O dan 15
Croeso i dudalen y tim dan 15 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw
Mae 2 dim dan 15 oed eleni – Bethel a Bethel Glas.
Tymor 2007/08
![]() |
![]() |
Bethel 2007/08 Chwyddo'r Llun |
Bethel Glas 2007/08 Chwyddo'r Llun |
Tîm dan 15eg Bethel, pencampwyr cynghrair Gwyrfai 2007/2008 ac enillwyr Cwpan Gwyrfai 2008.
cliciwch yma am fwy o luniau.
Canlyniadau:
Bethel dan 15 oed yn cipio’r dwbwl!
Pencampwyr y gynghrair a Chwpan y Gynghrair.
Llongyfarchiadau mawr i’r tim dan 15 oed a’u rheolwr am dymor mor llwyddiannus. Maent bellach yn bencampwyr Cynghrair Gwyrfai a phencampwyr Cwpan y Gynghrair
Nos Wener Mehefin 6ed
Cae Glyn 0 – Bethel 1
Dyfan Coles yn sgorio i Fethel yn ail hanner y gem i selio’r fuddugoliaeth i Fethel.
Hon oedd gêm olaf y tymor ac roedd hen ddathlu ar y chwiban olaf. Ymhob cystadleuaeth yng Nghyngrair Gwyrfai roedd y tîm yn ddiguro, enillwyd pob gêm namyn un a chafwyd un gêm gyfartal . Cyrhaeddodd y tîm rownd gyn derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru gan golli yn erbyn Rhyl, ffefrynnau am y gwpan.
Dydd Sadwrn Mai 31
Bethel 5 – Felinheli 0
Bethel yn parhau yn ddiguro yn y Gynghrair ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Felinheli.
Sgorwyr: Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Louis Williams a Gerallt Jones.
Dim ond un gêm gynghrair sydd ganddynt ar ôl i chwarae yn erbyn Cae Glyn, Nos Wener Mehefin 6ed.
Nos Iau, Mai 29
Bethel 1 – Nantlle Vale 0
Gêm agos iawn rhwng y dau dîm heno oedd yn cyfarfod am yr ail waith yr wythnos hon. Ben Parker yn sgorio unig gôl y gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth i Fethel.
Cwpan Cynghrair Gwyrfai dan 15oed – Nos Fawrth Mai 27ain 2008
Bethel 5 – Nantlle Vale 1
Chwaraewyd y gêm ar gae Caernarfon Wanderers. Gyda Gavin, y gôl geidwad dawnus a dibynnol, yn methu chwarae oherwydd anaf aeth Louis Williams i’r gôl. Bethel aeth ar y blaen gyda gôl gan Stephen Taylor ac o’r foment honno roedd Nantlle Vale ar y droed ôl. Er i Fethel sgorio ail gôl yn fuan wedi’r gyntaf brwydrodd Vale nôl i sgorio gydag ergyd wych o ganol cae. Roedd hynny’n ddigon i symbylu Bethel i weithio’n galetach a chafwyd gôl arall ganddynt i sicrhau nad oedd ffordd nol i fechgyn y Dyffryn. Gorffenwyd y gêm gyda foli arbennig i gefn y rhwyd gan Gwion Williams.
Y sgorwyr i Fethel oedd: Stephen Taylor (2), Gethin Maxwell, Steffan Bullock and Gwion Williams.
![]() |
|
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo |
|
Nos Wener, Mai 17eg
Nantlle Vale 0 – Bethel 1
Sgorwyd i Fethel gan Gethin Maxwell.
THE NEWTON ATHLETIC F.C. TOURNAMENT 2008
Chester Racecourse 25/5/08
GROUP A BETHEL BLUES 2 V NEWTON ATHLETIC O
SCORERS:Ryan Jones & Cai Jones
GROUP A BETHEL BLUES 0 V ASHVILLE 'B' 0
GROUP A BETHEL BLUES 1 V LISCARD PANTHERS 0
SCORERS:Ryan Jones
GROUP A BETHEL BLUES 1 V GREAT MOOR 0
SCORER:Adam Hughes
GROUP A BETHEL BLUES 2 V PRESTATYN UNITED 0
SCORERS:Gruffydd John & Ryan Jones
GROUP A BETHEL BLUES 3 V MALPAS 0
SCORERS:Ryan Jones 2 & Cai Jones
GROUP A BETHEL BLUES 2 V PRINCESS VILLA 1
SCORER:Daniel Bell 2
BETHEL WON THE GROUP BY FOUR POINTS
SEMI FINAL BETHEL BLUES 1 V ASHVILLE 'A' 0
SCORER:Ryan Jones
FINAL BETHEL BLUES 2 V GREAT MOOR 0
SCORERS:Daniel Bell & Own Goal
Ffeinal Cwpan Chwarae Teg – Cynghrair Gwyrfai dan 15 oed - 16/5/08
Bethel Glas 3 – Penrhosgarnedd 2
Gydag absenoldeb y capten Daniel Bell ac anaf gan Cai Weightman roedd gan Bethel dim tipyn gwanach i wynebu Penrhosgarnedd. Bethel aeth ar y blaen er hynny gyda gôl gan Ryan Jones a gwelwyd chwarae pêl-droed o safon gan y bechgyn a daeth eu hail gôl yn fuan gan Alex Jones. Yna sgoriodd Penrhos cyn i Ryan sgorio’r drydedd gôl i Fethel o groesiad gan Joe Holding. Aeth Joe ymlaen i sgorio gôl ond ni chafodd ei chaniatau. Hanner amser 3 – 1.
