Graham before playing the Bethel Under 7’s. An evening of fun for the team on Bethel school’s pitch before the start of season.
|
Nos Iau 21 Mehefin 2018Ar nos Iau 21/6 daeth tîm dan 6 a dan 7 at eu gilydd ar gae Ysgol Bethel am gêm gyfeillgar. Roedd pawb yn mwynhau! |
Dyma dîm dan 8 Clwb Pêl droed Bethel am y tymor 2017-18.Cefn (chwith i'r dde) Max, Adam, Steffan, Riley Croeso at y tîm Caio Orlik ac i Caio Robin wrth iddo ail ymuno gyda'r tîm ar ôl seibiant fach. Pob hwyl i chi yn ystod y tymor. Diolch mawr i Andrew Williams (Taid Max) am roi ei amser i hyfforddi'r tîm eto eleni. |
||||
Tymor Prysur14/6/18 - Yn lle ymarfer heno, daeth tîm dan 8 a dan 9 Bethel at eu gilydd am gêm gyfeillgar. Braf gweld yr hogia’n mwynhau. |
||||
Nos Fercher 16 Mai 2018 Bethel v Penrhosgarnedd ar gae Treborth, Bangor |
||||
Dydd Sul 13 Mai 2018 Llongyfarchiadau mawr i'r hogia' yma ar eu ymdrech arbennig yn nhwrnamaint pêl droed cyffordd Llandudno dydd Sul 13/5/18. |
||||
Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018Bethel (9) V Bontnewydd (0) Chwaraeodd dîm pêl droed dan 8 Bethel yn erbyn Bontnewydd ar gae top Bethel bore ‘ma. Y ddau dîm yn chwarae yn eu cotiau gan iddi fod yn rhynllyd ofnadwy (mi roedd hi’n pluo eira!!). Roedd y rhieni (a’r hogia’) yn falch iawn o glywed y chwiban olaf. Rhedodd yr hogia fewn i’r cwt i gael cynhesu ychydig. Chwarae da iawn unwaith eto – daliwch ati bois. |
||||
Dydd Sul 4 Mawrth 2018 - Ras Gwib y Ddraig PorthaethwyAr ddydd Sul y 4ydd o Fawrth 2018, llwyddodd tîm pêl droed dan 8 Bethel i redeg 1.2milltir yn ras Gwib y Ddraig Ynys Môn. Diolch yn fawr iawn i chi am eu noddi. Mae nhw wedi casglu dros £200 rhyngddynt ac yn edrych ymlaen i gael tent ar gyfer ymlacio rhwng gemau yn yr holl dwrnameintiau sydd ar y gweill. Diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi’r tîm. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
||||
Dydd Sul 4 Chwefror 2018Cae Glyn (0) V Bethel (6) Gafodd y tîm gem ar b'nawn dydd Sul wythnos yma. |
||||
Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2018 Bethel (5) V Segontiwm (1) Braf oedd chwarae yn cae top Bethel heddiw gyda timau hyn Bethel yn chwarae'r un pryd, roedd y cae yn llawn bwrlwm a pawb yn mwynhau |
||||
Nos Fercher 20 Rhagfyr 2017Gem ar 3G Bangor heno. Chwarae arbennig o dda unwaith eto hogia'. Sgor dda iawn eto :) |
||||
Nos Lun 11 Rhagfyr 2017Cafodd y tîm eu gwahodd am gem gyfeillgar yn erbyn Cewri Bangor heno ar gae 3G Bangor. Mwynhaodd y ddau dim, diolch i Cewri Bangor am y croeso. |
||||
Bore Sadwrn 9 Rhagfyr 2017Nantlle Vale (0) V Bethel (8) |
||||
Bore Sadwrn 2 Rhagfyr 2017Y tîm wedi chwarae'n dda iawn yn erbyn Felinheli heddiw, sgor uchel iawn ac wedi nadu Felinheli rhag sgorio. |
||||
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017Am fore gwych, mae'r tîm wedi dangos heddiw sut mae chwarae gyda'u gilydd fel tîm yn gallu dylanwadu ar y sgôr - Rhyfeddol!! Pawb wedi rhoi ei sgiliau a trio technegau newydd ac yn fwy na dim cyd-weithio. Roedd pasio gwych yn mynd ymlaen a dwi'n siwr bod y sgôr ar gyfer y ddwy gêm yn adlewyrchu safon y chwarae bore 'ma. Daliwch ati hogia. Bontnewydd (1) V Bethel (6) Bontnewydd (3) V Bethel (18) |
||||
Bore Sadwrn 30 Medi 2017Cewri Bangor v Bethel - gem wedi ei ohurio oherwydd y tywydd! |
||||
Nos Wener 22 Medi 2017Bethel (8) v Llanberis (1) Sgorwyr: Max (2), Deio (2), Steff (1), Adam (1), Caio Orlik (1), Riley (1) |
