Canlyniadau 2010 - 2011
Dydd Mawrth 26 Ebrill 2011
CPD Glantraeth 2 - 0 CPD Bethel
Dydd Sadwrn, Ebrill 23 2011
Tarian Goffa Bob Owen Memorial Shield Round Two.
CPD Bethel 1 - 3 Llanfairfechan Town FC
Sam Williams 13 mins.
Dafydd Parry 79 mins.
Dydd Mawrth, Ebrill 19 2011
Bangor City FC 1 - 7 CPD Bethel
Sam Williams 2/45/53/60 mins.
Aled Steele 32 mins.
Gary Jones 62 mins.
Dyfan Coles 80 mins.
Dydd Sadwrn, Ebrill 16,2011
CPD Bethel 3 - 5 CPD Bro Goronwy
Gary Jones 35 mins.
Lee Allen 48 mins.
Sam Williams 67 mins.
Dydd Mawrth,Ebrill 12,2011
CPD Bontnewydd 1 - 3 CPD Bethel
Sam Williams 65/85 mins.
Lee Allen 89 mins.
Dydd Sadwrn, Ebrill 9,2011
CPD Glantraeth 3 - 2 CPD Bethel
Sam Williams 56/57 mins.
Dydd Sadwrn, Ebrill 2,2011
Bob Owen Memorial Shield Round One
CPD Bethel 4 - 3 Beaumaris Town FC
Aled Steele 24 mins
Lee Allen 51/74/84(p) mins.
Dydd Mawrth, Mawrth 29,2011
CPD Bethel 0 - 1 Bangor University
Dydd Sadwrn, Mawrth 26,2011
NWCFA Intermediate Cup Semi-Finals
CPD Bethel 0 - 1 CPD Glantraeth
Dydd Sadwrn, Mawrth 5,2011
Gwynedd Safeflue Shield Round Two
CPD Bethel 2 - 3 CPD Bro Goronwy
Dyfan Coles 27/37 mins.
Dydd Sadwrn, Chwefror 19,2011
CPD Bethel 2 - 7 Beaumaris Town FC
Lee Allen 48/73(p) mins. mins
Dydd Sadwrn, Ionawr 29,2011
NWCFA Intermediate Cup Round Three.
CPD Bethel 3 - 1 Bangor City FC
Dyfan Coles 28 mins.
Lee Allen 50/64(pen) mins.
Dydd Sadwrn, Ionawr 22,2011
CPD Bethel 2 - 3 Holyhead Hotspur FC
Lee Allen
Terry Jones
Jordan Jones (2)
Dan Doyle
Dydd Sadwrn, Ionawr 8, 2011
Holyhead Hotspur FC 4 - 0 CPD Bethel
Dydd Sadwrn Rhagfyr 11, 2010
Beaumaris Town FC 5 - 2 CPD Bethel
Aled Steele 34 mins
Gary Jones 85 mins
Dydd Sadwrn Tachwedd 20, 2010
Llanfairfechan Town FC 5 - 2 CPD Bethel
Emlyn Roberts 4 mins.
Sam Williams 72 mins
Dydd Mawrth Tachwedd 16 2010
Bangor University FC 6 - 0 CPD Bethel
Dydd Sadwrn Tachwedd 6 2010
Black Dragon Badges Premier Cup Round Two
CPD Bethel 2 - 4 CPD Glantraeth
Lee Allen 4 mins
Sam Williams (pen) 69 mins.
Dydd Gwener, Hydref 8 2010
BLACK DRAGON BADGES PREMIER CUP ROUND ONE
Bangor City 1 - 4 CPD Bethel
John Owen 36 mins
Sam Williams 27 mins
Lee Allen 32/45/75 mins
Dydd Mawrth, Hydref 5 2010
Bangor University A CPD Bethel
- llifolau ddim yn gweithio
Dydd Sadwrn, Hydref 2 2010
CPD Bethel 6 – 0 Aston Park Rangers
Lee Allen 48 mins.
Emlyn Roberts 69 mins.
Sam Williams 55/65/72/84(p) mins.
Dydd Sadwrn Medi 4 2010
CPD Bro Goronwy P CPD Bethel
Dim Dyfarwr ar gael.
Dydd Sadwrn 28 Awst 2010
CPD Bethel 3 - 2 CPD Glantraeth
Sam Williams 19 mins.
Ben Bolton 65 mins.
Aled Steele 80 mins.