Brwydrodd Penrhos yn galed yn yr ail hanner a llwyddodd Liam i wneud sawl arbediad neu byddent wedi dod yn gyfartal a Bethel. Mi lwyddodd Penrhos i sgorio ac roedd yn rhaid i Bethel amddiffyn yn galed i ennill y gem.
Bethel felly yn ennill y gwpan . Tomos Emlyn yr is Gapten gafodd godi’r gwpan.
Llongyfarchiadau iddynt ar dymor mor dda.
Bydd y tîm yn chwarae yn Nhwrnament Newton Athletic, dydd Sul nesaf.
Cliciwch ar y llun i'w chwyddo |
Twrnament Blackpool Mai 9 -11 2008
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo |
|
Bethel Glas 1 v Cramlington Cobras (N.East) 1
Sgoriwr: Ryan Jones.
Bethel Glas 4 v Northowram Juniors (Halifax) 0
Sgoriwr: Joe Holding 2,Adam Hughes,Alex Jones.
Bethel Glas 1 v Pendle Forest (Burnley) 1
Sgoriwr: Daniel Bell.
Bethel Glas 1 v Heckmondwike Juniors (W.Yorks) 1
Sgoriwr:Joe Holding.
Bethel Glas 4 v Bramhall North (Cheshire) 0
Scorers:Alex Jones,Daniel Bell,Joe Holding,Ashley Frazer.
Rownd yr wyth olaf
Bethel Blues 3 v Blackpool Rangers 0
Sgorwyr: Cai Jones, Alex Jones & Ryan Jones.
Semi Ffeinal
Bethel Glas 1 v Pendle Forest 1
Sgoriwr:Joe Holding.
Bethel yn curo 6-5 ar penaltis
Sgorwyr y penaltis :Daniel Bell,Tom McPartland,Ryan Jones, Gruffydd John, Alex Jones & Tomos Emlyn.
Ffeinal
Bethel Glas 2 v Heckmondwike Juniors 0
Sgorwyr: Cai Jones & Joe Holding.
Bethel yw’r tim cyntaf o Gymru I ennill y twrnament!
Nos Fawrth Mai 6ed
Bethel 1 – Bontnewydd 0
Buddugoliaeth arall i Fethel gyda Richard Cashman yn sgorio unig gôl y gêm.
Nos Fercher Mai 7fed
Bethel Glas 2 – Cae Glyn 5
Bethel oedd yn llwyr rheoli’r gem am yr 20 munud cyntaf gan fynd ar y blaen gyda gôl gan Ryan Jones. Ryan sgoriodd yr ail i Fethel o groesiad gan Alex Jones. Oherwydd camgymeriadau gan amddiffyn Bethel llwyddodd Cae Glyn i fynd ymlaen i sgorio 3 gôl cyn hanner amser.
Er i Bethel gael sawl cyfle am gôl yn yr ail hanner, ni lwyddwyd i sgorio. Aeth Cae Glyn ymlaen i sgorio 2 gôl arall cyn ddiwedd y gêm.
Bydd Bethel Glas yn cymryd rhan mewn twrnament yn Blackpool dros y penwythnos. Pob lwc hogia a mwynhewch.
Rownd gyn-derfynol Cwpan Chwarae Teg – ar gae Bontnewydd
Nos Iau Mai 1af
Bethel Glas 6 – Felinheli 0
Bethel yn llwyr haeddu eu lle yn y ffeinal ar ôl chwarae pêl-droed o safon. Daniel Bell sgoriodd y gôl gyntaf i Fethel, gyda Gruffydd John yn sgorio’r ail. Sgôr ar hanner amser oedd 2 – 0 i Fethel.
Yn yr ail hanner sgoriodd Daniel ei ail gôl ar ôl croesiad gan Gruffydd. Yna daeth gôl y gêm gan Ryan Jones o 25 llath. Ryan sgoriodd y 5ed hefyd ar ôl croesiad gan Daniel. Jamie Stevens yn dod yn agos at sgorio ond yn taro’r trawst. Aeth Daniel ymlaen i sgorio eto ei drydedd yn y gêm ar ôl croesiad gan Ashley Frazer.
Pob lwc yn y ffeinal.
Sgorwyr : Daniel Bell 3, Ryan Jones 2, Gruffydd John.
Nos Wener Ebrill 25
Llanberis 1 v Bethel Glas 1
Bethel yn gorfod bodloni ar gêm gyfartal eto yn erbyn Llanber. Cafodd Bethel sawl cyfle am gôl a chafwyd sawl arbediad gwych gan goli Llanber cyn i Joe Holding roi Bethel ar y blaen. Tarrodd Llanberis yn ôl ar ol 5 munud o’r ail hanner i ddod yn gyfartal. Roedd gobaith y byddai Bethel yn sgorio eto ond er gwaethaf pêl-droed gwych gan yr hogia ni ddaeth gôl arall i’w rhan.