||||
Nos Wener 15/9/2017Bethel (5) v Cae Glyn (2) Sgorwyr: Riley (2), Max (1), Steff (1), Deio (1) Dechrau da i'r tymor gyda Bethel yn chwarae'n gryf iawn yn erbyn Cae Glyn. |
Dydd Sadwrn 14 Hydref 2017Bethel 6 - Bethesda 3 Sgorwyrs: Jac Lloyd-Williams, Llyr a Iestyn (4) Dyma berfformiad gorau’r tymor gyda pawb yn y tîm yn defnyddio’r bel yn arbennig o dda ac yn ymwybodol o’u safleoedd trwy’r adeg. Cafwyd yr enghraifft gorau o chwarae o’r cefn gan Nia a welwyd gan unrhyw dim y tymor yma – yn union fel Franco Baresi neu Fabio Cannavaro o dim yr Eidal ers talwm!! |
Dydd Sadwrn 7 Hydref 2017Llanberis v Bethel Dechrau da eto’r wythnos yma gyda Jac Green a Iestyn yn rhoi y tîm ar y blaen. Colli rheolaeth ar y gem ddaru ddigwydd rywfaint ar ôl y toriad cyntaf ond fe adfywiodd Bethel eto. Gem agos gyfartal gyda ymdrech pawb yn arbennig o dda. Dalier ati i basio a symud y bel yn sydyn o un i’r llall. Dyna fydd pwyslais yr ymarferion nesaf. Da iawn bawb! |
Medi 30 2017Bethel v Bontnewydd Dechrau gwell heddiw ac yn gyffredinol y tîm yn cadw eu siâp yn well ac yn trystio pawb i wneud eu job yn iawn. Aeth Bethel 2 gôl ar y blaen yn fuan ond erbyn hanner amser roedd Bont wedi dod a’r sgôr yn ôl yn gyfartal. Yn yr ail hanner taniodd chwarae Bethel ac fe sgoriodd nhw 7 gôl arall yn ddi-ateb. Er bod y tîm yn ymosod yn dda mae clod arbennig i’r amddiffyn (Llyr a Jack Green) oedd ddim wedi methu dim un tacl trwy’r gem. |
Medi 23 2017Bethel v Llandwrog Dechrau araf gan y tîm heddiw (cofiwch bod kick-off am 9.30 dim ymgynnull am 9.30!!) ond daethant mewn i’r gem yn fwy a mwy wrth fynd yn ei flaen. 3-1 i Llandwrog oedd hi ar y diwedd ond ar gais yr ymwelwyr cafwyd ail gem ac yn y gem yma roedd Bethel yn creu cyfle ar ôl cyfle. Roedd Iestyn ar restr y sgorwyr a thrwy’r gem roedd yna fwy o ddisgyblaeth a cyd-chwarae gan y tîm. Ennill 5-3 gyda gôl wedi cael ei wrthod ar y chwiban olaf i’w gwneud hi yn 6-3 oedd y sgôr. Mi oedd o leiaf 10 cyfle gwych arall gan y tîm a bydd y goliau yn dod os ydi’r tîm yn parhau i chwarae fel hyn drwy gydol y gem. Da iawn chi! |
Medi 16 2017Llanrug v Bethel Ar ôl pythefnos o law ddi-ddiwedd rhaid oedd symud y gem o gae gwlyb Bethel i Lanrug. Dechreuodd y tîm yn bwrpasol eto ond Llanrug aeth ar y blaen ond yn raddol daeth trefn i chwarae a pasio Bethel ac ar ôl gôl agoriadol wefreiddiol gan Gruff gorffennodd Bethel y gem yn gryf. Mae mathemateg yn wendid gan y rheolwr (!) ond y farn gyffredinol oedd bod y gem yn gyfartal (4-4) gyda rhai positif yn meddwl efallai bod Bethel wedi’i chipio hi!! |
Medi 9 2017Nantlle Vale v Bethel Eto’r flwyddyn yma mae cae mwy, goliau mwy a 7 bob ochr eleni. |
Nos Wener 18 Mai 2018Dyffryn Nantlle 1 – Bethel 2 |
Nos Wener 11 Mai 2018Bethel 0 – Bontnewydd 4 |
Nos Iau 3 Mai 2018 Ffeinal Cwpan Gwyrfai |
Dydd Sadwrn 28 Ebrill 2018Penrhos A 1 – Bethel 0 |
Nos Iau 26 Ebrill 2018Bethesda 1 – Bethel 3 |
Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2018 Cwpan Gwyrfai |
Nos Iau 19 Ebrill 2018Cae Glyn 1 – Bethel 1 |
Nos Lun 16 Ebrill 2018 Cwpan Gwyrfai |
Nos Iau 12 Ebrill 2018Bethel 0 – Segontiwm 2 |
Dydd Sadwrn 7 Ebrill 2018Bethel 2 – Bethesda 0 |
Dydd Sadwrn 24 Mawrth 2018Bethel 3 – Penrhos A 3 |
Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018 Cwpan Gwyrfai Llyn |
Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2018 Gem cyfeillgar |
Dydd Sadwrn 2 Chwefror 2018Segontiwm 4 – Bethel |