Dydd Mercher 25 Awst 2010
CPD Bethel 5 - 3 CPD Bontnewydd
Kevin Davies 18/40/70 mins
Aled Steele 61 mins
Sam Williams 73 mins
Dydd Sadwrn 21 Awst 2010
CPD Llanfairpwll 6 - 1 CPD Bethel
Dyfan Coles 87 mins
Dydd Mawrth 17 Awst 2010
CPD Bethel 4 - 1 Bangor City
Kevin Davies 18 mins
Sam Williams 23/31/65 mins
Dydd Sadwrn 14 Awst 2010
CPD Bethel 0 - 2 FC Nomads
Lee Molyneux 71/79 min
Canlyniadau 2010 - 2011
Dan 7 - Pencampwyr Twrnament Gwyrfai
Dydd Sadwrn 4 Mehefin 2011
Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fehefin 2011, bu i CPDI Nantlle Vale gynnal Twrnament Dan 7 Gwyrfai yn Penygroes. Mi roedd cyfanswm o 18 o dimau yn cystadlu, yn cynnwys dau dîm o Bethel. |
Mi roedd tri grwp yn cynwys 6 tîm yn bob grwp. Tîm Bethel A enillodd y twrnament, y tîm wedi chwarae gyda'r un 4 chwaraewr trwy gydol y dydd, sef Ben Evans, Elis Jones, Dylan Roberts a Rhys Hughes. Chwarae 5 gem yn ei grwp, ennill tair, cyfartal yn un, a cholli un.
Yn y rownd go-gyn derfynol mi enillodd yr hogiau yn gyfforddus yn erbyn Bontnewydd o 6 gol i 0.
Yn y rownd gyn derfynol, cyfartal oedd y sgôr yn erbyn Llanberis ar ddiwedd amser arferol, y sgôr yn 1 - 1. Gol aur oedd hi wedyn, a tua chwe munud i mewn i amser ychwanegol, sgoriwyd y gôl i ennill y gêm i Bethel gan Rhys Hughes.
Yn y rownd derfynol, Llewod Llanrug oedd yn sefyll rhwng y tîm a'r gwpan. Enillodd y tîm 2 - 1, Elis Jones a Ben Evans oedd y sgorwyr i Bethel. Prif sgoriwr Bethel yn y twrnament oedd Ben Evans. |
Canlyniadau 2010 - 2011
Nos Lun 27 Mehefin 2011 - Tlws yr ECO
Ennillwyr Tlws yr Eco
Roedd 12 o dimau yn cystadlu am y gwpan y flwyddyn yma - dau grwp o 6 tim. Mi ennilliodd yr hogia pob un o'u gemau heb ildio gol. Yn y rownd gyn-derfynnol ein gwrthwynebwyr oedd Bethel B. Roedd hon yn gem galed a chystadleuol. Yr hogia yn curo 2 - 0
Yn y rownd derfynnol ein gwrthwynebwyr oedd Llanrug A. Ar gyfer y gem yma roedd y cae wedi cael ei wneud yn fwy. Chwaraeodd yr hogia yn wych, gan reoli'r gem o'r dechrau i'r diwedd - gan guro 3-0. Heb arbedion gwych gol-geidwad Llanrug, gallai'r sgor wedi bod llawer mwy.
Felly am y drydedd flwyddyn yn olynnol, Bethel yn curo twrnament Eco'r Wyddfa. Da iawn chi hogia. Tymor gwych unwaith eto.
Dydd Sul 5 Mehefin 2011
Pencampwyr Twrnament Llanfairpwll dan 8
Roeddem wedi cael ein rhoi mewn grwp anodd iawn. Fe chwaraeodd yr hogiau yn arbennig o dda, ac ar adegau, cystal ag rwyf wedi eu gweld yn chwarae. Roedd y gemau i gyd yn anodd ac yn gystadleuol iawn, ac mae'n glod i'r hogiau eu bod nhw wedi curo’r grwp. Dyma'r canlyniadau.
Bethel 3 Penrhos B 0 (Huw, Owain 2)
Bethel 1 Cae Glyn Coch 1 (Callum)
Bethel 1 Mynydd Tigers 0 (Owain)
Bethel 2 Segontiwm 0 (Callum, Owain)
Bethel 0 Nantlle Vale 0
Yn y rownd gyn-derfynol, Cae Glyn Glas oedd ein gwrthwynebwyr. Hon eto yn gêm agos iawn ac di-sgor ar ddiwedd y gêm. Felly parhau i chwarae nes buasai un tîm yn sgorio'r 'golden goal'. Y tro yma, Cae Glyn aeth a hi gyda gôl lwcus iawn.
Da iawn chi hogiau.
Nos Iau 19 Mai 2011
Bethel A v Nantlle Vale A
Gem 1: 2 - 0
Sgorwyr: Huw, Owain
Gem 2: 1 - 0
Sgoriwr: Josh
Dydd Sadwrn 21 Mai 2011
Bontnewydd A v Bethel A
Gem 1: 2 - 2
Sgorwyr: Callum, Owain
Gem 2: 0 - 3
Sgorwyr: Owain 2, Josh
Dydd Sadwrn 30 Ebrill 2011
Twrnament Dyffryn Nantlle
Gyda'r haul yn tywynnu aeth criw bach o chwaraewyr dan 9 Bethel draw i Ddyffryn Nantlle i'r twrnament. Roedd yn dwrnament poblogaidd iawn gyda 24 o dimau yn cymeryd rhan o ar draws gogledd orllewin Cymru, mewn tri grwp.