Sgoriwr:Joe Holding
SCORER:Joe Holding.
Nos Wener Ebrill 25
Rownd Gyn derfynol Cwpan Cynghrair Gwyrfai
Bethel 4 – Cae Glyn 3 (wedi amser ychwanegol)
Cafodd y gêm ei chwarae ar gae pêl droed y Felinheli. Gêm gyffrous iawn rhwng dau o dimau gorau’r gynghrair. Bethel yn mynd ar y blaen o 2 -0 gyda dwy gôl gan Steffan Bullock. Brwydrodd Cae Glyn i ddod yn ôl i’r gêm gan lwyddo i sgorio 3 gôl ac roedd y fuddugoliaeth o fewn eu cyrraedd. Yna gydag ond ychydig funudau i fynd sgoriodd Gwion Williams gôl gyda foli o’r hanner ffordd i ddod a Bethel yn gyfartal. Bu rhaid chwarae amser ychwanegol er mwyn setlo pethau. Mewn gêm hynod o glos sgoriodd Steffan Bullock ei drydedd gan roi Bethel ar y blaen a lle iddynt yn y rownd derfynol. Llongyfarchiadau Bethel a phob lwc yn y ffeinal. Diolch i Cae Glyn am gyfrannu i gêm o safon uchel.
Nos Fercher Ebrill 23
Bethel 1 – Cae Glyn 0
Sgoriwr: Steffan Bullock.
Felinheli 0 – Bethel Glas 10
Sgorwyr:Joseph Holding 2,Gruffydd John 2,Ryan Jones 2,Tom McPartland,Ashley Frazer,Jamie Stevens,1 o.g.
Nos Wener Ebrill 18
Bethel 5 – Llanberis 0
Sgorwyr: Steffan Bullock, Dyfan Coles, Louise Williams , Gethin Maxwell.
Nos Fercher Ebrill 16
Nantlle Vale 0 – Bethel Glas 2
Perfformiad ardderchog gan y tîm heno mewn gêm gorfforol anodd. Gyda gôl geidwad arferol y tîm yn sâl aeth Aaron Gwyn i’r gôl a symudwyd Gruffydd John i’ ganol yr amddiffyn am y tro cyntaf ond gwnaeth y ddau eu gwaith yn ardderchog. Roedd amddiffyn Bethel yn gadarn iawn drwy’r gêm. Bethel aeth ar y blaen hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf gyda gôl gan Ryan Jones ar ôl croesiad gan Daniel Bell.
Yn yr ail hanner sgoriodd Cai Weightman ar ôl dod ymlaen fel eilydd ar ôl cyd chwarae da rhyngddo ac Alex Jones.
Sgorwyr: Ryan Jones & Cai Weightman.
Nos Fercher Ebrill 9fed
Dan 15 oed
Bethel Glas 3 – Felinheli 0
Buddugoliaeth i’r Gleision yn eu codi i’r ail safle yn nhabl y Gynghrair. Tom McPortland yn rhoi Bethel ar y blaen tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf. Alex Jones sgoriodd yr ail gôl i Fethel ychydig cyn hanner amser. Sgôr ar hanner amser oedd 2 -0 i Fethel.
Bethel yn cael sawl ymgais am gôl yn yr ail hanner ond roedd gôl geidwad Felin Carwyn Eddy ar ei orau. Llwyddodd Cai Jones sgorio i Fethel cyn ddiwedd y gêm.
Sgorwyr: Tom McParland, Alex Jones a Cai Jones.
4 Uchaf Cynghrair Gwyrfai 10/4/08 dan 15 oed
Pl W D L F A Pts
BETHEL 7 6 1 0 28 1 19
BETHEL GLAS 11 6 1 4 39 15 19
CAE GLYN UTD 7 6 0 1 32 8 18
NANTLLE VALE 7 6 0 1 22 10 18
Dydd Sadwrn, Ebrill 5ed 2008
Rownd Gyn derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 2 – Rhyl Hearts 5
Bethel yn colli heddiw yn erbyn tim cryf Rhyl. Llwyddodd Rhyl i fynd ar y blaen tua 10 munud cyn hanner amser. Yn fuan yn yr ail hanner sgoriodd Rhyl eu hail gôl cyn i Dyfan Coles sgorio i Fethel a chodi calon y bechgyn. Aeth Rhyl ymlaen i sgorio eu trydydd gôl cyn i Dyfan sgorio ei ail gôl i Fethel. Rhyl yn llwyddo i sgorio dwy arall cyn diwedd y gêm.
SGORIWR: Dyfan Coles 2
Nos Fawrth Mawrth 18
Bethel 1 - Bethel Glas 0
Gêm agos dros ben gyda Bethel Glas yn ennill y frwydr ganol cae dro ar ôl tro gan roi pwysau mawr ar bedwar cefn Bethel drwy gydol y chwarae. Er hyn roedd lwc a dyfalbarhad ar ochr Bethel y tro hwn gyda gôl gan Gethin Maxwell wedi 50 munud yn rhoi’r fuddugoliaeth iddynt.
Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Bethel Glas 2 - Cae Glyn United 2 (8-9 ar benaltis)
Gêm gwpan gyffrous iawn ar noson oer a glawog. Bethel aeth ar y blaen gyda gôl gan Ryan Jones yn gynnar yn yr hanner cyntaf. Daeth Cae Glyn yn ôl i sgorio dwy gôl cyn hanner amser, un o benalti ar ôl trosedd gan gôl geidwad Bethel ar un o flaenwyr Cae Glyn. Sgôr ar hanner amser 1: 2.
Roedd y chwarae’n eithaf cyfartal ar ddechrau’r ail hanner. Yna sgoriodd Daniel Bell i ddod a Bethel yn gyfartal. Er i’r ddau dim ymdrechu’n galed, gyda’r tywydd yn gwaethygu a hithau’n tywyllu, ofer fu ymdrech y ddau dim am gôl. Yn anffodus bu rhaid setlo pethau hefo penaltis. Cae Glyn yn fuddugol o 9 i 8.
SGORWYR: Ryan Jones & Daniel Bell.
Scorwyr y penaltis: Daniel Bell, Tom McPartland, Cai Jones, Alex Jones, Aaron Gwyn, Tomos Emlyn, Joe Holding & Adam Hughes
Dydd Sadwrn, Mawrth 8fed 2008
Cwpan y Gynghrair
Penrhosgarnedd 0 – Bethel 6
Bethel yn haeddu eu lle yn semi ffeinal Cwpan y Gynghrair wedi buddugolieth yn erbyn Penrhos. Er i’r ddau dîm frwydro yn erbyn gwynt cryf a chae trwm wedi’r glaw noson gynt cafwyd gêm ddifyr o safon uchel. Daeth uchafbwynt y gêm yn gynnar yn yr hanner cyntaf gydag arbediad gwych gan golgeidwad Bethel, Gavin Williams, o gic o’r smotyn gan Benrhos. Aeth Bethel ymlaen o nerth i nerth wedi’r arbediad ysbrydoledig hwnnw!
SGORWYR: Gwion Williams, Steffan Bullock, Mathew Williams 2, Gerallt Jones, Ben Parker
Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Bethel Glas 1 -Llanberis 1
Bethel yn gorfod bodloni ar gêm gyfartal y bore ma. Bethel yn cael sawl cyfle am gôl ar ddechrau’r gêm ond roedd gôl geidwad Llanber ar ei orau. Llanberis aeth ar y blaen,ond ychydig cyn diwedd yr hanner amser sgoriodd Ryan Jones i ddod a Bethel yn gyfartal.
Yn yr ail hanner chafodd Bethel fawr o gyfleoedd am gôl heblaw ymgais Tom Mc Partland a darodd y trawst.
SGORIWR: Ryan Jones.
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru – Rownd Gyn derfynol
Bethel v Rhyl Hearts Celtic
Gohirwyd y gêm oherwydd cyflwr cae Clwb Pel droed Conwy. Dyddiad arall i’w drefnu’n fuan.
Dydd Sadwrn 23.02.2008
Penrhosgarnedd 1 - Bethel 10
Gôl yn y funud gyntaf i Fethel gan Gethin Maxwell yn gosod y llwyfan ar gyfer perfformiad gwych arall gan yr hogia. Dim ond un gôl gysur i Benrhos o gic gornel.
SGORWYR: Gethin Maxwell 4, Louise Williams 2 Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Ezra Warren.
Gêm bwysig nesaf y tim : Dydd Sadwrn Mawrth 1af
Gêm gyn-derfynol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru Jeff Ellis & Son dan 15 oed.
Bethel v Rhyl Hearts Celtic ar gae Clwb Pêl-droed Conwy Unedig. K.O. 10.30am.
Pob lwc i’r tîm.
TABL CYNGHRAIR GWYRFAI, 4 AR Y BRIG 22/2/08
P |
W |
D |
L |
F |
A |
Pts |
|
| Bontnewydd | 10 |
6 |
1 |
3 |
28 |
12 |
19 |
| Cae Glyn Utd | 7 |
6 |
0 |
1 |
32 |
8 |
18 |
| Bethel Blues | 8 |
5 |
0 |
3 |
35 |
13 |
15 |
| Bethel | 5 |
4 |
1 |
0 |
17 |
0 |
13 |
Dydd Sadwrn, Chwefror 16eg 2008
Cae Glyn United 1 - Bethel Glas 2
SGORWYR: Ryan Jones & Gruffydd John
Tri phwynt haeddiannol i Bethel heddiw. Roedd yr amddiffyn yn gadarn a’r gôl geidwad ar ei orau. Bethel aeth ar y blaen gyda gôl gan Ryan Jones, daeth sawl cyfle arall am gôl iddynt cyn hanner amser ond ni lwyddwyd i sgorio. Sgôr ar hanner amser 1 – 0 i Bethel .
Er i’r cofis ymdrechu’n galed yn yr ail hanner a rhoi pwysau ar amddiffynwyr Bethel llwyddodd Gruffydd John i gael y bel yn rhydd a sgorio i Fethel. Gyda 6 munud i fynd sgoriodd Cae Glyn i roi ychydig o obaith iddynt. Bethel yn haeddu’r 3 phwynt .
Gêm nesaf Bethel v Cae Glyn ar Gae Coed Bolyn Sadwrn nesaf Chwefror 23 am 10.30 a.m.
