Pentref tua 4 milltir y tu allan i dref Caernarfon yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, ydi Bethel. Mae ein timau iau yn chwarae eu gemau ar ein cae, Cae Coed Bolyn.
Ar gyfer teithwyr o'r A55
Dowch oddi ar yr A55 yng nghyffordd yr A5. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llanberis ar hyd y B4366 ac yng nghylchfan bwyty Ty Mawr, dilynwch y ffordd i gyfeiriad Caernarfon. Ein cae ni ydi'r cyntaf ar y chwith wrth i chi ddod i mewn i bentref Bethel.
O'r Iwerddon ac Ynys Mon
Ar ôl croesi Pont Britannia, gadewch yr A55 a dilyn y ffordd gyntaf i'r chwith am Gaernarfon. Yn y ddwy gylchfan gyntaf, dilynwch y ffordd am Gaernarfon cyn cymryd y ffordd am Llanberis yn y drydedd gylchfan. Yna, trowch i'r chwith, gan ddal i ddilyn arwyddion Llanberis, a mynd yn eich blaen nes cyrraedd cylchfan Bwyty Ty Mawr. Yno, cymerwch y drydedd lôn am Gaernarfon. Ein cae ni ydi'r cyntaf ar y chwith wrth i chi ddod i mewn i bentref Bethel.
O Borthmadog / Pwllheli
Ar ôl cyrraedd Caernarfon, dilynwch yr arwyddion am ganol y dref, gan ddilyn wedyn yr arwyddion am Lanberis yn y gylchfan gyntaf, ac yna ar hyd y B4366 i Fethel. Mae ein cae ar y dde wrth i chi adael y pentref.
Bysiau
O Gaernarfon a Bangor: 86 ac 83.