Y sgwod oedd:
Huw (capten), Ywain, Callum, Daniel, Sion Lewis, Gwyndaf ac Owain
Dyma ein canlyniadau ni o'r grwp:
Bethel 1 Segontiwm 0 (Owain)
Bethel 0 Pwllheli A 2
Bethel 1 Penrhyn A (Owain)
Bethel 4 City Pumas 0 (Owain 2, Sion Lewis, Daniel)
Bethel 3 llanrug A 1 (Owain 3)
Bethel 0 Celtiaid Llanfair B 0
Bethel 1 Cae Glyn 0 (Daniel)
Felly gyda canlyniadau o guro 5, cyfartal 1 a cholli 1 fe wnaeth yr hogia guro y grwp gyda Pwllheli yn ail a Chae Glyn yn drydydd.
Rownd Gyn-derfynol
Bethel 1 Mynydd Tigers 0 (Huw)
Gem galed iawn unwaith eto yn erbyn Mynydd Tigers. Dim sgor yn ystod y gem, felly chwarae amser ychwanegol. Roedd yr hogia yn chwarae yr arbennig o dda ac heblaw am golgeidwad Mynydd buasent wedi ennill y gem yn gyffyrddus . Huw yn y diwedd yn sgorio y 'golden goal' gyda gol unigol arbennig o dda.
Rownd derfynol
Bethel 0 Celtiaid Llanfair A 1
Ein gwrthwynebwyr yn y ffeinal oedd Celtiaid Llanfair A. Gem wych unwaith eto gyda'r ddau dim yn cael nifer o gyfleuon. Yn y diwedd Llanfair aeth a hi gyda gol lwcws o dafliad.
Erbyn 7 yr hwyr, aeth pawb wedi ymladd ond yn hapus iawn. Ffantasig hogia.
Nos Fercher 20 Ebrill 2011
Deiniolen v Bethel
Gem 1: 0 - 8
Sgorwyr: Owain 5, Callum 2, Huw 1
Gem 2: 0 - 0
Dydd Sadwrn 16 Ebrill 2011
Bethel A v Mynydd Tigers A
Gem 1: 0-0
Gem 2: 1-0
Sgoriwr: Osian
Nos Fercher 6 Ebrill 2011
Waunfawr v Bethel A
Gem 1: 0 - 6
Sgorwyr: Owain 3, Callum 2, Huw
Gem 2: 0 - 2
Sgorwyr: Daniel, Kyle
Nos Fercher 30 Mawrth 2011
Cae Glyn A v Bethel A
Gem 1: 1 - 0
Gem 2: 2 - 3
Sgorwyr: Owain, Celt 2
Dydd Sadwrn 26 Mawrth 2011
Bethel A v Penrhos A
Gem 1: - 3 - 0
Sgorwyr: Owain, Callum, Huw
Gem 2: 5 - 0
Sgorwyr: Owain 4, Kyle
Dydd Sadwrn 19 Mawrth 2011
LLanrug A v Bethel A
Gem 1: - 0 - 2
Sgorwyr: Huw, Owain
Gem 2: 0 - 3
Sgorwyr: Owain, Osian, Callum
Dydd Sadwrn 5 Mawrth 2011
Bethel A v Cae Glyn
Gem 1: - 0 - 0
Gem 2: 3 - 1
Sgorwyr: Daniel 2, Gwyndaf
Dydd Sadwrn 19 Chwefror 2011
Segontiwm A v Bethel A
Gem 1 - 0:0
Gem 2 - 0:1
Sgoriwr: Huw
Dydd Sadwrn 12 Chwefror 2011
Bethel A v Bontnewydd A
Gem 1 - 7:3
Sgorwyr: Josh 2, Huw 2, Owain 3
Gem 2 - 1:5
Scoriwr: Owain
Dydd Sadwrn Tachwedd 20 2010
Mynydd Llandegai v Bethel A
Gem 1 - 1:0
Gem 2 - 0:2
Sgorwyr: Owain (2)
Segontiwm B v Bethel B
Gem 1 - 1:7
Sgorwyr: Celt 3, Cai 3, Twm 1
Dydd Sadwrn Tachwedd 13
Nantlle Vale A v Bethel A
Gem 1 - 0:2
Sgorwyr: Huw, Owain
Gem 2 - 0:1
Sgorwyr: Owain
Bethel B v Cae Glyn B
Gem 1 - 2:1
Sgorwyr: Cai, Celt
Gem 2 - 1:3
Sgoriwr: Cai
Dydd Sadwrn Tachwedd 6
Bethel A v Waunfawr
Gem 1: 7:1
:Sgorwyr: Huw 3, Owain 3, Josh 1
Gem 2: 4:0
Sgorwyr: Gwyndaf 1, Josh 1, Sion Lewis 1, Ywain Emrys 1
Dydd Sadwrn 16 Hydref
Penrhos A v Bethel A
Gem 1 - 0:2
Sgorwyr: Huw, Callum
Gem 2 - 0:5
Sgorwyr: Celt 3, Cai, Josh
Dydd Sadwrn 9 Hydref
Bethel A v Llanrug A
Gem 1 - 2:2
Sgorwyr: Josh, Owain
Gem 2 - 4:0
Sgorwyr: Huw, Owain 2, Callum
Bethel B v City Pumas
Gem 1 - 6:2
Sgorwyr: Cai Llwyd Jones 3 ,Celt Moss 2 ,Twm Henri Williams 1
Gem 2 - 0:3
Dydd Sadwrn 2 Hydref
Bethel A v Deiniolen
Gem 1 -
5 : 1
Sgorwyr: Owain 3, Huw 1, Ywain 1
Gem 2 -
2 : 0
Sgorwyr: Callum 1, Daniel 1
Llanrug B v Bethel B
Gem 1 -
1 : 0
Gem 2 -
1 : 0
Canlyniadau 2010 - 2011
Nos Fawrth 28 Mehefin 2011
Tlws yr ECO
Cymerodd y tîm A a'r tîm B rhan yng nghystadleuaeth tlws yr eco. 'Roedd pob un o’r 7 tîm yn chwarae ei gilydd gyda'r 4 uchaf yn mynd i'r rown gyn derfynol. Y pedwar tîm ddaeth i'r brig oedd Bethel A, Llanrug A, Deiniolen a Llanberis.