Dydd Sadwrn, 26ain o Ionawr 2008
Bethel Glas 2 - Nantlle Vale 3
SGORWYR: Gruffydd John, 1 o.g
Dechrau gwael i Fethel gyda Nantlle Vale yn llwyddo i sgorio 2 gôl yn gynnar yn y gêm o ganlyniad i amddiffyn gwan Bethel. Roedd amddiffynwyr cryf Vale yn ei gwneud hi’n anodd i Fethel. Yna gyda 3 munud i fynd cyn hanner amser llwyddodd Bethel i gael cic rydd a gymerwyd gan Daniel Bell gyda un o chwaraewyr Vale yn ei tharo i mewn i’w gol ei hun. Sgor hanner amser 1- 2
Yn yr ail hanner gwellodd pethau i Fethel. Daeth Tom McPartland ymlaen fel blaenwr gan ychwanegu ychydig o gyflymder i’r tîm. Ar ôl ychydig funudau sgoriodd Gruffydd John gyda foli o gic gornel. Roedd Bethel yn ôl yn y gêm. Yna yn chwarter olaf y gêm cafodd Nantlle Vale benalti a sgorio i fynd ar y blaen. Methu torri drwy amddiffyn cadarn Vale ddaru’r hogia hyd ddiwedd y gêm er gwaethaf ymdrech lew gan bawb.Dydd Sadwrn, 12fed o Ionawr 2008
Bethel Glas 4 – Bontnewydd 1
SGORWYR: Alex Jones 2, Joe Holding a Jamie Stevens
Perfformiad gwych gan Bethel a frwydrodd yn galed i gipio’r tri phwynt oddi ar Bont sydd ar frig y gynghrair. Cafwyd sawl ymgais am gôl gan Bethel yn yr hanner cyntaf ond Capten am y diwrnod Alex Jones roddodd Bethel ar y blaen. Sgôr hanner amser felly 1 – 0 i Fethel.
Yn yr ail hanner gwelwyd Bethel yn gryf yn yr amdiffyn ac yn ennill y bêl yng nghanol cae. Sgoriwyd ail gôl Bethel gan Joe Holding ar ôl croesiad gan Daniel Bell. Yna sgoriodd Alex ei ail gôl . Daeth y bedwaredd gôl gan Jamie Stevens o gic gornel gan Daniel. Llwyddodd Bont i sgorio cyn diwedd y gêm ar ôl i gôl geidwad Bethel orfod gadael y cae hefo anaf.
Dydd Sadwrn, 12fed o Ionawr 2008
4ydd ROWND, CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU
Llandudno West Shore 0 – Bethel 5
SGORWYR: Dyfan Coles 2, Steffan Bullock, Ben Parker a Louis Williams
Er nad yw’r tîm wedi chwarae gêm ers dros 6 wythnos mi setlodd yr hogia’n dda o’r cychwyn a chafwyd sawl cyfle am gôl yn y chwarter cyntaf. Er i Llandudno amddiffyn yn dda gan ymosod yn gyflym, roedd y pedwar yn y cefn yn feistri arnynt, a daeth y gôl gyntaf gan Dyfan Coles i roi Bethel ar y blaen cyn hanner amser.
Yn yr ail hanner Bethel oedd yn rheoli’r gêm a gwelwyd sawl ymgais am gôl gyda Steffan Bullock , Dyfan Coles, Ben Parker a Louis Williams yn sgorio. Oherwydd y pedwar yn y cefn, ni chafodd Gavin, gôl geidwad Bethel fawr i’w wneud drwy’r gêm, ond gwnaeth arbediad gwych yn y chwarter olaf wrth gael ei law i foli oedd ar y ffordd i gongol ucha’i gôl.
Llongyfarchiadau i’r tim ar eu buddugoliaeth haeddiannol – maent drwodd rwan i’r rownd gyn derfynol ar Chwefror 23. Pob lwc i chi hogia.
TABL CYNGHRAIR GWYRFAI, 4 AR Y BRIG 12/1/08
| Pl | W | D | L | F | A | Pts | |
| BONTNEWYDD | 9 | 5 | 1 | 3 | 25 | 11 | 16 |
| CAE GLYN UTD | 5 | 5 | 0 | 0 | 25 | 3 | 15 |
| BETHEL | 5 | 4 | 1 | 0 | 17 | 0 | 13 |
| BETHEL GLAS | 6 | 4 | 0 | 2 | 31 | 9 | 12 |
Dydd Sadwrn, 5ed o Ionawr 2008
Bethel Glas 4 – Penrhosgarnedd 3
SGORWYR: Daniel Bell 2, Gruffydd John 2
Hanner cyntaf siomedig i dîm Bethel – y sgôr ar hanner amser oedd 2 -1 i Benrhos gyda Daniel Bell yn sgorio i Fethel
Bethel yn ymosod yn well yn yr ail hanner er i Benrhos fynd 3 -1 ar y blaen cyn i Daniel Bell sgorio ei ail gôl. Yna cafwyd dwy gôl gan Gruffydd John i selio’r fuddugoliaeth i Bethel.
Wythnos nesaf bydd Bethel yn croesawu Bontnewydd sydd ar dop y gynghrair.
