Noson Cyflwyno Gwobrau 2006 - cliciwch yma i weld lluniau o'r noson.
Enillwyr Cwpan Gwyrfai o dan 13 2006 Llongyfarchiadau i'r tim ar rheolwr Andrew Williams am enill cwpan Gwyrfaio dan 13’s am y tro cyntaf yn ein hanes ar ddydd Sul, Mai 28.
Bethel 3 Nantlle Vale 1
Llongyfarchiadau i’r tîm a’i rheolwr Andrew Williams am lwyddo i ennill Cwpan Cynghrair dan 13eg Gwyrfai ddydd Sul, Mai 28ain am y tro cyntaf yn hanes y clwb. Cafwyd gêm o safon uchel iawn gyda Nantlle Vale yn profi y byddent yn un o’r timau cryfaf yn y gynghrair eto y flwyddyn nesaf gyda’i chwaraewyr ifanc talentog. Ond Bethel oedd gryfaf yn y ffeinal hwn diolch i gôl unigol wych gan Steffan Bullock a dwy gôl gampus gan Gruffydd John. Diolch i Glwb Pêl-droed Caernarfon am ganiatau i’r gêm gael ei chwarae ar Yr Oval, llwyfan teilwng iawn i gêm o safon arbennig.
Lluniau - Cliciwch yma
Nos Fercher Mai 3ydd
Bethel 2 – Nantlle Vale 1 - Cafwyd gêm agos iawn rhwng y ddau dîm . Aeth Bethel ar y blaen gyda gôl gan Gruffydd John ond daeth Nantlle Vale yn ôl i wneud y gêm yn gyfartal ar hanner amser. Llwyddodd Gerallt Bryn i sgorio’r ail gôl i Fethel rhyw 5 munud cyn diwedd y gêm a sicrhau 3 phwynt arall i Fethel.
Dydd Sadwrn Ebrill 29ain
Deiniolen 2 – Bethel 5
Bethel yn sicrhau goliau yn y chwarter olaf i ddod a buddugoliaeth arall i’r tim. Y sgorwyr i Fethel oedd Gruffydd John, Daniel Bell, Ezra Warren a Steffan Bullock ac 1 ‘own goal’.
Dydd Sadwrn Ebrill 15
Bethel 6 – Segontiwm 0
Gruffydd John ar ei orau heddiw yn sicrhau 3 gôl i’w dîm, Ezra Warren, Ellis Deemer a Steffan Bullock yn cael un yr un.
Nos Fercher Ebrill 5ed
Mynydd Tigers 0 – Bethel 4
Y sgorwyr i Fethel oedd Steffan Bullock, Gruffydd John, Gerallt Bryn a Daniel Bell
Dydd Sadwrn Mawrth 25
Felinheli 0 – Bethel 5
Y sgorwyr oedd Steffan Bullock, Gruffydd John 2, Adam Hughes ac Ezra Warren.
Dydd Sadwrn Mawrth 11
Bethel 8 – Penrhos 0
Y sgorwyr i Fethel oedd Steffan Bullock 4,Gruffydd John 3 a Daniel Bell
Cwpan y Gynghrair, Dydd Sadwrn, Chwefror 18fed
Mae’r tîm drwodd i’r rownd gyn derfynol ar ôl ennill yn erbyn Bontnewydd o 4 gôl i 0. Y sgorwyr i Fethel oedd Steffan Bullock 3 a Daniel Bell. Bydd Bethel yn chwarae yn erbyn Mynydd Tigers yn y rownd gyn derfynol yn ystod mis Mai . Pob llwyddiant i’r tîm.
Twrnament Bontnewydd - Dydd Sadwrn, Mai 27ain 2006
Llongyfarchiadau i’r tîm dan 9A a’i rheolwr Maldwyn John am lwyddo i ennill twrnament Bontnewydd ddydd Sadwrn, Mai 27ain. Da iawn i bawb arall o’r clwb (timau dan 7, dan 9 a dan 11eg) am ymdrech arbennig yn ystod diwrnod hir o gystadlu.
Nos Fawrth Mai 16
Waunfawr 2 – Bethel A 5
Gem arbennig o dda i Fethel heno, Connor Japheth yn sgorio 4 gôl i'w dim a William Coles yn sgorio 1. Un gem gynghrair sydd ar ôl gan y tim. Bydd y tîm yn chwarae yn nhwrnament Bontnewydd dydd Sadwrn yma Mai 20fed. Pob lwc i chi.
Da iawn hefyd am ddod ar frig cynghrair Penaltîn Uned 5!
Lluniau - cliciwch yma
Cynhaliodd Clwb pêl-droed Ieuenctid Bethel eu twrnament cyntaf ar Gae Coed Bolyn ar ddydd Sul Mai 14eg. Roedd y clwb wedi gwirfoddoli i gynnal twrnament Gwyrfai i dimau dan 11 oed. Hefyd cafwyd twrnament ar gyfer genethod dan 12 oed a dan 14 oed.
Er i’r glaw ddod yn y pnawn, parhaodd y chwarae a chafwyd diwrnod llwyddiannus iawn. Diolch i’r holl rieni fu’n cynorthwyo drwy’r dydd yn gwerthu lluniaeth, yn trefnu a reffio gemau ynghyd a gweithgareddau eraill oedd ar y cae.
Tim Penrhos a Segontiwm ddaeth i’r ffeinal yn y gynghrair gwyrdd a llwyddodd Penrhos i guro’r ffeinal ar ol amser ychwanegol. Roedd Tim Penrhos A yn fuddugol yn y gynghrair melyn yn curo tim Bethel A yn y ffeinal. Llongyfarchiadau mawr i glwb Penrhos ar eu dwbl.
Cyfarfu tim Mochdre Lepoards a Llanrug B yn ffeinal y genod dan 12 oed gyda Mochdre yn llwyddiannus. Tra dan 14 oed y tim lleol Bethel yn curo Nantlle Vale ar penaltis. Llongyfarchiadau mawr i chwi i gyd a gobeithio y dowch yn ol i gystadlu y flwyddyn nesaf.
Mae’r Clwb Pel droed yn ddiolchgar iawn i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd tuag at wobrau raffl a lluniaeth ac am y rhoddion a’r gefnogaeth a dderbyniwyd tuag at y twrnament. Diolch yn fawr i bawb.