Yn y rownd gynderfynol curodd Bethel A Llanberis o 1-0 a curodd Deiniolen Llanrug ar giciau o’r smotyn. Yn y ffeinal, colli bu hanes Bethel ond perfformiad gwych unwaith eto.
Tymor gwych, y gorau eto!
Dydd Sul 26 Mehefin 2011
Pencampwyr Twrnament Nefyn
Bu'r tîm dan 11A yn cystadlu yn twrnament Nefyn a gynhaliwyd a'r caeau clwb Rygbi a chriced Pwllheli yn Efailnewydd. Mewn haul poeth perfformiodd yr hogiau yn wych gan guro pob gem ein grwp. Y canlyniadau oedd
Bethel 3 - Bro Enlli B 1
Bethel 6 - Pwllheli B 0
Bethel 4 - Dolgellau 3
Bethel 8 - City Dragons 0
Bethel 3 - Blaenau 0
Yn y rownd gyn derfynol Bro Enlli A oedd ein gwrthwynebwyr ac ni lwyddodd y naill dim nâr llall i sgorio a bu rhaid penderfynu ar giciau or smotyn a Bethel aeth a hi.
Yn y gêm derfynol curodd Bethel o 1-0 yn erbyn Blaenau gyda gôl gan Shaun Owen. Llwyddiant arall ardderchog i'r tîm!
Cliciwch yma i weld y lluniau
----------------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2011
'Roedd Bethel wedi ei rhoi mewn grwp anodd, gyda Llanrug, Penrhosgarnedd a Bontnewydd. Dyma'r canlyniadau
Bethel 5 - Llanrug 2
Bethel 1 - Penrhosgarnedd 0
Bethel 3 - Bontnewydd 0
Yn y rownd gynderfynol chwaraeodd Bethel dim da iawn Nantlle Vale ac er inni chwarae amser ychwanegol nid oedd modd gwahanu'r timau. Ymlaen felly i giciau o’r smotyn ac am unwaith Bethel fuon fuddugol gyda Jack yn cadw ei nerfau i sgorio'r gôl fuddugol.
Yn y rownd derfynol chwaraeodd Bethel Llanrug am yr eil dro, a'r tro yma curo 3-1 gyda goliau gan Iwan (2) a Shaun (1). Llongyfarchiadau i'r holl dîm, yn haeddiannol yn cael eu coroni yn bencampwyr twrnament Gwyrfai. Chwaraeodd yr hogiau beldroed o’r lefel uchaf, ymysg y gorau 'rwyf wedi ei weld ganddynt.
----------------------------------------------------------
Nos Fercher 11 Mai 2011
Bethel A 0 - Bontnewydd 5
Nos Iau 12 Mai 2011
Bethel B 1 - Cae Glyn Du 5
Sgoriwr: Nathan
Dydd Sadwrn 7 Mai 2011
Bethel B 1 - Deiniolen 5
Sgoriwr: Owain Thomas
Nos Fawrth 3 Mai 2011
Mynydd Tigers A 1 - Bethel A 1
Sgoriwr: Jack
Mynydd Tigers B 1 - Bethel A B
Sgoriwr: Ioan
Nos Fercher 20 Ebrill 2011
Bethel A 2 - Nantlle Vale 3
Sgorwyr: Jack, Gethin Jones
Nos Iau 14 Ebrill 2011
Waunfawr B 1 - Bethel B 3
Sgorwyr: Nathan, Sara, Dion
Waunfawr A 0 - Bethel A 11
Sgorwyr: Shaun (5), Gethin Jones (3), Getin Parry (2), Jack
Nos Fawrth 5 Ebrill 2011
Llanberis 3 - Bethel A 5
Sgorwyr: Gethin Jones 2, Iwan 2, Shaun
Dydd Sadwrn 2 Ebrill 2011
Bethel A 5 - Felinheli 0
Sgorwyr: Shaun (3), Sion (2)
Bethel B 4 - Waunfawr B 1
Sgorwyr: Huw, Owain, Nathan (2)
Dydd Sadwrn 26 Mawrth 2011
Bethel A 2 - Penrhosgarmedd 3
Sgorwyr: Shaun, Jack
Nos Wener 25 Mawrth 2011
Bethesda 3 - Bethel B 3
Sgorwyr: Gethin P, Gethin J, Elin
Dydd Sadwrn 19 Mawrth 2011
Cae Glyn Coch 1 - Bethel B 6
Sgorwyr: Nathan (4), Owain, Elin
Llanrug A 0 - Bethel A 1
Sgoriwr: Shaun
Dydd Sadwrn 5 Mawrth 2011