Bydd hyfforddiant i’r tîm dan 15 Glas yn ail gychwyn Nos Iau 10 Ionawr am 6 o’r gloch.
Dydd Sadwrn, 24ain o Dachwedd
3ydd Rownd Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bae Penrhyn 0 – Bethel 1
Er i Fethel fethu sawl cyfle yn ystod y gêm, canfyddod Gwion Williams gornel ucha’r gôl i sicrhau buddugoliaeth a lle yn yr het ym mhedwaredd rownd y Gwpan.
Rhyl Hearts Celtic 10 v Bethel Glas 0
Hunllef o gêm i’r gleision heddiw wrth i Rhyl berfformio’n dda iawn o’r chwib cyntaf. O fewn deg munud roedd amddiffyn gwael wedi anrhegu dwy gôl i’r tîm cartref. O fewn pum munud i hynny roedd hi’n 3 i ddim gyda gôl i’w hedmygu gan Rhyl. Parhau i ymosod wnaeth Rhyl ac erbyn hanner amser roedd yn 6 i ddim.
Er sawl newid wedi’r hanner doedd dim ffordd drwy amddiffyn Rhyl ac wrth i Bethel bwyso ymlaen am gôl llwyddodd Rhyl i sgorio 4 arall.
4 UCHAF CYNGHRAIR GWYRFAI 25/11/07 dan 15 oed
Ch/Pl |
E/W |
C/D |
C/L |
I/F |
Y/A |
Pnt/Pts |
|
| BETHEL | 5 | 4 | 1 | 0 | 17 | 0 | 13 |
| BONTNEWYDD | 6 | 4 | 1 | 1 | 20 | 4 | 13 |
| CAE GLYN | 3 | 3 | 0 | 0 | 20 | 3 | 9 |
| BETHEL GLAS | 4 | 2 | 0 | 2 | 23 | 5 | 6 |
Dydd Sadwrn, 17eg o Dachwedd
Bethel Glas 0 – Bethel 1
SGORIWR: Gethin Maxwell
Roedd hon yn mynd i fod yn gêm fawr rhwng dau o dimau’r pentref. Ni chafodd neb eu siomi, cafwyd gêm gyffrous gyda’r ddau dîm yn chwarae pêl-droed o safon uchel. Roedd rhaid iddynt frwydro’n erbyn y gwynt oedd yn hyrddio ar draws y cae ac yn ei gwneud yn anodd i’r ddau dîm basio’r bêl. Cafodd Bethel sawl ymgais am gôl Bethel Glas yn yr hanner cyntaf ond parhau yn ddi sgôr oedd hi ar hanner amser. Llwyddodd Gethin Maxwell i sgorio unig gôl y gêm a rhoi buddugoliaeth i Fethel.
Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Felinheli 0 – Bethel 5
SGORWYR: Steffan Bullock, Louis Williams, Richard Cashman, Mathew Edwards a Gwion Williams.
Buddugoliaeth arall i Fethel, yn erbyn tîm llawn ysbryd YFelinheli y tro hwn a frwydrodd i’r chwib olaf. Cafwyd sawl ymgais am gôl yn y deg munud cyntaf ond amddiffynwyr Felinheli a’r golgeidwad talentog, Carwyn Eddie, yn llwyddo i rwystro ymosodiadau Bethel. Cafwyd y gôl gyntaf gan y streicar chwim Steffan Bullock ar ôl pas hynod o’r asgell. Ychydig cyn hanner amser cafwyd gôl arall i Fethel gan Richard Cashman. Felinheli yn cael cyfle am gôl gyda chic rydd cyn hanner amser a hwyliodd fodfeddi dros y trawst. Cafwyd gwell gêm yn yr ail hanner gyda Bethel yn pasio’r bêl yn dda ac yn gwneud gwaith Felinheli i ddwyn pwysau ar y meddiant yn anodd iawn. O ganlyniad i’r pasio hwnnw, llwyddodd Bethel i sgorio 3 gôl arall, gan Louis Williams, Gwion Williams ac un rhagorol gan Mathew Edwards ar ôl iddo ddod ymlaen fel eilydd.
Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU ROWND 2
Bethel v Conwy Borough (4-2 ar benaltis)
Cafwyd gwledd o bêl-droed safonol iawn ar gae Coed Bolyn fore Sadwrn. Er i Gonwy ddechrau’n dda roedd cyflymdra Bethel wrth ymosod yn rhoi problemau iddynt a chafwyd sawl cyfle am gôl yn yr hanner cyntaf. Daliodd Conwy i amddiffyn yn gadarn yn yr ail hanner gyda’i golgeidwad yn gwneud sawl arbediad da. Wedi amser ychwanegol a brofodd ffitrwydd chwaraewyr y ddau dîm, bu’n rhaid mynd i benaltis i setlo’r mater.
Curo 4 -2 ar benaltis ar ol amser ychwanegol gyda Gavin, golgeidwad Bethel, yn arbed yn wych i gloriannu ymdrech arbennig gan y bechgyn. Ffordd greulon iawn o benderfynu rhwng dau dîm arbennig iawn.