Bethel A 2 - Cae Glyn A 2
Sgorwyr: Iwan, Shaun
Bethel B 0 - Bontnewydd B 2
Dydd Sadwrn 12 Chwefror 2011
Bethel A 2 - Mynydd Tigers A 1
Sgorwyr: Ben, Shaun
Bethel B 3 - Myydd Tigers B 6
Sgorwyr: Nathan, Dion, Ruben
Dydd Sadwrn Tachwedd 13 2010
Nantlle Vale 0 - Bethel A 4
Sgorwyr: Shaun Owen (3), Gethin Parry
Dydd Sadwrn 16 Hydref
Penrhos A 1 - Bethel A 4
Sgorwyr: Gethin Jones 2 Shaun Owen 2
Bethel B 3 - Bethesda 3
Sgorwyr: Dion 2, Nathan 1
Dydd Sadwrn 9 Hydref
Bethel A 3 - Llanrug A 1
Sgorwyr: Iwan 2, Sion Bullock 1
Bethel B 3 - Cae Glyn Coch 1
Sgorwyr: Dion 2, Ruben 1
Dydd Sadwrn 2 Hydref
Bethel A-6 Llanberis-1
Sgorwyr: Gethin Jones (3), Jack, Iwan, Sion Bullock
Bethel B-2 Penrhos-5
Sgorwyr: Dion, Reuben
Dydd Sadwrn 25 Medi
Bethel A 1 - Cae Glyn A 3
Sgoriwr: Shaun Owen
Bontnewydd B 1 - Bethel B 1
Sgoriwr: Huw Gwynn
Canlyniadau 2010 - 2011
Dydd Sul 5ed Mehefin 2011
Ennillwyr Twrnament o dan 12 Caergybi
Dau dim o Fethel wedi chwarae yn y twrnament - tim Coch a tim Glas.
Perfformiad gwych gan yr hogiau i gyd. Gwion John ar dan o flaen y gol yn helpu y tim glas i fuddigoliaeth campus erbyn timau cryf o'r ynys, gan guro 8 o'r 9 gem ar y ffordd i godi'r cwpan.
Bethel Glas yn curo Bontnewydd 2 i 1 yn y gem gyn derfynnol, ac yna curo tim cryf iawn o Amlwch 1 i 0 yn y ffeinal.
Diolch i'r hogiau i gyd am eu cyfraniad ac am weithio mor galed yn ystod y diwrnod.
------------------------------------
Nos Wener 27 Mai 2011
Ffeinal Cwpan Chwarae Teg Gwyrfai
Bethel 7: 1 Mynydd Tigers
Cychwynodd Bethel yn dda gan gadw'r pel a chael cyfle ar gol. Yna daeth cic o'r smotyn i'r Teigrod. Methodd Mynydd o'r smotyn - rhyddhad i Fethel. Chwarter awr i mewn i'r gem, a hogiau Bethel yn methu clirio'r pel o'r blwch. Daeth cornel i Fynydd, a gol. 1 i 0 i lawr.
Torodd Gwion John yn rhydd pum munud wedyn gan sgorio ei deugeinfed gol am y tymor. Un yr un. Pum munud wedyn a Bethel yn torri o hanner eu hunain. Ergyd gan Gwion John - taro'r bar, ergyd gan Jamie Rhys - taro'r bar, yna ail ergyd gan Gwion John i sgorio ei ail gol.
2 i 1 i Fethel ar yr hanner.
Roedd yr ail hanner yn gem wahanol. Bethel wedi penderfynnu i basio'r bel o'r diwedd - a dyma'r goliau yn dod. Cai Maxwell yn sgorio yn syth ar ol yr hanner - cael gem ardderchog ar yr asgell chwith. Gwion John munud wedyn yn sgorio ei wythfed hatrig y tymor - camp arbennig Gwion.
Pasio Bethel erbyn hyn yn wych, a'r amddiffyn yn gryf ac yn ddigyfaddawd. Gwion yn sgorio dwy arall mewn dwy funud, a hogiau Mynydd wedi blino'n lan. Jamie Rhys yn sgorio chweched i Fethel, Gwion John seren y gem yn sgorio ei bumed, y seithfed i hogiau Bethel gydag ond dwy funud i fynd.
Daeth y chwiban olaf, a chwpan haeddiannol i hogiau Bethel. Tymor llwyddiannus o dan 12. 105 o goliau mewn 20 o gemau, mae yna le i ddathlu.
Jamie Rhys y capten balch yn codi'r gwpan i Fethel, a dyna ddathlu. Da iawn hogiau.
------------------------------------
Nos Fercher 25 Mai 2011
Bethel 2: 1 Felinheli
Sgorwyr: Gwion John Williams, Sion Alun Jones
Cododd y gwynt i wneud chwarae gem o basio i draed yn anodd i'r ddau dim. Agorodd Gwion John y sgorio ar ol tua deg munud gyda ergyd caled i gefn y rhwyd.
Yna daeth y glaw. Roedd yr gwynt a'r glaw yn cael effaith mawr ar y gem, yn gwneud hi'n anodd i bawb. Daeth cic rhydd i Fethel ar ochr y blwch, Sion Alun yn saethu ergyd wych aeth dros ben y gol geidwad i gornel y rhwyd - gol wych Sion.
Brwydrodd y ddau dim tan hanner amser, ac am dros pum munud a'r hugain o'r ail hanner. Sgoriodd Felin o gornel gyda pum munud i fynd, i wneud diweddglo nerfus i Fethel.
Seren y gem oedd Danny Jones gyda perfformiad gadarn a chryf yn yr amddiffyn.
------------------------------------
Nos Iau 19 Mai 2011
Penrhos 2 : 4 Bethel
Sgorwyr: Gwion John 2, Gwion Lowe, Jamie Rhys
Gem gyffrous rhwng dau dîm penderfynol. Doedd ddim byd i wahanu'r timau yn yr hanner cyntaf, Bethel a Penrhos yn cystadlu am bob pêl, er i Fethel fethu nifer o gyfleoedd o flaen y gol.
Daeth y gôl gyntaf ar ôl ugain munud i Fethel, gol gwych gydag ergyd ffyrnig i ben y rhwyd gan Gwion John. Daeth Penrhos yn gyfartal 5 munud wedyn , gydag ond ychydig funudau tan yr hanner gyda gôl wych eu hunain. Un yr un ar yr hanner.
Ychydig o newidiadau ar yr hanner, a Gwion Lowe yn dod ymlaen fel eilydd. Pum munud i'r hanner, a Gwion yn derbyn y bêl yn y blwch, yn troi a saethu gyda ergyd cryf i ochr y gôl geidwad. Dau i un i Fethel.
Bethel yn rheoli'r chwarae erbyn hyn er i hogiau Penrhos cael sawl cyfle i redeg at amddiffyn Bethel. Pum munud i fynd, mewn gem agos, cystadleuol, Gwion John yn sgorio ei ail i Fethel. Munud wedyn a hogiau Bethel yn torri eto, y tro yma'r chwaraewr allweddol i Fethel, Jamie Rhys (Capten am y gêm) yn sgorio pedwerydd gol Bethel. Gyda ond munudau ar ôl, toriad da gan rif 7 Penrhos, amddiffyn Bethel methu a chlirio'r pel o'r blwch, ac ail gol i'r gwrthwynebwyr.
Seren y gêm oedd Gwion Lowe gyda'i gol allweddol yn syth ar ol yr hanner, gan symud Bethel ar y blaen. Daeth Gwion a dimensiwn gwahanol i'r agwedd ymosodol, gan gysylltu'n dda gyda Gwion John Williams (prif sgoriwr y tymor).
------------------------------------
Dydd Sadwrn 2 Ebrill 2011
Bethel 6 : 3 Llanllyfni
Sgorwyr: Gwion John 3, Sion Alun, Tomos Jones a Jamie Rhys
Un o berfformiadau gorau'r tymor erbyn tim talentog a chryf. Sion Alun Jones yn agor y sgorio i Fethel ar ol 8 munud ar ol derbyn pas yn ol gan Gwion John. Hogiau Bethel yn gwethio'n galed iawn ar draws y cae ac yn profi'r gol geidwad mwy nag unwaith. Er yr holl ymdrech, hogiau Llanllyfni yn tarro yn ol cyn yr hanner.
Bethel yn cychwyn yr ail hanner yn wych, gan sgorio dwy waith o fewn y deg munud cyntaf yr ail hanner gyda gol i Gwion John ac ergyd wych o bell i Tomos Jones. Gwion John yn sgorio ei ail deg munud wedyn. Bethel yn erdych yn gyfforddus gyda'r sgor yn 4 i 1.
Jamie Rhys yr asgellwr yn sgorio y pumed i Fethel gyda ergyd arall o bell, ac yna gol y tymor (arall) i Gwion John gyda foli anhygoel i gornel uchaf y rhwyd. 6 : 1 gyda tua 7 munud i fynd - yna hogiau Bethel yn mynd i gysgu - dwy waith, gan adael Llanllyfni i sgorio 2 gol yn y munudau olaf.
Gem lan a chyffroes, y dwy ochr yn brwydro am bob pel, gyda hogiau y ddwy ochr yn dangos parch at ei gilydd a'r swyddogion.
Seren y gem oedd Gwydion Morris, yn darllen y gem yn wych o ganol yr amddiffyn ac yn clirio pob dim.
------------------------------------
Nos Iau 31 Mawrth 2011
Bethel 15 : 2 Llanrug
Sgorwyr : Gwion John 6, Brandon Owen 2, Sion Alun 2, Cai Maxwell 2, Jamie Rhys 1, Tomos Jones 1, Iwan Jones 1.