Bethel Glas 3 v Flint & Bagillt Eagles 0
Perfformiad da arall gan y tim yn rhoi buddugoliaeth iddynt a lle yn y drydedd rownd. Bethel yn cymryd rhyw 10 munud i setlo mewn i’r gêm a daeth Fflint yn agos i sgorio gyda phêl dros y trawst. Ar ôl hyn cafodd Bethel sawl cyfle am gôl a tharo’r postyn ddwywaith . Sgôr ar hanner amser oedd 0 -0
Yn yr ail hanner cafwyd sawl cic gornel, peniodd Daniel un ohonynt i gefn y rhwyd i roi Bethel ar y blaen. Hanner ffordd drwy’r ail hanner sgoriodd Joseph Holding a mater o amser oedd hi cyn iddo sgorio ei ail gôl a selio’r fuddugoliaeth i Bethel Glas.
Sgorwyr Bethel oedd Daniel Bell a Joseph Holding 2.
Nos Fercher Hydref 10fed
Bontnewydd 0 - Bethel 0
Cafwyd g êm o safon uchel rhwng dau o dimau cryf y gynghrair. Golgeidwad Bontnewydd oedd brysuraf, a gwnaeth sawl arbediad dewr i gadw ei dîm yn y gêm. Gyda chanol cae y ddau dîm yn ymdrechu i gael rheolaeth roedd un gôl yn mynd i fod yn ddigon i ennill ond bu’n rhaid setlo am gêm gyfartal.
Dydd Sadwrn 29-Medi-2007
Bethel 4 - Llanberis 0
Dau dîm cryf gyda Bethel yn cael y gorau o’r hanner cyntaf drwy sgorio 4 gôl. Amdiffynwyr cadarn Llanberis yn cau’r hogia allan ail-hanner a chreu ambell i gyfle i’w ymosodwyr heb lwyddiant.
SGORWYR: Steffan Bullock 2, Gwion Williams a Gethin Maxwell.
TABL CYNGHRAIR GWYRFAI 29/9/07
TRI UCHAF Y GYNGHRAIR
P |
W |
D |
L |
F |
A |
Pts |
|
| Bethel Blues | 3 |
2 |
0 |
1 |
23 |
4 |
6 |
| Bethel | 2 |
2 |
0 |
0 |
11 |
0 |
6 |
| Bontnewydd | 2 |
2 |
0 |
0 |
11 |
0 |
6 |
Nos Iau Medi 27
Bethel Glas 20 - Segontium Rovers 1
Gem unochrog iawn, gyda Bethel yn llwyr reoli’r gêm o’r cychwyn. Roedd y sgôr ar hanner amser yn 11 – 0 i Bethel. Llwyddodd y Cofis i sgorio un gôl yn yr ail hanner ond doedd hyn fawr o gysur iddynt.
SGORWYR; Joseph Holding 5,Gruffydd John 3,Alex Jones 3,Tom McPartland 2,Daniel Bell 2,Jamie Stevens,Tomos Emlyn,Ryan Jones,Cai Jones,ac un own goal.
Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru rownd 1
Connahs Quay Tigers 1 v Bethel Glas 2
Er mai dim ond 12 chwaraewr oedd gan Bethel heddiw, chwaraewyd pêl-droed o safon gan bob un ohonynt. Sgôr ar hanner amser oedd 0-0.
Hanner ffordd drwy’r ail hanner sgoriodd Daniel Bell benalti wedi trosedd arno yn y bocs. Amddiffynnodd Bethel yn dda a chafwyd sawl arbediad da gan Liam. Gyda 10 munud i fynd sgoriodd Tom McPartland i Fethel. Llwyddodd Connahs Quay i sgorio cyn y diwedd ond Bethel yn llwyr haeddu’r fuddugoliaeth a’u lle yn yr ail rownd.
Sgorwyr :Daniel Bell {pen} a Tom McPartland.
Cynghrhair Gwyrfai ~ Nos Wener Medi 14
Bethel 7 – 0 Penrhosgarnedd
Dyma gêm gyntaf i’r tîm ac mae’n argeoli’n dda ar gyfer gweddill y tymor. Roedd y rhai a ddaeth i’w cefnogi yn hapus iawn â pherfformiad yr hogia wrth iddynt basio’n rhwydd o amddiffyn i ymosod a dangos y gallu i wneud iawn am unrhyw gamgymeriadau drwy weithio’n galed dros ei gilydd.
Sgorwyr i Fethel oedd: Ben Parker 4, Gethin Maxwell 2 a Steffan Bullock.
Gem Gyfeillgar ~ 15/9/07
Bethel Glas 3 Sheffield F.C. 7
Gyda’r clwb yn dathlu ei benblwydd yn 150 eleni a chadarnhau mai nhw yw’r clwb pêl-droed hynaf yn y byd daeth tîm Sheffield F.C. i Gae Coed Bolyn i chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn gleision Bethel. Bu’n gêm hynod gyffrous ac er gwaethaf statws gwahanol iawn y ddau dîm yn y byd pêl-droed llwyddodd tîm Bethel i gystadlu’n dda iawn. Wedi cychwyn sigledig a welodd Sheffield yn rhoi tair gôl heibio’r hogia yn y deg munud cyntaf ceisiwyd tynhau’r amddiffyn. Ond serch yr ymdrech cafwyd dwy gôl arall cyn yr egwyl i’w gwneud yn 5-0. Yn ystod yr ail hanner cafwyd gwell lwc gyda Ryan Jones, Cai Jones a Cai Weightman (aelod newydd o’r tîm) yn rhwydo cyn i Sheffield orffen y gêm gyda gôl arall.