Hogiau Bethel yn rheoli'r gem yn llwyr ac yn sgorio ar bob cyfle. Gem lan gyda'r ddau dim yn ymdrechu'n galed. Llanrug yn cael dwy gol haeddianol.
Seren y gem oedd Gwion John gyda'i hatrick ddwbl.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 12 Mawrth 2011
Bethel 1 : 1 Bontnewydd
Gem gyffrous iawn. Hogiau Bethel yn cychwyn yn dda ac yn cadw Bont yn hanner eu hunain am gyfnod hir. Bethel yn cael sawl cyfle am gol ond yn methu sgorio. Yna Bontnewydd yn torri trwodd ar eu cyfle cyntaf ac yn sgorio.
Bethel oedd yn rheoli yn yr ail hanner, ac yn dilyn patrwm tebyg i'r hanner cyntaf - yn cael sawl cyfle, ond yn methu sgorio. Pum munud i fynd a Bethel yn parhau i bwsio am gol. Daeth y gol gyda ond munudau i fynd, Gwydion Morris yn symud i fyny o'r amddiffyn am gic o'r gornel ac yn rhwydo. Roedd y munudau olaf fel y gem, yn gyffrous iawn.
Cai Maxwell oedd seren y gem gyda pherfformiad cryf yn y cefn.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 5 Mawrth 2011
Bethel 15 : City Pumas 0
Perfformiad di-fai gan hogiau Bethel. Yr hogiau wedi chwarae gem pasio sydyn ac wedi defnyddio yr asgellwyr yn dda.
Saith o sgoriwr gwahanol yn ystod y gem. Gwion John yn rhwydo 5, Tomos Jones yn sgorio 4 gyda pherfformiad gwych yr wythnos hon. Gwion Lowe yn sgorio dwy, Jamie Rhys, Iwan Jones a Sion Alun gydag un yr un, a Brandon Owen yn sgorio ei gol gyntaf i Fethel.
Daeth gol gorau'r tymor hyd yn hyn i Gwion John gyda ergyd ochr troed ar ol chwip o bel gan Jamie - gol i'w gofio.
Harri Jones yn y gol ond angen gwneud un arbediad, gyda'r amddiffyn o'i flaen yn gadarn trwy'r gem.
Ser y gem oedd Tom a Danny Jones. Da iawn hogiau.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 12 Chwefror 2011
Bethel 10 - Mynydd Tigers 2
Sgorwyr: Gwion John 4, Gwydion Morris 3, Tomos Jones, Gwion Lowe, Sion Alun
Gem dda. Bethel yn cael nifer o gyfleoedd yn gynnar yn y gem nes i Tomos Jones sgorio'r gol gyntaf i Fethel. Gwion John yn sgorio ei gyntaf o bedwar yn y gem i fynd 2 i 0 ar y blaen. Gol geidwad Mynydd yn gwneud sawl arbediad gwych i gadw'r sgor i lawr. Y Teigrod yn sgorio cyn yr hanner i wneud hi'n 2 i 1.
Gwydion Morris yn sgorio o gornel bron yn syth ar ol dechrau'r ail hanner. Roedd hogiau Bethel yn gweithio'n galed, ac yn cadw'r Teigrod yn hanner eu hunain. Daeth 2 gol arall i Gwion John, ac un arall i Gwydion, i fynd ar sgor i 6, 1. Sgoriodd Mynydd eu hail gol ac yn edrych yn fygythiol am gyfnod. Roedd Iwan Jones yn cael gem ardderchog yn canol cae a Jamie yn chwarae'n dda iawn ar yr asgell. Daeth Gwydion i fyny o'r amddiffyn eto i sgorio ei drydydd ac yna Sion Alun, Gwion Lowe a Gwion John yn ychwanegu at y sgor yn y munudau olaf.
Iwan Jones yn rheoli'n dda yng nghanol y cae oedd seren y gem gyda'i berfformiad gorau yng nghrys Bethel.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2011
Cae Glyn 5 : 3 Bethel
Sgorwyr: Gwion John, Sion Alun a Gwydion Morris
Perfformiad gwych gan y tim. Pob un wedi rhoi cant y cant o ran ymdrech ac ymroddiad. Dim byd yn gwahaniaethu'r ddau dim yn ystod yr hanner cyntaf, a'r sgor ar yr hanner yn 2 : 2, gyda goliau gwych yn gyntaf gan Gwion John, ac yna cic gosb wych gan Sion Alun.
Er i Fethel adael 3 gol i mewn yn yr ail hanner, roedd yr hogiau yn parhau i weithio'n galed.
Gol hwyr gan Gwydion Morris i ddod a'r sgor yn agosach.
Perfformiad arbennig unwaith eto gan seren y gem Jamie Rhys.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2010
Llanllyfni 3 - 3 Bethel
Sgorwyr: Gwion Lowe 2, Gwion John 1
Gem gyffroes iawn o'r dechrau. Llanllyfni yn sgorio yn gyntaf, er Bethel oedd yn chwarae orau ar y pryd. Llan yn sgorio eto ond Bethel yn brwydro yn ol a
Gwion Lowe yn sgorio cyn hanner amser. Roedd yr hogiau yn gystadleol iawn, a Gwion Lowe yn sgorio eto i ddod a Bethel yn gyfartal. Cadwodd Harri Jones Bethel yn y gem yn yr ail hanner gyda dau arbediad gwych. Tua pum munud i fynd a Llanllyfni yn torri trwodd ac yn sgorio i fynd ar y blaen. Bethel yn gwthio ymlaen a Gwion John yn sgorio gol wych gyda ergyd isel i'r dde. Tri-tri ac ond munudau i fynd. Bethel yn gwthio tan yr eiliadau olaf. Gem cyfartal haeddiannol.
Harri Jones oedd seren y gem i Fethel gyda pherfformiad dewr yn y gol.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2010
Bontnewydd 4 - 1 Bethel
Sgoriwr: Gwion P Lowe
Perfformiad di-ddychymyg gan Fethel yn yr hanner gyntaf, a'r goliau i gyd yn dod cyn hanner amser. Bontnewydd yn sgorio dwy yn sydyn; Gwion Prys yn sgorio i ddod a gobaith i Fethel, ond llacrwydd yng nghanol y cae a'r amddiffyn yn gadael i'r gwrthwynebwyr sgorio eto. Bont rhywsut yn ennill cic o'r smotyn, ac yn symud tair gol ar y blaen.
Stori wahanol yn yr ail hanner, gyda Bethel yn rheoli o'r chwiban gyntaf tan yr olaf. Er holl ymdrechion yr hogiau, ni ddaeth gol. Gwion John yn cael ei lorio yn y blwch cosbi, ond ni ddaeth cosb am y drosedd.
Perfformiad campus yn yr ail hanner yn dangos llawer iawn mwy o awydd a dychymyg, ond y niwed wedi ei wneud yn yr hanner cyntaf.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 16 Hydref 2010
Mynydd Tigers 2 - 8 Bethel
Yr hogiau wedi gweithio'n galed am y canlyniad yr wythnos hon. Sgoriodd Gwion John yn gyntaf, ac aeth ymlaen yn ystod y gem i sgorio 3 gol arall. Jamie Williams oedd yr ail i sgorio gyda perfformiad arbennig eto yr wythnos yma. Tarodd y Teigrod yn ol yn fuan wedyn i fynd a'r sgor i 2 : 1 i Fethel. Setlodd Sion Alun yr hogiau i lawr cyn chwiban yr hanner gyntaf gyda gol wych unigol.
Aeth y sgor i 4: 2 gyda ugain munud i fynd o'r ail hanner, Mynydd hyd yn oed yn methu cig o'r smotyn. Sgoriodd Bethel 4 yn yr ugain munud olaf gyda Sion Alun ar darged eto a Iwan Jones yn sgorio a'i ben o gig cosb gan Sion.
Jamie Williams oedd seren y gem unwaith eto yr wythnos yma gyda perfformiad cryf ym mhob agwedd o'i chwarae.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 9 Hydref 2010
Bethel 8 - 2 Penrhos
Perfformiad da gan y tim i gyd yr wythnos yma. Gwion John ar dan yr wythnos yma gyda 5 gol, ac yn haeddianol o fod yn Seren y Gem. Iwan Jones yn chwarae'n dda iawn yng nghanol y cae ac yn sgorio 2, a Gwion Lowe yn cyfrannu eto gyda gol. Sion Alun Jones yn llywio'r gem yn wych o ganol y cae, ei basio trwy'r amddiffyn yn cyfrannu at nifer o'r goliau. Unwaith eto roedd yr amddiffyn yn gryf, Nathan a Danny yn datblygu'n dda yng nghanol yr amddiffyn.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 2 Hydref
Llanrug 0 - Bethel 16
Perfformiad cryf o flaen y gôl gan yr hogiau. Gwion John Williams yn sgorio 7 (4 o fewn i 4 munud yn yr ail hanner), Rhys Grail, Gwydion Morris a Tomos Jones i gyd yn sgorio eu gol cyntaf i'r clwb a Sion Alun Jones a Jamie Williams yn sgorio dwy yr un. Roedd Gwion Lowe eto ar darged gyda dwy gol arall (5 mewn dwy gem).
Jamie Williams oedd seren y gem, perfformiad gwych ar yr asgell dde, ei groesi pob tro yn achosi problemau i'r gwrthwynebwyr.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 25 Medi
Felinheli 0 - Bethel 5
Sgorwyr: Gwion P Lowe 3, Sion Alun Jones 1 (cic gosb - "freekick" gwych o du allan y blwch), Jamie R Williams 1.
Seren y Gem: Gwion Lowe am ei perfformiad gwych o flaen y gôl.
Perfformiad gwych, yr hogiau wedi gweithio'n galed iawn i'w gilydd ac yn chwarae fel tim.
Yr amddiffyn yn edrych yn gadarn, ac ond wedi ildio un siawns glir i'r gwrthwynebwyr trwy'r gem.
------------------------------------
Dydd Sadwrn 18 Medi 2010
Bethel 0 - Cae Glyn 7