Cynghrair Gwyrfai ~ Nos Fercher Medi 12 2007
Bontnewydd 2 – Bethel Glas 0
Gêm siomedig i’r hogia er iddynt fod yn rheoli’r gêm am rhan fwyaf o’r amser. Doedd lwc ddim gyda Bethel heno , er sawl cyfle methu sgorio oedd eu hanes. Daeth cyfle da i Gruffydd John fynd am gôl ond cafodd ei lorio gan amddifynnwr Bont, er hyn ni chafwyd penalti. Di-sgôr oedd hi ar hanner amser.
Yn yr ail hanner roedd Bontnewydd yn rhoi mwy o bwysau ar Bethel a Bethel yn dal i fethu cyfleodd am gôl. Yna sgoriodd Bontnewydd i fynd ar y blaen, gyda ail gôl yn dilyn yn fuan. Erbyn hyn roedd Bont yn rheoli’r gêm ac roedd y gêm ar ben i Bethel.
Cynghrair Gwyrfai ~ Nos Wener 07/09/07
Penrhosgarnedd 1 - Bethel Glas 3
Tri o chwaraewyr Bethel, Daniel Bell, Alex Jones & Nathan Price, yn absennol o’r gêm gyfartal iawn yma. Unwaith yn rhagor cymerodd chwarter awr i dîm Bethel setlo i’r gêm a chreu cyfleodd iddynt eu hunain a dyna phryd cafwyd gôl gan Gruffydd John. Rhwydodd Gruffydd eto cyn hanner amser ond y tro hwn roedd yn camsefyll.
Yn yr ail hanner sgoriodd Penrhos i ddod a’r sgôr yn gyfartal. Ond roedd Bethel bron â sgorio eto gyda Gruffydd John yn taro’r post. Yna cafwyd gôl gan Ryan Jones i roi Bethel ar y blaen. Gyda 4 munud i fynd cymerodd Cai Jones gic gornel, cafodd ei chlirio gan Benrhos ond daeth y bêl yn ôl i Cai a rhoddodd hi yn ôl yn y bocs a tharodd Ryan Jones y bêl i’r gôl i gwblhau’r sgorio.
Sgorwyr i Bethel oedd : Ryan Jones 2 & Gruffydd John.
Gêm gyfeillgar 5/9/07
Bethel Glas 0 – Pwllheli 4
Gem anodd i’r hogia yn erbyn bechgyn hŷn Pwllheli. Dechreuodd Bethel yn dda gan greu sawl symudiad addawol, ond yna fe roddodd Pwllheli hogia Bethel o dan bwysau a sgorio 2 gôl, un o ganlyniad i gamgymeriad gan amdiffynwyr Bethel. Brwydrodd Bethel ymlaen ond yn methu creu llawer o broblemau i gôl geidwad Pwllheli. Yna bu raid i gapten y tim Daniel Bell adael y gêm ar ôl anaf i’w ffer. Yna camgymeriad arall gan yr amddiffynwyr i roi gôl arall i Bwllheli. Sgôr ar hanner amser Bethel 0 – Pwllheli 3.
Gôl arall i Bwllheli ar ddechrau’r ail hanner, ac anaf arall i dîm Bethel, y tro hwn i’r gôl geidwad Liam Williams. Bu raid i’r amddiffynwr Aaron Gwyn gymeryd ei le gan edrych yn gadarn rhwng y pyst. Sgôr terfynol Bethel 0 – Pwllheli 4.
Bydd y tîm yn chwarae eu gêm gynghrair gyntaf dydd Sadwrn yma yn erbyn Penrhosgarnedd ac yn gobeithio am fuddugoliaeth.
Gêm gyfeillgar - 30/8/07
Holyhead Hotspurs 7 v Bethel Glas 2
Gêm gyntaf y tymor yn erbyn tîm cryf Caergybi. Caergybi yn sgorio 2 gôl yn yr 20 munud cyntaf ac yn rhoi amser caled i dîm Bethel. Ar ôl hyn dechreuodd Bethel setlo a phasio’r bêl a rhoi ychydig o broblemau i’w gwrthwynebwyr. Ond yn anffodus llwyddodd Caergybi i sgorio eu 3ydd gôl. Codwyd calon tîm Bethel gan gôl Gruffydd John ychydig cyn hanner amser.
Yn yr ail hanner brwydrodd Bethel yn galed i rwystro eu gwrthwynebwyr rhag sgorio, ac gwnaeth y gôl geidwad Liam Williams sawl arbediad i gadw’r tîm yn y gêm. Aeth Caergybi ymlaen i sgorio tair gôl arall cyn i Joseph Holding sgorio yn ei gêm gyntaf i Fethel, un o bump wyneb newydd yn tîm. Gôl olaf y gêm i Gaergybi ond taith hynod ddefnyddiol i’r hogiau yn erbyn tîm sy’n dangos addewid i ennill cynghrair Môn eleni.
Sgorwyr: Gruffydd John & Joseph Holding.








